Ann Parry-Owen

Ydds Hafan  -  Ymchwil  -  Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd   -  Yr Athro Ann Parry Owen

Yr Athro Ann Parry Owen BA, PhD, FLSW

Athro (Cadair Bersonol) / Golygydd Hŷn Geiriadur Prifysgol Cymru

Ffôn: 01970 636543 / 01970 631022
E-bost: apo@cymru.ac.uk apo@geiriadur.ac.uk



Athro (Cadair Bersonol) / Golygydd Hŷn Geiriadur Prifysgol Cymru

Mae’r Athro Ann Parry Owen wedi bod yn aelod o staff y Ganolfan ers 1 Hydref 1985, pan agorwyd y Ganolfan yn rhan o Brifysgol Cymru. Bu’n Gymrawd Ymchwil ar brosiect ‘Beirdd y Tywysogion’ (1985–93), gan gydweithio â Dr Nerys Ann Jones ar farddoniaeth Cynddelw Brydydd Mawr o’r ddeuddegfed ganrif. Yn 1993 fe’i penodwyd yn arweinydd prosiect ‘Beirdd yr Uchelwyr’, prosiect a gynhyrchodd 44 o gyfrolau o farddoniaeth dros ugain mlynedd, o ganlyniad i gydweithio ffrwythlon rhwng y Ganolfan a staff o adrannau Cymraeg y prifysgolion.

Yn 2007 enillodd grant o bron i £900K gan yr AHRC i arwain tîm o ymchwilwyr dros bum mlynedd i greu golygiad newydd a digidol o waith y bardd pwysig o’r 15fed ganrif, Guto’r Glyn. Prif allbwn y prosiect oedd y wefan ddwyieithog ac arloesol Gwefan Guto’r Glyn. Rhwng 2015 a 2017 bu’r Athro Parry Owen yn Gyd-Archwilydd ar brosiect ‘Cwlt y Seintiau yng Nghymru’, ac ailolygodd y tair awdl fawr o’r ddeuddegfed ganrif i’r saint Dewi, Cadfan a Thysilio. Mae bellach yn Gyd-Archwilydd ar brosiect ‘Tirweddau Cysegredig Mynachlogydd yr Oesoedd Canol’, a arweinir gan yr Athro David Austin o PCYDDS.

Mae’r Athro Parry Owen yn Olygydd Hŷn gyda Geiriadur Prifysgol Cymru ers 2017, ac mae’n ymddiddori’n arbennig yn hanes cynnar geiriau, a geirfa’r beirdd yn benodol. Yn ddiweddar mae wedi bod yn ymchwilio i hanes nifer fawr o eiriau bob dydd a gofnododd yr ysgrifydd o sir y Fflint John Jones o Gellilyfdy yn 1632–4, pan garcharwyd ef yn y Fleet yn Llundain oherwydd ei ddyledion.

Mae’n Brif Olygydd Studia Celtica ac yn aelod o Fwrdd Golygyddol Llyfrgell Llenyddiaeth Gymraeg yr Oesoedd Canol y Modern Humanities Research Association (MHRA).

Yn ychwanegol ar yr uchod, mae’n dysgu modiwl ‘Barddoniaeth Fawl yr Oesoedd Canol’  ar y cwrs BA Astudiaethau Celtaidd, ac yn cyfarwyddo ymchwil uwchraddedig

  • Barddoniaeth yr Oesoedd Canol (o’r 12fed ganrif hyd y 15fed ganrif)
  • Guto’r Glyn
  • Iaith a gramadeg y Gymraeg
  • John Jones, Gellilyfdy, a’i waith geirfaol
  • Llawysgrifau a’u hysgrifwyr
  • Iaith a gramadeg y Gymraeg
  • Barddoniaeth Gymraeg yr Oesoedd Canol
  • Creu golygiadau digidol a defnyddio technoleg ar gyfer Enwau Lleoedd
  • Geiriadura hanesyddol
  • Llawysgrifau a phaleograffeg

Aelod o Banel Safoni Enwau Lleoedd Comisiynydd y Gymraeg.

