Addysg Gorfforol, Chwaraeon a Llythrennedd Corfforol (Rhan amser) (PGCert)
Mewn oes lle mae mwy a mwy o bryder ynghylch gweithgarwch corfforol ac iechyd, mae’r rhaglen MA mewn Addysg Gorfforol, Chwaraeon a Llythrennedd Corfforol yn trafod y materion sy’n gysylltiedig â gweithgarwch corfforol a sut y gellid cefnogi datblygiad llythrennedd corfforol o oed ifanc, a sut i’w gynnal gydol oes yn y cartref, yr ysgol a’r gymuned.
Bydd modiwlau’r rhaglen yn eich helpu i ddatblygu dealltwriaeth o sut y gallwn gael mwy o bobl i wneud gweithgarwch corfforol, a sut mae datblygu cymhwysedd corfforol a chymhelliant ar bob lefel. Mae’r rhaglen yn trin a thrafod athroniaethau personol o ran addysg gorfforol, chwaraeon a llythrennedd corfforol. Byddwch yn dysgu sut i arwain a rheoli meysydd gwaith sy’n ymwneud â datblygiad iechyd a llesiant yn ogystal â sut i wneud gwaith ymchwil. Byddwch hefyd yn archwilio ac yn gwerthuso sut mae gwaith yn y maes yn cael effaith ar ganlyniadau disgyblion a’u lefelau gweithgarwch corfforol, yn ogystal â’r ffyrdd i ddatblygu hyn.
Y rhaglen hon yw’r unig un o’i math yn y DU, ac mae’n cael ei chefnogi gan Sefydliad Llythrennedd Corfforol Cymru. Mae’r rhaglen wedi’i chynllunio i fod yn ddigon hyblyg i ymdrin â’r ystod eang o wahanol gyd-destunau sy’n cyfrannu at ddatblygu llythrennedd corfforol. Mae’r tîm o diwtoriaid sydd ynghlwm wrth y rhaglen yn arbenigwyr yn y maes.
Gallwch wneud cais am Fwrsariaeth Sefydliad Llythrennedd Corfforol Cymru am werth y ffi Traethawd Hir llawn.
Manylion y cwrs
- Cyfunol (ar y campws)
- Rhan amser
- Saesneg
Mae'r rhaglen hon yn amodol ar ailddilysu.
Pam dewis y cwrs hwn
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Y dyddiau hyn, mae gan fwy a mwy o bobl ddiddordeb yn eu hiechyd a’u lles, ac mae’r rhaglen hon wedi’i dylunio er mwyn galluogi ymarferwyr i ddeall sut y gallan nhw gyfrannu at yr agenda bwysig hon. Mae’r modiwlau’n trafod sut y mae gallu corfforol yn cysylltu â gweithgarwch corfforol gydol oes ac â lles cyfannol. Bydd ein myfyrwyr yn dysgu sut mae gallu corfforol yn dechrau datblygu yn ystod plentyndod cynnar, sut y gallwn ei wella a’i fireinio fel oedolion, a sut i’w gynnal yn ein henaint. Bydd y cysylltiadau rhwng gallu corfforol, hunanhyder ac iechyd meddwl yn cael eu trin a’u trafod gan ystyried seiliau athronyddol gallu corfforol.
Bydd y damcaniaethau ynghylch cymhelliant o ran gweithgarwch corfforol yn cael eu trafod a’u defnyddio mewn cyd-destun addysg a chwaraeon. Bydd pob astudiaeth sy’n rhan o’r rhaglen yn cael eu gosod yn eu cyd-destun o fewn maes ehangach llythrennedd corfforol. Gall myfyrwyr ystyried eu hathroniaethau personol a sut y gallan nhw gefnogi llythrennedd corfforol o fewn cyd-destunau addysg gorfforol, chwaraeon, cymuned a hamdden.
Y rhaglen hon yw’r unig un o’i math yn y DU, ac mae hi’n denu myfyrwyr o bob cwr o Gymru, y DU, Ewrop a Gogledd America.
Bydd modiwlau’r rhaglen yn datblygu dealltwriaeth o sut y gallwn gael mwy o bobl i gymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol a sut rydym ni’n datblygu cymhwysedd corfforol a chymhelliant ar bob lefel. Mae’r rhaglen yn trin a thrafod athroniaethau personol o ran addysg gorfforol, chwaraeon ac iechyd. Mae’n astudio sut mae arwain a rheoli meysydd gwaith sy’n ymwneud â datblygiad iechyd a llesiant yn ogystal â sut i wneud gwaith ymchwil. Mae’n archwilio ac yn gwerthuso pa effaith y mae gwaith yn y maes yn ei gael, a sut y gellid cynyddu’r effaith hwnnw.
