Skip page header and navigation

Y Siarter Myfyrwyr

Trawsnewid Addysg, Trawsnewid Bywydau

Rhoi dysgwyr yn gyntaf yw prif flaenoriaeth strategol  y Brifysgol.  Mae’r Siarter Myfyrwyr yn esbonio’r disgwyliadau ar y naill ochr a’r llall ar ran y Brifysgol a’i myfyrwyr.

Mae cefnogi blaenoriaethau strategol y Brifysgol ynghyd â’r dogfennau perthnasol (y siarter myfyrwyr, y cod ymarfer a’r cytundeb perthynas), yn werthoedd ac ymddygiadau a rennir rhwng Undeb y Myfyrwyr a’r Brifysgol wrth iddynt weithio mewn partneriaeth. Gweithredir y gwerthoedd a’r ymddygiadau hyn yn ddyddiol drwy’r gwaith a gyflawnir rhwng myfyrwyr, Undeb y Myfyrwyr a’r Brifysgol i wneud y profiad yn y Drindod Dewi Sant y gorau y gall fod.

Mae’r siarter hefyd yn disgrifio rolau a chyfrifoldebau Undeb Myfyrwyr Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (UMPCYDDS) oddi mewn i Grŵp PCYDDS a chyfrifoldebau’r holl sefydliadau partner cydweithredol ynghylch cynrychiolaeth, cymorth ac ymgysylltiad myfyrwyr.

Caiff y Siarter Myfyrwyr ei hadolygu’n flynyddol gan yr holl bartïon cysylltiedig ac fe’i cadarnheir gan Gyngor y Brifysgol.

Student Charter

  • Meithrin diwylliant lle mae’r staff a’r myfyrwyr yn cydweithio mewn partneriaeth ac yn darparu amgylchedd dysgu cynhwysol, cefnogol a diogel lle gall yr holl fyfyrwyr a’r staff ffynnu a gwireddu eu potensial personol. Gellir cyflawni hyn drwy hyrwyddo ac annog agwedd a meddylfryd cydweithredol.

    Cydnabod a dathlu amrywiaeth poblogaeth y myfyrwyr ac yn darparu profiadau ardderchog i fyfyrwyr, sy’n cynorthwyo pob myfyriwr i gymryd rhan lawn ym mywyd y brifysgol, ac yn cymryd camau i ddileu rhwystrau rhag cymryd rhan. Ceir cefnogaeth i’r dull hwn o du Cynllun Hil a Chydraddoldeb y Brifysgol ac ymrwymiadau i’r Siarter Cydraddoldeb Hiliol.

    Ymrwymo i sicrhau bod holl aelodau cymuned y Brifysgol, contractwyr allanol, ac ymwelwyr yn ddiogel ac yn cael eu trin ag urddas a pharch. 

    Ymrwymo i gefnogi iechyd a llesiant ei myfyrwyr a’i chymuned staff. Mae’r Brifysgol wedi ymrwymo i lesiant myfyrwyr, gan gynnwys iechyd meddwl, a nodau llesiant Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru).

    Mae’n cyflawni ei chyfrifoldebau statudol o ran cydraddoldeb, amrywiaeth, diogelu a nodweddion gwarchodedig.

    Ymdrechu i ddiogelu iechyd, diogelwch a llesiant holl aelodau ei chymuned. Cyflawnir yr ymrwymiadau hyn o fewn y Strategaeth Iechyd a Llesiant Myfyrwyr, yn ogystal â thrwy modwl cydsyniad rhywiol y Brifysgol a thrwy ymagwedd y Brifysgol at y Ddyletswydd Prevent a sicrhau nad yw aelodau’r gymuned yn agored i derfysgaeth nac yn cael eu denu ganddi.

    I gefnogi’r diwylliant hwn, mae gan y Brifysgol y canlynol:

    Ymgysylltiad a Chynrychiolaeth Myfyrwyr

    Cydnabod mai Undeb y Myfyrwyr yw llais myfyrwyr Y Drindod Dewi Sant.

