Skip page header and navigation

Adeiladu Cynaliadwy (Llawn amser) (MSc)

Abertawe
1 Flwyddyn Llawn amser

Mae’r diwydiant adeiladu yn gyflogwr enfawr, a chredir bod dros 100 miliwn o bobl yn dibynnu arno ledled y byd. O ganlyniad mae’r amgylchedd adeiledig y mae’r diwydiant yn ei greu yn gyfrifol am bron i 50% o’n hallyriadau carbon gan ei fod yn defnyddio canran gyfartal o ddeunyddiau naturiol sydd wedi’u hechdynnu, gan gynhyrchu llawer iawn o wastraff sy’n mynd i safleoedd tirlenwi a chan ddefnyddio llawer iawn o ddŵr, a’r cyfan yn adnoddau gwerthfawr sy’n mynd yn fwyfwy prin.

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Ar y campws
  • Llawn amser
Iaith:
  • Saesneg
Hyd y cwrs:
1 Flwyddyn Llawn amser

Pam dewis y cwrs hwn

01
Amgylchedd dysgu cefnogol, gyda sylw personol yn cael ei roi i bob myfyriwr.
02
Y profiadau dysgu llwyddiannus a phleserus sydd wrth graidd ein gweledigaeth i gynhyrchu gweithwyr proffesiynol heb eu hail ac sydd â sgiliau cyflogadwyedd uchel.
03
Ein lleoliad trefol/morol sy'n agos iawn at 'Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol' gyntaf Prydain.
04
Dosbarthiadau o 15 neu lai fel arfer, sy’n creu diwylliant ac amgylchedd lle mae anghenion myfyrwyr unigol yn cael eu clywed a’u cefnogi.
05
Addysg sy’n cael ei lywio gan waith ymchwil mewn pynciau sy'n ymestyn ar draws ein portffolio, gyda chefnogaeth briodol gan arbenigwyr allanol o bob cwr o'r byd.
06
Rydym yn credu mewn ymgysylltu â chyflogwyr er mwyn datblygu, cyflwyno ac adolygu cyrsiau sy'n gwella cyflogadwyedd ein graddedigion mewn ffordd sy'n ganolog i'n gweledigaeth ar gyfer myfyrwyr, y ddinas a'r rhanbarth.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Mae diwydiant adeiladu’r DU mewn sefyllfa dda i elwa o’r newid byd-eang tuag at economi carbon isel ac adeiladu gwyrdd, ond er mwyn gwireddu’r potensial hwn mae’n rhaid parhau i sicrhau buddsoddiad mewn arloesi a thechnoleg yn ogystal â chael mwy o gydweithio rhwng busnesau a sefydliadau ymchwil.  

Mae lle hefyd i wneud rhagor o gynnydd, yn enwedig o ran mynd i’r afael â phrinderau amlwg mewn sgiliau. Rhagwelir y bydd y diwydiant adeiladu gwyrdd a chynaliadwy byd-eang yn tyfu o ganlyniad i ragor o ofynion rheoleiddio carbon isel a mwy o alw gan gymdeithas am gynhyrchion mwy gwyrdd. Mae’n ymddangos bod y farchnad yn cydnabod y cyfleoedd hyn.

Mae stoc dai bresennol y DU, sy’n gyfrifol am fwy na hanner allyriadau nwyon tŷ gwydr yr amgylchedd adeiledig, yn cynnig cyfleoedd ar gyfer twf a datblygiad i farchnad adeiladu gynaliadwy a charbon isel y DU.  

Mae’r rhaglen yn gwella nifer o sgiliau trosglwyddadwy uwch, ac yn darparu ystod o sgiliau sy’n addas ar gyfer amrywiaeth eang o gyfleoedd yn y dyfodol, yn ogystal â darparu sgiliau a chymwyseddau i’r myfyrwyr hynny sy’n symud ymlaen i wneud MPhil / PhD. Mae ein myfyrwyr MSc yn aml yn symud ymlaen i’n rhaglenni PhD.

Mae cynaliadwyedd yn cael ei ystyried yn flaenoriaeth ym maes adeiladu, maes sydd, oherwydd ei natur, yn rhoi baich trwm ar yr amgylchedd. Mae’r cysyniad o gynaliadwyedd yn cael ei gynnal gadarn trwy gydol y rhaglen, a bydd myfyrwyr yn dysgu am enghreifftiau ‘go iawn’ o arferion sydd wedi sefydlu erbyn hyn.

Gorfodol

Gwasanaethau Adeiladu a Pherfformiad Ynni mewn Adeiladau

(20 credydau)

Technoleg Adeiladu a Rheoli Gwybodaeth Adeiladu

(20 credydau)

Cynllunio a Pholisi Amgylcheddol

(20 credydau)

Rheoli'r Amgylchedd Gweithio Integredig

(20 credydau)

Datblygu Cynaliadwy

(20 credydau)

Prosiect Gradd Meistr

(60 credydau)

Dulliau Ymchwil a Datblygiad Proffesiynol

(20 credydau)

Disclaimer

  • Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio. 

    Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall. 

tysteb

Staff

Staff

Cewch eich addysgu a’ch cefnogi gan amrywiaeth eang o staff a thimau proffesiynol sydd yma er mwyn eich helpu i gael y profiad prifysgol gorau posibl. Daeth ein staff addysgu’n 2il yng Nghymru am asesiadau ac adborth (NSS 2023) sy’n golygu y bydd y sylwadau a gewch chi ar eich gwaith yn eich helpu i ddysgu. O ganlyniad i’n hymrwymiad i’ch dysgu mae ein myfyrwyr wedi ein gosod yn y 10 gorau yn y DU am Ddarlithwyr ac Ansawdd Addysgu. Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Llety

example of student bedroom

Llety Abertawe

Mae gan Abertawe boblogaeth enfawr o fyfyrwyr, a bydd yr amrywiaeth o lety sydd ar gael yn eich gadael yn teimlo’n ddifeth o ddewis. Darperir llety yn Abertawe gan wahanol ddarparwyr llety myfyrwyr pwrpasol a gall y tîm llety eich arwain trwy eich opsiynau a bydd yn cynnig cefnogaeth barhaus trwy gydol eich amser fel myfyriwr PCYDDS.

Gwybodaeth allweddol

  • Gall ymgeiswyr gofrestru ar y rhaglen Gradd Meistr hon os oes ganddynt un o’r cymwysterau canlynol yn barod:

    • gradd cychywnnol gan gorff dyfarnu graddau cymeradwy;
    • cymhwyster sydd ddim yn radd ond sydd o safon briodol er mwyn ymuno â rhaglen ôl-raddedig;
    • gofynion mynediad penodol y rhaglen.
    • Gall ymgeiswyr hefyd gael eu hystyried yn gymwys i ymuno â’r rhaglen Gradd Meistr os ydynt wedi gweithio mewn swydd briodol sy’n berthnasol i’r rhaglen am o leiaf dwy flynedd.      Byddwn yn ystyried pob achos o’r fath yn unigol.
    • Rhaid i fyfyrwyr rhyngwladol feddu ar gymwysterau/profiad perthnasol sy’n cyfateb i’w cymheiriaid yn y DU, yn ogystal â sgiliau iaith da a thystiolaeth o sgôr IELTS o 6.5 ar gyfer siaradwyr Saesneg nad ydynt yn frodorol.
    • Fel rhan o’n dull dysgu cynhwysol, rydym yn annog ceisiadau gan fyfyrwyr sy’n dod o lwybrau mwy anarferol neu’r rhai sydd heb gymwysterau addysg ond sydd â chymwysterau proffesiynol priodol neu brofiad broffesiynol sylweddol.
  • Fel arfer, mae’r Rhaglen yn defnyddio dulliau asesu ffurfiannol neu grynodol. Mae asesiadau ffurfiannol yn cael eu cynllunio er mwyn sicrhau bod myfyrwyr yn datblygu ymwybyddiaeth o’u cryfderau a’u gwendidau eu hunain. Fel arfer, bydd asesiadau o’r fath ar ffurf gwaith ymarferol sy’n dangos gallu’r myfyriwr ar draws ystod o weithgareddau.

    O ran asesiadau ffurfiol traddodiadol sydd â chyfyngiadau amser, bydd y rhain ar ffurf profion ac arholiadau sydd fel arfer yn ddwy awr o hyd. Mae arholiadau yn ffordd draddodiadol o wirio mai’r myfyriwr ei hun sy’n cynhyrchu’r gwaith. 

    Mewn rhai modiwlau, er mwyn helpu i ddilysu gwaith cwrs, bydd angen i’r myfyriwr a’r darlithydd drafod y pwnc sy’n cael ei asesu yn unigol fel bo’r darlithydd yn gallu monitro cynnydd.

    Yn rhai o’r modiwlau lle mae’r asesiad yn seiliedig ar ymchwil, bydd angen i’r myfyrwyr gyflwyno canlyniadau eu gwaith ymchwil i’r darlithydd a’u cyfoedion ar lafar neu’n weledol, ac yna gymryd rhan mewn sesiwn holi ac ateb.

    Mae strategaethau asesu o’r fath yn cyd-fynd â strategaethau dysgu ac addysgu’r tîm, hynny yw, lle mai’r nod yw cynhyrchu gwaith sy’n cael ei yrru’n bennaf gan y myfyriwr, mae’n unigol a myfyriol a, lle bo hynny’n briodol, mae’n canolbwyntio ar alwedigaeth. Bydd myfyrwyr yn dechrau derbyn adborth yn fuan yn y cyfnod astudio, ac yn parhau i’w dderbyn trwy gydol y sesiwn astudio, gan ychwanegu mwy o werth i ddysgu’r myfyriwr.

  • Bydd mynediad i’ch dyfais ddigidol eich hun/y pecyn TG priodol yn hanfodol yn ystod eich amser yn astudio gyda PCYDDS. Bydd mynediad at wifi yn eich llety hefyd yn hanfodol i’ch galluogi i ymgysylltu’n llawn â’ch rhaglen. Gweler ein tudalennau gwe pwrpasol i gael arweiniad pellach ar ddyfeisiau addas i’w prynu, ac i gael canllaw llawn ar sefydlu’ch dyfais.

    Efallai y byddwch chi’n wynebu costau ychwanegol tra byddwch chi yn y brifysgol, gan gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i):

    • Teithio i’r campws ac oddi yno
    • Costau argraffu, llungopïo, rhwymo, deunydd ysgrifennu ac offer (e.e. ffyn USB)
    • Prynu llyfrau neu werslyfrau
    • Gwisgoedd ar gyfer seremonïau graddio

    Bydd disgwyl i chi brynu tiwnig i’w gwisgo yn y lleoliad clinigol - rhoddir fanylion pellach pan fyddwch chi’n dechrau’r rhaglen.

  • Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau.  I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.

  • Mae’r MSc yn cael ei gydnabod yn eang fel cymhwyster ôl-raddedig gwerthfawr.  Mae’n arwydd bod y myfyriwr yn gallu ymrwymo i raglen astudio ac yn gallu datblygu eu gwybodaeth o fewn y maes astudio academaidd. Bydd y rhaglen yn helpu myfyrwyr i ddatblygu sgiliau sy’n werthfawr i ystod eang o gyflogwyr, megis y gallu i ddadansoddi gwybodaeth gymhleth yn feirniadol; y gallu i gyflwyno dadleuon eglur a chydlynol, a’r gallu i gyflwyno gwybodaeth gymhleth mewn ffordd eglur. 

    Bydd addysg o’r fath yn datblygu ymwybyddiaeth o gydgysylltedd yr amgylchedd adeiledig, ac mae’r cymhwyster yn berthnasol i nifer o wahanol sefyllfaoedd galwedigaethol. Mae hyblygrwydd y rhaglen fodiwlaidd yn galluogi myfyrwyr i ddatblygu pecynnau astudio sy’n bodloni eu diddordebau arbenigol a’u dyheadau gyrfa ym maes yr amgylchedd adeiledig. 

    Mae llawer o sefydliadau mawr ym myd busnes bellach wedi sefydlu systemau rheoli a gweithdrefnau archwilio, ac o ddilyn llwybrau gyrfa ein cyn-fyfyrwyr gwelwn fod cyfleoedd iddynt ar bob lefel o reoli. Bydd y radd hon, a ddatblygwyd mewn ymgynghoriad â’r BRE a Chwmnïau/Ymgynghorwyr mawr eraill, yn helpu myfyrwyr i ddatblygu gyrfa yn y meysydd hyn.  Mewn gwirionedd, mae’r cyswllt annatod â’r BRE yn arwydd o safon i fyfyrwyr ac i gyflogwyr cysylltiedig y rhaglen hon. 

    Mae gan yr Ysgol hanes hir o feithrin cysylltiadau â’r diwydiant, ac ers y 1990au mae rhaglenni wedi cynnal cyfarfodydd cyswllt diwydiannol bob blwyddyn.  Mae’r adborth a geir ar bolisïau, mentrau a materion newydd yn llywio’r cwricwlwm, yr addysgu a’r ymarfer, yn enwedig y mewnbwn gwerthfawr a gafwyd (yn enwedig gan BRE) cyn dilysu’r rhaglenni. Bydd y cysylltiadau hefyd yn caniatáu i fyfyrwyr gael profiad o weithio ar brosiectau ‘byw’. 

    Roedd argymhellion y BRE ar gynnwys y rhaglenni/rhaglenni arfaethedig yn cynnwys:

    • Rhoi cyfle i fyfyrwyr weithio ar brosiectau rhyngddisgyblaethol gyda myfyrwyr sy’n astudio cymwysterau eraill sy’n gysylltiedig ag adeiladu, er enghraifft, penseiri, syrfewyr, peirianwyr sifil, syrfewyr meintiau, cynllunwyr a chrefftwyr; byddai’r hyn yn efelychu sut mae prosiectau adeiladu yn y byd go iawn.
    • Galluogi myfyrwyr i ennill profiad ymarferol, a thrwy hynny ddefnyddio’r theori y maen nhw wedi’i ddysgu.

    Mae’r mathau yma o addysgu, sydd â’r diwydiant yn sail iddo, yn rhoi cyfle i lywio addysg, dysg, ac asesu, ac yn gwneud myfyrwyr yn fwy deniadol i gyflogwyr.