Mae’r rhaglen yn fodiwlaidd a gellir ennill tair gwobr.
- Tystysgrif i Raddedigion – 2 fodiwl a addysgir (60 credyd)
- Diploma i Raddedigion – 4 fodiwl a addysgir (120 credyd)
- MA Addysg Gorfforol, Chwaraeon a Llythrennedd Corfforol – 4 modiwl a addysgir + traethawd hir (180 credyd)
Bydd myfyrwyr yn astudio’r modiwl traethawd hir ar ôl cwblhau’r diploma ôl-raddedig.
Llythrennedd Corfforol
Cysyniad yw llythrennedd corfforol, sy’n cydnabod pwysigrwydd cyfraniad gallu’r corff o ran natur ddynol. Yn hynny o beth, mae’n gwerthfawrogi symudiad o fewn ystod o weithgareddau ac amgylcheddau trwy gydol bywyd.
Mae pob modiwl yn y rhaglen wedi’i seilio ar ddatblygu dealltwriaeth o lythrennedd corfforol. Bydd myfyrwyr yn cael eu hannog i ystyried sut y gallan nhw gyfrannu at ddatblygiad llythrennedd corfforol a’i gefnogi mewn ystod o wahanol gyd-destunau, boed hynny fel athro, hyfforddwr, rhiant neu wirfoddolwr. Mae pob modiwl yn astudio agweddau ar sut y gallwn ni i gyd gyfrannu at lythrennedd corfforol a chefnogi iechyd a lles.
(30 credydau)
(30 credydau)
Ymwrthodiad
-
Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio.
Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall.
tysteb
Staff
Staff
Cewch eich addysgu a’ch cefnogi gan amrywiaeth eang o staff a thimau proffesiynol sydd yma er mwyn eich helpu i gael y profiad prifysgol gorau posibl. Daeth ein staff addysgu’n 2il yng Nghymru am asesiadau ac adborth (NSS 2023) sy’n golygu y bydd y sylwadau a gewch chi ar eich gwaith yn eich helpu i ddysgu. O ganlyniad i’n hymrwymiad i’ch dysgu mae ein myfyrwyr wedi ein gosod yn y 10 gorau yn y DU am Ddarlithwyr ac Ansawdd Addysgu. Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau.
Llety
Llety Caerfyrddin
Mae amrywiaeth o lety yng Nghaerfyrddin ac rydym yn gwarantu llety ar gyfer myfyrwyr y flwyddyn 1af, gyda llety ar gael i fyfyrwyr yr 2il a’r 3edd flwyddyn hefyd. Wedi’ch lleoli ar gampws Caerfyrddin byddwch chi reit ynghanol popeth, gydag opsiynau sy’n addas i bob cyllideb.
Gwybodaeth allweddol
-
Mae gofynion mynediad y rhaglenni yn dibynnu ar gefndir yr ymgeiswyr unigol, a byddwn yn ystyried eu profiad proffesiynol, eu dyfarniadau addysgol blaenorol, eu sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig a llafar, a’u dyheadau o ran gyrfa. Bydd angen i ymgeiswyr gael eu cyfweld cyn y cânt ymuno â’r rhaglen.
-
Rydym yn cynnal amrywiaeth o asesiadau er mwyn galluogi myfyrwyr i ddangos eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth mewn amrywiaeth o ffyrdd. Mae’r rhain yn cynnwys papurau a chyflwyniadau seminar, traethodau, dadansoddiadau fideo ac arholiadau llafar labordy, dyddiaduron myfyriol a blogiau.
-
TBC
-
Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.
-
Fel arfer, bydd y rhai sydd â’r cymhwyster yn gallu:
- Ymdrin â materion cymhleth mewn ffordd systematig yn ogystal â chreadigol, gwneud penderfyniadau cadarn pan nad yw’r holl ddata ar gael, a chyfleu casgliadau i gynulleidfaoedd arbenigol ac anarbenigol mewn ffordd eglur.
- Dangos cymhelliant a gwreiddioldeb wrth fynd i’r afael â phroblemau a’u datrys, gan allu gweithredu’n annibynnol wrth gynllunio a chwblhau tasgau ar lefel broffesiynol neu lefel gyfatebol
- Parhau i ddatblygu eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth, ac i ddatblygu sgiliau newydd i lefel uchel.