    Cefnogi cynrychiolaeth effeithiol i fyfyrwyr ar gyfer pob un o’i myfyrwyr:

    • Sicrhau bod llais y myfyrwyr yn cael ei glywed ar bob lefel yn y broses o wneud penderfyniadau;
    • Bod yn agored a thryloyw am y penderfyniadau a wneir ar bob lefel fel y bo’n briodol.

    Sicrhau cyfleoedd rheolaidd am adborth ffurfiol ac anffurfiol i’r holl fyfyrwyr ar bob agwedd ar eu profiad;

    • Gweithio gyda myfyrwyr i ymateb i’w hadborth ar eu profiad;
    • Rhoi gwybod i fyfyrwyr beth sydd wedi’i wneud gyda’u hadborth;
    • Defnyddio adborth i wella profiadau myfyrwyr yn barhaus.

    Dysgu ac Addysgu

    Cynnig profiad dysgu o ansawdd uchel, trwy

    • Weithio mewn partneriaeth agos â myfyrwyr;
    • Darparu adborth academaidd defnyddiol ac o ansawdd uchel ar asesiadau;
    • Cynnig cwricwlwm sydd wedi ei lunio’n dda, sy’n canolbwyntio ar y myfyriwr ac ar bedair egwyddor allweddol (cydweithredol, cynhwysol, personol, a gyda ffocws proffesiynol) ac sy’n sicrhau priodoleddau penodol i raddedigion;
    • Cynorthwyo myfyrwyr mewn ffordd briodol yn academaidd trwy ei fframwaith Llwyddiant Myfyrwyr;
    • Parhau i fuddsoddi mewn adnoddau dysgu ffisegol ac electronig i gefnogi cwricwlwm amrywiol;
    • Buddsoddi ymhellach i ddatblygu dysgu ac addysgu i sicrhau bod yr addysgeg yn esblygu’n barhaus;
    • Darparu amgylcheddau a chyfleusterau priodol ar gyfer dysgu ac addysgu. A sicrhau y caiff myfyrwyr gymorth i fanteisio’n llawn ar yr hyn a ddysgant;
      • Lle bo raid, gwneud addasiadau’n unol â’r polisi Canslo, gohirio ac aildrefnu dosbarth
    • Darparu safonau uchel o addysgu, wedi eu cyfoethogi gan amrywiaeth o gyfleoedd, gan gynnwys
      • Astudio trwy gyfrwng y Gymraeg a/neu’n ddwyieithog;
      • Astudio Dramor (lle bo’n bosibl)
      • Datblygiad personol a phroffesiynol parhaus, a dysgu gydol oes.
      • Recordio darlithoedd yn unol â Pholisi Recordio Darlithoedd y Brifysgol.

    Cymorth i fyfyrwyr

    Sicrhau bod systemau cymorth o ansawdd uchel yn eu lle er mwyn galluogi pob myfyriwr, gan gynnwys y rhai sydd ag anableddau datganedig (gweladwy ac anweladwy), i gyflawni canlyniadau cadarnhaol, yn academaidd ac yn broffesiynol. Mae cyfarwyddyd clir wedi’i amlinellu yn Strategaeth Iechyd a Llesiant Myfyrwyr y brifysgol.

    Darparu cymorth rhagweithiol i fyfyrwyr mewn perthynas â chyfleusterau a gwasanaethau myfyrwyr trwy ei Hwb Myfyrwyr.

    Sicrhau bod staff sy’n cynorthwyo myfyrwyr wedi’u hyfforddi’n briodol (e.e. trwy hyfforddiant Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl) fel eu bod yn gallu adnabod problemau’n rhagweithiol, cefnogi myfyrwyr yn effeithiol ac yn briodol, ac yn gallu eu cyfeirio am gymorth lle bo angen.

    Darparu gofal fugeilio trwy diwtoriaid a goruchwylwyr.

