Hafan YDDS  -  Astudio Gyda Ni  -  Cyrsiau Israddedig  -  Dawns Fasnachol (BA)

Dawns Fasnachol (BA)

Ymgeisio Drwy UCAS - Llawn Amser

Mae’r cwrs hwn yn darparu platfform i chi fel artistiaid dawns uchelgeisiol, i ddechrau eich gyrfa yn y sector dawns a chelfyddydau perfformio masnachol. Cewch gyfle i ddatblygu’r sgiliau a dealltwriaeth am y diwydiant y bydd arnoch eu hangen er mwyn gallu gweithio’n broffesiynol a manteisio ar y galw cynyddol am berfformwyr medrus, amryddawn a dibynadwy.

Mae’r radd ddwys hon yn paratoi dawnswyr ar gyfer y diwydiant dawns fasnachol mewn amgylchedd dysgu ymarferol, yn y stiwdio, gan gynnig y cyfle i ennill a datblygu sgiliau technegol ac artistig hanfodol trwy hyfforddiant proffesiynol.

Dan arweiniad staff sydd â chyfoeth o brofiad proffesiynol, byddwch yn gweithio ochr yn ochr â’ch cymheiriaid ar gampws rhyngddisgyblaethol yn mireinio eich techneg a sgiliau perfformio trwy nifer o brosiectau dawns.

Mae’r cwrs yn datblygu sgiliau a fydd o gymorth wrth i chi greu cyfleoedd gwaith neu ennill gwaith yn y diwydiannau creadigol dawns fasnachol. Un o’i brif gryfderau yw ei drawstoriad eang o diwtoriaid o’r diwydiannau creadigol a fydd yn gweithio gyda chi ac yn eich cefnogi a chynorthwyo ym mhob agwedd ar eich astudiaethau.

Caiff nifer o fodylau eu rhannu gyda rhaglenni perfformio eraill WAVDA. Mae cydweithio’n bwysig a bydd gweithio ar brosiectau amlddisgyblaeth yn ehangu eich gorwelion a’ch posibiliadau galwedigaethol.

Daeth y Drindod Dewi Sant yn 1af yng Nghymru am Ddrama, Dawns a Sinemateg
Complete University Guide 2023.

OPSIYNAU LLWYBR A SUT I YMGEISIO

BA Dawns Fasnachol
Cod UCAS: COD1
Gwnewch gais drwy UCAS


Cadw lle ar ddiwrnod agored Gofyn am ragor o wybodaeth
E-bost Cyswllt: v.johns@uwtsd.ac.uk

Ffioedd Dysgu 2023/24:
Cartref: (Llawn-amser): £9,000 y flwyddyn
Tramor (Llawn-amser): £13,500 y flwyddyn

Pam dewis y cwrs hwn?

Os hoffech chi astudio dawns fasnachol yn ymarferol a dysgu am y diwydiant dawns gyfoes, dyma’r cwrs i chi. Mae’r cwrs hwn yn eich paratoi ar gyfer gyrfa yn y diwydiant dawns fasnachol, waeth beth fo’ch cefndir neu brofiad o ddawns.

Byddwch yn dod o hyd i’ch hunaniaeth fel artist trwy astudio amrywiaeth eang o ffurfiau ar ddawns, gan adeiladu ar wahanol dechnegau dawns a sgiliau perfformio, fel:

  • Hip Hop
  •  ‘House’
  • Ffync
  • ‘Waacking’
  • ‘Voguing’
  • Bale
  • Tap
  • Jazz
  • Cyfoes

Mae’r cwrs yn darparu cyfleoedd i weithio gydag ymarferwyr a choreograffwyr presennol sy’n gweithio yn y diwydiant i ddatblygu prosiectau a pherfformiadau.

Trwy gydol y dair blynedd cewch gipolwg perthnasol ar y diwydiant, gan eich paratoi ar gyfer cyflogaeth pan fyddwch wedi graddio.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Trosolwg o'r Cwrs

Trwy gydol y dair blynedd, cewch eich addysgu gan ymarferwyr proffesiynol sydd â chyfoeth o wybodaeth a phrofiad, gan ddarparu’r holl gysylltiadau pwysig â’r diwydiant.

