Skip page header and navigation

Theatr: Perfformio (Llawn amser) (MA)

Caerdydd
1 Flwyddyn Llawn amser

Mae’r rhaglen ôl raddedig hon, sy’n flwyddyn o hyd, yn hynod ymarferol a dwys ac yn cynnig hyfforddiant a fydd yn datblygu artistiaid proffesiynol y dyfodol.

Mae’r rhaglen nid yn unig yn canolbwyntio ar actio, canu a dawnsio; ond hefyd yn rhoi cyfleoedd i fyfyrwyr ddatblygu sgiliau Cyfarwyddo a hyfforddiant Theatr Gorfforol.

Gellir teilwra’r radd ar gyfer y myfyriwr unigol a rhydd gyfle i ddatblygu’n artist unigryw. Mae pob aelod o’n staff addysgu yn weithwyr proffesiynol ym myd y theatr ac yn gweithio mewn addysg uwch yn ogystal â’r diwydiant.

Mae’r Drindod Dewi Sant Caerdydd yn cynnig dewis o raddau ôl-raddedig a fydd yn rhoi i fyfyrwyr dechneg gadarn ochr yn ochr â dealltwriaeth eang o’r diwydiannau creadigol yng Nghymru a thu hwnt.

Mae’r Drindod Dewi Sant Caerdydd yn bair byrlymus o actorion, cantorion a dawnswyr y dyfodol. Mae moeseg waith y cyrsiau yn seiliedig ar ddatblygiad personol, parch a chydweithio. Deillia hyn o’r cymorth mae’r myfyrwyr yn ei gael gan y staff ymroddgar a phroffesiynol.

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Ar y campws
  • Llawn amser
Iaith:
  • Cymraeg
Hyd y cwrs:
1 Flwyddyn Llawn amser

Pam dewis y cwrs hwn

01
Oriau cyswllt uchel gyda staff.
02
Tri pherfformiad cyhoeddus gyda chriw technegol proffesiynol; arddangosfa berfformio yn Llundai.n
03
Cysylltiadau cryf â’r diwydiant yng Nghymru a thu hwnt.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Bydd y cwrs yn datblygu sgiliau’r myfyriwr fel perfformiwr amryddawn gyda phwyslais ar:

1. Perfformiadau Cyhoeddus

Rhoddir profiad i fyfyrwyr sy’n cyfateb i weithio ar nifer o berfformiadau proffesiynol a lwyfennir. Byddant yn ymarfer ac yn perfformio nifer o rannau dan gyfarwyddyd ac amodau cynhyrchu proffesiynol. Disgwylir i’r myfyrwyr ddangos lefel uchel o allu i weithio’n annibynnol, gyda chyfarwyddwr, ac mewn cydweithrediad â’u cymheiriaid. 

2. Sgiliau a Thechnegau Craidd

Gall myfyrwyr ddewis o blith nifer o fodylau er mwyn arbenigo, gan gynnwys:

  • Dawns Pellach
  • Canu Pellach
  • Hyfforddiant Lleisiol Pellach
  • Dyfeisio a Theatr Gorfforol
  • Cyfarwyddo 1

3. Datblygiad Proffesiynol

Bydd datblygiad proffesiynol yn cynnwys arddangosfa berfformio i asiantau a pharatoi portffolio datblygiad proffesiynol. Bydd y portffolio’n cynnwys tystiolaeth o waith ymchwil, ysgrifennu adfyfyriol a chasgliad o ddeunyddiau a gasglwyd yn ystod astudiaethau’r myfyriwr, gan gynnwys rhestr o weithgareddau a digwyddiadau y bu’n rhan ohonynt ac amrywiaeth o ddogfennau proffesiynol. Fe’i datblygir drwy ymgynghori’n agos â Thiwtor Personol a’i deilwra ar gyfer gofynion proffesiynol penodol pob myfyriwr.  Fel cyfanwaith, bydd cynnwys y portffolio’n dystiolaeth o broffil artistig unigol y myfyriwr gan adfyfyrio ar ei ddatblygiad parhaus yn berfformiwr.

Compulsory

Perfformiadau Cyhoeddus

(40 credydau)

Actio Uwch 1

(20 credydau)

Cynhyrchiad Mawr

(60 credydau)

Optional

Canu Uwch

(20 credydau)

Dawns Uwch

(20 credydau)

Disclaimer

  • Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio. 

    Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall. 

tysteb

Staff

Staff

Cewch eich addysgu a’ch cefnogi gan amrywiaeth eang o staff a thimau proffesiynol sydd yma er mwyn eich helpu i gael y profiad prifysgol gorau posibl. Daeth ein staff addysgu’n 2il yng Nghymru am asesiadau ac adborth (NSS 2023) sy’n golygu y bydd y sylwadau a gewch chi ar eich gwaith yn eich helpu i ddysgu. O ganlyniad i’n hymrwymiad i’ch dysgu mae ein myfyrwyr wedi ein gosod yn y 10 gorau yn y DU am Ddarlithwyr ac Ansawdd Addysgu. Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Llety

example of student bedroom

Llety Caerdydd

Mae gan Gaerdydd ddewis eang o lety i fyfyrwyr, ac mae cyfleoedd diddiwedd o ran llety ar gael i fyfyrwyr sy’n dewis astudio yng Nghaerdydd. Mae nifer o ddarparwyr llety pwrpasol i fyfyrwyr yn y ddinas a bydd ein tîm llety yn gallu eich arwain trwy’r opsiynau. 

Gwybodaeth allweddol

  • Gradd Baglor y DU (isafswm o 2:1) neu brofiad.

  • Perfformiadau/digwyddiadau cyhoeddus
    Mae myfyrwyr yn cael cyfle yn rheolaidd i gymryd rhan mewn perfformiadau/ digwyddiadau trwy gydol eu gradd, lle gwelwn eu sgiliau a’u gwybodaeth yn cynyddu ac yn cael eu cymhwyso.

    Tiwtorialau rheolaidd
    Rydym yn cynnal tiwtorialau ffurfiol ac anffurfiol trwy gydol y radd lle mae pob myfyriwr yn trafod ei waith gyda’r tiwtor modwl neu’r Cyfarwyddwr Rhaglen. Edrychwn ar ddatblygiad ymarferol, twf cysyniadol a bwriadau i’r dyfodol.

    Cyflwyniadau
    Cynhelir cyflwyniadau fel arfer ar ddiwedd modwl, arddangosfa neu berfformiad, er mwyn mesur perfformiad myfyriwr yn erbyn meini prawf asesu.

    Gweithlyfrau proses
    Bydd myfyrwyr yn cofnodi eu proses a’u gwaith ymarferol mewn gweithlyfr sy’n dangos eu dysgu a’u llwybr unigol.

    Portffolio Datblygiad Proffesiynol
    Bydd y Portffolio Datblygiad Proffesiynol yn cynnwys tystiolaeth o waith ymchwil, ysgrifennu adfyfyriol a chasgliad o ddeunyddiau a gasglwyd yn ystod astudiaethau’r myfyriwr, gan gynnwys rhestr o weithgareddau a digwyddiadau y bu’n rhan ohonynt ac amrywiaeth o ddogfennau proffesiynol.

  • Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau.  I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.

    • Actio
    • Canu
    • Teledu/Radio
    • Theatr
    • Theatr Gerddorol
    • Chwarae rôl a hyfforddiant corfforaethol
    • Addysg
    • Astudiaeth/ymchwil ôl-raddedig