Skip page header and navigation

TAR Uwchradd Ffiseg gyda Gwyddoniaeth gyda SAC (Llawn amser) (PGCE)

Abertawe
1 Flwyddyn Llawn amser

Yn y byd modern, mae gwyddoniaeth yn hanfodol i bawb. Mae Ffiseg yn allweddol ar gyfer ein dealltwriaeth o strwythur a dynameg y bydysawd.

Yn y Drindod Dewi Sant byddwch wedi’ch lleoli yn Adeilad IQ lle byddwch yn dysgu wrth ochr eich cyd-fyfyrwyr ym maes Gwyddoniaeth a Thechnoleg.  Bydd y cwrs hwn yn eich paratoi i addysgu gwyddoniaeth i ddisgyblion Bl.7 a Bl.8 ac i arbenigo mewn addysgu Ffiseg hyd at Lefel A.

Cyflwynir ein rhaglen ffiseg uwchradd yn y labordai yn Adeilad IQ ac mae’n eich cefnogi i ddefnyddio’ch brwdfrydedd a’ch arbenigedd ym maes ffiseg i ysbrydoli pobl ifanc gan ategu eu chwilfrydedd naturiol.

Os ydych wedi’ch hyfforddi’n beiriannydd (er enghraifft mecanyddol, trydanol ac eraill) gallwch ddefnyddio’ch gwybodaeth a’ch profiadau ymarferol i ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o beirianwyr gan helpu i fynd i’r afael â’r angen cynyddol am ddoniau peirianyddol yn y DU.  Mae’n bosibl iawn y bydd golwg gyntaf plentyn ar beirianneg yn yr ystafell ddosbarth ffiseg a dyna le gall athrawon dawnus fel CHI wneud gwahaniaeth!  Os ydy’n well gennych gyfleoedd mwy ymarferol, gallech edrych ar ein cwrs, TAR Uwchradd Dylunio a Thechnoleg gyda SAC.

I raddedigion Mathemateg a hoffai gael dewis arall i addysgu Mathemateg, beth am ystyried addysgu Ffiseg?  Os ydych yn hoffi bod yn fwy gweithredol, rydym yn addo y cewch gymaint o hwyl yn addysgu pwnc ymarferol.  Hefyd byddwch yn gweithio wrth ochr gwyddonwyr cyfrifiadurol ym maes dysgu Gwyddoniaeth a Thechnoleg.

Mae addysgu Ffiseg yn amrywiol ac yn hawlio pob sgil sydd gennych.  Mae angen mwy o athrawon ffiseg arbenigol ar ysgolion nag erioed o’r blaen, felly mae cyflogadwyedd yn y lleoliad o’ch dewis a’r rhagolygon am ddyrchafiad yn rhagorol.

* Bydd y radd hon yn cael ei hailddilysu a’i hadolygu yn y flwyddyn academaidd 2023/24 i sicrhau bod cynnwys y cwrs yn parhau’n gyfredol. Pe bai unrhyw newidiadau’n cael eu gwneud i gynnwys y cwrs o ganlyniad i’r adolygiad, bydd pob ymgeisydd yn cael eu hysbysu unwaith y bydd y newidiadau wedi’u cadarnhau.

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Ar y campws
  • Llawn amser
Iaith:
  • Saesneg
  • Cymraeg
Côd sefydliad:
T80
Côd UCAS:
2X6G
Hyd y cwrs:
1 Flwyddyn Llawn amser

Ffioedd Dysgu 2023/24 a 24/25
Cartref: (Llawn-amser): £9,000 y flwyddyn
Tramor (Llawn-amser): £13,500 y flwyddyn

Mae'r rhaglen hon yn amodol ar ailddilysu.

Pam dewis y cwrs hwn

01
Mae’r Athrofa yn un o’r ychydig ddarparwyr addysg athrawon dethol sydd wedi’u hachredu gan CGA.
02
Mae’r Athrofa’n defnyddio technoleg ddiweddaraf Sony Vision Exchange i gefnogi dysgu ac addysgu o safon mewn oes ddigidol.
03
Llwybrau Cymraeg, Saesneg a dwyieithog ar gael.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Mae’r TAR yn rhaglen academaidd a phroffesiynol llawn amser, sy’n cynnwys darpariaeth yn y brifysgol am tua 12 wythnos ac o leiaf 24 wythnos mewn ysgol.

