Hafan YDDS  -  Astudio Gyda Ni  -  Cyrsiau Israddedig  -  Actio (BA)

Actio (BA)

Ymgeisio Drwy UCAS - Llawn Amser

Mae ein rhaglen Actio wedi’i chynllunio i roi i chi’r sgiliau perfformio, technegol, creadigol a phroffesiynol sy’n berthnasol i weithio yn y diwydiannau perfformio a chreadigol. Mae’r rhaglen yn ymarferol iawn ac yn ffocysu ar y diwydiant, gydag ymagwedd aml-sgil sy’n cynnwys datblygiad amrywiaeth o arddulliau perfformio, fel cymeriadaeth wedi’i sgriptio, dyfeisio ac actio ar gyfer y sgrîn. Mae pwyslais cryf hefyd ar gydweithio creadigol ar draws y portffolio Celfyddydau Perfformio.

Mae’r rhaglen yn alwedigaethol ei natur, gan adlewyrchu tueddiadau cyfredol o fewn y diwydiannau creadigol.

Rhoddir ffocws ar feithrin a hyfforddi ymarferwyr proffesiynol a datblygu eich gwybodaeth a dealltwriaeth fanwl o’r arfer gwaith cyfredol o fewn y diwydiannau creadigol. Caiff hyn ei gyflawni trwy amrywiaeth o fodylau seiliedig ar sgiliau a thrwy weithio gydag ymarferwyr proffesiynol yn y diwydiant trwy gydol y rhaglen.

Byddwch yn datblygu’r gallu i weithio’n annibynnol ac i gyfleu mynegiant personol a dychymyg trwy weithdai ymarferol a phrosesau ystafell ymarfer, gan ddefnyddio sgiliau actio, perfformio, creadigol a gwneud priodol.

Bydd y sgiliau a hyfforddiant a fewnosodir yn y rhaglen yn eich paratoi ar gyfer gyrfa ym maes perfformio, hunan-gyflogaeth ac entrepreneuriaeth. Mae’r sgiliau hyn yn drosglwyddadwy i lawer o feysydd eraill yn y diwydiant, fel cynhyrchu, datblygu cyfryngau a rheoli prosiectau. Byddwch hefyd yn ennill sgiliau ymarferol mewn addysgu ac arwain gweithdai.

Daeth y Drindod Dewi Sant yn 1af yng Nghymru am Ddrama, Dawns a Sinemateg
Complete University Guide 2023.

OPSIYNAU LLWYBR A SUT I YMGEISIO

Acting (BA)
Cod UCAS: W410
Gwnewch Gais drwy UCAS

Daw ein holl gyrsiau o dan y cod sefydliad T80
Ewch i adran gwneud cais y Brifysgol i ddysgu rhagor.


Cadw Lle ar Ddiwrnod Agored Cais am Wybodaeth
Enw'r cyswllt:: Lynne Seymour

Côd sefydliad: T80

Ffioedd Dysgu 2023/24:
Cartref: (Llawn-amser): £9,000 y flwyddyn
Tramor (Llawn-amser): £13,500 y flwyddyn

Pam dewis y cwrs hwn

  • Mae pob asesiad yn ymarferol, ac wedi’i seilio ar berfformiadau – dim arholiadau na thraethawd hir.
  • Dysgu gan, a chydweithio gydag, ymarferwyr proffesiynol hyfforddedig, profiadol sydd wedi gweithio ar lwyfan, teledu a ffilm, gan greu cysylltiadau ar hyd y daith.
  • Archwilio gwahanol genres o ysgrifenwyr cyfoes i’r absẃrd a Shakespeare.
  • Gweithio gyda myfyrwyr eraill i greu darnau artistig.
  • Cyfle i astudio dramor yn yr UD.
  • Cytunai 100% o fyfyrwyr Actio’r Drindod Dewi Sant fod staff wedi gwneud y pwnc yn ddiddorol – Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2022.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Trosolwg o'r Cwrs

Mae blwyddyn gyntaf y rhaglen (BA) Actio yn canolbwyntio ar ddatblygu blociau adeiladu sy’n sylfaen i hyfforddiant unrhyw actor: Symud, Perfformio Cerdd, Addasu ar y pryd ac Actio, yn ogystal â datblygu sgiliau astudio a sgiliau cydweithredol.

Mae’r ail flwyddyn yn adeiladu ar y technegau hyn, wrth i ni archwilio’n ymarferol sut caiff y sgiliau hyn eu cymhwyso at wahanol feysydd gwaith, megis perfformio gwaith Shakespeare, dramâu cyfoes ac actio ar sgrin.

Mae’r flwyddyn olaf yn canolbwyntio ar gymhwyso hyfforddiant at leoliad ymarfer proffesiynol wrth i chi berfformio mewn cynyrchiadau cyhoeddus. Gwnewch ddatblygu eich sgiliau mewn prosiectau ar raddfa fechan, yn ogystal â mewn cynhyrchiad rhyngddisgyblaethol ar raddfa fawr a hefyd mewn cynhyrchiad theatr safle-benodol/stiwdio.


