Skip page header and navigation
Date(s)
-

Dyddiadau'r seremoniau

Students throwing their caps at their graduation

Dydd Llun 15fed Gorffennaf 2024 a Dydd Mawrth 16eg Gorffennaf 2024

Cynhelir y seremoniau yn Arena Abertawe, SA1 3BX. Bydd gwahoddiadau personol yn cael eu e-bostio at raddedigion cymwys yn ystod gwyliau’r Pasg. 

Gwybodaeth Graddio

Os dymunwch fynychu Seremoni Raddio, y mae gofyn ichi wisgo’r wisg academaidd lawn sy’n briodol i’r dyfarniad y’ch derbynnir iddo. Eich cyfrifoldeb chi yw archebu hon eich hun ar Ede & Ravenscroft.

Dylech archebu o leiaf 21 diwrnod cyn y seremoni gan na fydd Ede and Ravenscroft yn gwarantu’r archeb os daw i law yn hwyrach na hynny.  Peidiwch ag aros am ganlyniadau’r asesu terfynol.  Mae ad-daliadau ar gael os na allwch fynychu am unrhyw reswm, ond rhaid rhoi gwybod i Ede & Ravenscroft o fewn 7 diwrnod cyn y seremoni.  Gellir dod o hyd i’w polisi canslo ar eu gwefan. Fe fydd Ede & Ravenscroft yn cydnabod eich archeb pan fydd wedi ei phrosesu ond mae’n bosib na fyddwch yn ei dderbyn tan 10 diwrnod cyn eich seremoni.

Rhowch UWTSD pan ofynnir ichi nodi enw eich sefydliad. Fe fydd angen i chi wybod cylchedd eich pen a mesuriadau eich brest a’ch taldra.

Bydd eich gwisg yn barod i chi i’w chasglu o’r Arena ar Ddiwrnod Graddio. Dychwelwch eich gwisg yma wedi eich seremoni.

Caniateir dau docyn gwestai i bob myfyriwr ond gallwch ofyn am docynnau ychwanegol os ydych yn dymuno. Unwaith y bydd nifer y myfyrwyr sy’n graddio wedi ei gadarnhau fe benderfynir a oes modd dyrannu tocynnau ychwanegol. Ni wneir y penderfyniad hwn tan wythnos cyn y seremonïau felly peidiwch â ffonio’r Gofrestrfa os gwelwch yn dda i ofyn am argaeledd tocynnau ychwanegol. Bydd y tocynnau ar gael i’w casglu ar ddiwrnod y seremoni ond cewch e-bost o flaen llaw yn cadarnhau faint o docynnau y byddwch yn eu derbyn. Nid yw’r seremonïau yn addas ar gyfer plant o dan 5 oed oherwydd natur ffurfiol y gweithrediadau.

Yr ydym yn cydnabod y gall cyfyngu ar docynnau i westeion yn y ffordd yma fod yn destun siom, ond fe fyddwch yn gwerthfawrogi bod nifer y seddau yn gyfyngedig. 

Os oes gennych chi neu eich gwesteion anabledd neu ofynion mynediad penodol y mae angen i ni wybod amdanynt, rhowch fanylion yn adran berthnasol y dudalen Archebu Lle Graddio ar MyTSD..

Dylid gwneud archebion am ffotograffau ffurfiol o flaen llaw yn uniongyrchol trwy Ede & Ravenscroft

Ar Ddiwrnod Graddio, bydd y stiwdio tynnu lluniau a’r ddesg werthu wedi eu lleoli yn yr Arena. 

Dywedwch wrth eich ffrindiau a’ch teulu y gallant wylio’r seremoniau’n fyw ar wefan y Brifysgol. Bydd y seremoniau yn cael eu ffrydio’n fyw ar wefan y Brifysgol.  

Cwestiynau a Ofynnir yn Aml

  • Bydd y seremonï a gynhelir ar 22ain Gorffennaf yn cael eu cynnal yng Nghanolfan Barbican, Stryd Sidan, Llundain, EC2Y 8DS

  • Cysylltwch â londongraduation@uwtsd.ac.uk ar unwaith. Bydd y tîm yn gwirio eich cofnod ac yn ail-anfon eich gwahoddiad os yn briodol. 

  • Mewn gofnodwch i MyTSD a rhowch eich rhif myfyriwr a’ch cyfrinair. Ewch i ‘Student Graduation’ar y sgrin cartref a dilynwch y cyfarwyddiadau.

  • Maesydd parcio cyhoeddus ar gael yn: 

    • Barbican, 8yb — canol nos
    • London Wall, 24 awr
    • Aldersgate, 24 awr

    Mae mannau parcio dynodedig i bobl anabl wedi’u lleoli yn strydoedd Aldermanbury, Basinghall, Gresham a Coleman. Arhosiad hiraf o 4 awr o ddydd Llun i ddydd Gwener; dim terfyn ar benwythnosau. 

  • Mae’r Barbican o fewn pellter cerdded i sawl gorsaf tiwb a thrên a llwybrau bysiau. Gallwch hefyd gerdded i’r Barbican o fewn 30 munud o ganol Llundain ac archwilio’r ddinas ar eich ffordd. 

  • Yn nes at ddyddiad graddio, byddwch yn cael amser penodedig i gyrraedd. Mae’n bwysig eich bod yn cyrraedd eich slot dynodedig fel y gallwn reoli torfeydd. 

