Skip page header and navigation

Profiad Ysgol Gelf

Student working on a project in a studio

Mae astudio yng Ngholeg Celf Abertawe yn ymwneud â mwy nag ennill cymhwyster. Mae’n ymwneud â dod yn rhan o gymuned greadigol lle gallwch archwilio eich syniadau, rhannu profiadau a datblygu eich arfer creadigol eich hun.

Fe gewch y lle a’r arweiniad i arbrofi â dulliau newydd, dysgu gan ymarferwyr creadigol profiadol a gweithio ochr yn ochr â myfyrwyr o amrywiaeth o ddisgyblaethau creadigol. Gyda mynediad at gyfleusterau arbenigol, cyfleoedd i gymryd rhan mewn prosiectau byw a chysylltiadau â’r diwydiannau creadigol, byddwch yn gallu datblygu eich syniadau wrth ennill mewnwelediad gwerthfawr i arfer proffesiynol.

Wrth i chi ddatblygu eich creadigrwydd, byddwch hefyd yn meithrin y sgiliau a’r profiad i helpu i’ch paratoi ar gyfer cyfleoedd ar draws y diwydiannau creadigol.

Lle i Greu

Surface Pattern students working in a studio

Mae ein gweithdai a’n stiwdios yn dwyn ynghyd sgiliau crefft traddodiadol a thechnolegau cyfoes. Rydym yn gwerthfawrogi pwysigrwydd prosesau gwneud traddodiadol, a dyna pam rydym yn parhau i gynnig offer a chyfleusterau arbenigol ar gyfer meysydd fel cerameg, gwneud printiau a ffotograffiaeth, ochr yn ochr â thechnolegau digidol modern.

Byddwch yn cael cyfleoedd i arbrofi gyda gwahanol ddeunyddiau, technegau a phrosesau trwy gydol eich astudiaethau.Mae llawer o’n cyfleusterau yn rhai mynediad agored, gan roi cyfle i fyfyrwyr o wahanol gyrsiau archwilio dulliau newydd a datblygu eu sgiliau ymarferol.

Gyda chyfarwyddyd gan staff profiadol a mynediad at gyfleusterau arbenigol, gallwch feithrin eich sgiliau technegol, cymryd risgiau creadigol a dod o hyd i’ch cyfeiriad eich hun.

Cysylltiedig â’r Diwydiant. Yn barod ar gyfer eich dyfodol.

A girls holding up her arms as if she's displaying the wall behind her. On the wall behind her, there is a graphic that reads 'Design Week 2026'

Yng Ngholeg Celf Abertawe, ydym yn credu y dylai addysg greadigol agor drysau, adeiladu hyder a’ch paratoi ar gyfer cyfleoedd yn y byd proffesiynol. 

Byddwch yn cael cyfleoedd i weithio ar friffiau diwydiant byw, yn cael mewnwelediadau gan weithwyr proffesiynol creadigol ac yn arddangos eich gwaith drwy arddangosfeydd, cystadlaethau a digwyddiadau yn y diwydiant trwy gydol eich astudiaethau. 

Bydd y cyfleoedd hyn yn eich helpu i ddeall sut mae’r diwydiannau creadigol yn gweithio, byddant yn datblygu eich rhwydweithiau proffesiynol, ac yn adeiladu’r sgiliau a’r hyder i chi allu cymryd eich camau nesaf.

Mae ein cysylltiadau â’r diwydiant yn ymestyn y tu hwnt i’r ystafell ddosbarth hefyd. Mae llawer o’n graddedigion yn cadw mewn cysylltiad â’r coleg, gan ddychwelyd i rannu eu profiadau, cynnal gweithdai, cynnig arweiniad proffesiynol, a chreu cyfleoedd i’r genhedlaeth nesaf o dalent greadigol. 

Dathlu talent greadigol. Cydnabod cyflawniad.

A happy smiling and proud student, holding an award in her hands.

Mae ein myfyrwyr yn mynd â’u gwaith y tu hwnt i’r stiwdio, gan arddangos mewn arddangosfeydd cenedlaethol gan dderbyn cydnabyddiaeth am eu creadigrwydd, eu syniadau a’u sgiliau dylunio. 

Mae New Designers in Llundain, un o brif arddangosfeydd dylunio i raddedigion yn y DU yn darparu platfform pwysig i’n talent sy’n dod i’r amlwg. Mae’n arddangos eu gwaith, gan roi cyfle i fyfyrwyr gwrdd â gweithwyr proffesiynol y diwydiant a chysylltu â darpar gyflogwyr. 

Mae ein myfyrwyr wedi derbyn gwobrau a chanmoliaeth am eu gwaith, yn ogystal â chyfleoedd ar gyfer interniaethau a lleoliadau proffesiynol drwy eu gwaith. Mae’r cyflawniadau hyn yn adlewyrchu’r dalent, yr uchelgais a’r gwreiddioldeb sy’n cael eu datblygu yng Ngholeg Celf Abertawe. 

Ein graddedigion. Eu llwyddiant.

Mae ein graddedigion yn gwneud eu marc ar draws y diwydiannau creadigol, gan adeiladu gyrfaoedd, sefydlu busnesau a datblygu eu harferion creadigol eu hunain yn y DU ac ar draws y byd. 

Rydym yn falch o gynnal perthnasoedd cryf â’n cyn-fyfyrwyr.  Mae llawer yn dychwelyd i Goleg Celf Abertawe i rannu eu profiadau, cynnal gweithdai a darlithoedd gwadd, yn ogystal â chefnogi myfyrwyr a helpu i ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o dalent greadigol. 

