Hafan YDDS  -  Y Brifysgol  -  Gwasanaethau Proffesiynol  -  Gwasanaethau Myfyrwyr

Gwasanaethau Myfyrwyr

Gwasanaeth cymorth proffesiynol sy’n darparu gwybodaeth, cyngor a chyfarwyddyd o ansawdd uchel ynghyd â chymorth ymarferol ac emosiynol er mwyn galluogi'r holl fyfyrwyr i gyrraedd eu potensial llawn.

Mae’r adran Gwasanaethau Myfyrwyr yn gasgliad o wasanaethau proffesiynol ymarferol a luniwyd i alluogi a chynorthwyo ein holl fyfyrwyr i gyrraedd eu potensial llawn.

Trwy ein gwasanaethau gall myfyrwyr gael gafael ar wybodaeth, cyngor, arweiniad, cyfleoedd a chefnogaeth o ansawdd uchel. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am ein gwasanaethau isod.

Angen cymorth ar frys?

Os ydych yn ansicr ynglŷn â'r gwasanaeth yr hoffech ei ddefnyddio, cysylltwch â thîm yr HWB yn y lle cyntaf.

Os ydych yn astudio yn Birmingham:

Os ydych yn astudio yn Lundain:

Gall unrhyw fyfyriwr o'r Drindod Dewi Sant gael cymorth 24/7, gan gynnwys cymorth iechyd meddwl, drwy gysylltu â'n Rhaglen Cymorth i Fyfyrwyr. Mae staff proffesiynol wrth law i gynnig cymorth i chi ar unrhyw adeg, ffoniwch y tîm Sicrwydd Iechyd ar 0800 028 3766.