Skip page header and navigation

Bywyd Campws Llambed

Exterior of Lampeter campus grounds and building

Yma Dechreuodd y Cyfan

Bydd Llambed yn siŵr o’ch synnu, a hyd yn oed pan fyddwch yn gwybod beth i’w ddisgwyl, mae campws Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn olygfa syfrdanol bob tro.

Eich Ysbrydoli

Ymgollwch yn chwedlau’r oesoedd yn Llambed. Mae yma fynyddoedd a choedwigoedd ac afonydd gwyllt a godidog, ble well i gael ei ysbrydoli ar gyfer eich astudiaethau? Sefydlwyd y campws yn 1822, yma dechreuodd addysg uwch yng Nghymru a’r 200 mlynedd o hanes cyfoethog yn y byd academaidd sy’n ysbrydoli ein haddysgu arloesol a blaengar.

Pam Dewis Llambed?

Myfyriwr yn gwisgo crys glas yn cerdded i lawr coridor

Byddwch yn teimlo fel un o’r trigolion lleol

Fe ddewch chi i adnabod eich hun yn Llambed. Mae ein campws yn amgylchedd cynhwysol, cefnogol a chalonogol i fyw ac i ddysgu. Yma, cewch gwrdd â ffrindiau am oes, cewch roi cynnig ar hobïau newydd, ymuno â chymdeithasau, ac ymgartrefu mewn tref lle byddwch chi’n teimlo fel un o’r trigolion lleol o’r diwrnod cyntaf. Dewiswch eich stori chi mewn lle sy’n eich annog i fod yn chi’ch hun.

Ai’r dyniaethau sy’n eich denu chi? Mae Llambed yn cynnig profiad cwbl wahanol i unrhyw gampws arall, yma cewch fwynhau’r pynciau sy’n rhoi gwir foddhad i chi, o Archaeoleg a Gwareiddiadau Hynafol, i Ysgrifennu Creadigol a’r Celfyddydau Breiniol. Yn ei leoliad gwledig hyfryd, cewch ymgolli yn straeon y gorffennol, y presennol a’r dyfodol, a chael eich amgylchynu gan yr adeiladau hanesyddol a fu’n grud i addysg uwch yng Nghymru.

Bydd y dosbarthiadau llai yn gymorth i chi ganfod eich llais, ac i ddod i ddeall eich pwnc mewn dyfnder, a hynny ar gampws sy’n cyfuno traddodiad academaidd nodedig gyda thechnoleg addysg y 21ain ganrif.

Gyda’i gilydd, mae gan llyfrgell a Chasgliadau Arbennig ac Archifau Roderic Bowen tua 275,000 o gyfrolau printiedig, tra bod Casgliadau Arbennig ac Archifau PCYDDS yn cadw llyfrau, llawysgrifau ac archifau hynaf y Brifysgol, gan ddenu ymchwilwyr o bob rhan o’r byd.

Mae Llambed hefyd yn gampws sy’n canolbwyntio ar y dyfodol. Os oes gennych ddiddordeb mewn adeiladu gwydnwch economaidd cynaliadwy a sofraniaeth, yna bydd datblygiad ein Canolfan Tir Glas yn eich cyffroi, a bydd dwy fenter newydd – Academi Bwyd Cyfoes Cymru a Chanolfan Datblygu Coed Cymru yn cael eu sefydlu yn 2024.

Mae holl lety Llambed ar y campws gwyrdd,  hyfryd o fewn tafliad carreg i siopau, caffis, bwytai a thafarndai yn y dref farchnad fywiog. Rydych chi hefyd o fewn cyrraedd hawdd i Fannau Brycheiniog, traethau hardd a threfi arfordirol.

Edrychwch ar ein hamrywiaeth eang o gyrsiau Dyniaethau.

Myfyrwyr yn edrych drwy ficrosgopau

Beth Fyddwch chi'n ei Astudio

Dechreuwch eich taith drwy blymio’n ddwfn mewn ffordd wefreiddiol i’r dyniaethau yn Llambed. Darganfyddwch storïau’r gorffennol. Ysgrifennwch anturiaethau newydd.

Dysgwch wersi sy’n parhau am oes. Mwynhewch ddosbarthiadau llai, sy’n eich helpu i archwilio’ch angerdd a dod o hyd i’ch llais. Byddant yn eich helpu i wit ddeall eich pwnc, gan gydweithio â’ch cyd-fyfyrwyr a’n cyfadran arbenigol. 

Visit us at an Open Day

Student ambassadors with potential students

Ymwelwch  Ni Ar Gyfer Diwrnod Agored

Adeiladau a Chyfleusterau Llambed

Exterior of Lampeter campus grounds and building

Sut i gyrraedd ein Campws yn Llambed

Mae’r campws wedi’i leoli yng nghanol tref Llanbedr Pont Steffan (Llambed), sy’n dref llawn hanes a diwylliant. Mwynhewch groeso a lletygarwch y gymuned leol.