'A–Z Geiriadur Prifysgol Cymru: 100 mlynedd mewn 30 gair', BBC Cymru Fyw, 20 Medi 2021 https://www.bbc.co.uk/cymrufyw/58583150

‘Enwau lleoedd a Beirdd y Tywysogion’, yn Gareth A. Bevan, G. Angharad Fychan, Hywel Wyn Owen ac Ann Parry Owen (goln.), Ar Drywydd Enwau Lleoedd: Casgliad o Ysgrifau i Anrhydeddu’r Athro Gwynedd O. Pierce ar ei Ben Blwydd yn Gant Oed / A Collection of Essays to Honour Professor Gwynedd O. Pierce on his Hundredth Birthday (Tal-y-bont: Y Lolfa, 2021)

‘Mynegai i enwau lleoedd ym marddoniaeth Gymraeg yr Oesoedd Canol’, geiriadura.cymru (Chwefror 2021)

‘Canu i Ddewi’ gan Gwynfardd Brycheiniog, gwefan ‘Cwlt y Seintiau yng Nghymru’: http://www.seintiaucymru.ac.uk (Tachwedd 2020)

‘Canu Tysilio’ gan Gynddelw Brydydd Mawr, gwefan ‘Cwlt y Seintiau yng Nghymru’: http://www.seintiaucymru.ac.uk (Medi 2019)

‘Canu i Gadfan’ gan Lywelyn Fardd, gwefan ‘Cwlt y Seintiau yng Nghymru’: http://www.seintiaucymru.ac.uk (Hydref 2018)

Golygydd Hŷn, GPC Ar Lein ac Ap GPC (Geiriadur Prifysgol Cymru) (2017–) 

Plu porffor a chlog o fwng ceiliog: Cynddelw Brydydd Mawr a Guto’r Glyn, Darlith Goffa J. E. Caerwyn Williams a Mrs Gwen Williams 2015 (Aberystwyth, 2017)

Erthyglau ar ‘The Hendregadredd Manuscript’, ‘The Gogynfeirdd’ a ‘Cynddelw Brydydd Mawr’, yn Sian Echard, Robert Rouse, Jacqueline A. Fay, Helen Fulton a Geoff Rector (goln.), The Encyclopedia of British Literature (Hoboken, New Jersey, 2017; ar gael drwy’r ‘Wiley Online Library’)

‘Gramadeg Gwysanau: a fragment of a fourteenth-century Welsh bardic grammar’, yn Deborah Hayden a Paul Russell (goln.), Grammatica, Gramadach and Gramadeg: Vernacular Grammar and Grammarians in Medieval Ireland and Wales (Oxford, 2016), tt. 181–20

Erthyglau ar ‘Sangiad’, ‘Marwnad’ a ‘Noddwr’, yn Robert Rhys a Heather Williams (goln.), Esboniadur Beirniadaeth a Theori Lenyddol y Coleg Cymraeg Cenedlaethol: https://wici.porth.ac.uk (2016)

‘ “An audacious man of beautiful words”: Ieuan Gethin (c.1390–c.1470)’, Proceedings of the Harvard Celtic Colloquium, 34 (2014), 1–34

Gwaith Ieuan Gethin (Aberystwyth, 2013)

‘Golygiadau electronig: Gwefan Guto’r Glyn’, Tu Chwith (Gwanwyn 2013), 40–8

Golygiad o gerddi 103–18 gan Guto’r Glyn (gw. www.gutorglyn.net) a Golygydd Cyffredinol y wefan (2012)

‘Cywydd Gofyn Cloc gan Ddafydd ab Owain o Fargam ar ran Morys o Ardal y Fenni’, Llên Cymru, 35 (2012), 3–18

gyda William Linnard, ‘Horological requests in early Welsh poems’, Antiquarian Horology, 33 (Medi 2012), 631–6

‘Gramadeg Gwysanau (Archifdy Sir y Fflint, D/GW 2082)’, Llên Cymru, 33 (2010), 1–31

Aelod o Bwyllgor Cymdeithas Enwau Lleoedd Cymru (a golygydd y Bwletin chwe-misol y Gymdeithas)

Aelod o Bwyllgor Datblygiad yr Iaith Gymraeg yr Academi Brydeinig

Traddododd ddarlith John V. Kelleher, Prifysgol Harvard, yn 2014

Derbynnydd grant AHRC, am bron i 900K, i gynnal prosiect Guto’r Glyn, 2008–2013

Derbynnydd grant o Gronfa Goffa Neil Ker, 2020, ar gyfer gwaith ar A Repertory of Welsh Manuscripts and Scribes gan Daniel Huws (2021)