Mae’r Llyfrgell ac Adnoddau Dysgu yn ceisio cefnogi holl fyfyrwyr, staff ac ymchwilwyr y Brifysgol drwy roi mynediad i adnoddau a gwasanaethau gwybodaeth o ansawdd uchel.
Mae ein llyfrgell ar-lein ar gael bob awr o’r dydd a’r nos! Caiff staff a myfyrwyr fynediad i ystod eang o adnoddau electronig, yn cynnwys e-lyfrau, e-gyfnodolion, cronfeydd data arbenigol, papurau newydd ar-lein a llawer mwy.
Yn ein Casgliadau Arbennig mae llyfrau printiedig hynaf, llawysgrifau ac archifau’r Brifysgol, ac maent yn un o’r prif ffynonellau ymchwil academaidd yng Nghymru.
Lluniwyd ein rhaglen Sgiliau Gwybodaeth i greu cyfleoedd i fyfyrwyr ddatblygu sgiliau gwybodaeth a digidol trosglwyddadwy, gan hwyluso eu llwyddiant academaidd a’u cyflogadwyedd.