    Sicrhau y caiff yr holl fyfyrwyr gyfle i ddatblygu sgiliau sy’n eu galluogi i ddatblygu’n academaidd, yn bersonol ac yn broffesiynol.

    Darparu fframwaith cymorth priodol i fyfyrwyr sy’n wynebu gwahaniaethau iechyd meddwl /neu gydag anghenion dysgu ychwanegol.

    Sicrhau bod fframwaith tryloyw a chyson ar waith i roi cyfle i fyfyrwyr wneud cais am gymorth ariannol priodol wedi’i dargedu, os bydd caledi ariannol, ac i wella eu cyfleoedd i astudio.

    Y Gymraeg a Dwyieithrwydd

    Hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg a diwylliant dwyieithog ar draws y Brifysgol a chydymffurfio â Safonau’r Gymraeg, gan gynnwys; 

    • Rhoi’r opsiwn i fyfyrwyr gyfathrebu â’r Brifysgol a chael gwasanaethau ganddi yn Gymraeg neu yn Saesneg. 
    • Darparu’r gallu i fyfyrwyr gael eu hasesu yn y Gymraeg, beth bynnag yw iaith yr addysg
    • Rhoi cyfle i fyfyrwyr ddysgu neu wella eu sgiliau iaith Gymraeg.

    Mae Undeb y Myfyrwyr yn cymeradwyo Strategaeth y Brifysgol ar gyfer y Gymraeg a lle bo’n bosibl bydd yn cefnogi’r Brifysgol i gyflawni’r amcanion. Bydd Undeb y Myfyrwyr yn cydweithio’n agos â’r Ganolfan Gwasanaethau Cymraeg a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol i ddarparu cyfleoedd i astudio’n ehangach i fyfyrwyr cyfrwng Cymraeg a datblygu adnoddau i gefnogi eu hastudiaethau.

    Darparu Cyfleoedd

    Darparu’r cymorth, yr adnoddau a’r cyfleusterau priodol i Undeb Myfyrwyr PCYDDS, i sicrhau y darperir ystod o weithgareddau dan arweiniad myfyrwyr a fydd yn gwella profiadau myfyrwyr.

    Darparu a hyrwyddo ystod o gyfleoedd i wella profiadau, cyflogadwyedd a sgiliau cynaliadwyedd cyffredinol myfyrwyr, gan gynnwys:

    Cyfleoedd i gymryd rhan mewn chwaraeon hamdden a chystadleuol

    Defnyddio ymchwil ac ysgolheictod i wella a chyfoethogi profiadau myfyrwyr, cryfhau ymgysylltiad myfyrwyr, a darparu sgiliau graddedigion trwy gysylltiadau uniongyrchol â’r diwydiant.

    Gwybodaeth a chydymffurfio

    Darparu gwybodaeth hawdd ei chael a’i deall trwy wefan y Brifysgol am holl:

    (gan gynnwys yr hawl i gyfeirio cwyn  at Swyddfa’r Dyfarnwr Annibynnol ac am y cymorth sydd ar gael ynghylch y rhain). 

    Mae’r Brifysgol yn cydymffurfio â’i chyfrifoldebau dan Ddeddf Amddiffyn Defnyddwyr 1987 fel y’i nodir gan yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd gan gynnwys trwy’r canlynol:

    • Darparu manylion clir ynghylch costau llawn astudio, gan gynnwys costau ychwanegol yn gysylltiedig â chyrsiau i bob myfyriwr;
    • Darparu gwybodaeth am newidiadau mewn cyrsiau cyn gynted ag y bo modd, trwy ddefnyddio’r cyfryngau cyfathrebu perthnasol;
    • Cadw at delerau ac amodau’r cyrsiau a amlinellwyd yn glir drwy Gytundeb Myfyrwyr (2022-23). 
    • Cydymffurfio â deddfwriaeth berthnasol ym maes diogelu data (e.e. trwy hysbysiad preifatrwydd myfyrwyr);

    Cydymffurfio â chanllawiau ynghylch:

    • Safonau Dysgu ac Addysgu Digidol, gyda’r ddau ohonynt yn canolbwyntio ar gynwysoldeb.
    • Amserau dychwelyd adborth (archwiliad i’w gynnal drwy bwyllgorau)
    • Amserlenni (archwiliad i’w gynnal drwy bwyllgorau)
    • Polisi Recordio Darlithoedd.

