Hafan YDDS - Astudio Gyda Ni - Cyrsiau Israddedig - Peirianneg Ynni ac Amgylcheddol (BEng)
Mae Peirianneg Ynni ac amgylcheddol yn parhau ar reng flaen ymchwil mawr i ffynonellau ynni a thechnoleg lleihau carbon y dyfodol. Yr her go iawn yw lleihau ein heffaith amgylcheddol fel bodau dynol heb effeithio ar ein bywydau beunyddiol. Mae diogelwch ynni yn fater allweddol ac mae angen datblygu ffynonellau ynni mwy cynaliadwy fel y gallwn leihau neu waredu ar allyriadau niweidiol a ddaw o danwydd ffosil traddodiadol.
Mae Llywodraeth y DU a Senedd Cymru wedi cydnabod bod wir angen datblygu peirianwyr a rheolwyr ym maes technoleg ynni ac amgylcheddol i dderbyn yr her hon o ran parhau i ddatblygu’r maes gwerth uchel gweithgynhyrchu hwn.
Bydd ein rhaglen radd Peirianneg Ynni ac Amgylcheddol yn eich helpu i ddatblygu sgiliau sy’n werthfawr i ystod eang o gyflogwyr, megis y gallu i ddadansoddi gwybodaeth gymhleth yn feirniadol; y gallu i gyflwyno dadleuon clir a rhesymegol a’r gallu i gyflwyno gwybodaeth gymhleth yn glir.
Bydd addysg o’r fath yn datblygu ymwybyddiaeth o gydgysylltiad materion amgylcheddol a chynaliadwy ac yn rhoi i chi gymhwyster sy’n berthnasol i nifer o wahanol sefyllfaoedd cymhwysol.
Achredwyd y radd Faglor ganlynol fel un sy’n bodloni’r gofynion academaidd, yn rhannol, ar gyfer cofrestru fel Peiriannydd Siartredig (CEng yn rhannol) ar gyfer y carfanau derbyn o 2015 hyd at, ac yn cynnwys, 2023:
- BEng(Anrh) Peirianneg Ynni ac Amgylcheddol (Llawn Amser 3 Blynedd; EngC)
Peirianneg Ynni Ac Amgylcheddol (BEng)
Cod UCAS: 42U0
Gwnewch gais trwy UCAS
Peirianneg Ynni Ac Amgylcheddol (BEng gyda Blwyddyn Sylfaen)
Cod UCAS: 48C3
Gwnewch gais trwy UCAS
Cadw Lle ar Ddiwrnod Agored Cais am Wybodaeth
Ffioedd Dysgu 2023/24:
Cartref: (Llawn-amser): £9,000 y flwyddyn
Tramor (Llawn-amser): £13,500 y flwyddyn
Pam dewis y cwrs hwn?
- Mae rhagolygon gyrfa ar gyfer Peirianwyr Ynni ac Amgylcheddol yn dda iawn, ac mae’r galw am beirianwyr yn y sector hwn yn uchel iawn ar hyn o bryd. Rhagwelir y bydd angen 1.5 miliwn yn fwy o beirianwyr ar draws Ewrop yn y maes hwn dros y pum i ddeng mlynedd nesaf.
- Mae’r Drindod Dewi Sant yn darparu amgylchedd croesawgar a chefnogol lle gall myfyrwyr ffocysu ar broblemau/cymwysiadau byd go iawn. Bydd myfyrwyr yn gweithio mewn grwpiau bach i ddatblygu datrysiadau i ystod o broblemau gan ganiatáu datblygu gwaith tîm, arweinyddiaeth, rheoli prosiectau a datblygu cysyniadau.
- Rhoddir i chi’r cyfle i ymweld ag amrywiaeth o sefydliadau sy’n rhan o gynhyrchu trydan a chynhyrchu/defnyddio technolegau amgylcheddol, er enghraifft, Gorsaf Ynni Penfro, y Ganolfan Technoleg Amgen, y Grid Cenedlaethol, ayb.
- Mae eich prosiect blwyddyn olaf yn rhoi’r cyfle i chi arbenigo mewn maes diddordeb o’ch dewis.
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Bwriad y rhaglenni Peirianneg Ynni ac Amgylcheddol yw rhoi sylfaen drylwyr i fyfyrwyr ym maes egwyddorion a chysyniadau peirianneg a chymhwyso hyn i broblemau ynni ac amgylcheddol (YacA).
Mae angen i Beiriannydd YacA ddatblygu datrysiadau newydd ac arloesol i helpu datrys problemau YacA cyfredol, yn ogystal â rhai’r dyfodol.
Mae Peirianneg Ynni’n cynnwys astudio dulliau cynhyrchu ynni cyfredol yn ogystal â datblygu technolegau ym maes cynhyrchu ynni. Mae angen defnyddio’r mathau hyn o ynni’n effeithiol fel ein bod yn defnyddio llai o ynni yn y dyfodol gan barhau i fodloni anghenion cymdeithas.
Diben Peirianneg Amgylcheddol yw parhau i leihau a dileu’r effeithiau niweidiol y mae dyn eu cael ar yr amgylchedd. Mae hyn yn cynnwys edrych ar ddulliau y gellir eu defnyddio i reoli llygredd aer, dŵr a sŵn drwy ddeall yr egwyddorion tu ôl i sut mae technolegau rheoli llygredd yn gweithio.
Yn ogystal, bydd myfyrwyr yn datblygu gwybodaeth mewn ystod addas o brosesau a defnyddiau. Bydd y rhaglen hefyd yn ystyried agweddau amgylcheddol ar ddylunio a thechnegol ac yn galluogi i fyfyrwyr ennill ystod o sgiliau, sy’n berthnasol i ystod eang o gyfleoedd cyflogaeth.
Blwyddyn Sylfaen (Tyst AU mewn STEM)
Mae’r flwyddyn sylfaen wedi’i llunio i ddatblygu eich sgiliau mathemategol, dadansoddol ac astudio, i roi i chi’r sgiliau academaidd angenrheidiol sydd eu hangen i astudio peirianneg yn llwyddiannus ar lefel gradd.
- Sgiliau Academaidd (20 credyd; gorfodol)
- Mathemateg Bellach (20 credyd; gorfodol)
- Gwyddoniaeth Bellach ar gyfer Peirianneg (20 credyd; gorfodol)
- Prosiect Integreiddiol (20 credyd; gorfodol)
- Cyflwyniad i Fathemateg a Gwyddoniaeth (20 credyd; gorfodol)
- Gweithgynhyrchu a Defnyddiau (20 credyd; gorfodol)
Blwyddyn Un – Lefel 4 (HNC, HND a BEng)
- Egwyddorion Trydanol ac Electronig (20 credyd; gorfodol)
- Cymwysiadau Peirianneg a Sgiliau Astudio (20 credyd; pas cydran)
- Dylunio Peirianneg (20 credyd; gorfodol)
- Mathemateg Beirianneg (20 credyd; gorfodol)
- Gwyddor Beirianneg (20 credyd; gorfodol)
- Defnyddiau a Chyflwyniad i Brosesu (20 credyd; gorfodol).
Blwyddyn Dau – Lefel 5 (HND a BEng)
- Rheoli ac Awtomatiaeth (20 credyd; gorfodol).
- Peirianneg Amgylcheddol ac Ynni Cynaliadwy (20 credyd; gorfodol)
- Prosiect Grŵp (20 credyd; pas cydran)
- Rheoli, Arloesi a Chynaliadwyedd (20 credyd; pas cydran)
- Dadansoddi Straen a Dynameg (20 credyd; gorfodol)
- Mecaneg Thermohylif (20 credyd; gorfodol).
Blwyddyn Tri – Lefel 6 (BEng)
- Dulliau Cyfrifiannol (20 credyd; pas cydran)
- Rheoli Llygredd Amgylcheddol (20 credyd; gorfodol)
- Prosiect Annibynnol (40 credyd; gorfodol; modwl Fframwaith Priodoleddau Graddedigion)
- Peirianneg Peiriannau ac Asedau (20 credyd; gorfodol)
- Dadansoddi Strwythurol a Hylif ( 20 credyd; gorfodol).
Mae gan fyfyrwyr y math yma o raglen ddiddordeb naturiol yn eu harbenigedd, a nod y tîm addysgu yw ennyn y diddordeb hwn fel bod myfyrwyr yn mwynhau dysgu a gwerthfawrogi’r manteision y gall gradd beirianneg eu hychwanegu i gefnogi eu meysydd diddordeb.
Bydd asesiadau’r rhaglen yn gymysgedd o waith cwrs ac arholiadau ffurfiol. Bydd cyflwyniadau hefyd yn rhan o fodylau fel y prosiect grŵp a phrosiect Mawr lle cewch y cyfle i arddangos eich gwaith.
Nod y Fframwaith yw datblygu eich sgiliau a’ch cymwyseddau proffesiynol ochr yn ochr â’ch gwybodaeth pwnc academaidd. Byddwch yn astudio hyd at 40 credit ar bob level trwy gydol eich rhaglen o’r Fframwaith Priodoleddau Graddedigion.
Mae’r modylau Priodoleddau Graddedigion wedi’u cynllunio i’ch galluogi i ddatblygu, a phrofi, ystod o sgiliau sy’n ffocysu ar eich gyrfa ac yn gysylltiedig â’ch maes pwnc. Mae’r sgiliau hyn yn cynnwys medrusrwydd digidol, ymchwil a rheolaeth prosiect, yn ogystal â medrusrwydd personol fel cyfathrebu, creadigrwydd, hunan-fyfyrio, cadernid a datrys problemau.
- Dysgwch ragor am y Fframwaith Priodoleddau Graddedigion
Dolenni Cysylltiedig
SA1 Glannau Abertawe
Gwybodaeth allweddol
BEng
112 pwynt (280 yn flaenorol) o bynciau Safon Uwch rhifog neu dechnegol, gan gynnwys Mathemateg neu Ffiseg gradd B neu uwch. Hefyd, mae angen TGAU Mathemateg gradd C. Gellir ystyried profiad perthnasol.
Nid yw ein cynigion yn seiliedig ar ganlyniadau academaidd yn unig. Rydym yn ystyried eich sgiliau, cyraeddiadau a phrofiad bywyd hefyd. Yn yr achosion hyn, rhaid darparu tystiolaeth o allu i ddilyn y cwrs yn llwyddiannus. Rydym yn hoffi rhoi pob cyfle i ymgeiswyr o’r fath ddangos bod ganddynt y cymhelliant a’r gallu i lwyddo yn eu dewis raglen.
Mae’r diwydiant yn cynnwys gweithgynhyrchwyr arbenigol bychain a diwydiannau graddfa fawr. Mae yna farchnad glir i fyfyrwyr gael eu cyflogi yn y maes hwn, ac mae’r galw am raddedigion peirianneg amgylcheddol yn parhau’n uchel a chynigir cyflogau cychwyn rhagorol i raddedigion.
Mae’n bosibl cwblhau’r rhaglen astudio hwn heb unrhyw gostau ychwanegol.
Efallai yr hoffai myfyrwyr brynu deunyddiau ar gyfer modylau, megis y prif brosiect, ond nid yw hyn yn ofyniad ac ni chaiff unrhyw effaith ar y marc terfynol.
Harjot Ubhi, BEng (Anrh) Peirianneg Ynni ac Amgylcheddol
“Rwyf wedi mwynhau mathemateg, ffiseg a chemeg syml erioed, ac mae’r rhaglen hon yn cynnig ystod eang o beirianneg fecanyddol gyda ffocws ar yr amgylchedd a darparu ynni glân ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Mae’r staff yn gyfeillgar ac yn barod iawn i helpu – cawn fwy o gyswllt gan fod y dosbarthiadau’n fach.”
Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i gefnogi eich astudiaethau. I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael ewch i’n hadran Ysgoloriaethau a Bwrsarïau.
Ewch i dudalen Teithio’r Byd gyda’r Drindod Dewi Sant i ddysgu rhagor am gyfleoedd i astudio dramor.
Ewch i'r adran llety i ddysgu rhagor.
Cysylltwch â ni os oes gennych unrhyw gwestiynau am y Brifysgol neu’r cwrs hwn yn arbennig.