Croeso i'ch Undeb Myfyrwyr


Ni yw Undeb y Myfyrwyr ar gyfer pob myfyriwr ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, ble bynnag a sut bynnag maen nhw'n astudio.

Fel elusen annibynnol dan arweiniad myfyrwyr, rydym yn gweithio gyda'r brifysgol i sicrhau bod myfyrwyr yn cael eu clywed. Byddwn yn siarad dros fyfyrwyr, yn sefyll dros eu hawliau, ac yn eu grymuso i wneud y gorau o'u hamser yn y brifysgol. Unwaith y byddant wedi ymrestru, mae myfyrwyr yn aelodau o'r undeb yn awtomatig; nid oes unrhyw ffurflenni i'w llenwi na ffioedd i'w talu. 

Student Union Female Reps

Dan arweiniad myfyrwyr, ar gyfer myfyrwyr

Mae rhwydwaith o gynrychiolwyr myfyrwyr yn gweithio gyda’i gilydd i sicrhau bod llais myfyrwyr yn cael ei glywed, ar draws yr Undeb, y Brifysgol, ac ar lefel genedlaethol.

Fel myfyriwr, cewch gyfle i lenwi’r rolau hyn (a dewis pwy sy’n cael ei ethol trwy ein hetholiadau). O gynrychiolwyr cwrs i swyddogion sabothol, mae yna lwyth o rolau ar gael, rhai rhan-amser a llawn-amser, ac mae rhai ohonynt yn gyflogedig.

Gallwch hefyd ddweud eich dweud trwy rannu eich syniad ar ein Fforwm Syniadau Mawr.

Cynrychiolaeth, Etholiadau a Syniadau

Student Union Charity Event

Bywyd Myfyrwyr a’r Gymuned

Mae mwy i fywyd yn y Brifysgol na darlithoedd. Dyna pam rydyn ni’n helpu myfyrwyr i redeg eu clybiau, cymdeithasau a’u grwpiau diddordeb eu hunain. Rydyn ni am helpu myfyrwyr i gwrdd â phobl newydd a gwneud ffrindiau newydd. Gall myfyrwyr hefyd helpu eu cymunedau trwy ein prosiectau Codi Arian a Rhoi (RAG). 

Ewch i’n Tudalennau Gweithgareddau

Student Union Male Student

Cyngor a Chymorth

Mae gennym aelodau staff ymroddedig sy'n gallu helpu myfyrwyr gyda materion academaidd. Rydyn ni yma hefyd os oes angen cyngor ar fyfyrwyr; o dai a llety i iechyd a chyllid. Gallwn helpu myfyrwyr i ddod o hyd i'r cymorth sydd ei angen arnynt.

Angen ychydig o help?

Student Union Female Students

Digwyddiadau a Bariau

Rydym yn cynnal ystod o ddigwyddiadau trwy gydol y flwyddyn, gan gynnwys yr Wythnosau Croeso swyddogol. Mae gennym ni hefyd leoliadau ar gampysau Caerfyrddin a Llambed; perffaith ar gyfer myfyrwyr sy'n byw ar y campws, neu ar gyfer ymlacio ar ôl darlithoedd. 

Gweld ein Digwyddiadau

Student Union Female Student Covered in coloured dust

Dilynwch ni

Gallwch gadw’n gyfoes â gwaith eich Undeb Myfyrwyr trwy ein dilyn ar gyfryngau cymdeithasol a chofrestru ar gyfer ein cylchlythyr.

Official Facebook profile  Visit our Instagram profile Official Twitter profile