Iechyd a Gofal Plant a Phobl Ifanc (Llawn amser) (DipAU)
Ydych chi eisiau helpu plant a phobl ifanc i fyw bywydau iachach, hapusach? Mae ein DipAU mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol i Blant a Phobl Ifanc wedi’i chynllunio i roi’r sgiliau a’r wybodaeth i chi wneud hynny. Mae’r cwrs yn gymhwyster cydnabyddedig, sy’n agor llwybrau gyrfa cyffrous mewn iechyd, gofal ac addysg.
Rydym yn darparu astudiaethau blaengar sy’n berthnasol i yrfaoedd mewn swyddogaethau sylfaenol gofal o fewn iechyd, gofal ac addysg plant a phobl ifanc sy’n gwella eich gallu i ddefnyddio pwerau ymchwil, myfyrio, dadansoddi a rhesymu yn eu cyd-destun. Byddwch yn dysgu am y syniadau a’r arferion allweddol sy’n helpu plant a phobl ifanc i dyfu a ffynnu. Byddwch yn astudio damcaniaethau pwysig am eu datblygiad a’u lles, a dysgu sut i ddefnyddio’r wybodaeth honno mewn sefyllfaoedd bywyd go iawn a chael effaith gadarnhaol.
Yn ogystal, byddwch yn archwilio materion cyfoes sy’n effeithio ar unigolion, sefydliadau, a chymunedau yn lleol ac yn fyd-eang. Bydd hyn eich helpu i ddeall rôl Iechyd Cyhoeddus wrth fynd i’r afael â’r heriau hyn a gwella iechyd a lles poblogaethau gwahanol.
Mae ein cwrs yn ffocysu ar eich helpu i ddod yn ddysgwr annibynnol a datblygu sgiliau a fydd yn para oes. Mae’r sgiliau hyn yn hanfodol ar gyfer llwyddo yn eich astudiaethau a byddant hefyd yn cefnogi eich gyrfa yn y dyfodol. Byddwch yn adeiladau sylfaen gref ar gyfer cyflogadwyedd, gan ddatblygu’r galluoedd sydd eu hangen i addasu a thyfu yn eich bywyd proffesiynol.
Drwy ddewis DipAU mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol i Blant a Phobl Ifanc, byddwch yn ymuno â chymuned ddysgu gefnogol sydd wedi ymrwymo i’ch helpu i lwyddo. P’un a ydych yn dechrau ar eich gyrfa neu’n chwilio i wella eich rôl bresennol, bydd y rhaglen hon yn rhoi’r sgiliau sydd eu hangen arnoch i wneud gwahaniaeth go iawn.
Rydym hefyd yn cynnig y cyfle i astudio’r holl fodylau drwy gyfrwng y Gymraeg.
Manylion y cwrs
- Saesneg
- Dwyieithog
Ffioedd Israddedig
Cartref (Llawn amser): £9,535 y flwyddyn
Tramor (Llawn amser): £15,525 y flwyddyn
Pam dewis y cwrs hwn
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Mae ein hymagwedd at ddysgu ac addysgu yn seiliedig ar gyfuniad o theori ac ymarfer, gan sicrhau eich bod yn cael yr wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen i ragori mewn iechyd, gofal ac addysg plant a phobl ifanc. Rydym yn canolbwyntio ar ddatblygu meddwl beirniadol, ymarfer adfyfyriol, a chymhwysedd proffesiynol.
Ymwrthodiad
tysteb
Ymwelwch  Ni Ar Gyfer Diwrnod Agored
Dewch i’n hadnabod ni, a’r lle y byddwch yn ei alw’n gartref tra byddwch yn astudio gyda ni, a chwrdd â’r arbenigwyr sy’n arwain ein cyrsiau a chlywed gan ein myfyrwyr presennol ynglŷn â’r hyn maen nhw’n ei garu am astudio gyda ni.
Staff
Ein Pobl
Cewch chi eich dysgu a’ch cefnogi gan ystod eang o staff a thimau proffesiynol yma i’ch helpu i gael y profiad prifysgol rydych chi’n chwilio amdano. Roedd ein staff addysgu yn 2il yng Nghymru am Addysgu, Asesu ac Adborth a Chymorth Academaidd (ACF 2024) sy’n golygu y bydd y cymorth a’r adborth a gewch chi yn eich helpu chi i ddysgu a datblygu sgiliau academaidd cryf. Mae ein myfyrwyr wedi ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru am Gyfleoedd Dysgu a Llais Myfyrwyr (ACF 2024) sy’n golygu bod ystod eang o gyfleoedd ar gael i wella eich astudiaethau a bod myfyrwyr yn chwarae rhan weithredol wrth lunio eu profiadau dysgu. Mae ein hymrwymiad i’ch dysgu chi wedi golygu bod ein myfyrwyr yn ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru ac yn gydradd 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr (Times Higher Education, 2024, mesur ‘Positifrwydd Cyffredinol’). Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau.