Skip page header and navigation

Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc (Rhan amser) (PGCert)

Caerfyrddin
24 mis Rhan amser

Ar adeg o bryderon cynyddol am iechyd meddwl plant a phobl ifanc, mae’r rhaglen MA yn archwilio’r problemau y mae pobl ifanc yn eu hwynebu a sut i’w cefnogi.

Bydd y rhaglen hon yn canolbwyntio’n benodol ar ymyriadau therapiwtig a chefnogol sy’n seiliedig ar dystiolaeth. Yn arbennig, mae’n amlygu pwysigrwydd llais y plentyn a methodolegau ymchwil sydd wedi’u hanelu at ymchwil gyda phlant.

Bydd strwythur y rhaglen hon yn sicrhau bod gan fyfyrwyr brofiad mewn ystod o ymyriadau sy’n gweithio gydag amrywiaeth o faterion, gan gynnwys pryderon am iechyd meddwl ac anhwylderau niwroddatblygiadol, gan roi’r sgiliau a’r wybodaeth iddyn nhw’u cymhwyso yn eu meysydd proffesiynol.

Yn arbennig, mae’r rhaglen yn archwilio amrywiaeth o faterion sy’n effeithio ar iechyd meddwl plant a phobl ifanc fel gorbryder, profedigaeth, trawma plentyndod, profiadau niweidiol yn ystod plentyndod (ACE), Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd

(ADHD), ac anhwylderau ymlyniad. Mae’r modiwlau’n gysylltiedig â’n harbenigedd ni (h.y., ADHD, ACE, chwarae therapiwtig a chwarae seiliedig ar natur) ac yn cynnig rhaglen unigryw, arloesol wedi’i seilio ar sut y gallwn ni i gyd gefnogi iechyd meddwl a llesiant plant trwy ymyriadau megis adeiladu gwytnwch, chwarae therapiwtig, arferion sy’n seiliedig ar natur a chwarae yn yr awyr agored, ymarfer wedi’i lywio gan drawma ac ymyriadau ymddygiadol.

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Cyfunol (ar y campws)
  • Rhan amser
Iaith:
  • Saesneg
Hyd y cwrs:
24 mis Rhan amser

Pam dewis y cwrs hwn

01
Gwella eich gwybodaeth am iechyd meddwl plant a phobl ifanc.
02
Dysgu am ymyriadau a strategaethau ymddygiadol a therapiwtig ar gyfer ymarfer dyddiol wrth weithio gyda phlant a phobl ifanc.
03
Manteisio ar addysgu mewn grwpiau bach mewn amgylchedd dysgu cefnogol.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Mae iechyd meddwl plant yn bryder yn y gymdeithas heddiw. Yn ôl y Sefydliad Iechyd Meddwl, nid yw 75% o blant a phobl ifanc sy’n profi problemau iechyd meddwl yn cael yr help sydd ei angen arnyn nhw. Heb ymyrraeth gynnar, mae plant mewn perygl o ddatblygu problemau iechyd meddwl hirdymor neu ddifrifol pan fyddan nhw’n oedolion.

Mae cefnogi iechyd meddwl da yn helpu plant i ddatblygu gwytnwch a sgiliau ymdopi ar gyfer y dyfodol. Bydd ein MA mewn Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc yn rhoi’r wybodaeth a’r ddealltwriaeth i chi reoli lles meddyliol pobl ifanc a datblygu strategaethau ac ymyriadau anghlinigol i’w defnyddio yn eich ymarfer.

Bydd y cwrs hefyd yn eich annog i fyfyrio ar theori, polisi ac ymarfer yn ymwneud ag iechyd meddwl pobl ifanc. I’r rhai sydd am ehangu eu sgiliau ymchwil gyda phlant a phobl ifanc, mae ein modiwl dulliau ymchwil unigryw yn archwilio methodolegau creadigol sy’n briodol ar gyfer ymchwil gyda phobl ifanc. Mae’r rhain yn cynnwys dulliau cyfranogol, y dull mosaig, darluniau ac adrodd straeon.

