Mae’r cwrs MSc Technoleg Ariannol yn rhoi’r wybodaeth a’r sgiliau ymarferol sydd eu hangen ar raddedigion er mwyn sicrhau cyflogaeth yn y sector Technoleg Ariannol sy’n ehangu’n gyflym.
Mae’r modd cyflym y mae technoleg yn cael ei fabwysiadu ym maes cyllid yn chwyldroi busnes a oedd gynt yn sefydlog. Mae defnyddwyr yn elwa ar gostau is a chanlyniadau cyflymach, tra bod busnesau’n elwa o allu cynnig gwasanaethau sydd eisoes yn bodoli a gwasanaethau newydd, i sylfaen gwsmeriaid sy’n ehangu’n gyflym.
Mae defnyddio technoleg i fancio yn galluogi defnyddwyr i gael mynediad at ystod ehangach o wasanaethau am gost is, tra bod busnesau yn gallu adnabod a sicrhau cwsmeriaid newydd yn gyflym, wrth nodi gwasanaethau ychwanegol y mae cwsmeriaid presennol yn debygol o fod â diddordeb ynddynt.
Manylion y cwrs
- Ar y campws
- Llawn amser
- Saesneg
Pam dewis y cwrs hwn
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Bwriad addysgu a dysgu yw sicrhau bod damcaniaeth academaidd yn cael ei hategu gan arfer go iawn. Fel hyn, mae diddordeb myfyrwyr mewn Technoleg Ariannol yn cael ei ysgogi gyda’u cysylltiad ag arferion Technoleg Ariannol. Mae’r asesiad ymarferol yn rhoi llawer o syniadau a chyfleoedd i fyfyrwyr roi’r hyn maen nhw wedi’i ddysgu ar waith wrth ddelio â phroblemau’r byd go iawn. Nod cyffredinol y cwrs hwn yw sicrhau bod graddedigion yn barod ar gyfer cyflogaeth ym maes Technoleg Ariannol, ac yn datblygu yn eu gyrfa nes cyrraedd y pwynt o allu arwain agweddau yn y maes.
Mae’r cwrs MSc Technoleg Ariannol wedi ei gynllunio gyda chyflogadwyedd fel nod allweddol o’r cychwyn cyntaf. Mae’r tîm addysgu yn cynnwys staff y brifysgol sydd â chefndir o safon fyd-eang ym maes Technoleg Ariannol, yn ogystal ag ymarferwyr â chefndir cryf yn y diwydiant.
Gorfodol
(20 credydau)
(60 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
Dewisol
(20 credydau)
(20 credydau)
Ymwrthodiad
-
Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio.
Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall.
tysteb
Staff
Staff
Cewch eich addysgu a’ch cefnogi gan amrywiaeth eang o staff a thimau proffesiynol sydd yma er mwyn eich helpu i gael y profiad prifysgol gorau posibl. Daeth ein staff addysgu’n 2il yng Nghymru am asesiadau ac adborth (NSS 2023) sy’n golygu y bydd y sylwadau a gewch chi ar eich gwaith yn eich helpu i ddysgu. O ganlyniad i’n hymrwymiad i’ch dysgu mae ein myfyrwyr wedi ein gosod yn y 10 gorau yn y DU am Ddarlithwyr ac Ansawdd Addysgu. Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau.
Llety
Llety Birmingham
Mae Birmingham yn cynnig profiad gwych i fyfyrwyr, gan ddenu miloedd o fyfyrwyr y flwyddyn i’r ddinas myfyrwyr ffyniannus hon. Mae amrywiaeth o lety pwrpasol i fyfyrwyr ar gael a bydd ein tîm llety yn gallu cynnig arweiniad i chi.
Gwybodaeth allweddol
-
Mae’r rhaglen hon ar gael i ymgeiswyr Cartref ac ymgeiswyr Rhyngwladol.
Ymgeiswyr Cartref:
Fel arfer, meddu ar o leiaf gradd 2:2 yn y DU neu gymhwyster rhyngwladol cyfatebol a gydnabyddir gan UK ENIC neu brofiad gwaith o bum mlynedd ar lefel rheolaeth uwch yn lle gradd.
Ymgeiswyr Rhyngwladol:
Fel arfer, meddu ar o leiaf gradd 2:2 yn y DU neu gymhwyster rhyngwladol cyfatebol a gydnabyddir gan UK ENIC neu brofiad gwaith o bum mlynedd ar lefel rheolaeth uwch yn lle gradd.
Fel arfer, hyfedredd Saesneg gyda sgôr IELTS cyfartalog o 6.0 neu’n uwch (neu gyfwerth mewn unrhyw brawf cymeradwy arall), heb sgôr o lai na 5.5 mewn unrhyw ran o’r prawf.
-
Mae’r rhan fwyaf o fodiwlau’n cael eu hasesu naill ai trwy waith cwrs yn unig, neu gyfuniad o waith cwrs a phrosiectau sy’n seiliedig ar waith. Mae un modiwl (Blockchain) yn cael ei asesu drwy gyfuniad o waith cwrs ac arholiad ysgrifenedig.
-
Ni fydd unrhyw gostau ychwanegol gorfodol i astudio y tu hwnt i dalu am ffioedd dysgu. Dylai myfyrwyr fod yn barod i ysgwyddo’r costau sylfaenol sy’n gysylltiedig ag astudio fel cludiant ac efallai y byddan nhw am brynu coffi, byrbrydau neu eitemau amrywiol eraill ar y campws.
Mae llawer o fyfyrwyr hefyd yn dewis buddsoddi mewn offer fel gliniaduron i’w cynorthwyo gyda’u hastudiaethau, er nad yw hyn yn ofynnol ar gyfer y rhaglen. Bydd unrhyw weithgareddau sy’n ymwneud ag astudio neu fywyd myfyriwr sy’n dwyn cost y tu hwnt i gost ffioedd dysgu yn ddewisol, a bydd y gost yn cael ei chyfleu’n glir i fyfyrwyr wrth gofrestru.
-
Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.
-
Mae’r cymhwyster hwn wedi’i gynllunio i hwyluso’ch gyrfa a chynyddu eich arbenigedd ym maes Technoleg Ariannol. Mae cyngor a chymorth ar-lein ar gael gan Wasanaeth Gyrfaoedd PCYDDS yn ogystal ag oddi wrth MyCareer.