Skip page header and navigation

Dr Martin Crampin BA, MA, PhD

Image and intro

Silwét pen ac ysgwyddau dyn

Cymrawd Ymchwil

Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd

Ffôn: 01970 631007
E-bost: mcrampin@wales.ac.uk

Rôl yn y Brifysgol

Cymrawd Ymchwil

Cefndir

Ymunodd Martin â staff y Ganolfan yn 1999 i weithio gyda Peter Lord ar gyfres o CD-ROMau a oedd yn rhan o brosiect ‘Diwylliant Gweledol Cymru’. Gan ddatblygu ymhellach destun y tair cyfrol brintiedig, bu ganddo ran bwysig yn y gwaith o recordio a golygu cyfweliadau, ac ef hefyd a oedd yn gyfrifol am ddarparu ffotograffau ychwanegol ac am y gwaith dylunio.

Ymgartrefodd Martin yn y Ganolfan yn ystod ei gyfnod yn aelod o brosiect ymchwil ‘Delweddu’r Beibl yng Nghymru’, a ariannwyd gan yr AHRC. Roedd y prosiect hwnnw’n cael ei arwain o Brifysgol Cymru, Llanbedr Pont Steffan, mewn cydweithrediad â’r Ganolfan a Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Fel artist, ymchwilydd a dylunydd, Martin a oedd yn gyfrifol am greu’r gronfa ddata ar lein a’r DVD-ROM, a ysgrifennwyd ar y cyd â John Morgan-Guy. Yn ogystal â dylunio’r wefan a’r DVD-ROM, a recordio a golygu cyfweliadau, tynnodd luniau rhai cannoedd o weithiau celf ar gyfer y prosiect mewn eglwysi a chasgliadau ledled Cymru.

Wedi i’r prosiect AHRC hwn ddod i ben, bu Martin yn gweithio fel cartograffydd a darlunydd ar brosiect ‘Prydain Hynafol a Pharthau Môr Iwerydd’, gan ddychwelyd at ei ddiddordeb yn archaeoleg y cyfnod cynhanes a’r cyfnod canol, a ddatblygwyd yn ystod ei gwrs MA mewn astudiaethau Celtaidd-Rhufeinig ym Mhrifysgol Cymru, Casnewydd.

Ar sail yr ymchwil a wnaed ar gyfer prosiect ‘Delweddu’r Beibl yng Nghymru’, cynlluniodd Martin brosiect newydd a fyddai’n canolbwyntio’n benodol ar wydr lliw. Yn ystod cyfnod y prosiect hwnnw, ‘Gwydr Lliw yng Nghymru’ (2009–11), creodd gannoedd o gofnodion o ffenestri ar gyfer y gronfa ddata ac ychwanegu dros 4,000 o ffotograffau. Lansiwyd ei gatalog ‘Gwydr Lliw yng Nghymru’ ar lein ym Mehefin 2011 ac mae hwnnw’n parhau i dyfu. Wedi i’r prosiect ddod i ben sianelodd Martin ei ddiddordeb mewn gwydr lliw i gynhyrchu cyfrol yn amlinellu hanes y cyfrwng yng Nghymru, sef Stained Glass from Welsh Churches, a gyhoeddwyd yn 2014.  

Ym mis Tachwedd 2011 daeth Martin yn un o fyfyrwyr PhD cyntaf y Ganolfan, gyda chymorth ysgoloriaeth gan Brifysgol Cymru. Daeth â’r holl brofiad a gafodd ar brosiectau ymchwil blaenorol ynghyd â’i waith fel artist ymarferol at ei gilydd mewn doethuriaeth ymarferol a ganolbwyntiai ar ganoloesoldeb yn niwylliant gweledol Cymru, wrth iddo greu gwaith celf newydd yn seiliedig ar batrymau canoloesol o abaty Sistersaidd Ystrad-fflur ac eglwysi Llananno a Gresffordd.

Ym mis Tachwedd 2014 ymunodd â phrosiect ‘Cwlt y Seintiau yng Nghymru’, gan gydlynu cyfres o ddigwyddiadau ar draws Cymru i rannu ffrwyth ymchwil y tîm, ynghyd ag arddangosfa deithiol fechan. Parhaodd â’r gwaith hwn wedyn ar brosiect ‘Vitae Sanctorum Cambriae’ (2017–19), a bu’n cydguradu ac yn dylunio deunyddiau ar gyfer arddangosfa’r prosiect a gynhaliwyd yn y Llyfrgell Genedlaethol yn 2017. Diolch i nawdd gan yr AHRC, bydd modd i brosiect dilynol ‘Delweddu Seintiau Cymru’ ychwanegu at y testunau a gyhoeddwyd yn sgil y prosiectau hyn, gyda gwybodaeth atodol am ddelweddau o’r seintiau yn yr Oesoedd Canol a’r cyfnod modern ynghyd â dosbarthiad daearyddol eu cwltiau ar draws y wlad.