Cael profiad o’r mathau hyn o brosesau, yn ogystal â modwl prosiect Annibynnol, yw eich cyfle chi i archwilio eich llwybr gyrfa penodol, a gwnaiff hyn eich paratoi chi ar gyfer dechrau yn y diwydiannau creadigol a thu hwnt.

Drwy gydol y cwrs, caiff myfyrwyr eu cynorthwyo gan diwtoriaid a gweithwyr proffesiynol y diwydiant wrth iddynt ddatblygu eu hyder a’u technegau a meithrin eu creadigedd fel cydweithwyr a pherfformwyr.

Pynciau Modylau

Modylau Lefel 4

  • Perfformio Cerddorol
  • Actio
  • Byrfyfyrio a Dyfeisio
  • Symudiad
  • Dysgu yn yr oes ddigidol
  • Heriau cyfoes: Gwneud gwahaniaeth 

Modylau 5

  • Sgript, Ymarfer a Pherfformiad
  • Cynhyrchu a Pherfformio Ffilm Fer
  • Perfformio Shakespeare
  • Ymarfer Perfformio Arbenigol (dewisol)
  • Drama a Theatr mewn Addysg (dewisol)
  • Gwneuthurwyr Newid: creu Creadigrwydd a Gwerth
  • Gwneuthurwyr Newid: Adeiladu’ch brand personol eich hun ar gyfer cyflogaeth gynaliadwy

Modylau Lefel 6

  • Theatr Prif Dŷ
  • Theatr Stiwdio neu Safle-benodol
  • Arfer Proffesiynol
  • Prosiect annibynnol
  • Lleoliad gwaith (Dewisol)
  • Astudiaeth ryngwladol (Dewisoll)
Asesiad

Perfformiadau/ digwyddiadau
Mae myfyrwyr yn cael cyfle yn rheolaidd i gymryd rhan mewn perfformiadau/ digwyddiadau, lle gwelwn eu sgiliau a’u gwybodaeth yn cynyddu ac yn cael eu cymhwyso. 

Tiwtorialau rheolaidd
Rydym yn cynnal tiwtorialau ffurfiol, ac anffurfiol, trwy gydol y radd. Gall pob myfyriwr drafod ei waith gyda thiwtor y modwl neu’r Cyfarwyddwr Rhaglen yn ystod tiwtorialau. Rydym yn edrych ar ddatblygiad ymarferol, twf cysyniadol a bwriadau i’r dyfodol.

Cyflwyniadau
Fel arfer, cynhelir cyflwyniadau ar ddiwedd modwl, arddangosfa neu berfformiad, er mwyn mesur perfformiad myfyriwr yn erbyn meini prawf asesu.

Llyfrau proses
Ar lefel 4 a 5, bydd myfyrwyr yn cofnodi eu proses a’u gwaith ymarferol mewn llyfr proses sy’n dangos eu dysgu a’u llwybr unigol. Ar lefel 6, bydd myfyrwyr yn ysgrifennu am eu gwaith mewn blogiau, fforymau a thasgau ysgrifenedig byr.

Yn ystod y cwrs hwn gall fod yn ofynnol i fyfyrwyr archwilio testunau sy’n cynnwys themâu a materion y gellid eu hystyried yn rhai heriol.

Fframwaith Priodoleddau Graddedigion

Nod y Fframwaith yw datblygu eich sgiliau a’ch cymwyseddau proffesiynol ochr yn ochr â’ch gwybodaeth pwnc academaidd. Byddwch yn astudio hyd at 40 credit ar bob level trwy gydol eich rhaglen o’r Fframwaith Priodoleddau Graddedigion. 

Mae’r modylau Priodoleddau Graddedigion wedi’u cynllunio i’ch galluogi i ddatblygu, a phrofi, ystod o sgiliau sy’n ffocysu ar eich gyrfa ac yn gysylltiedig â’ch maes pwnc. Mae’r sgiliau hyn yn cynnwys medrusrwydd digidol, ymchwil a rheolaeth prosiect, yn ogystal â medrusrwydd personol fel cyfathrebu, creadigrwydd, hunan-fyfyrio, cadernid a datrys problemau. 

Caerfyrddin Greadigol, Graddedigion a Chysylltiadau â Diwydiant

Cewch eich ysbrydoli... Caerfyrddin Greadigol

Gwybodaeth allweddol

Staff
Meini Prawf Mynediad

Cewch eich gwahodd i ymweld â’r Brifysgol am glyweliad. Seilir mynediad ar deilyngdod unigol a 64 o bwyntiau UCAS.

