Hafan YDDS  -  Ymchwil

Ymchwil

Student taking photo in studio

Yn ymdrechu i ymgysylltu; bob amser yn arloesol

Mae ymchwil y Brifysgol yn cwmpasu disgyblaethau peirianneg, gwyddor gymdeithasol, y celfyddydau a’r dyniaethau. Yn ymdrechu i ymgysylltu, bob amser yn arloesol, mae’n aml yn rhyngddisgyblaethol ac yn gydweithredol o ran ei natur.

Mae ein Strategaeth Ymchwil ac Arloesi 2022-2027 yn canolbwyntio ar naw maes blaenoriaeth:

  • Rhagoriaeth Ymchwil: cynyddu rhagoriaeth mewn ymchwil darganfod a yrrir gan chwilfrydedd ac ymchwil sy’n mynd i’r afael â heriau cymdeithasol ac economaidd diffiniedig.
  • Cenhadaeth Ddinesig: cymryd rhan mewn prosiectau, mentrau neu feysydd gweithgarwch sy’n hyrwyddo neu’n gwella lles economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol neu ddiwylliannol Cymru a thu hwnt.
  • Arloesi: trosi syniadau gwych yn werth, ffyniant, cynhyrchiant a lles.
  • Cydweithio: creu partneriaethau trwy gydweithio ag ymchwilwyr, busnesau, y sector cyhoeddus a’r trydydd sector i rannu rhagoriaeth a chyflawni effaith ymchwil.
  • Sgiliau Lefel Uchel, DPP a Dysgu Gydol Oes: darparu rhaglenni lefel uwch wedi’u seilio ar ymchwil i gefnogi’r gwaith o ddatblygu gweithlu a chymdeithas wydn.
  • Adfywio Rhanbarthol: cefnogi twf, lles a ffyniant yn y rhanbarth.
  • Masnacheiddio a Chynhyrchu Incwm: cymorth i fusnesau sy’n cyrchu cymorth ariannol ar gyfer arloesi mewn cydweithrediad â’r Brifysgol.
  • Ymchwil Ôl-raddedig: darparu seilwaith o safon fyd-eang i ddatblygu’r genhedlaeth nesaf o ymchwilwyr.
  • Pobl: ein hymrwymiadau i gymell, cefnogi a gwobrwyo staff am ragoriaeth mewn ymchwil ac arloesi.

Ein gweledigaeth ar gyfer ymchwil yw bod ein hymchwilwyr, a’r gwasanaethau proffesiynol sy’n eu cefnogi, yn gyrru arloesi: y broses sy’n troi syniadau gwych yn werth, ffyniant, cynhyrchiant a lles. Dyma’r weledigaeth a fydd yn gyrru lles ac yn addasu i gyfleoedd a heriau newydd.

Darllenwch Grynodeb Gweithredol Strategaeth Ymchwil ac Arloesi Y Drindod Dewi Sant.

Ref Logo Y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2021

Mae’r Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (Research Excellence Framework (REF) 2021) yn dangos bod Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) yn cynhyrchu ymchwil rhyngwladol sy’n rhagorol ac o’r radd flaenaf.

Mature Student Smiling Unplygrwydd a Moeseg Ymchwil

Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant wedi ymrwymo ei hun i gadw safonau uchel,  o ran yr ymchwil yr ymgymerir ag ef gan ei staff a’i myfyrwyr, pe bai hwnnw’n cael ei gefnogi’n uniongyrchol gan y Brifysgol neu ei ariannu gan ffynonellau allanol.

Two Staff Members at Desk Ymchwil Ôl-raddedig

Mae’r Brifysgol yn cynnig goruchwyliaeth ymchwil ar gyfer astudiaethau Meistr a Doethurol ar draws pob un o’i meysydd pwnc, Cyfadrannau ac Ysgolion. Mae cyfleoedd ar gael i astudio am radd ymchwil ar bob campws yn Llambed, Caerfyrddin, Abertawe a Llundain, neu fel arall, drwy ddysgu o bell.

Go to Researcher Development information page Datblygiad Ymchwilwyr

Mae datblygiad ymchwilwyr yn Y Drindod Dewi Sant wedi’i alinio â’r Concordat i Gefnogi Datblygiad Gyrfaoedd Ymchwilwyr. Dysgwch ragor am beth mae’r Concordat yn ei olygu i chi ynghyd â manylion sgiliau sy’n benodol i ymchwil a chyfleoedd datblygu.

Head with Jigsaw on Ymchwilio i Seicoleg

Ymchwilio i feysydd seicoleg gymhwysol ac arbrofol.

View across the quadrangle towards the south front of St David's College. Ymchwilio i’r Dyniaethau yn Llambed

Wedi’i sefydlu yn 1822, mae Llambed yn enwog am ei thraddodiad ymchwil, nid dim ond o ran persbectif rhyngwladol, ond mae hefyd yn mynd i’r afael â phryderon cyfoes drwy gynnal ymchwil mewn diwinyddiaeth ac astudiaethau crefyddol, hanes, y clasuron, archeoleg, anthropoleg ac athroniaeth.

CAWCS Building Aberystwyth Ymchwilio i’r Ieithoedd Celtaidd a’u Llenyddiaeth

Ymchwil a gynhelir yn y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd (Centre for Advanced Welsh and Celtic Studies - CAWCS) wedi’i seilio ar ieithoedd, llenyddiaeth, diwylliant a hanes Cymru a’r gwledydd Celtaidd eraill.

Swansea College of Art Building Ymchwilio i Gelf a Dylunio

Ymchwilio i ymarferion cyfoes y celfyddydau; y diwydiannau creadigol; dylunio ar gyfer gwyddor bywyd, iechyd a llesiant.

Research in Computing Face Ymchwilio i Bensaernïaeth, Cyfrifiadura a Pheirianneg

Ymchwilio i’r meysydd Rhwydweithio cyfrifiadurol; Profion anninistriol; modelu cyfrifiadurol; peirianneg cynnyrch.

Smiling Education Student Ymchwilio i Addysg

Gweithgaredd ymchwil sy’n ymwneud ag addysg, dysgu proffesiynol ac arweinyddiaeth, cyfiawnder cymdeithasol a chydraddoldeb, ieithoedd, llythrennedd ac amlieithrwydd, llythrennedd corfforol ac ymarfer proffesiynol cymhwysol.

Books on Shelf Mynediad Agored ac Ymchwil

Mae’r Llyfrgell ac Adnoddau Dysgu yn cynnig amrywiaeth o gymorth arbenigol i academyddion a myfyrwyr ymchwil. Dewch o hyd i bopeth sydd angen i chi ei wybod am gyhoeddi mynediad agored a rheoli data ymchwil yma.

Staff and Students Discussion INSPIRE

Mae INSPIRE, ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, yn cysylltu staff, myfyrwyr a chanolfannau gwybodaeth y Brifysgol â busnesau, sefydliadau a chymunedau er mwyn cael effaith ar gymdeithas sy’n gynaliadwy ac sydd o fudd i bawb.

Go to Research and Impact Accelerator Programme page. RIAP

Mae’r Rhaglen Cyflymu Ymchwil ac Effaith (Research and Impact Accelerator Programme (RIAP)) yn bodoli er mwyn cefnogi Strategaeth Ymchwil ac Arloesi newydd y Brifysgol. Mae chwe llwybr ariannu ar gael ynghyd â manylion a ffurflenni gwneud cais ar y dudalen RIAP.  

Go to Taith Research Travel Grants page. Grantiau Teithio Ymchwil Taith

Mae grantiau teithio ymchwil Taith yn cefnogi costau teithio a chostau byw staff academaidd a thechnegol sy’n ymwneud â neu’n cynnal ymchwil, ynghyd ag ymchwilwyr ôl-raddedig a seilir yng Nghymru sydd eisiau teithio dramor i fynd ar leoliad neu elwa o gyfleoedd rhwydweithio.

Ewch i Ganolfan BRIDGES UNESCO. Canolfan BRIDGES UNESCO

Mae canolfan BRIDGES UNESCO yn PCYDDS, un o bump canolfan yn fyd-eang, yn hyrwyddo ymchwil, addysgu a mentrau sy’n defnyddio Gwyddor Cynaliadwyedd i chwilio am atebion cyfiawn a pharhaol i broblemau cyfredol.