Skip page header and navigation

Dr Stuart Jones BSc, PGDip, MSc, PhD, CPsychol, FHEA

Image and intro

Silwét pen ac ysgwyddau dyn

Darlithydd mewn Seicoleg

Yr Athrofa Addysg a’r Dyniaethau

Ffôn: +44 (0)1267 676697
E-bost: s.a.jones@uwtsd.ac.uk

Rôl yn y Brifysgol

  • Rheolwr Rhaglen BSc Seicoleg Gymhwysol
  • Goruchwylio Myfyrwyr PhD
  • Mentor Cymrodyr yr AAU

Cefndir

Rwyf wedi bod yn addysgu ar y rhaglenni Seicoleg yn ogystal â rhaglenni eraill ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant er 2010 ac wedi cyfrannu at gyflwyno a goruchwylio ar gyrsiau israddedig ac ôl-raddedig.

Cyn hynny bûm yn gweithio fel darlithydd ym Mhrifysgol Morgannwg am chwe blynedd, yn darlithio ar y rhaglenni BSc Seicoleg, BSc Seicoleg Chwaraeon a BSc Gwyddor Chwaraeon. Hefyd bûm yn gweithio fel ymchwilydd Seicoleg Iechyd am brosiect a gyllidwyd mewn cydweithrediad â Phrifysgol Caerfaddon a GIG Gogledd Wiltshire yn archwilio buddion a dichonoldeb mentora cymheiriaid o fewn menter iechyd ac ymarfer corff gymunedol ar gyfer cleifion â diagnosis o COPD (2007-2009). Arweiniodd hyn at ddatblygu Llawlyfr ar gyfer Mentoriaid Cymheiriaid a gyhoeddwyd gan GIG Gogledd Wiltshire.

Yn ystod fy nghyfnod yn y Drindod Dewi Sant bûm yn rheolwr rhaglen y Dystysgrif Raddedig mewn Seicoleg Pobl Ifanc ac rwyf wedi cael swyddi ar bwyllgorau niferus yn cynnwys y Pwyllgor Graddau Ymchwil a’r Pwyllgor Ymchwil. Bûm yn aelod o Bwyllgor Moeseg y Brifysgol (2016-2022) gan gyd-gadeirio’r Pwyllgor rhwng 2019 a 2022.

Diddordebau Academaidd

Ar hyn o bryd mae fy meysydd addysgu israddedig yn cynnwys seicoleg fiolegol, niwrowyddoniaeth, datblygiad a chyfnodau pontio pobl ifanc, seicoleg chwaraeon ac ymarfer corff, seicoleg iechyd, seicoleg esblygiadol, seicoleg alwedigaethol, y cyfryngau a seicoleg defnyddwyr a seicoleg gymhwysol.  Hefyd rwy’n cyfrannu at addysgu dulliau ymchwil (gan ganolbwyntio ar ddulliau ymchwil ansoddol).  

Meysydd Ymchwil

Mae fy niddordebau ymchwil yn eang ac yn cynnwys:

  • Yr ymatebion emosiynol yn dilyn anafiadau mewn athletwyr lefel hamdden
  • Mentrau iechyd cymunedol a hyfforddi a datblygu Mentoriaid Cymheiriaid ym maes iechyd
  • Cymhwyso ymyriadau seicolegol yng nghyswllt salwch cronig
  • Datblygu, profi dilysrwydd a chymhwyso holiaduron
  • Iechyd meddwl mewn cymunedau gwledig
  • Rheoli emosiynau ac ymddygiad dryslyd
  • Llif mewn lleoliadau seiliedig ar berfformiad.

Hefyd mae gennyf ddiddordeb ymchwil mewn addasiad gweithwyr mudol yng Nghymru ac yn 2012 sicrheais gyllid y Polisi Mewnwelediad Strategol i archwilio gwaith y Gymdeithas Gydfuddiannol Bwylaidd-Gymreig (PWMA) ac agweddau pobl mae’r PWMA yn eu gwasanaethu.

Arbenigedd

  • Defnyddiwr Profion Cynorthwyol: Cymhwyster Galwedigaethol
  • Defnyddiwr Profion: Cymhwyster Galwedigaethol, Gallu
  • Defnyddiwr Profion: Cymhwyster Galwedigaethol, Personoliaeth
  • Cofrestr Cymwysterau mewn Defnyddio Profion (RQTU)