    Bydd angen i chi fod yn eistedd 45 munud cyn i’r seremoni ddechrau ac yn ystod yr amser hwnnw byddwch yn eistedd yn eich sedd a neilltuwyd ac yn cael eich briffio gan y Prif Farsial. 

  • Os oes gennych chi neu unrhyw un o’ch gwesteion anabledd / gofynion mynediad penodol mae angen i ni wybod amdanynt neu nam ar y clyw, rhowch fanylion yn yr adran berthnasol ar MyTSD a byddwn yn ymdrechu i ddiwallu eich anghenion.  

    Rhowch wybod i’r staff fel y gellir darparu cymorth. 

  • Byddwch yn gallu casglu tocynnau eich gwestai o’r ddesg Gofrestru pan fyddwch yn cyrraedd yr yr Eastside Rooms. Ni neilltuir seddi penodol i westeion a gall gwesteion eistedd unrhyw le yn y lleoliad ac eithrio’r seddi sydd wedi’u cadw ar gyfer Darpar Raddedigion, gwesteion yr Is-Ganghellor neu ddefnyddwyr cadeiriau olwyn. Bydd y seddi cadw wedi’u marcio’n glir. Ceir mynediad i’r lleoliad trwy docyn yn unig a rhaid rhoi’r tocynnau i’r Stiwardiaid wrth y drysau. Bydd y drysau’n agor i westeion ryw hanner awr cyn dechrau’r seremoni.

  • Anfonir e-bost cyn bo hir i gadarnhau sawl tocyn a neilltuwyd ichi ar gyfer eich seremoni. Yn y cyfamser, peidiwch â chysylltu â champws Birmingham yn holi am argaeledd tocynnau gwesteion. Bydd y tocynnau gwesteion i gyd ar gael i’w casglu ar ddiwrnod y seremoni o’r Ddesg Gofrestru.   

  • Rhaid i Ddarpar Raddedigion wisgo gwisg academaidd ar gyfer cael eu cyflwyno yn y seremoni. Rhaid hefyd wisgo’n eithaf ffurfiol. Mae angen i’r cwfl (hood) gael ei ddal yn ddiogel yn ei le wrth siaced, crys neu flows.

  • Ar ddechrau’r seremoni, bydd y graddedigion a’r gwesteion yn sefyll wrth i’r staff academaidd ymdeithio i mewn i’r awditoriwm. Yn dilyn gair o groeso, bydd yr Is-Ganghellor a/neu uwch swyddogion eraill y Brifysgol yn eich annerch.

    Wedi darlleniad o’r Proclamasiwn, cyflwynir y graddedigion i’r Is-Ganghellor (neu’r sawl a enwebwyd ganddi). Cewch eich annog gan dywyswyr i godi o’ch sedd ac aros mewn rhes yn barod i gael eich cyflwyno ar yr amser priodol. 

    Bydd eich enw yn cael ei ddarllen ac ar y pwynt hwnnw byddwch chi’n esgyn i’r llwyfan, yn cerdded at yr Is-Ganghellor ac yn codi eich cap. Wedyn byddwch yn gadael y llwyfan a bydd aelod o staff yn eich tywys yn ôl i’ch sedd.

    Wedyn bydd yr Is-Ganghellor yn gofyn i’r holl fyfyrwyr sy’n derbyn yr un dyfarniad i sefyll a bydd yn eich cyflwyno’n ffurfiol i’ch dyfarniad. Dylech godi eich cap mewn ymateb a pharhau i sefyll er mwyn derbyn Cyfarchion y Brifysgol.

  • Gan edrych ar yr Is-Ganghellor, plygwch eich pen ychydig a naill ai cydiwch ym mhigyn blaen eich cap neu codwch eich cap ychydig.

  • Bydd pob seremoni yn para tua 90 munud. Heblaw pan fyddwch yn cael eich cyflwyno, mae’n ofynnol i chi aros yn eich sedd gydol y seremoni.

  • Bydd y seremonïau yn cael eu ffrydio fan hyn.

  • Mae’n RHAID i chi sicrhau eich bod chi wedi talu unrhyw ddyledion academaidd i’r Brifysgol. Cysylltwch â’r Swyddfa Gyllid ar unwaith i drafod eich opsiynau. 

    Os oes gennych unrhyw ddyledion academaidd heb eu talu ac os nad ydych wedi gwneud unrhyw drefniadau gyda’r Swyddfa Gyllid i’w clirio, gallech chi gael eich eithrio o’r seremonïau graddio.

  • Wrth raddio o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, byddwch yn dod yn aelod o Gymdeithas y Cyn-fyfyrwyr yn awtomatig. 

    Yn aelod o’r Gymdeithas hon, byddwn ni’n rhoi gwybod i chi am newyddion a datblygiadau yn y Brifysgol – mae’n ffordd wych i ni gadw mewn cysylltiad â’n gilydd!

  • Mae tystysgrifau yn cael eu postio tua 8 wythnos wedi i’ch dyfarniad gael ei gadarnhau gan y Bwrdd Dyfarnu. 

    Ni fydd tystysgrifau yn cael eu rhyddhau i fyfyrwyr nad ydynt wedi gwneud trefniadau gyda’r Swyddfa Gyllid i dalu eu dyledion. 

    Os bydd gennych unrhyw ymholiad ynglŷn â’ch tystysgrif, cysylltwch â cofrestrfa@ydds.ac.uk

Lleoliad

Nghanolfan Barbican
Stryd Sidan
Llundain
EC2Y 8DS
Y Deyrnas Unedig

Rhannwch y digwyddiad hwn