Byddwn yn eich helpu i ddod yn artist dawns unigryw gyda dealltwriaeth ragorol o’r diwydiant dawns gyfoes a’r sgiliau i gynnal eich gyrfa greadigol eich hun.

Blwyddyn Un:
Bydd y flwyddyn hon yn ffocysu ar eich dealltwriaeth a’ch datblygiad o amrywiaeth eang o dechnegau dawns sydd eu hangen ar gyfer y diwydiant dawns fasnachol. Byddwch yn adeiladu ar eich sgiliau, gan ddysgu am ffitrwydd, maeth ac atal anafiadau holl-bwysig er mwyn gwrthsefyll gofynion y diwydiant. Daw’r flwyddyn hon i’w hanterth mewn prosiect perfformio a fydd yn cael ei arwain gan goreograffydd gwadd.

Blwyddyn Dau:
Bydd y flwyddyn hon yn adeiladu ar, ymestyn a herio’r sgiliau rydych wedi’u dysgu yn y flwyddyn flaenorol. Byddwch yn ennill sgiliau ychwanegol mewn gweithdai drwy astudio meysydd arbenigol fel acro a syrcas. Gan ffocysu ar dechneg clyweliad, fe gewch gipolwg gwerthfawr ar y broses glyweld a gweithio o fewn prosiect cydweithredol.

Blwyddyn Tri:
Yn eich blwyddyn olaf, fe gewch y cyfle i ddatblygu eich darn dawns eich hun gydag arweiniad gan diwtoriaid. Byddwch yn gweithio tuag at berfformiad arddangos, gan ddysgu sut i gyflwyno’ch hun fel artist dawns. Daw’r cwrs i’w anterth mewn prosiect perfformio ar raddfa fawr.


Ar ôl i chi raddio, byddwn yn parhau i’ch cefnogi trwy gydol eich gyrfa.

Pynciau Modylau
  • Hyfforddiant Dawns 1
  • Dawn Gyfoes 1
  • Dawns Fasnachol 1
  • Dosbarth Actio
  • Dysgu yn yr Oes Ddigidol
  • Prosiect Perfformio
  • Hyfforddiant Dawns 2
  • Labordy Dawns
  • Techneg Dawns Fasnachol 2
  • Prosiect Cydweithredol
  • Ysgogwyr Newid: Creadigrwydd a Chreu Gwerth
  • Techneg Clyweld
  • Arfer Proffesiynol ar gyfer Perfformio
  • Cynhyrchiad Terfynol
  • Diwydiannau Creadigol
  • Prosiect Annibynnol
Asesiad

Asesir y rhaglen hon drwy ystod o ddulliau sy’n cynnig cyfleoedd i gyflwyno dysgu mewn amrywiaeth o ffyrdd gwahanol drwy gydol y cwrs. Mae nifer o’r dulliau yn cynnwys perfformiadau, portffolios, ffug glyweliadau, asesiadau dosbarth, podlediadau, ysgrifennu traethodau a chyflwyniadau.

Gwybodaeth allweddol

Staff
  • Tori Johns
  • Amy Guppy
  • Alexa Bustamante
  • Jack Philp
  • Leighton Wall
Meini Prawf Mynediad

120 o Bwyntiau UCAS

Cyfleoedd Gyrfa

Mae’r cwrs hwn wedi’i lunio i roi i chi’r sgiliau angenrheidiol i fod yn artist dawns llwyddiannus. Drwy raddio’ o’r BA Dawns Fasnachol, byddwch wedi eich paratoi i ymgymryd â rolau fel:

• Perfformiwr
• Coreograffydd
• Teithio
• Dawns Ddigidol

Mae’r radd hon hefyd yn agor y drws i amrywiaeth o gyfleoedd eraill mewn meysydd eraill drwy ddatblygu sgiliau trosglwyddadwy allweddol trwy gydol y dair blynedd.

Costau Ychwanegol

Byddai costau ychwanegol yn cynnwys prynu’r canlynol:

  • esgidiau bale
  • esgidiau jazz
  • sgidiau tap
  • leotardau
  • teits bale merched
  • legins du neillryw
  • top dawns dynion
  • esgidiau cymeriad merched
Gwybodaeth Pellach

Os hoffech wybod mwy, ymwelwch â Academi Llais a Chelfyddydau Dramatig Cymru.