    Gwasanaethu’i rhwymedigaethau cytundebol i fyfyrwyr a chydymffurfio â’i hymrwymiadau dan gyfraith defnyddwyr, fel y’i disgrifir gan yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd.  Wrth wneud hynny, bydd y brifysgol yn gweithio i ddiogelu buddiannau myfyrwyr wrth ymateb i amgylchiadau, megis newidiadau sylweddol yn null cyflwyno cwrs neu wrth i gwrs ddod i ben.  

    Mae gan y Brifysgol weithdrefnau yn eu lle i ymateb i’r amgylchiadau hyn a fydd yn lliniaru’r effaith bosibl ar fyfyrwyr ac sy’n cydnabod anghenion gwahanol ei chorff amrywiol o fyfyrwyr.

    Pryderon, apeliadau a chwynion

    • Ymrwymo i egwyddorion arweiniol yr OIA a’r ASA mewn perthynas â phryderon, apeliadau a chwynion;
    • Sicrhau bod pryderon a phroblemau’n cael eu trin a’u datrys yn gyflym a, lle bo modd, yn anffurfiol.
    • Sicrhau bod yr holl fyfyrwyr sy’n codi pryder, cwyn neu apêl yn cael ei glywed, yn cael ei gymryd o ddifri, a’i drin gyda pharch, urddas a chan ystyried eu llesiant wrth godi pryder, cwyn neu apêl

    Man Cyswllt Cychwynnol

    Yr Hwb Myfyrwyr yw’r man cyswllt ar gyfer ymholiadau myfyrwyr. Gellir cysylltu â’r Hwb Myfyrwyr trwy hwb@uwtsd.ac.uk neu ar 0300 131 3030

  • Yn rhan o Gymuned y Brifysgol, yn

    Cydnabod pwysigrwydd cydraddoldeb ac amrywiaeth trwy drin pob aelod o gymuned y brifysgol a chymunedau lleol â pharch, yn bersonol ac ar gyfryngau eraill megis y cyfryngau cymdeithasol.

    Gwneud cyfraniad cadarnhaol i gymuned y brifysgol, pan fyddant ar leoliad ac yn y cymunedau lleol lle mae’r Brifysgol wedi ei lleoli a lle mae’r myfyrwyr yn byw. Rhaid i fyfyrwyr gadw at Cod Ymddygiad Myfyrwyr 

    Cymryd rhan mewn prosesau adborth a chynrychioli myfyrwyr i wella’r profiad myfyrwyr i bawb.

    Ymrwymiad i Astudio

    Gwneud cyfraniad cadarnhaol i’w cymuned ddysgu a chymryd rhan yn adeiladol mewn gwaith grŵp.

    Ymwneud yn llawn â’u hastudiaethau;

    • Mynd i ddosbarthiadau sydd wedi eu hamserlennu a mynd ati’n rhagweithiol i geisio cymorth os bydd angen;
    • Paratoi ar gyfer dosbarthiadau yn ôl yr angen;
    • Rhoi cynnig ar bob elfen asesu ym mhob un o’u modylau;
    • Mynd i’r afael yn rhagweithiol ag adborth gan diwtoriaid i wella gwaith academaidd;
    • Dilyn arweiniad priodol llywodraeth leol a’r Brifysgol ynghylch iechyd a diogelwch;
    • Defnyddio cyfleusterau ac adnoddau’r Brifysgol gyda pharch ac ystyriaeth.

    Cymorth

    Mynd ati i geisio cymorth pan fo angen, boed yn gymorth academaidd cyffredinol gan diwtor, cymorth ariannol, cymorth arbenigol sy’n gysylltiedig ag anabledd, cymorth llesiant, neu gymorth ynghylch cyfleuster.