Yn 2020 cyhoeddodd Martin astudiaeth o’r delweddau o Ddewi Sant, ac mae cyfrol arall ar y portreadau a geir o seintiau Cymru mewn addoldai ar y gweill ar hyn o bryd.

Bu Martin yn ymwneud â’r prosiect ‘Interreg’ ‘Porthladdoedd Ddoe a Heddiw’ o’r cychwyn cyntaf yn 2019, ac mae bellach yn gweithio’n rhan-amser arno. Mae’n rhan o’r tîm yn y Ganolfan sy’n cefnogi deng artist ac awdur sydd wrthi’n ymateb yn greadigol i bum tref borthladd weithredol yng Nghymru ac Iwerddon, gan dynnu ar ei brofiad ef ei hun fel artist gweledol i wneud hynny.

Mesysydd Ymchwil

Celf eglwysig y bedwaredd ganrif ar bymtheg a’r ugeinfed ganrif, yn arbennig gwydr lliw

Celf addurnol yr Oesoedd Canol ym Mhrydain

Traddodiad naratif Cymru’r Oesoedd Canol a bucheddau’r seintiau, yn ogystal â’r delweddau sy’n gysylltiedig â hynny

‘Canoloesoldeb’ y bedwaredd ganrif ar bymtheg, y diwylliant gweledol a oedd yn gysylltiedig â hynafiaetheg a’r modd y câi’r gorffennol canoloesol ei bortreadu, a’r dadeni mewn dulliau Celtaidd-Gristnogol o addurno yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg a’r ugeinfed ganrif

Rôl y celfyddydau creadigol mewn dehongli treftadaeth

Arbenigedd

Mae Martin yn gweithio’n annibynnol fel ffotograffydd a dylunydd mewn amrywiol gyfryngau, a gallodd ddefnyddio’r sgiliau hynny yn y gyfres o brosiectau ymchwil y bu’n gysylltiedig â nhw yn y Ganolfan. Dyluniodd ddeunydd cyhoeddusrwydd, llyfrau, gwefannau a chatalogau i gyd-fynd ag arddangosfeydd, gan gyd-weithio â’r rhan fwyaf o brosiectau sydd wedi bod ar waith yn y Ganolfan yn ystod yr ugain mlynedd diwethaf.

Fel artist gweithredol, bu’n arddangos ei waith ledled Cymru ac yn rhyngwladol. Mae ei waith yn ymwneud yn bennaf â chofnodi ac ail-greu celfyddyd addurnol yr Oesoedd Canol, ac aeth i’r afael â hynny yn ei ddoethuriaeth ymarferol rhwng 2011 a 2015.

Ac yntau wedi cydweithio â Peter Lord ar brosiect ‘Diwylliant Gweledol Cymru’, Martin yw un o’r ychydig iawn o arbenigwyr sy’n gyfarwydd â’r traddodiad hir o gelfyddyd weledol yng Nghymru. Ers hynny, mae ei arbenigedd yn y maes hwn wedi ei hoelio’n bennaf ar yr Oesoedd Canol ac ar gelfyddyd mewn eglwysi, yn ogystal ag ar ganoloesoldeb yn y diwylliant gweledol. Caiff ei gydnabod yn bennaf awdurdod ar wydr lliw yng Nghymru ac, yn dilyn cyhoeddi Stained Glass from Welsh Churches yn 2014, mae wedi bod yn datblygu enw iddo’i hun yn rhyngwladol fel un o’r ychydig arbenigwyr ym maes gwydr lliw y bedwaredd ganrif ar bymtheg a’r ugeinfed ganrif.

Bu gan Martin ddiddordeb brwd yn y dyniaethau digidol ers y 1990au, ac yntau’n aelod allweddol o dimau bychain a gynhyrchai ddeunydd amlgyfrwng arloesol ar CD-ROM a DVD-ROM. Yna bu’n rhan o reoli, cynhyrchu a chreu nifer o wefannau cyfeirio pwysig, yn cynnwys cronfa ddata ‘Delweddu’r Beibl yng Nghymru’, catalog ‘Gwydr Lliw yng Nghymru’ a gwefan ‘Monastic Wales’.