Blwyddyn 1

Deall trawma ac anghenion iechyd meddwl plant

(30 credydau)

Blwyddyn 2

Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd (ADHD): Gwaith Ymchwil ac Arfer

(30 credydau)

Ymwrthodiad

  • Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio. 

    Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall. 

tysteb

Staff

Staff

Cewch eich addysgu a’ch cefnogi gan amrywiaeth eang o staff a thimau proffesiynol sydd yma er mwyn eich helpu i gael y profiad prifysgol gorau posibl. Daeth ein staff addysgu’n 2il yng Nghymru am asesiadau ac adborth (NSS 2023) sy’n golygu y bydd y sylwadau a gewch chi ar eich gwaith yn eich helpu i ddysgu. O ganlyniad i’n hymrwymiad i’ch dysgu mae ein myfyrwyr wedi ein gosod yn y 10 gorau yn y DU am Ddarlithwyr ac Ansawdd Addysgu. Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Llety

Carmarthen Accommodation

Llety Caerfyrddin

Mae amrywiaeth o lety yng Nghaerfyrddin ac rydym yn gwarantu llety ar gyfer myfyrwyr y flwyddyn 1af, gyda llety ar gael i fyfyrwyr yr 2il a’r 3edd flwyddyn hefyd.  Wedi’ch lleoli ar gampws Caerfyrddin byddwch chi reit ynghanol popeth, gydag opsiynau sy’n addas i bob cyllideb.  

Gwybodaeth allweddol

  • Mae’r rhaglen hon yn agored i unigolion sydd â chefndir mewn pwnc cysylltiedig (h.y., seicoleg, cwnsela, neu’r blynyddoedd cynnar). Bydd disgwyl i chi fod â gradd anrhydedd 2.1 neu radd anrhydedd 2.2 dda (gan gynnwys traethawd ymchwil).

    Er y gallwn ni ystyried ceisiadau gan rai sydd â chefndir mewn maes cysylltiedig agos neu ar sail nodweddion eraill sy’n cynnwys profiad mewn maes cysylltiedig, oherwydd natur y rhaglen hon, byddai hyn yn dibynnu ar asesiad o sgiliau ysgrifennu academaidd ac ymchwil priodol.

  • Mae asesiadau wedi’u cynllunio i ddatblygu sgiliau cyflogadwyedd eang trwy amrywiol asesiadau arloesol â ffocws proffesiynol. Maen nhw’n cynnwys portffolios proffesiynol, adolygiadau systematig, cyflwyniadau, ymgyrchoedd hyrwyddo, strategaethau ymyrryd, cynigion ymchwil, a thraethodau traddodiadol.

  • .

  • Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau.  I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.

  • Mae myfyrwyr yr MA hwn yn aml yn weithwyr proffesiynol sy’n gweithio gyda phlant (addysg, iechyd a gofal cymdeithasol) a hoffai ddatblygu eu gwybodaeth a’u sgiliau er mwyn helpu i ddarparu cymorth pellach i blant a phobl ifanc mewn byd o anghenion ac anawsterau cymhleth sy’n newid yn barhaus. Gall ymarferwyr ddefnyddio’r modiwlau a ddewiswyd yn ofalus o fewn yr MA hwn i gefnogi dyrchafiad yn eu gwaith presennol neu weithredu fel sbringfwrdd i rôl fwy arbenigol.

    Mae angen astudiaethau ôl-raddedig fwyfwy er mwyn gwella rhagolygon cyflogaeth a rhoi mantais i raddedigion mewn marchnad gyflogaeth gystadleuol. Mae cwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus yn dangos eich bod wedi datblygu gwybodaeth arbenigol a sgiliau lefel uwch mewn dadansoddi ac ymchwil.

Mwy o gyrsiau Seicoleg a Chwnsela

Chwiliwch am gyrsiau