Skip page header and navigation

CGP: Newyddion a Digwyddiadau

Newyddion a Digwyddiadau

Bright stained glass image of man playing the fiddle.

Gweler isod astudiaethau achos ac eitemau newyddion diweddar yn cynnwys gwybodaeth am weithdai.

Os oes gennych ddiddordeb mewn cael gwybodaeth bellach am ein newyddion a digwyddiadau, cysylltwch â’r tîm. Gallwn eich ychwanegu at ein rhestr bostio.

Newyddion Diweddaraf

Dosbarthiadau Meistr Peintio Gwydr Hydref 2024 yng Ngholeg Celf Abertawe Y Drindod Dewi Sant.

Mae’r Ganolfan Gwydr Pensaernïol yng Ngholeg Celf Abertawe yn falch o gyhoeddi sesiwn yr hydref o ddosbarthiadau meistr peintio gwydr arbenigol gan Jonathan Cooke.

Mae’r dosbarth meistr peintio gwydr yn addas i ddechreuwyr a’r rhai sydd â phrofiad blaenorol o beintio gwydr. Bydd Jonathan yn arddangos ac yn addysgu ei dechnegau, ac yn trafod deunyddiau, offer ac amseroedd tanio. Fe fydd digon o amser i gyfranogwyr ymarfer, cynhyrchu samplau a chreu darnau gorffenedig ar eu dyluniadau eu hunain.

Bydd dosbarth meistr ychwanegol ar gael sy’n canolbwyntio’n benodol ar ddefnyddio enamel a staeniau arian: archwilio deunyddiau a thechnegau i’w defnyddio’n bennaf mewn peintio gwydr traddodiadol, gan ddefnyddio casgliad o staeniau, enamelau tryloyw ac anhryloyw, amrywiaeth o gyfryngau a thechnegau cymysgu, systemau cymhwyso a thanio i gyflawni effeithiau a chanlyniadau gwahanol.

  • Dosbarth Meistr Peintio Gwydr: 16eg – 19eg  Medi £310.00
  • Dosbarth Meistr Staen Arian ac Enamel: 20fed – 22ain Medi £330.00

I archebu lle, cysylltwch ag: agc@uwtsd.ac.uk.
Ffôn: 07769 210127

I weld enghreifftiau o waith Jonathan ei hun, ewch i’w wefan.

I gael rhagor o wybodaeth am gyrsiau gwydr yng Ngholeg Celf Abertawe Y Drindod Dewi Sant, ewch i’w wefan.

Content