Skip page header and navigation

Yr Athro Mary-Ann Constantine BA, PhD, FSLW

Image and intro

Silwét pen ac ysgwyddau dynes.

Athro / Arweinydd Prosiect

Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd

Ffôn: 01970 636543
E-bost: mary-ann.constantine@cymru.ac.uk

Rôl yn y Brifysgol

Athro / Arweinydd Prosiect

Cefndir

Mae fy ngwaith yn canolbwyntio ar lenyddiaeth Cymru, yn Gymraeg ac yn Saesneg, yn y cyfnod Rhamantaidd. Astudiais ar gyfer fy ngradd gyntaf mewn Llenyddiaeth Saesneg yng Ngholeg Clare, Caer-grawnt (1988–91), ac aros yno wedyn i wneud doethuriaeth ar lên gwerin Llydaw.

Symudais i Aberystwyth yn 1995 a dal cyfres o gymrodoriaethau ymchwil yn Adran Gymraeg y Brifysgol. Yn ystod y cyfnod hwn, bûm yn dysgu gwahanol gyrsiau Cymraeg ac astudiaethau Celtaidd, yn ogystal â pharhau i weithio ar draddodiad y faled yn Llydaw.

Ymunais â’r Ganolfan fel pennaeth prosiect Iolo Morganwg yn 2002, ac ers hynny, rwyf wedi arwain amryw o brosiectau sy’n edrych ar lenyddiaeth a hanes Cymru, Lloegr a’r gwledydd Celtaidd rhwng 1700 a 1900.

Diddordebau Academaidd

Cyrsiau israddedig ac MA 

Rwyf wedi dysgu cyrsiau israddedig mewn astudiaethau Celtaidd, yn cynnwys rhai ar ddiwylliannau Celtaidd cymharol, agweddau ar lên gwerin yn y gwledydd Celtaidd, a Chyflwyniad i Lenyddiaeth Gymraeg. Bûm yn goruchwylio traethodau MA ar bynciau yn amrywio o deithiau Edward Lhuyd i nofelau John Cowper Powys.

Mae gennyf ddiddordeb neilltuol yn effaith ‘Dadeni Barddol’ y ddeunawfed ganrif ar lenyddiaeth Cymru, Lloegr, yr Alban, Iwerddon a Llydaw, ac mewn ailddychmygu testunau canoloesol mewn ffyrdd modern.

Ymchwil ôl-raddedig 

Rwyf wedi cyfarwyddo, cydoruchwylio neu arholi doethuriaethau ar nifer o wahanol bynciau, yn cynnwys hunaniaeth ‘Hen Frytanaidd’ ym Mhrydain y ddeunawfed ganrif; teithwyr o ogledd Lloegr i Gymru ac i’r Alban (1760–1820); yr awdur a’r hynafiaethydd Richard Fenton; hanes diwylliannol afonydd Tweed a Chleddau; y newid mewn canfyddiadau o ffynhonnau iachaol yng Nghymru; a’r faled yn Llydaw ac yn yr Alban.

Croesawaf gynigion i wneud ymchwil ar unrhyw agwedd ar lenyddiaeth Cymru (yn Gymraeg ac/neu yn Saesneg) neu Lydaw yn y cyfnod Rhamantaidd, ac yn enwedig felly waith yn ymwneud â llenyddiaeth daith, hynafiaetheg neu’r Chwyldro Ffrengig.

Meysydd Ymchwil

Porthladdoedd Ddoe a Heddiw

Ar hyn o bryd, fi yw arweinydd y Ganolfan ar brosiect amlbartner sy’n cael ei arwain o Goleg Prifysgol Corc, mewn cydweithrediad â Phrifysgol Aberystwyth a Chyngor Sir Loch Garman (Wexford). Ariennir y prosiect gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy raglen gydweithredu Iwerddon Cymru. Rydym yn mynd i’r afael â hanes a threftadaeth pum tref borthladd – Dulyn, Ros Láir, Caergybi, Abergwaun a Doc Penfro – ac yn cydweithio â’r cymunedau hynny i ddod i ddeall y straeon lleol a’u rhannu. Mae’r Ganolfan wedi comisiynu deuddeng artist ac awdur i helpu i ddod â’r dreftadaeth hon yn fyw. Gweler https://portspastpresent.eu.

Teithwyr Chwilfrydig

Mae cangen arall o’m hymchwil yn canolbwyntio ar lenyddiaeth daith, y ‘Tour’ Cymreig, ac ysgrifau Thomas Pennant (1726–98).

Mae’r gwaith wedi parhau yn sgil prosiect pedair blynedd mawr a noddwyd gan yr AHRC, sef ‘Teithwyr Chwilfrydig: Thomas Pennant a Theithio i Gymru ac i’r Alban 1760–1820’. Roedd y prosiect rhyngddisgyblaethol hwn yn edrych ar agweddau’r cyfnod tuag at yr ‘ymylon’ ym Mhrydain drwy gyfrwng celf, llenyddiaeth, hanes, hynafiaetheg a’r gwyddorau naturiol, ac arweiniodd at gynhyrchu golygiadau beirniadol o lythyrau ac ysgrifau taith na welodd olau dydd erioed o’r blaen. Gweler www.curioustravellers.ac.uk/cy.

Cymru a’r Chwyldro Ffrengig

Yn 2009 rhoddais gychwyn i brosiect pedair blynedd arall dan nawdd yr AHRC, sef ‘Cymru a’r Chwyldro Ffrengig’. Deilliodd y syniad am y prosiect o deimlad o rwystredigaeth ynglŷn â’r ffaith fod Cymru fwy neu lai ar goll o astudiaethau cyfredol yn y maes, hyd yn oed y rhai oedd yn honni canolbwyntio ar y ‘Pedair Gwlad’.

Ar y cyd â Dafydd Johnston, roeddwn yn olygydd cyffredinol ar gyfres o ddeg cyfrol a oedd yn dwyn ynghyd ystod eang o ymatebion i ddigwyddiadau cythryblus y 1790au, yn Gymraeg ac yn Saesneg, ar ffurf baledi printiedig, llythyrau, erthyglau papur newydd, barddoniaeth, pamffledi a phregethau. Fy nghyfraniad i fy hun i’r gyfres oedd golygiad, ar y cyd â Paul Frame, o lythyrau a ysgrifennwyd yn Ffrainc ym merw’r Chwyldro gan wyddonydd a gweinidog Anghydffurfiol o Forgannwg, sef Travels in Revolutionary France & A Journey Across America by George Cadogan Morgan and Richard Price Morgan (GPC, 2012).

Ffugiadau Rhamantaidd

Mae cwestiynau ynghylch dilysrwydd a pherchnogaeth, a’r gwerth a roddir ar draddodiadau ‘cenedlaethol’, yn ganolog i’m gwaith ar y bardd, y saer maen a’r ‘dyfeisiwr traddodiadau’, Edward Williams (Iolo Morganwg) 1747–1826. Yn y monograff, The Truth Against the World (GPC, 2007), rwyf yn cymharu gwaith Iolo â chynnyrch ‘ffugwyr’ llenyddol tybiedig eraill y cyfnod, James Macpherson, Thomas Chatterton a’r Llydäwr Hersart de La Villemarqué. Rwyf hefyd wedi ysgrifennu am draddodiad y faled yn Llydaw ac am ymweliad La Villemarqué â Chymru yn 1838.

Ysgrifennu creadigol

Rwyf wedi dau gasgliad o straeon byrion: The Breathing (Planet, 2008) ac All the Souls (Seren, 2013). Cyhoeddwyd fy nofel, Star-Shot, gan wasg Seren yn 2015.