Skip page header and navigation

Gwasanaethau Cyhoeddus ac Arloesi Cymdeithasol (BA Anrh)

Abertawe
3 Blynedd Llawn Amser
88 o Bwyntiau UCAS

Ydych chi’n cynllunio gyrfa neu gyflogaeth yn y sector cyllid, bancio neu gyfrifeg? Mae ein gradd Cyfrifeg wedi’i llunio a’i strwythuro i fodloni eich anghenion. Athroniaeth y rhaglen yw darparu dealltwriaeth eang o sefydliadau busnes ac, ar yr un pryd, sicrhau eich bod yn bodloni gofynion trwyadl y ddisgyblaeth a chyrff proffesiynol y sector.

Nod y rhaglen Cyfrifeg yw darparu dealltwriaeth systematig a gwybodaeth fanwl am sgiliau cyfrifeg a chyllid mewn amrywiaeth o gyd-destunau cyfundrefnol. Mae hyn yn cynnwys adrodd ariannol, cyfrifeg rheolaeth, trethu a rheolaeth ariannol rhyngwladol.

Fe’i lluniwyd hefyd i gynyddu eich dealltwriaeth o sefydliadau, eu rheolaeth, yr economi a’r amgylchedd busnes, a’ch paratoi ar gyfer gyrfa rheoli posibl ym maes cyfrifeg trwy gaffael ystod o wybodaeth a sgiliau penodol, ynghyd â gwell hunan-ymwybyddiaeth a datblygiad personol.

Mae gan Gyfrifeg thema gyflogadwyedd gref a welir yn y ffordd y caiff ei chyflwyno drwy’r defnydd o brosiectau byw ac ymgynghoriaeth. Mae’r rhaglen yn cynnwys deunydd sy’n bodloni gofynion y proffesiynau cyfrifeg proffesiynol gan alluogi eithriadau o fodylau ACCA. Gwneir eithriadau ar gyfer 8 papur ACCA.

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Ar y campws
  • Cyfunol (ar y campws)
Iaith:
  • Saesneg
Hyd y cwrs:
3 Blynedd Llawn Amser
Gofynion mynediad:
88 o Bwyntiau UCAS

Ffioedd Dysgu 2023/24 a 24/25
Cartref: (Llawn-amser): £9,000 y flwyddyn
Tramor (Llawn-amser): £13,500 y flwyddyn

Mae'r rhaglen hon yn amodol ar ailddilysu.

Pam dewis y cwrs hwn

01
Saith eithriad o arholiadau proffesiynol Cymdeithas y Cyfrifwyr Ardystiedig Siartredig.
02
Cyfraniad staff sydd â phrofiad o ddiwydiant, ac y mae eu gwybodaeth yn seiliedig ar ymchwil, at yr addysgu.
03
Y cyfle i astudio dramor.
04
Y cyfle i ymgymryd ag o leiaf dwy interniaeth yn ystod y rhaglen dair blynedd.
05
Sgiliau cyflogadwyedd wedi’u mewnblannu ym mhob modwl.
06
Amrywiaeth y modylau ac asesiadau dilys.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Mae’r radd BA Cyfrifeg yn arbenigo yn y maes swyddogaethol gan ganolbwyntio ar sgiliau cyfrifyddu a chyllid mewn amrywiaeth o gyd-destunau sefydliadol. Mae’r rhaglen yn addas i’r rheiny y mae’n well ganddynt arbenigo mewn sgiliau cyfrifyddu, yn hytrach na chanolbwyntio ar ystod eang o sgiliau busnes.

Fel arfer, mae myfyrwyr y rhaglen hon yn rhifog a chanddynt feddwl rhesymegol, ac mae’n debygol, ond nid yn orfodol, y byddant wedi astudio cyfrifeg, mathemateg neu fusnes o’r blaen. Gall y rheiny sydd â phrofiad gwaith, ond fawr ddim cymwysterau ffurfiol, hefyd ymuno â’r rhaglen. Perchir dyfarniadau Lefel A ac Edexcel, yn ogystal ag ystod o dystysgrifau eraill ar y lefel hon o’r DU, UE a chyrff rhyngwladol.

tysteb

Staff

Staff

Lorem ipsum dolor sit amet, consectetur adipiscing elit, sed do eiusmod tempor incididunt ut labore et dolore magna aliqua. Ut enim ad minim veniam, quis nostrud exercitation ullamco laboris nisi ut aliquip ex ea commodo consequat. Duis aute irure dolor in reprehenderit.

Tysteb

Chloe Jones
"Mae popeth yn fusnes, mae busnes ym mhobman. Mae angen hysbysu'r genhedlaeth iau fel y gallant ei ddefnyddio i'w mantais pan fyddant yn mynd allan i'r byd."
Chloe Jones

Llety

example of student bedroom

Llety Abertawe

Mae gan Abertawe boblogaeth enfawr o fyfyrwyr, a bydd yr amrywiaeth o lety sydd ar gael yn eich gadael yn teimlo’n ddifeth o ddewis. Darperir llety yn Abertawe gan wahanol ddarparwyr llety myfyrwyr pwrpasol a gall y tîm llety eich arwain trwy eich opsiynau a bydd yn cynnig cefnogaeth barhaus trwy gydol eich amser fel myfyriwr PCYDDS.

Gwybodaeth allweddol

  • 88 o Bwyntiau UCAS.

    Derbynnir cymwysterau cyfwerth eraill a bydd y panel derbyn yn ystyried pob cais yn unigol.  Sylwer hefyd nad yw ein cynigion wedi’u seilio ar eich cyraeddiadau academaidd yn unig; byddwn yn cymryd i ystyriaeth eich ystod lawn o sgiliau, profiad a chyflawniadau wrth ystyried eich cais.

    Mae’r radd yn croesawu ymgeiswyr sydd wedi astudio busnes gynt, fel cam nesaf naturiol ymlaen. Bydd y rheiny sydd wedi astudio pynciau eraill yn trosglwyddo’n dda. Gall y rheiny sydd â phrofiad gwaith, ond fawr ddim cymwysterau ffurfiol, hefyd ymuno â’r rhaglen. Perchir dyfarniadau Lefel A ac Edexcel, yn ogystal ag ystod o dystysgrifau eraill ar y lefel hon o’r DU, UE a chyrff rhyngwladol.

    Mae graddau’n bwysig; ond, nid yw ein cynigion wedi’u seilio’n llwyr ar ganlyniadau academaidd. Mae gennym ddiddordeb mewn pobl greadigol sy’n arddangos ymrwymiad cryf i’w dewis faes pwnc ac felly rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion o amrywiaeth eang o gefndiroedd. I asesu addasrwydd myfyrwyr ar gyfer eu dewis gwrs, rydym fel arfer yn trefnu cyfweliadau ar gyfer pob ymgeisydd lle caiff eich sgiliau, cyraeddiadau a phrofiad bywyd eu hystyried yn ogystal â’ch cymwysterau.

  • Mae’r rhaglen hon yn cynnig profiad galwedigaethol sy’n heriol yn academaidd ac yn ymgorffori dulliau addysgu ac asesu arloesol. Bydd disgwyl i fyfyrwyr fod yn weithredol wrth reoli eu profiad dysgu, bod yn greadigol a chymryd camau i’w datblygu eu hunain.

  • Costau ychwanegol i’w talu gan y myfyriwr

    Fel sefydliad, ymdrechwn yn barhaus i gyfoethogi profiadau myfyrwyr ac o ganlyniad, mae’n bosibl y daw costau ychwanegol i ran y myfyrwyr sy’n gysylltiedig â gweithgareddau a fydd yn ychwanegu gwerth at eu haddysg. Lle bo modd, cedwir y costau hyn mor isel â phosibl, gyda’r gweithgareddau ychwanegol yn ddewisol.

    Costau teithiau maes a lleoliadau

    Bydd teithiau maes ar gael i fyfyrwyr, sydd yn ddewisol. Darperir gwybodaeth am gostau ar gyfer teithiau yn y DU ac yn rhyngwladol ar ddechrau’r flwyddyn academaidd. 

    Bydd gan fyfyrwyr sy’n ymgymryd â lleoliadau tramor gostau teithio, byw ac efallai costau llety i’w talu. Bydd y swm yn amodol ar y lleoliad a chyflwr presennol y bunt. Bydd costau fisa ychwanegol yn daladwy yn achos myfyrwyr sy’n ymgymryd â lleoliadau yn UDA.

    Yn achos teithiau maes disgwylir i fyfyrwyr dalu bedair wythnos ymlaen llaw. Yn achos lleoliadau tramor disgwylir iddynt dalu’r costau teithio a chostau fisa dri mis ymlaen llaw.

  • Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau.  I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau<.

  • Dull Mynediad Uniongyrchol Rhyngwladol yn y Flwyddyn Olaf

    Bydd myfyrwyr sy’n dewis y dull hwn yn astudio’r modwl Cyfathrebu Busnes Rhyngwladol ar fformat bloc ar ddechrau eu cyfnod astudio.  Byddant yn elwa ar gwnsela a chymorth personol er mwyn sefydlu sylfaen ar gyfer eu hastudiaethau pellach.  Byddant yn astudio’r pum modwl sy’n weddill (pob un ag 20 credyd, lefel 6) gan elwa bob amser ar gael eu hintegreiddio’n llawn â gweithgareddau ehangach y Gyfadran e.e. Wythnos Menter a Diwydiant, cyflwynwyr gwadd, cyfleoedd i ymgymryd â chystadlaethau rheolaeth / yn y diwydiant neu ddatblygu cynlluniau busnes i gychwyn eu mentrau eu hun.

  • Mae gan y rhaglen gyfradd cyflogadwyedd uchel ar gyfer graddedigion, sydd mewn gwaith o fewn chwe mis i gwblhau’r radd. Mae nifer sylweddol o raddedigion hefyd yn mynd ymlaen i astudiaethau ôl-raddedig yn y brifysgol hon a rhai eraill.

    Mae’r Gyfadran yn cynnig gradd MSc Rheolaeth Ariannol i’r rheini sy’n dymuno astudio ymhellach.  Mae’r astudio hyblyg ar y rhaglen yn rhoi’r gallu i fyfyrwyr lywio’u hastudiaethau yn ôl eu huchelgais o ran gyrfa ac amgylchiadau personol.  Mae integreiddio myfyrwyr o’r DU, yr UE a myfyrwyr rhyngwladol ynghyd â chymdeithas cyn-fyfyrwyr gryf yn caniatáu rhwydweithio a sefydlu cyfeillgarwch hirdymor.