Cyfleoedd Gyrfa

Mae ein graddedigion wedi mynd ymlaen i amrywiaeth o yrfaoedd ac astudiaethau pellach, gan gynnwys:

  • Actio – theatr, teledu a ffilm 
  • Chwarae rôl a hyfforddiant corfforaethol 
  • Drama Gymhwysol
  • Addysg
  • Astudiaeth/ymchwil ôl-raddedig
  • Trosleisio a thraethu
Dyfyniadau Myfyrwyr

Katyana Malcolm, Myfyrwraig BA Actio, Blwyddyn 3

“Y peth gwych am y cwrs actio yn y Drindod Dewi Sant yw’r ystod o fodylau sydd ar gael; o Shakespeare glasurol i theatr yr absẃrd a theatr arbrofol.

“Yn rhan o’r cwrs, fe gawn ystod eang o hyfforddiant manwl gan arbenigwyr yn y meysydd hynny. Mae’r tiwtoriaid yn barod i sgwrsio bob amser, ond caiff dysgu annibynnol ei annog hefyd. Buaswn yn eich annog i roi o’ch amser i wneud ffrindiau gyda’ch cyd-fyfyrwyr ar eich cwrs. Mae’n bwysig cefnogi eich gilydd wrth eich gwaith, ac annog eich gilydd yn eich ymdrechion, y tu fewn a thu allan i ddarlithoedd.

“Mae Caerfyrddin yn dref hyfryd i fyw, felly cymerwch ran mewn pethau yn y dref, gwirfoddolwch, crwydrwch a dysgwch. Rwy’n edrych ymlaen at weithio gydag ymarferwyr proffesiynol y flwyddyn nesaf ac archwilio i ddyfnderau fy ngalluoedd trwy’r gwersi rwyf wedi’u dysgu dros y ddwy flynedd diwethaf.”


Jordan Nasser, Myfyriwr BA Actio, Blwyddyn 3

“Dewisais fynd i Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant oherwydd yr awyrgylch cartrefol; gan ei fod yn gampws llai, mae’n haws gwneud ffrindiau tu fewn a thu allan i’r cwrs.

“Yna, mae ansawdd a chynnwys y radd BA Actio gyda’i hystod o wahanol fodylau sy’n addas ar gyfer y diwydiant sydd ohoni. Mae tiwtoriaid y cwrs wedi cynnig cefnogaeth bob amser, sy’n creu awyrgylch cyfeillgar iawn ac yn meithrin perthynas dda rhwng y myfyrwyr a’r darlithwyr.

“Hefyd, mae’r radd yn cynnig llawer o gyfleoedd i gymryd rhan mewn llawer o brosiectau creadigol yn y Brifysgol ac wedi agor drysau, gan i mi gwrdd â chysylltiadau sydd wedi fy nghynnwys mewn prosiectau eraill tu allan i’r Brifysgol ar gyfer profiad gwaith, sy’n fy mharatoi at y cyfnod ar ôl graddio.

“Wrth fynd ymlaen i’r drydedd flwyddyn, rwy’n wir edrych ymlaen at weithio gyda chyfarwyddwyr ac ymarferwyr proffesiynol eraill y diwydiant lle gallaf roi’r pethau rwyf wedi’u dysgu drwy gydol y radd, a nodau personol a ddatblygwyd yn ystod y radd, ar waith.”


Ahne Hovdhaugen, o Norwy

“Rwy’n hapus iawn gyda’m cwrs (BA Actio) a Caerfyrddin fel campws a thref.

“Mae cynllun y cwrs yn dda iawn, ac mae’r darlithwyr yn anhygoel! Mae cael eich dysgu gan ymarferwyr proffesiynol y diwydiant yn amhrisiadwy!

“Rwy’n hoffi’r ffaith fod y cwrs yn ymarferol iawn, ond hefyd yn dal i roi gwerth ar waith ysgrifenedig fel rhan o’r asesiad. Rwy’n teimlo bod y darlithwyr a’r Brifysgol gyfan yn fy ‘ngweld’. Mae pawb yn ofnadwy o neis a barod i helpu, ac nid wyf yn difaru gwneud cais i’r brifysgol hon o gwbl!

“Mae tref Caerfyrddin yn ddiogel a chroesawgar iawn ac nid yw’n rhy fawr i rywun sy’n poeni am symud dramor neu oddi adref. Mae popeth sydd arnoch ei angen o fewn taith fer ar droed, ond mae’r gyrwyr tacsi hefyd yn ofnadwy o neis os bydd byth angen trip mewn tacsi arnoch!”

ahne-hovdhaugen--wendy-bench-bjørg-hexeberg


Ysgoloriaethau ac Bwrsariaethau

Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau.  I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.

Cyfleoedd i Astudio Dramor

Cyfleoedd i Astudio Dramor

Cofleidiwch y cyfle i dreulio semester dramor mewn prifysgolion yn Unol Daleithiau America neu Ganada. Mae gennym gysylltiadau cyfnewid gyda’r sefydliadau a ganlyn -

  • Prifysgol Talaith Califfornia, Fullerton
  • Prifysgol Talaith Califfornia, Long Beach
  • Coleg Douglas, Vancouver
  • Prifysgol Mecsico Newydd, Alberquerque
  • Prifysgol Gogledd Carolina, Greensboro
Llety

Gweler ein tudalennau llety i gael rhagor o wybodaeth Llety