Skip page header and navigation

Introduction

Yng Ngholeg Celf Abertawe, mae myfyrwyr Technoleg Cerddoriaeth yn gweithio gyda thechnolegau recordio, cynhyrchu a sain trochol o safon diwydiant.  Byddwch yn datblygu sgiliau ymarferol ar draws stiwdios proffesiynol, amgylcheddau meddalwedd arbenigol, a mannau cynhyrchu creadigol, gyda chefnogaeth staff a thechnegwyr profiadol.

Facilities include:

Stiwdio Dinefwr

Mae ein Stiwdio Dinefwr yn gyfleuster recordio aml-drac proffesiynol sydd wedi’i gynllunio ar gyfer cynhyrchu, recordio a chymysgu cerddoriaeth. Mae’r stiwdio’n darparu mynediad at feicroffonau proffesiynol, systemau monitro, offer recordio, offerynnau a chwyddseinyddion, gan greu amgylchedd hyblyg ar gyfer prosiectau unigol a chydweithredol. Byddwch yn defnyddio’r lle ar gyfer sesiynau recordio, ymarferion, prosiectau perfformio, ac ymarfer creadigol annibynnol trwy ein system archebu.

Stiwdio SA1

Mae Stiwdio SA1 yn darparu amgylchedd recordio aml-drac ychwanegol, gan gefnogi cynhyrchu cerddoriaeth gyfoes, peirianneg sain, ac arbrofi creadigol. Wedi’i chyfarparu ar gyfer llifoedd gwaith recordio a chynhyrchu, gellir defnyddio’r stiwdio ar gyfer ymarferion, sesiynau jamio, recordio ensembles, a gwaith prosiect. Byddwch yn datblygu sgiliau ymarferol wrth weithio mewn amgylchedd sy’n adlewyrchu arferion cyfredol y diwydiant.

Ystafell Gymysgu Dolby Atmos

Mae ein Hystafell Gymysgu Dolby Atmos pwrpasol yn cynnwys system fonitro sain drochol 7.1.4 proffesiynol, sy’n eich galluogi i archwilio technegau cynhyrchu sain gofodol uwch a ddefnyddir ar draws cerddoriaeth, ffilm, teledu, chwarae gemau fideo, a chyfryngau trochol. Fe gewch brofiad ymarferol o greu, golygu a chymysgu cynnwys ar gyfer fformatau sain y genhedlaeth nesaf o fewn amgylchedd proffesiynol arbenigol.

Labordy Mac

Mae ein Labordy Mac wedi’i gyfarparu â gweithfannau Apple a chasgliad helaeth o feddalwedd broffesiynol ar gyfer cynhyrchu cerddoriaeth, cyfansoddi, dylunio sain, ôl-gynhyrchu sain, a chyfryngau creadigol. Byddwch yn gweithio gyda’r un offer a ddefnyddir ar draws y diwydiannau cerddoriaeth a chreadigol, gyda mynediad i’r labordy ar gyfer addysgu ac astudio annibynnol.

Storfa Dechnegol a Benthyca Offer 

Mae gan fyfyrwyr fynediad at storfa dechnegol bwrpasol, sy’n darparu ystod o offer proffesiynol i’w defnyddio ar ac oddi ar y campws. Mae’r adnoddau’n cynnwys meicroffonau, recordwyr cludadwy, offer recordio lleoliad, rhyngwynebau sain, offer monitro, ac ategolion cynhyrchu. Mae hyn yn eich galluogi i ymgymryd â phrosiectau recordio, recordio yn y maes, cipio digwyddiadau byw, a gwaith creadigol annibynnol trwy gydol eich astudiaethau.

Meddalwedd ac Adnoddau Cynhyrchu

Mae gan fyfyrwyr fynediad at gyfres helaeth o feddalwedd o safon diwydiant a ddefnyddir ledled y diwydiannau cerddoriaeth, sain a chyfryngau creadigol. Mae’r offer hyn yn cefnogi recordio, cynhyrchu, cymysgu, meistroli, cyfansoddi, dylunio sain, sain drochol, perfformiad clyweledol ac arfer creadigol arbrofol.

Gweithfannau Sain Digidol (DAWs)

  • Pro Tools 
  • Logic Pro X 
  • Ableton Live 
  • Reaper

Cyfryngau Creadigol a Chynhyrchu Cynnwys

  • Adobe Creative Cloud 
  • OBS Studio 

Prosesu ac Effeithiau Sain Proffesiynol

  • Native Instruments Komplete Ultimate 13 
  • Waves Mercury Bundle 
  • Waves OVox Vocal Resynthesis 
  • iZotope Everything Bundle 
  • FabFilter Total Bundle 
  • Soundtoys 5 Academic Bundle 
  • GRM Tools Complete II 

Offerynnau Rhithwir a Chyfansoddi

  • Spitfire Audio Albion One 
  • Spitfire Audio Symphonic Motions 
  • Spitfire Audio Orchestral Grand Piano 
  • Output Bundle 

Perfformiad Clyweledol a Chyfryngau Rhyngweithiol

  • HeavyM Pro 
  • Arduino

Dylunio Sain a Sain Arbrofol

  • Pure Data 
  • Cecilia
  • SoundGrain

Gwasanaethau Llwybro Sain a Stiwdio

  • BlackHole 64

Oriel

Mynediad a rennir

Trefnir mynediad i ardaloedd eraill y Gyfadran trwy weithdai, fodd bynnag, mae gan Goleg Celf Abertawe bolisi o ganiatáu mynediad a rennir i’n holl gyfleusterau.