Skip page header and navigation

Hawliau Dynol

Hawliau Dynol

Shot overlooking Swansea Bay

Hawliau Dynol

Mae’r cymorth hwn yn cynnwys cefnogi’r gwaith o ddosbarthu canllaw newydd ar hawliau dynol, sy’n ceisio dangos pam maent yn bwysig i fywydau bob dydd pobl Abertawe. Gellir lawrlwytho fersiynau PDF o’r canllawiau o wefan y Cyngor.

Mae’r uchelgais y mae Abertawe wedi ei datgan i ddod yn Ddinas Hawliau Dynol wedi ei rhannu gan y Brifysgol a sefydliadau allweddol eraill fel yr heddlu, y bwrdd iechyd, y gwasanaeth tân, a grwpiau gwirfoddol yn ogystal â busnesau a thrigolion ar draws y ddinas.

Human Rights

  • Mynd i’r afael â thlodi

  • Cefnogi plant a theuluoedd bregus

  • Mynd i’r afael â gwahaniaethu

  • Mynd i’r afael â cham-drin domestig a thrais

  • Codi ymwybyddiaeth o hawliau dynol

Human Rights

“Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn cefnogi gweledigaeth Abertawe o ddod yn Ddinas Hawliau Dynol a’i huchelgais i greu dinas lle mae pawb yn gyfartal. Mae grymuso pobl i ddeall eu hawliau a pharchu hawliau eraill yn sylfaenol i gymdeithas sifil. Maent yn cyd-fynd â gwerthoedd y Brifysgol lle rydym yn dymuno grymuso unigolion trwy ddileu rhwystrau rhag cymryd rhan a chefnogi pobl o bob cefndir ac amgylchiadau i gyflawni eu potensial."
Former Vice-Chancellor, Professor Medwin Hughes

Becoming a Human Rights City

Myfyrwyr yn cael hwyl ar y traeth

Becoming a Human Rights City

Yn yr wyth deg mlynedd neu ragor ers araith Arlywydd yr UD Franklin D. Roosevelt ar 6 Ionawr, 1941 pan fynegodd ‘y Pedwar Rhyddid’, mae’r byd wedi newid y tu hwnt i bob adnabyddiaeth ond heddiw mewn sawl rhan o’n byd mae’r ffurfiau sylfaenol hynny ar ryddid dan fygythiad. Yn ei anerchiad cynigiodd Roosevelt bedwar rhyddid sylfaenol y dylai pobl “ym mhobman yn y byd” eu mwynhau:

  • Rhyddid i lefaru

  • Rhyddid addoliad

  • Rhyddid rhag eisiau

  • Rhyddid rhag ofn

Wyth degawd yn ddiweddarach ac mae Dinas Abertawe yn anelu at ddod yn Ddinas Hawliau Dynol gyntaf Cymru.

Human rights

"Mae PCYDDS yn falch o gefnogi uchelgais Abertawe i ddod yn Ddinas Hawliau Dynol. Bydd y blaenoriaethau a nodir yn gam enfawr ymlaen wrth fynd i'r afael ag anghydraddoldeb cymdeithasol ac amddifadedd i aelodau mwyaf bregus ein dinas. Mae Abertawe'n lle gwych i fyw, gweithio ac astudio ynddo. Bydd dod yn Ddinas Hawliau Dynol yn ychwanegu at ei henw da yn gymuned deg a chynhwysol."
Professor Ian Walsh, Provost of the Swansea campus at the University of Wales Trinity Saint David

Pledge

View of a Swansea beach

Cefnogwch Abertawe i ddod yn Ddinas Hawliau Dynol gyntaf Cymru. Gwnewch eich Addewid Hawliau Dynol heddiw: