Hafan YDDS  -  Astudio Gyda Ni  -  Cyrsiau Israddedig  -  Iechyd, Maetheg a Ffordd o Fyw (BSc)

Iechyd, Maetheg a Ffordd o Fyw (BSc)

Ymgeisio Drwy UCAS - Llawn Amser

Mae’r rhaglen radd hon wedi’i lunio ar gyfer unigolion sydd â diddordeb brwd mewn maeth ac iechyd.

Datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth drylwyr o Iechyd, Maeth a Ffordd o Fyw yw un o brif ffocysau ein rhaglen. Fodd bynnag, byddwch hefyd yn datblygu set sgiliau eang, gwerthfawr sy’n berthnasol a throsglwyddadwy i nifer o ddiwydiannau. Yn ogystal â’r sgiliau ymarferol sy’n ymwneud ag iechyd a maeth, byddwch yn datblygu sgiliau allweddol megis arweinyddiaeth, cyfathrebu, datrys problemau a meddwl yn feirniadol.

Mae’r rhaglen hon yn ymrwymo i roi i chi’r paratoad gorau un ar gyfer byd gwaith. Mae perthnasedd galwedigaethol yn thema gref, ac fe’ch anogir i gael profiad a chymwysterau ychwanegol i gefnogi eich uchelgeisiau gyrfaol ochr yn ochr â’ch astudiaethau academaidd.

Yn rhan o gynnig ehangach y campws, cewch gyfleoedd i gasglu dyfarniadau allanol, fel y cymwysterau hyfforddwr campfa, hyfforddwr personol a chymorth cyntaf. Hefyd, bydd cyfleoedd i chi gael profiad ymarferol o weithgareddau asesu iechyd a dadansoddi dietegol, sy’n berthnasol i broblemau ac achosion yn y byd go iawn. Mae gan y rhaglen labordy maeth pwrpasol lle gallwch gyrchu adnoddau maetheg-benodol a defnyddio meddalwedd dadansoddi dietegol.

Bydd ystod y dulliau’n cynnwys cyflwyniadau llafar ac ysgrifenedig, arholiadau (wedi’u gweld, heb eu gweld, gwaith cwrs), astudiaethau achos, asesiad cymheiriaid, adroddiadau profiad gwaith yn ogystal â gwaith seiliedig ar brosiect.

Mae’r rhaglen wedi cael ei hachredu’n allanol gyda’r Gymdeithas Maeth (AfN). Ar ôl cwblhau’r rhaglen, byddwch yn gymwys i gael statws Maethegydd Cyswllt Cofrestredig, gan ganiatáu i chi ddefnyddio’r llythrennau, ‘A. Nutr.' ar ôl eich enw.

40 Credyd icon

Gallwch astudio 40 credyd o’r cwrs yma drwy gyfrwng y Gymraeg.

Association for Nutrition - Accreditation logo

OPSIYNAU LLWYBR A SUT I YMGEISIO

Iechyd, Maetheg a Ffordd o Fyw (BSc)
Cod UCAS: LB54
Gwneud cais drwy UCAS

Iechyd, Maetheg a Ffordd o Fyw (TystAU)
Cod UCAS: HNL6
Gwneud cais drwy UCAS


Cadw Lle ar Ddiwrnod Agored Cais am Wybodaeth
Enw'r cyswllt:: Alison Connaughton


Ffioedd Dysgu 2023/24:
Cartref: (Llawn-amser): £9,000 y flwyddyn
Tramor (Llawn-amser): £13,500 y flwyddyn

Pam dewis y cwrs hwn?

  • Mae modylau ymarferol yn caniatáu i chi gael profiad o weithio yn y gymuned (e.e. hybu iechyd ar waith)
  • Mae myfyrwyr yn gymwys i gofrestru gyda’r Gymdeithas Maeth ar ôl graddio.
  • Cyfleoedd i gael dyfarniadau galwedigaethol ychwanegol (e.e. cymorth cyntaf, hyfforddwr campfa, hyfforddwr personol)
  • Opsiwn i astudio semester dramor (America) trwy ein rhaglen gyfnewid (ar gael yn yr ail flwyddyn)
  • Modwl lleoliad gwaith ar gael yn yr ail flwyddyn.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Trosolwg o'r Cwrs

Caiff pwysigrwydd cynnal ffordd o fyw iach ar gyfer llesiant yr unigolyn ei archwilio yn y rhaglen radd hon.

Byddwch yn dysgu sut y mae maeth ac ymarfer corff yn effeithio ar y corff ac yn effeithio ar iechyd a llesiant yr unigolyn. Yn ogystal â hyn, byddwch yn archwilio'r ffactorau seicolegol a chymdeithasegol sy’n gallu dylanwadu ar ymddygiad cysylltiedig ag iechyd.

Mae’r cwrs yn cynnwys modylau sy’n caniatáu i chi ddatblygu eich gwybodaeth a chymhwysiad strategaethau hyrwyddo iechyd cyfredol.

Cewch gyfle i ddefnyddio offer y labordy i gael profiad ymarferol o ddefnyddio meddalwedd dadansoddi dietegol, ac o asesu lefelau iechyd a ffitrwydd unigolion.

Pynciau Modylau

Blwyddyn 1 (Tyst AU, Dip AU a BSc)

  • Heriau Cyfoes: Gwneud Gwahaniaeth (20 credyd; dewisol)
  • Ffisioleg a Ffitrwydd Dynol (20 credyd; gorfodol)
  • Cyflwyniad i Seicoleg Iechyd ac Ymarfer Corff (20 credyd; gorfodol)
  • Dysgu yn yr Oes Ddigidol (20 credyd; gorfodol; un o fodylau’r Fframwaith Priodoleddau Graddedigion)
  • Maeth er mwyn Iechyd (20 credyd; gorfodol)
  • Hyfforddiant Personol (20 credyd; dewisol)
  • Gwyddor Maeth (20 credyd; gorfodol). 

Blwyddyn 2 (Dip AU a BSc)

  • Ysgogwyr Newid: Adeiladu eich Brand Personol ar gyfer Cyflogaeth Gynaliadwy (20 credyd; dewisol; un o fodylau’r Fframwaith Priodoleddau Graddedigion)
  • Dadansoddiad Dietegol (20 credyd; gorfodol)
  • Darganfod Ffyrdd o Fyw Awyr Agored (20 credyd; dewisol)
  • Ffisioleg Ymarfer Corff (20 credyd; dewisol)
  • Iechyd a Lles mewn Addysg (20 credyd; dewisol)
  • Hybu Iechyd ar Waith (20 credyd; gorfodol)
  • Maeth ar gyfer Chwaraeon ac Ymarfer Corff (20 credyd; gorfodol)
  • Ymchwil mewn Iechyd a Gweithgarwch Corfforol (20 credyd; gorfodol)
  • Seicoleg Ymarfer Corff a Gweithgarwch Corfforol (20 credyd; gorfodol).

Blwyddyn 3 (BSc)

  • Maeth Cymhwysol a Dadansoddiad Dietegol (20 credyd; gorfodol)
  • Prosiect Annibynnol (40 credyd; dewisol; un o fodylau’r Fframwaith Priodoleddau Graddedigion)
  • Adolygiad Llenyddiaeth mewn Iechyd, Gweithgarwch Corfforol a Maeth (20 credyd; dewisol)
  • Safbwyntiau ar Iechyd a Gweithgarwch Corfforol (20 credyd; gorfodol)
  • Ymchwil Cynradd mewn Iechyd, Gweithgarwch Corfforol a Maeth (20 credyd; dewisol)
  • Maeth Iechyd y Cyhoedd (20 credyd; gorfodol)
  • Polisïau a Strategaethau Cyhoeddus mewn Iechyd (20 credyd; gorfodol).
Fframwaith Priodoleddau Graddedigion

Nod y Fframwaith yw datblygu eich sgiliau a’ch cymwyseddau proffesiynol ochr yn ochr â’ch gwybodaeth pwnc academaidd. Byddwch yn astudio hyd at 40 credit ar bob level trwy gydol eich rhaglen o’r Fframwaith Priodoleddau Graddedigion. 

Mae’r modylau Priodoleddau Graddedigion wedi’u cynllunio i’ch galluogi i ddatblygu, a phrofi, ystod o sgiliau sy’n ffocysu ar eich gyrfa ac yn gysylltiedig â’ch maes pwnc. Mae’r sgiliau hyn yn cynnwys medrusrwydd digidol, ymchwil a rheolaeth prosiect, yn ogystal â medrusrwydd personol fel cyfathrebu, creadigrwydd, hunan-fyfyrio, cadernid a datrys problemau. 

Dolenni Perthnasol

Gwybodaeth allweddol

Meini Prawf Mynediad

Fel rheol, ar gyfer y rhaglen BSc (Anrh) Iechyd, Maetheg a Ffordd o Fyw, dylai’r gofynion mynediad gynnwys TGAU (neu gyfwerth) gradd C ac uwch (lefel 4 ar y strwythur newydd) mewn Saesneg Iaith a Mathemateg. Yn ogystal, rhagwelir y bydd gan ymgeiswyr o leiaf un Safon Uwch, ‘Irish Leaving Certificate’, ‘Scottish Higher’, neu gyfwerth mewn pwnc gwyddoniaeth addas. Fel arfer, y gofyniad mynediad lleiaf ar gyfer y rhaglen yw 96 o bwyntiau UCAS.

Gall y gofynion mynediad academaidd a phroffesiynol ar gyfer ymgeiswyr dros 21 oed gymryd i ystyriaeth brofiad perthnasol a chymwysterau blaenorol cyfwerth. I asesu addasrwydd myfyriwr ar gyfer eu dewis gwrs gallwn drefnu cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr. Yn y cyfweliad, byddai eich sgiliau, cyraeddiadau a phrofiad bywyd yn cael eu hystyried yn ogystal â’ch cymwysterau.

Ar gyfer myfyrwyr rhyngwladol, rhaid i’r gofynion mynediad fod yn lled gyfwerth â’r rheiny a ddisgwylir gan fyfyrwyr y DU. Wrth gael eu derbyn, rhaid i fyfyrwyr nad  Saesneg yw eu mamiaith feddu ar ofynion Iaith Saesneg priodol ar gyfer rhaglen a Achrededir gan AfN, heb fod yn llai na 6.5 IELTS (neu gyfwerth), heb yr un adran unigol yn llai na 6.0.

Os nad oes gennych y cymwysterau hyn neu os nad ydych yn sicr am eich cymhwysedd, cysylltwch â’r Brifysgol drwy e-bostio registry@uwtsd.ac.uk

Cyfleoedd Gyrfa

Bellach mae Graddedigion y BSc. Iechyd, Maeth a Ffordd o Fyw yn dilyn ystod o lwybrau gyrfaol. Ymhlith yr enghreifftiau o weithleoedd presennol y graddedigion hyn, mae:

  • Swyddog Ymgysylltu 50+
  • Swyddog Llesiant Cymunedol
  • Cynorthwyydd Dieteteg (GIG)
  • Swyddog Iechyd a Lles (dros 50)
  • Ymgynghorydd Ffordd o Fyw Iach (meddygfa)
  • Prif Swyddog Iechyd
  • Rheoli cyfleustra ymarfer corff
  • Astudiaethau ôl-radd (e.e. MSc mewn Maetheg)
  • Athro ysgol uwchradd (technoleg bwyd) (ar ôl astudio TAR)

Mae myfyrwyr eraill wedi cwblhau, neu’n wrthi’n gwneud astudiaethau ôl-raddedig ar ffurf graddau MSc mewn pynciau cysylltiedig â maeth, iechyd ac ymarfer corff. 

Costau Ychwanegol
  • £35 – gweithgaredd dros nos ymgynefino ar gyfer holl fyfyrwyr blwyddyn 1.
  • Dillad chwaraeon (£30+) yn amodol ar y cwrs.
Dyfyniadau Myfyrwyr

Kate BSc (Anrh) Un o raddedigion Iechyd, Maeth a Ffordd o Fyw

“Heb y radd mewn Iechyd, Maetheg a Ffordd o Fyw, ni fyddai’r swyddi hyn (Ymarferydd Cynorthwyol Dieteteg a Phrif Swyddog Iechyd – Cymunedau yn Gyntaf) wedi bod yn gyraeddadwy. Magais hyder a’r gallu i gredu yn yr hyn roeddwn wedi’i ddysgu. Cafodd hyn ei hwyluso gan angerdd a brwdfrydedd cyson y darlithwyr.”

Ysgoloriaethau ac Bwrsariaethau

Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i gefnogi eich astudiaethau.  I ddysgu rhagor am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd eraill am arian, ewch i’n hadran Ysgoloriaethau a Bwrsarïau

Cyfleoedd i Astudio Dramor

Mae rhaglenni cyfnewid i’r UD ar gael yn yr ail flwyddyn.