    Gweithio mewn partneriaeth â’r aelod o staff sy’n cynorthwyo i ddatrys a mynd i’r afael ag unrhyw broblemau.

    Cefnogi eich cyd-fyfyrwyr, heb greu risg i chi eich hunain a/neu eraill, yn enwedig os ydynt mewn trafferthion neu os nad ydynt yn deall y gweithdrefnau. Er enghraifft, gallwch helpu trwy gyfeirio eich cyd-fyfyrwyr at y gwasanaeth cymorth priodol (e.e. yr Hwb neu’r Gwasanaethau Myfyrwyr).

    Cydweithio gyda myfyrwyr eraill fel rhan o’r gymuned o staff a myfyrwyr.

    Gweinyddu a chydymffurfio

    Cofrestru bob blwyddyn ac wrth symud rhwng lefelau/rhannau rhaglenni a gwneud trefniadau i dalu ffioedd academaidd sy’n ddyledus i’r Brifysgol yn brydlon neu fel y cytunwyd â’r Brifysgol.

    Darparu gwybodaeth bersonol a manylion cyswllt cywir a chyfredol, gan gynnwys manylion cyswllt mewn argyfwng.

    Edrych ar eu cyfrif e-bost myfyriwr yn y Brifysgol a Moodle o leiaf ddwywaith yr wythnos, gan gydnabod mai’r rhain yw’r llwyfannau a ddefnyddir i gyfleu gwybodaeth frys a phwysig.

    Ymgyfarwyddo â Rheoliadau’r Brifysgol a’u dilyn. 

    Cydymffurfio â’r holl bolisïau perthnasol, gan gynnwys

    Ar gyfer myfyrwyr Y Drindod Dewi Sant: parchu a chadw at gyfansoddiad a pholisïau Undeb y Myfyrwyr.

  • Eich cefnogi chi i wneud yn fawr o’ch addysg a’ch amser yn y Brifysgol.

    Bydd Undeb y Myfyrwyr yn cyflawni hyn drwy Lais y Myfyrwyr, Cyngor i Fyfyrwyr, a Chyfleoedd (a Chyflogadwyedd) i Fyfyrwyr gan weithredu yn ddwyieithog.

    Llais y Myfyrwyr

    • Cynrychioli, grymuso a chynorthwyo’r holl fyfyrwyr Addysg Uwch yng Ngrŵp Y Drindod Dewi Sant i sicrhau eu bod yn cael chwarae teg a’u bod yn ymwybodol o’u hawliau a’u cyfrifoldebau.
    • Ymgysylltu â chyrff cynrychiadol myfyrwyr ar draws Grŵp Y Drindod Dewi Sant.
    • Cynrychioli buddiannau myfyrwyr ar lefel leol a chenedlaethol ac ymgyrchu ar faterion sy’n berthnasol a phwysig i fyfyrwyr yn y Brifysgol.
    • Sicrhau proses gyson ar gyfer ethol, hyfforddi a chefnogi pob cynrychiolydd myfyrwyr, (gan gynnwys myfyrwyr rhan-amser, dysgu o bell a myfyrwyr ôl-raddedig) ar draws pob cwrs ac ar bob campws.
    • Cynrychioli barn myfyrwyr i’r Brifysgol a rhanddeiliaid perthnasol eraill.

    Cyngor i Fyfyrwyr

    • Helpu myfyrwyr trwy eu cyfeirio a’u hatgyfeirio fel y bo’n briodol mewn perthynas â materion academaidd a llesiant.
    • Darparu cyngor a chyfarwyddyd academaidd gwybodus ac amserol i fyfyrwyr yn ôl yr angen.
    • Gweithio mewn partneriaeth â’r Brifysgol i sicrhau bod myfyrwyr yn gallu cael mynediad at wybodaeth, cymorth a chyfarwyddyd ar draws pob elfen o fywyd myfyrwyr.

