Skip page header and navigation

Alissa Flatley BSc (Anrh) MCRM RICS MSc PhD

Image and intro

Silwét pen ac ysgwyddau dynes.

Uwch Ddarlithydd

Cyfadran Dylunio Cymhwysol a Pheirianneg


E-bost: a.flatley@uwtsd.ac.uk

Rôl yn y Brifysgol

Uwch Ddarlithydd mewn Cadwraeth Arfordirol a Rheolaeth Amgylcheddol. Yn gyfrifol am addysgu cyrsiau ar lefel Israddedig a Meistr ym maes Pensaernïaeth, Adeiladu a’r Amgylchedd

Cefndir

Daearyddwr ffisegol ydw i gyda chefndir eang ym maes gwyddor arfordirol a geomorffoleg afonol. Mae gen i ddiddordeb yn y rhyngweithio cymhleth rhwng dŵr, tir a’r amgylchedd sy’n newid yn barhaus. Cwblheais fy PhD ym Mhrifysgol  Melbourne lle bûm yn ymchwilio i geomorffoleg nentydd bach parthau cras yn y Pilbara (Gorllewin Awstralia) a goblygiadau dylunio dargyfeiriadau afonydd ar gyfer mwyngloddio.

Mae fy niddordebau ymchwil yn integreiddio rheolaeth amgylcheddol a’r rhyngweithio rhwng systemau dynol-ffisegol. Rwy’n integreiddio technegau geomorffig newydd gyda chanfod o bell a mapio system gwybodaeth ddaearyddol (GIS) i fynd i’r afael â materion yn ymwneud ag amgylcheddau’r gorffennol ac achosi newid amgylcheddol anthropogenig. 

Bûm yn gweithio’n geomorffolegydd ymgynghorol yn Jacobs yn rhan o dîm dyfrffyrdd a dalgylchoedd Awstralia a Seland Newydd, yn darparu arweiniad technegol a geomorffig ar gyfer asesiadau effaith amgylcheddol, briffiau dylunio ac asesiadau treftadaeth ddiwylliannol.

Aelod O

  • IAG – Cymdeithas Ryngwladol y Geomorffolegwyr
  • Aelod o Gomisiwn INQUA ar Brosesau Daearol, Dyddodion a Hanes (TERPRO)
  • Menywod mewn Gwyddor Daear Arfordirol a Pheirianneg

Diddordebau Academaidd

Mae fy ymchwil ac addysgu’n rhychwantu amrywiaeth eang o feysydd o fewn amgylcheddau dyfrol a daearol. Rwy’n addysgu Tirweddau Ffisegol a’r Ddaearbelen (Lefel 4), Cadwraeth Arfordirol, Forol a Bywyd Gwyllt (Lefel 5). Ar lefel meistr rwy’n arwain GIS a Rheoli Cynefinoedd, a Chynllunio a Pholisi Amgylcheddol (Lefel 6).

Rwy’n frwd dros integreiddio elfennau ymarferol yn fy addysgu i roi i raddedigion y sgiliau technegol a meddal y bydd eu hangen arnynt ar draws y sector amgylcheddol ac yn eu gyrfaoedd yn y dyfodol. Rydw i ar gael i oruchwylio prosiectau traethawd hir israddedig a meistr.

Meysydd Ymchwil

Rwy’n gweithio ar draws amrywiaeth eang o amgylcheddau i ddeall y byd naturiol yn well a chymhwyso’r wybodaeth hon i faterion rheolaeth amgylcheddol. Rwy’n integreiddio GIS, modelu hydrodynamig, niwclidau cosmogenig ac ymoleuedd wedi’i ysgogi’n optegol (OSL) i ddatblygu ein dealltwriaeth o brosesau tirwedd ar raddfeydd amser amrywiol. Rwy’n gweithio ar y prosiectau canlynol ar hyn o bryd:

  • Rheolaethau hinsoddol ar amlder agor Morydau agored/caeëdig ysbeidiol (Prifysgol Canterbury, Seland Newydd)
  • Defnyddio niwclidau cosmogenig lluosog 10Be/26Al i ddeall hanes aramlygiad a dynameg gwaddodion yn y Pilbara, Gorllewin Awstralia (Prifysgol Melb; ANSTO, NSW; CENIEH, Sbaen)
  • Prosesau geomorffolegol a symudiad ôl-waddodol ar godiadau caregog yn Nhiroedd y Wurundjeri, Victoria (Jacobs; Wurundjeri Woi Wurrung Cultural Heritage Aboriginal Corporation; Prifysgol LaTrobe, Awstralia)
  • Connections on Country: Cydweithio i ddeall a gwarchod celfyddyd creigiau Adnyamathanha yng Nghadwyni Ikara-Flinders (Prifysgol Melb; Cymdeithas Tiroedd Traddodiadol Adnyamathanha, Awstralia)
  • Afonydd nad ydynt yn Barhaol: Rheolaeth a Chyfleoedd

Rydw i ar gael i oruchwylio myfyrwyr sydd â diddordeb mewn rheolaeth amgylcheddol, amgylcheddau morol ac arfordirol, geomorffoleg afonol a thirweddau ffisegol. Rydw i wrthi’n datblygu prosiectau ymchwil ymarferol yn ne Cymru a thu hwnt ar hyn o bryd.

Arbenigedd

  • Geomorffoleg
  • Asesu Tirweddau
  • Dynameg Gwaddodion
  • Dargyfeiriadau Afonydd

Cyhoeddiadau

Flatley, A., a Rutherfurd, I. 2023. Establishing geomorphic reference criteria for design of river diversions around mine pits in the Pilbara, Western Australia. Mine, Water and the Environment.

Goldfarb, A., Spry, C., Jones, R., Wandin, A., Mullins, B., Flatley, A., Lushey, J., a Tuncer, E. 2023. Beyond a ‘stones and bones’ approach: Investigating the archaeological, cultural and ecological values of stony rises on Wurundjeri Woi wurrung Country, southeastern Australia. Excavations, Surveys and Heritage Management in Victoria. Cyfrol 11.

Flatley, A., a Rutherfurd, I., 2022. Comparison of regionalisation techniques for peak streamflow estimation in small catchments in the Pilbara, Australia. Hydrology. 9, 165.

Burberry, C., Flatley, A., Gray, A., Gullinger, J., Hamshaw, S.,Hill, K., Mu, Y a Rowland, J., 2022. Earth and Planetary Surface Processes Perspectives on Integrated, Coordinated, Open, Networked (ICON) Science. Casgliad Arbennig AGU. Earth and Space Science.

Flatley, A. 2022. Geomorphology of small arid zone streams in the Pilbara (Western Australia) and implications for design of mine river diversions. Prifysgol Melbourne, Traethawd Ymchwil PhD.

Flatley, A., Rutherfurd, I a Sims, A., 2022. Using Structure-from-Motion photogrammetry to improve roughness estimates for headwater dryland streams in the Pilbara. Remote Sensing, 14 (3) 454.

Flatley, A., a Rutherfurd, I., 2021. Rules of reengagement: integrating geomorphology into river diversion designs. Trafodion 10fed Cynhadledd Rheoli Nentydd Awstralia. 2021. Kingscliff, NSW.

Flatley, A., a Markham, A., 2021. Establishing effective mine closure criteria for river diversion channels. Journal of Environmental Management. 287, 112287.

Akhmad,F., Bissell, D. Christoff, P., Crovara, E., Drysdale, R., Dun, O., Degregori, N., Dyson, J., Flatley, A., Mayen-Huerta, C., Htway, S., Ide, T., Khanam, D., McMichael, C., Palmer, L, Phillips. C., Piggot-McKellar, A., Rutherfurd, I., Talib, N., Semmens, A., Tjandra, E.C., Utomo, A., a Wang, B., 2020. The Geographies of COVID-19. Pursuit. Prifysgol Melbourne.

Flatley, A., a Rutherfurd, I., 2019. Rivers, relocation, and ruin: the history and legacy of mining river diversions in Victoria. Journal of Australasian Mining History. v.17, 37-58.

Flatley, A., Rutherfurd, I., a Hardie, R., 2018. River Relocation: Problems and Prospects. Water. 10(10).

Vietz, G., Flatley, A., a Rutherfurd, I. (goln) 2016 Trafodion 8fed Cynhadledd Rheoli Nentydd Awstralia, Gorffennaf 2016.

Gwybodaeth bellach

Cyd-oruchwylydd (PhD) - Taming the nine dragons at the local level: How China’s River Chief System changes the Tiao- Kuai authority relations in the local government water/river management? (Mr Yudong Chen, Prifysgol Melbourne)