Bwrsariaethau PCYDDS
Mae’r Brifysgol yn cyhoeddi ein fframwaith bwrsariaethau, sef rhestr o ddyfarniadau ariannol y gall myfyrwyr cymwys wneud cais amdanynt, bob blwyddyn academaidd. Mae’r dudalen hon yn egluro’r dyfarniadau sydd ar gael, y meini prawf cymhwysedd a manylion y broses ymgeisio.
Dylai myfyrwyr fod yn ymwybodol o’r canlynol:
- Dyfernir y mwyafrif o’r bwrsariaethau a restrir isod ar sail cais. Nid yw pob cais yn llwyddiannus a chynghorir myfyrwyr i beidio â disgwyl dyfarniad, ac i gynllunio eu cyllideb yn unol â hynny.
- Mae’r fframwaith bwrsariaethau’n newid yn flynyddol mewn ymateb i anghenion ein cymuned o fyfyrwyr ac er mwyn iddo weithio o fewn y gyllideb a sefydlir gan Gynllun Ffioedd a Mynediad y Brifysgol. Efallai na fydd bwrsariaethau a gynigir ar gyfer y flwyddyn academaidd bresennol ar gael yn y blynyddoedd dilynol.
- Ni ddylid ystyried cais llwyddiannus am fwrsariaeth fel arwydd y bydd ceisiadau eraill yn llwyddiannus.
- Mae i bob bwrsariaeth a restrir isod ddyfarniad uchaf; gellir dyrannu bwrsariaethau islaw’r lefel uchaf er mwyn sicrhau bod y cyllid yn cefnogi cynifer o fyfyrwyr â phosibl.
- Gwneir taliadau’n uniongyrchol i’ch cyfrif banc trwy BACS a gellir talu’r dyfarniadau mewn rhandaliadau ar draws y semestrau yn hytrach na’u talu i gyd ar unwaith.
- Bydd y rhan fwyaf o geisidau ar gyfer bwrsariaeth yn cymryd 4–6 wythnos i'w prosesu (ag eithrio'r canlynol: Bwrsariaethau'r Athrofeydd, Bwrsariaethau Cyfrwng Cymraeg, Bwrsariaethau Ymgyrraedd Ehangach, Ysgoloriaethau Prifysgol Noddfa a Bwrsariaethau Astudio Dramor gan bod gan y rhain ddyddiad cau penodol yn ystod y flwyddyn academaidd.) Mi fydd ceisiadau ar gyfer Bwrsariaethu Cysylltedd Ddigidol a Bwrsariaethau Anabledd yn cael eu prosesu o fewn 2–4 wythnos.
Ewch at y fframwaith Bwrsariaethau 2023–24 isod. Mae gan bob un o’r dyfarniadau feini prawf cymhwysedd penodol, ond y ddau faen prawf sylfaenol er mwyn gallu cael eich ystyried am ddyfarniad yw’r rhai a ganlyn:
- Rhaid i chi fod wedi’ch cofrestru ar raglen a gyflwynir gan PCYDDS ar gyfer y flwyddyn academaidd 2023–24.
- Rhaid i chi fod yn astudio o leiaf 40 credyd yn ystod y flwyddyn academaidd.
Sut i wneud cais am Fwrsariaeth
- Os ydych chi’n astudio neu’n dymuno astudio gydag Athrofa PCYDDS, cliciwch ar y dolenni isod i weld y manylion ymgeisio
- Os ydych chi’n astudio neu’n dymuno astudio gyda choleg cyfansoddol yng ngrŵp PCYDDS,dylech gysylltu â’ch sefydliad cartref i weld pa gefnogaeth sydd ar gael i chi.
Dewiswch opsiwn isod i ddysgu am fwrsariaethau a chymorth ariannol. Cofiwch y gallwch gysylltu â ni gydag unrhyw ymholiadau.
Bwrsariaethau Israddedig ac Ôl-raddedig
Gallwch gael gafael ar sawl ysgoloriaeth a bwrsariaeth i gefnogi’ch astudiaethau ac i’ch galluogi i wneud yn fawr o’ch profiad fel myfyriwr. Cliciwch ar y dolenni isod i ddysgu rhagor.
Myfyrwyr Israddedig Myfyrwyr Ôl-raddedig
Bwrsariaethau Hyfforddi Athrawon TAR
Mae Llywodraeth Cymru’n cynnig cymhellion Hyfforddi Athrawon bob blwyddyn. Caiff symiau’r bwrsariaethau sydd ar gael a’r pynciau y maent yn gysylltiedig â nhw eu pennu’n flynyddol mewn ymateb i anghenion y sector addysg.
Ewch i’n hadran Bwrsariaethau TAR i ddarganfod mwy.