Skip page header and navigation

Nic Evans

Image and intro

Silwét pen ac ysgwyddau dynes.

Cyfarwyddwr Addysg Gychwynnol Athrawon

Yr Athrofa Addysg a’r Dyniaethau


E-bost: n.j.evans@uwtsd.ac.uk

Rôl yn y Brifysgol

  • Cefnogi’r staff addysg gychwynnol athrawon a chadeirio pwyllgorau staff/myfyrwyr
  • Pennu cyfeiriad strategol a gweithredu’r rhaglenni achrededig
  • Cyflawni dangosyddion perfformiad allweddol y brifysgol a PDPA
  • Defnyddio adnoddau’n effeithiol ac yn deg i greu diwylliant cynhwysol
  • Rheoli’r gyllideb
  • Sicrhau bod prosesau hunanwerthuso’n galluogi datblygu rhaglenni/cyfleoedd a chynnydd
  • Ymwneud â gweithgarwch allanol sy’n codi proffil PDPA (Cyngor y Gweithlu Addysg, Llywodraeth Cymru, ESTYN, UCET a USCET, y Teacher Education Advancement Network a chyfleoedd rhyngwladol)

Cefndir

Rwy’n Gyfarwyddwr Academaidd Addysg Athrawon yn yr Athrofa, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant ac yn arwain tîm o safon sy’n darparu cyfres o raglenni Addysg Gychwynnol Athrawon (AGA). Ar ôl gyrfa yn rhychwantu amrywiaeth o gyfnodau allweddol a chyd-destunau, symudais i’r sector Addysg Uwch ym Mhrifysgol St. Mary’s Twickenham, gan weithio fel Arweinydd Pwnc ar draws llu o raglenni israddedig ym maes addysgeg chwaraeon.

Roedd dychwelyd i Gymru i rôl cyfarwyddwr academaidd yn y Drindod Dewi Sant ar adeg mor gyffrous o newid yng nghwricwlwm Cymru yn cynnig y cyfle i fod yn weithredwr newid. Rwyf bellach yn gyfrifol am bortffolio o raglenni AGA israddedig ac ôl-raddedig a’r rhaglen PCET.

Diddordebau Academaidd

Yn ddiweddar, rwyf wedi gweithio gyda chydweithwyr ar brosiect ymchwil sy’n ymwneud â gwerth hyfforddwyr benywaidd yng ngêm y menywod. Rhan o’r tîm a gyflwynodd gais am ddyfarniad efydd Athena Swan i ddatblygu tegwch rhwng y rhywiau ym Mhrifysgol St. Mary’s, Twickenham. Rhan o gynllun mentora ar draws y brifysgol i gefnogi myfyrwyr ehangu cyfranogiad.

Diddordeb esblygol mewn addysgeg sy’n ymateb i drawma a sut mae gweithredu hyn o fewn addysg.

Rwyf wedi addysgu ar draws ystod o fodylau ar raglenni israddedig ac ôl-raddedig ac mae gennyf ddiddordeb arbennig mewn addysgu sy’n ymwneud â chydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, creu amgylchedd dysgu cadarnhaol, arfer mewn ysgolion, dulliau addysgeg perthynol, arfer cynhwysol, cymdeithaseg chwaraeon ac arfer hyfforddi cymhwysol (rygbi).

Meysydd Ymchwil

Mae fy niddordebau ymchwil yn cynnwys tegwch mewn Addysg Gorfforol a hyfforddi chwaraeon, a lles chwaraewyr o ran cyfergyd ac anaf trawmatig i’r ymennydd mewn chwaraewyr rygbi.

Ar hyn o bryd rwy’n ymwneud ag ymchwil gymhwysol gyda chorff llywodraethu chwaraeon cenedlaethol i werth hyfforddwyr benywaidd yng ngêm y menywod a rôl sgiliau arwain trawsnewidiol mewn hyfforddi. Rwyf hefyd yn cymryd rhan mewn astudiaeth hydredol o raglen datblygu rhagoriaeth ac arweinyddiaeth i hyfforddwyr gyda’r corff llywodraethu cenedlaethol.

Cyflwynais ymchwil ar y defnydd o ddiolch mewn chwaraeon tîm yng Nghynhadledd Menywod mewn Chwaraeon 2021 a gynhaliwyd ym Mhrifysgol Caerwrangon.

Arbenigedd

  • Addysgu Addysg Gorfforol
  • Addysgu Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
  • Addysg Arfer Addasedig
  • Datblygu Creadigrwydd mewn Addysg
  • Hyfforddi rygbi – Hyfforddwr Cymwysedig Lefel 4