Ar draws ein casgliad o raglenni AGA, mae gennym gwricwlwm craidd arloesol wedi’i achredu o’r newydd sy’n cynnwys:

  • Modylau gorfodol
  • Datblygu sgiliau ymchwil
  • Llwybr proffesiynol ar gyfer Statws Athro Cymwysedig
  • Llwybr Datblygu’r Gymraeg
  • Pontio – gweithgareddau sy’n dod â theori ac arfer at ei gilydd
  • Maes Dewisol – profiad mewn ysgol yn dilyn maes penodol o ddiddordeb
  • Lleoliad amgen – cyfle i gael profiad mewn lleoliadau addysg nad ydynt yn ysgolion

Gan ein bod yn gweithio mewn partneriaeth gydweithredol, rydym yn cynnig ystod eang o gyfleoedd gan amrywiaeth o ysgolion, gan gynnwys ysgolion cynradd ac arbennig.

Rydym hefyd yn cynnig cyfle i gymryd rhan yng Nghynhadledd Anelu at Ragoriaeth Partneriaeth Dysgu Proffesiynol Yr Athrofa, ysgrifennu blogiau ac elwa o un o’n canolfannau ymchwil. 

Mae’r rhaglen yn llawn amser dros 36 wythnos.

Yn gyffredinol, mae’r rhaglen yn cynnwys darpariaeth 12-weeks wythnos yn y brifysgol a 24 wythnos mewn ysgol.

Ymwrthodiad

  • Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio. 

    Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall. 

tysteb

Staff

Staff

Cewch eich addysgu a’ch cefnogi gan amrywiaeth eang o staff a thimau proffesiynol sydd yma er mwyn eich helpu i gael y profiad prifysgol gorau posibl. Daeth ein staff addysgu’n 2il yng Nghymru am asesiadau ac adborth (NSS 2023) sy’n golygu y bydd y sylwadau a gewch chi ar eich gwaith yn eich helpu i ddysgu. O ganlyniad i’n hymrwymiad i’ch dysgu mae ein myfyrwyr wedi ein gosod yn y 10 gorau yn y DU am Ddarlithwyr ac Ansawdd Addysgu. Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Llety

example of student bedroom

Llety Abertawe

Mae gan Abertawe boblogaeth enfawr o fyfyrwyr, a bydd yr amrywiaeth o lety sydd ar gael yn eich gadael yn teimlo’n ddifeth o ddewis. Darperir llety yn Abertawe gan wahanol ddarparwyr llety myfyrwyr pwrpasol a gall y tîm llety eich arwain trwy eich opsiynau a bydd yn cynnig cefnogaeth barhaus trwy gydol eich amser fel myfyriwr PCYDDS.

Gwybodaeth allweddol

  • Gradd Israddedig

    Rhaid i ymgeiswyr feddu ar radd anrhydedd dda (o leiaf 2:2) mewn maes sy’n gysylltiedig â’r dewis bwnc uwchradd.

    Cymwysterau TGAU

    • Gradd C (gradd 4 yn Lloegr) neu uwch mewn TGAU Saesneg – Iaith neu Cymraeg – Iaith neu safon gyfwerth.
    • Gradd C (gradd 4 yn Lloegr) neu uwch mewn TGAU Mathemateg neu TGAU Rhifedd neu safon gyfwerth.

    Yn ogystal bydd angen i ddarpar athrawon sy’n astudio i addysgu mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg gael TGAU gradd C neu uwch mewn Cymraeg (Iaith Gyntaf).

    Cymwysterau Lefel A/Galwedigaethol Lefel 3

    Os nad oes gan ymgeiswyr radd israddedig mewn pwnc cwricwlwm, rhaid iddynt brofi eu bod wedi astudio’n llwyddiannus ar lefelau uwch.

    Profiad Gwaith

    Dylech fod yn ymwybodol o realiti bod yn athro ac o fywyd yn yr ystafell ddosbarth ac felly rydym yn gofyn am brofiad diweddar a pherthnasol o leoliad addysg uwchradd. Gall hyn fod trwy swydd neu drwy wirfoddoli mewn ysgol a ddylai fod am gyfnod o ddwy wythnos ar y lleiaf.

    Bydd magu hyder mewn ystafell ddosbarth ysgol yn helpu i gryfhau eich cais ac yn sail feirniadol well ar gyfer eich datganiad personol. Hefyd, fe fydd yn eich paratoi at ein proses dethol ac yn rhoi peth profiad i chi y gallwch ei ddefnyddio yn eich cyfweliad.

    Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS)

    Os cewch eich derbyn ar ein rhaglen, bydd rhaid ichi gael gwiriad clirio uwch DBS (Y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd - CRB, Swyddfa Cofnodion Troseddol gynt) cyn gynted â phosibl. Mae ffi ynghlwm wrth y gwasanaeth a dylech sicrhau eu bod yn dewis y gwasanaeth ‘diweddaru’.

    Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â swyddfa weinyddol y TAR Uwchradd: 01792 482111 yn pgceenquiries@pcydds.ac.uk

    Am beth ydym ni’n chwilio?

    • Safbwynt positif o addysg fel ffordd i drawsnewid bywydau
    • Cymhelliant i fod yn athro rhagorol
    • Awydd empathig i wneud gwahaniaeth i fywydau pobl ifanc
    • Agweddau positif at gyfiawnder, cynhwysiant ac ecwiti cymdeithasol
    • Gallu i weithio’n unigol ac fel rhan o dîm
    • Egni, brwdfrydedd a hyblygrwydd
    • Gwydnwch a dibynadwyedd
    • Agweddau ac ymddygiad proffesiynol
    • Parodrwydd i ddysgu gydol eich oes

    Sut ydym ni’n dewis ein darpar athrawon?

    • Ansawdd y datganiad personol
    • Tystiolaeth o arbenigedd pwnc
    • Profiad diweddar a pherthnasol mewn lleoliad addysgol
    • Ansawdd y cyfweliad unigol
    • Perfformiad mewn profion dethol – e.e. llythrennedd, rhifedd a chymeriad
  • Strwythur y Rhaglen

    Cyflwynir y rhaglen dros 36 wythnos gan staff Partneriaeth Dysgu Broffesiynol yr Athrofa. Mae cyflwyno’r rhaglen yn y ffordd hon yn dod ag arbenigedd ymarferol o’r sector ysgol at ei gilydd ag ymchwil ac arbenigedd addysg uwch.

    Yn gyffredinol, mae’r rhaglen yn cynnwys darpariaeth 12 wythnos yn y brifysgol ac o leiaf 24 wythnos mewn ysgol.

    Mae’r rhaglen yn cynnwys cwricwlwm craidd a ddarperir ar draws ein casgliad o raglenni HGA. Mae hyn yn cynnwys:

    • Modylau Gorfodol
    • Datblygu sgiliau ymchwil
    • Llwybr proffesiynol ar gyfer Statws Athro Cymwysedig
    • Llwybr Datblygu’r Gymraeg
    • Pontio – gweithgareddau sy’n dod â theori ac arfer at ei gilydd
    • Maes Dewisol – profiad mewn ysgol yn dilyn maes penodol o ddiddordeb
    • Lleoliad amgen – cyfle i gael profiad mewn lleoliadau addysg nad ydynt yn ysgolion

    Darpariaeth prifysgol

    Mae’r ddarpariaeth prifysgol ôl-radd yn cael ei gynnal yn ein campws newydd o’r radd flaenaf ar ardal marina Abertawe. Gyda’r dechnoleg addysgu ddiweddaraf a mannau eang i fyfyrwyr astudio ynddynt, byddwch yn cymryd rhan mewn sesiynau creadigol ac arloesol a fydd yn eich paratoi at y cwricwlwm newydd.

    Mae eich amser yn y brifysgol yn ffocysu ar ddysgu addysgeg o ansawdd uchel sy’n cael effaith bositif yn yr ystafell ddosbarth. Gan weithio gydag addysgwyr athrawon sy’n arbenigwyr yn eu maes nhw o addysg, byddwch yn dysgu sgiliau mewn deall sut mae plant a phobl ifanc yn dysgu a sut y gallent ddod yn ddysgwyr uchelgeisiol a medrus.  

    Mae ein hathroniaeth addysgu yn annog ein darpar athrawon i gymryd rhan mewn dadleuon bywiog a meddwl gweithredol sy’n datblygu eich sgiliau meddwl creadigol ac ymgysylltu. Bydd hyn yn eich paratoi at fod yn athro sy’n seilio’ch arfer ar ymchwil ac yn ymchwilio’n weithredol, ac yn barod i wneud gwahaniaeth i fywydau pobl ifanc.

    Strwythur y Rhaglen – profiad yn yr ysgol

    Bydd eich Profiad Addysgu Proffesiynol (PAP) yn digwydd dros gyfnod o 24 wythnos mewn ysgol, gyda dau leoliad addysgu o sylwedd. Bydd y rhain mewn rhwydwaith PDPA sy’n cynnwys ysgol a fydd yn arwain a nifer o ysgolion partneriaeth lle bydd mentoriaid profiadol a thiwtoriaid prifysgol yn eich cefnogi wrth i chi gyflawni SAC.

    Mae pob profiad addysgu mewn lleoliadau gwahanol i roi ichi ystod o brofiadau a’r cyfle i ymgysylltu ag amrywiaeth o ymagweddau at addysgu a dysgu.