Mae teithiau ein myfyrwyr yn dangos y cyfeiriadau niferus y gall addysg greadigol gynnig i chi, o weithio gyda brandiau a chyhoeddwyr adnabyddus i adeiladu gyrfaoedd llwyddiannus fel artistiaid, dylunwyr, darlunwyr, a ffotograffwyr, 

Dyma rai storïau am ein graddedigion talentog sy’n parhau i ysbrydoli ein cymuned greadigol. 

Dinas Glan Môr

Aerial shot of Swansea Bay

Mae Abertawe yn cynnig lleoliad ysbrydoledig ar gyfer astudio creadigol, gan gyfuno ardal canol dinas fywiog â’r arfordir a mannau agored hardd ar garreg ei drws. P’un a ydych chi’n chwilio am brofiadau diwylliannol, ysbrydoliaeth greadigol neu rywle i ymlacio y tu allan i’ch astudiaethau, mae digon i’w archwilio.

Mae gan y ddinas ardal greadigol sefydledig, gydag orielau yn cynnal arddangosfeydd mawr, mannau annibynnol dan arweiniad artistiaid a lleoliadau sy’n cefnogi egin dalent. Gallwch archwilio arddangosfeydd yn Oriel Gelf Glynn Vivian ac Oriel Elysium, gweld perfformiad yn Theatr Volcano neu Theatr y Grand, neu fwynhau cerddoriaeth fyw a digwyddiadau mawr mewn lleoliadau fel Arena Abertawe. Ochr yn ochr â’r rhain, fe welwch siopau annibynnol, caffis a mannau creadigol sy’n ychwanegu at gymeriad y ddinas.

Cyfleoedd Dwyieithog

Rydym yn dathlu diwylliant a threftadaeth Cymru o fewn ein dull addysgu a dysgu, gan gynnig cyfleoedd i f yfyrwyr ymgysylltu â’r Gymraeg a diwylliant Cymru ochr yn ochr â’u hastudiaethau. Mae Coleg Celf Abertawe yn gweithio gyda’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol i ddarparu cyfleoedd i ddysgu’r Gymraeg a gweithio drwy gyfrwng y Gymraeg, gan alluogi i f yfyrwyr ddewis sut yr hoffent gysylltu â diwylliant ac iaith Cymru o fewn cyddestun creadigol lleol a byd-eang.

A mwy...

Ein Campysau

Mae Coleg Celf Abertawe wedi’i leoli’n bennaf ar draws dau leoliad yng nghanol y ddinas, sef adeiladau Dinefwr ac Alex.Sefydlwyd y Coleg yn adeilad Alex yn 1853, sy’n golygu bod ganddo hanes hir a nodedig o ddarparu addysg greadigol yn Abertawe. Wedi’i leoli o fewn ardal ddiwylliannol y ddinas, mae’r adeilad yn agos at orielau, mannau creadigol annibynnol a rhai o atyniadau diwylliannol allweddol Abertawe.

Heddiw, mae’r dreftadaeth gyfoethog hon yn eistedd ochr yn ochr ag amgylchedd dysgu creadigol cyfoes, gyda stiwdios a chyfleusterau arbenigol sy’n cefnogi ystod eang o bynciau creadigol.

Mae rhai cyrsiau hefyd yn defnyddio ein campws yn SA1 y Glannau, yn Ardal Forwrol Abertawe. Gyda chanol y ddinas, y glannau a thraethau i gyd gerllaw, mae digon i’w archwilio y tu hwnt i’ch astudiaethau.

Ein Staff a’r Cymorth sydd ar gael i Chi.

Yng Ngholeg Celf Abertawe, byddwch yn elwa o amgylchedd dysgu cefnogol, gyda chyfleoedd rheolaidd i weithio’n agos gyda staff academaidd a thechnegwyr arbenigol drwy gydol eich astudiaethau.

Daw ein hacademyddion â gwybodaeth bynciol, profiad proffesiynol ac angerdd i’ch helpu i ddatblygu eich arfer creadigol. Ochr yn ochr â nhw, mae ein staff technegol arbenigol yn darparu arweiniad a chefnogaeth ymarferol ar draws ein gweithdai, ein stiwdios a’n cyfleusterau, gan eich helpu i archwilio deunyddiau, prosesau a thechnolegau yn hyderus.

Rydym yn rhoi gwerth gwirioneddol ar yr amser y mae myfyrwyr yn ei dreulio gyda’n staff. P’un a ydych chi’n datblygu syniad, yn dysgu techneg newydd neu’n gweithio trwy her greadigol, cewch gyfleoedd i ofyn cwestiynau, derbyn adborth ac elwa o arweiniad unigol.

Ein Cymuned Coleg Celf 

Mae Coleg Celf Abertawe yn cynnig profiad coleg celf arbenigol o fewn cymuned brifysgol ehangach. Yma gallwch ddod i adnabod y bobl o’ch cwmpas, rhannu syniadau, cydweithio ar brosiectau a meithrin cyfeillgarwch.

Mae bod yn rhan o gymuned greadigol hefyd yn golygu gwneud cysylltiadau a all barhau y tu hwnt i’ch astudiaethau.Cewch gyfleoedd i gwrdd â phobl o wahanol ddisgyblaethau creadigol, gweithio gyda’ch gilydd a meithrin perthnasoedd a allai lunio eich dyfodol yn y diwydiannau creadigol.