Skip page header and navigation

Yr Athrofa Dysgu Canol Dinas

Yr Athrofa Dysgu Canol Dinas

London student in lecture

Yr Athrofa Dysgu Canol Dinas

Mae’r Athrofa Dysgu Canol Dinas yn angerddol am ehangu gorwelion a chodi dyheadau myfyrwyr o gefndiroedd amrywiol trwy ddatblygu eu potensial i’r eithaf.

Ein myfyrwyr a darparu amgylchedd dysgu cyfeillgar, cefnogol wedi’i deilwra sy’n ganolog i bopeth a wnawn, gan ysbrydoli myfyrwyr i gyflawni eu dyheadau personol a phroffesiynol yn llwyddiannus.

Trwy ddefnyddio ein sgiliau a’n gwybodaeth gyfunol, rydym yn paratoi ein myfyrwyr i wynebu’r  heriau o astudio, byw a gweithio yng nghanol dinasoedd, gydag opsiynau astudio hyblyg naill ai yn ystod yr wythnos neu ar benwythnosau.

Ein Cyrsiau a Lleoliadau

Israddedig 
Ôl-raddedig

Ein Pynciau

Mae’r Athrofa Dysgu Canol Dinas yn darparu portffolio o gyrsiau sy’n canolbwyntio ar gyflogaeth yn ein campysau yn Llundain a Birmingham.

Yma, rydym yn canolbwyntio ar fusnes a sgiliau cymhwysol ar gyfer y gweithle, a byddwch yn datblygu eich sgiliau mewn lle sy'n llawn brandiau byd-eang, busnesau annibynnol a busnesau newydd cyffrous. Byddwch wedi eich lleoli ar ein campws cyfeillgar a chroesawgar – a byddwch yn treulio tair blynedd yn byw yn un o ddinasoedd mwyaf cyffrous y byd.

students around a table in London campus

Ymgollwch ym mwrlwm Birmingham, dinas sy’n enwog am ei phobl, ei bwyd a’i gwyliau diwylliannol - bydd rhywbeth i’ch difyrru trwy’r adeg. Mae PCYDDS Birmingham yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau arloesol sydd wedi’u cynllunio er mwyn eich paratoi ar gyfer byd gwaith. A’r cyfan mewn dinas sy’n llawn cyfleoedd.

Staff member presenting to students