Diwrnodau Agored
Dechreuwch Eich Antur
Dewch â’ch egni prif gymeriad i Ddiwrnod Agored yn PCYDDS. Gyda dewis o bedwar lleoliad campws yn Ne Cymru a channoedd o gyrsiau yn barod i ysbrydoli, mae’n amser i afael yn eich dyfodol gyda’ch dwy law.
Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio, dod i adnabod rhagor am y pwnc o’ch dewis a hyd yn oed gasglu nwyddau am ddim i’ch paratoi ar gyfer eich blwyddyn gyntaf. Ydych chi’n barod ar gyfer eich pennod nesaf?
Diwrnodau Agored Sydd i Ddod
Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfleoedd i chi weld beth sydd gan leoliadau ein campysau i’w cynnig i chi, a’r hyn y gallwch ei ddisgwyl gennym pan fyddwch yn dewis astudio yn PCYDDS. Rydyn ni’n cynnal Diwrnodau Agored trwy gydol y flwyddyn er mwyn i chi gael cyfle i ofyn cwestiynau sy’n bwysig i chi. Cadwch le ar ein diwrnod agored nesaf neu cofrestrwch eich manylion fel y gallwn roi gwybod i chi am ddyddiadau ein diwrnodau agored nesaf