    Yn ystod eich profiad ysgol, cewch eich cefnogi i gyfuno theori ac arfer fel y gallwch ddatblygu’r sgiliau adfyfyriol sydd eu hangen i fod yn athro tra llwyddiannus.

    Cewch gyflwyniad i addysgu fesul cam i roi amser ichi fagu hyder, datblygu gwybodaeth o’r cwricwlwm a sgiliau trefnu ystafell ddosbarth. Bydd hyn yn cynnwys gweithio gyda grwpiau bach o ddysgwyr cyn symud tuag at fod yn gyfrifol am y dosbarth cyfan.

    Bydd seminarau a gynhelir mewn ysgolion ac a gyflwynir gan fentoriaid a staff prifysgol yn rhoi’r cyfle ichi gwrdd â myfyrwyr eraill yn eich rhwydwaith a chymryd rhan mewn trafodaeth gydweithredol. Mae adfyfyrio mewn ffordd a rennir fel hyn yn arf grymus wrth symud eich arfer ymlaen.

    Mae ein partneriaeth o rwydweithiau’n cynnig lleoliadau trefol a gwledig yn ogystal â lleoliadau sydd ar gael naill ai mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg neu Saesneg.

  • Mae’r rhaglen yn cynnig 60 credyd ar lefel Meistr a 60 credyd ar lefel Graddedig. Dyfernir y rhain wrth gwblhau asesiadau modwl yn llwyddiannus, sy’n cynnwys:

    • Astudiaethau achos
    • Portffolios
    • Cyflwyniad fideo
    • Prosiect Ymchwil

    Mae pob aseiniad wedi’i gysylltu’n agos ag arfer ac wedi’u dylunio i gynnig cyfle i chi ddatblygu addysgu a dysgu sy’n cael effaith bositif ar blant a phobl ifanc.

  • Gall ein myfyrwyr gyrchu ystod amrywiol o offer ac adnoddau, sydd yn y rhan fwyaf o achosion yn ddigonol i gwblhau eu rhaglen astudio. Fodd bynnag, mae’n debygol y bydd myfyrwyr yn wynebu rhai costau ychwanegol na ellir eu hosgoi yn ogystal â chost eu hyfforddiant yn y brifysgol. Mae’r rhain fel a ganlyn:

    Costau gorfodol:

    • Teithio i ysgolion lleoliad ac i’r Brifysgol.
    • Teithio i ddarpariaeth arbenigol oddi ar y safle (gan gynnwys ysgolion a darparwyr hyfforddiant eraill).
    • Teithio i ysgolion ar gyfer ‘Diwrnodau Pontio’ a mentrau eraill ar gyfer y garfan gyfan, yn unol â’r calendr.
    • Y defnydd o liniadur (mae MS Office yn rhad ac am ddim i fyfyrwyr).
    • Myfyrwyr Celf – teithiau i orielau Lundain ac Amgueddfa Genedlaethol Cymru. Llyfr braslunio â rhwymyn sbiral A3, portffolio A1

    Costau Angenrheidiol:

    • Teithio i gymryd rhan mewn gweithgareddau cyfoethogi pwnc a drefnir gan y Tiwtor Pwnc
    • Adnoddau addysgu, er enghraifft, gwerslyfrau Safon Uwch/TGAU
    • Teithio i leoliadau ‘Meysydd Dewisol’

    Dewisol:

    • Costau argraffu
    • Teithiau astudio dewisol
  • Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Ysgoloriaethau a Bwrsarïau.

  • Mae gan Yr Athrofa gyfraddau cyflogaeth graddedigion rhagorol gyda 99% o raddedigion yn mynd ymlaen i waith neu astudiaethau pellach.

    Mae gan adrannau llawer o ysgolion a cholegau, yn lleol a chenedlaethol, nifer o’n hathrawon ac mae llawer wedi mynd ymlaen i lunio gyrfaoedd addysgu llwyddiannus ar lefel strategol, proffesiynol a rheoli yma yng Nghymru a thramor.

    Fel arfer mae ein graddedigion TAR yn cadw mewn cysylltiad agos â’r Athrofa wrth iddynt lunio eu gyrfaoedd ym myd addysg ac yn aml, maent yn mynd ymlaen i fod yn fentoriaid pwnc ar y rhaglen.  Mae hyn yn creu rhwydwaith proffesiynol cryf, cynaliadwy o athrawon, sy’n ffynhonnell gyfoethog o ddatblygu proffesiynol parhaus.

Mwy o gyrsiau Addysgu a TAR

Chwiliwch am gyrsiau