    Cyfleoedd a Chyflogadwyedd i Fyfyrwyr

    • Hyrwyddo a galluogi cyfranogiad myfyrwyr ym mhob un o weithgareddau Undeb y Myfyrwyr, gan sicrhau bod holl brosiectau, digwyddiadau a gwasanaethau Undeb y Myfyrwyr yn hygyrch ac yn gynhwysol i bawb (e.e. rhieni â phlant, gofalwyr, myfyrwyr anabl).
    • Galluogi myfyrwyr i gynnal amrywiaeth o glybiau chwaraeon, cymdeithasau a gweithgareddau eraill i wella datblygiad a chyflogadwyedd personol. Cyfarfod â myfyrwyr eraill a datblygu hobïau a diddordebau lle bo’n ymarferol.
    • Cynnig cyfleoedd lluosog i fyfyrwyr gael profiad gwerthfawr trwy weithgareddau Undeb y Myfyrwyr gan gynnwys gwirfoddoli ac Wythnos Wirfoddoli

    Dwyieithrwydd

    Adlewyrchu pwysigrwydd a statws yr iaith Gymraeg wrth gyfathrebu a chreu cyfleoedd, i gefnogi’r myfyrwyr hynny sy’n dymuno gweithio a chymdeithasu trwy’r Gymraeg yn ystod eu cyfnod yn y Brifysgol. Cefnogi Strategaeth y brifysgol ar gyfer y Gymraeg lle bo modd, o hysbysebu digwyddiadau i gymryd rhan ym Mhwyllgor y Gymraeg.

  • Eu bod yn dilyn yr egwyddorion  (Pennod 05 Cynrychiolaeth, Ymgysylltiad a Chymorth Myfyrwyr) a amlinellir yn y Llawlyfr Ansawdd Academaidd yng nghyswllt cynrychiolaeth myfyrwyr, ymgysylltiad myfyrwyr a chymorth myfyrwyr. Byddant yn:

    • Cydnabod gwerth ymgysylltiad myfyrwyr a llais y myfyrwyr;
    • Gweithredu set gyffelyb o systemau a gweithdrefnau sy’n adlewyrchu gofynion y man cyflwyno penodol;
    • Bodloni egwyddorion ymgysylltiad, cynrychiolaeth a chymorth myfyrwyr fel yr amlinellir yn y bennod hon;
    • Bodloni disgwyliadau’r UK Quality Code for Higher Education;

    Mae hyn yn cynnwys:

    • Pan fo’n bosibl, bod cynrychiolwyr myfyrwyr yn cael eu hethol yn ddemocrataidd gan eu cyfoedion neu eu recriwtio’n wirfoddol.
    • Bod yr holl gynrychiolwyr myfyrwyr yn gallu manteisio ar hyfforddiant a chymorth priodol.
    • Bod cynrychiolwyr myfyrwyr etholedig yn cael eu hystyried yn llais cynrychiadol ar ran y corff myfyrwyr.
    • Bod gan y myfyrwyr gyfle i gyfrannu ar bob lefel wrth i benderfyniadau gael eu gwneud a’u bod yn aelodau llawn o unrhyw bwyllgorau maent yn bresennol ynddynt.
    • Bod cynrychiolwyr y myfyrwyr yn cael amser i gyfarfod â myfyrwyr ar eu cwrs yn breifat.
    • Bod pwyllgorau Myfyrwyr-Staff, fel rhan o’r drefn, yn adolygu adborth myfyrwyr gan gynnwys ffurflenni adborth modylau, ymatebion i arolygon ac adolygiadau rhaglenni, ond heb fod yn gyfyngedig i’r rhain.
    • Dylid codi ac ymateb i adborth gan gynrychiolwyr academaidd ar lefelau priodol ar draws strwythur academaidd y Partner. Gwneir ymdrech i egluro wrth fyfyrwyr effaith eu syniadau a’u hadborth (cau’r gadwyn adborth).