Tegwch ac Amrywiaeth mewn Cymdeithas (MA)
Cydnabyddir bod y corpws o wybodaeth a damcaniaethau sy’n ymwneud â chydraddoldeb, tegwch ac amrywiaeth, ac sydd wedi’u cysylltu’n uniongyrchol â pholisïau cymdeithasol, cymdeithaseg a theori gymdeithasol a diwylliannol, yn hanfodol i ddatblygiad gweithwyr proffesiynol gwybodus.
Bydd y rhaglen Meistr hon yn ymestyn eich dealltwriaeth a’ch gwybodaeth broffesiynol, a’i nod yw datblygu ymarferwyr myfyriol/atgyrchol trwy gyflwyno set integredig o fodiwlau gorfodol.
Bydd y rhaglen yn meithrin dealltwriaeth gadarn o gydraddoldeb ac amrywiaeth a’i oblygiadau i gymdeithas, sefydliadau, cymunedau, teuluoedd, unigolion ac i lunwyr polisi.
Mae’r radd yn ystyried sut mae polisïau a deddfwriaeth gyfredol yn cael eu cymhwyso’n ymarferol, er enghraifft Deddf Cydraddoldeb (2010), Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 a deddfwriaeth ‘wrth iddi ddigwyd’.
Gallwch wneud y cwrs hwn wyneb yn wyneb, ar-lein neu fel cyfuniad o’r ddau. Bydd darlithoedd wyneb yn wyneb yn cael eu cynnal yn fyw ar Teams. Mae popeth yn cael ei recordio, felly gall myfyrwyr ddewis a dethol sut i gwblhau pob rhan o’r cwrs.
Manylion y cwrs
- Ar y campws
- Saesneg
- Cymraeg
Pam dewis y cwrs hwn
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Mae’r radd Meistr mewn Tegwch ac Amrywiaeth mewn Cymdeithas wedi’i seilio ar yr ymdrech i ‘ddarparu dealltwriaeth o’r ffactorau hirdymor a sylfaenol sy’n achosi anfantais, y mae angen i bolisi cyhoeddus fynd i’r afael â nhw (Adolygiad o Gydraddoldeb, 2007: 13).
Er mwyn gwneud hyn, mae’r egwyddor o gydraddoldeb a chynhwysiant wedi’i hymgorffori trwy gydol y rhaglen. Mae’r rhaglen yn cydnabod bod athronwyr, economegwyr, a damcaniaethwyr gwleidyddol a chymdeithasol yn trafod cysyniadau cydraddoldeb ac amrywiaeth gan ddefnyddio ystod o safbwyntiau gwahanol; ac mae hyn yn caniatáu i’r myfyriwr archwilio gwahanol ddehongliadau o’r hyn y mae ‘cydraddoldeb’ ac ‘amrywiaeth’ yn ei olygu yn ein cymdeithas.
Drwy ymgysylltu â ‘thraddodiadau a safbwyntiau deallusol y gwyddorau cymdeithasol, bydd myfyrwyr yn cael eu hannog i archwilio prosesau cymdeithasol a’r cysylltiadau sy’n bodoli rhwng theori, polisi ac ymarfer.
Mae’n caniatáu i fyfyrwyr drafod materion cymdeithasol yn ogystal ag annog ymgysylltiad â ‘syniadau newydd’ …. sy’n ymwneud â materion fel effaith globaleiddio ar … eiriolaeth, amrywiaeth, rhywedd, cyfiawnder cymdeithasol oedran, datblygu cynaliadwy, tlodi a chynhwysiant.’
(60 credydau)
(30 credydau)
(30 credydau)
(30 credydau)
(30 credydau)
(30 credydau)
tysteb
Staff
Staff
Cewch eich addysgu a’ch cefnogi gan amrywiaeth eang o staff a thimau proffesiynol sydd yma er mwyn eich helpu i gael y profiad prifysgol gorau posibl. Daeth ein staff addysgu’n 2il yng Nghymru am asesiadau ac adborth (NSS 2023) sy’n golygu y bydd y sylwadau a gewch chi ar eich gwaith yn eich helpu i ddysgu. O ganlyniad i’n hymrwymiad i’ch dysgu mae ein myfyrwyr wedi ein gosod yn y 10 gorau yn y DU am Ddarlithwyr ac Ansawdd Addysgu. Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau.
Llety
Llety Abertawe
Mae gan Abertawe boblogaeth enfawr o fyfyrwyr, a bydd yr amrywiaeth o lety sydd ar gael yn eich gadael yn teimlo’n ddifeth o ddewis. Darperir llety yn Abertawe gan wahanol ddarparwyr llety myfyrwyr pwrpasol a gall y tîm llety eich arwain trwy eich opsiynau a bydd yn cynnig cefnogaeth barhaus trwy gydol eich amser fel myfyriwr PCYDDS.
Gwybodaeth allweddol
-
Mae gan yr Ysgol ei Pholisi Derbyn ei hun sy’n cydymffurfio â gofynion Polisi Derbyn y Brifysgol a Pholisi’r Brifysgol ar Gydraddoldeb ac Amrywiaeth. Mae system gynllunio gadarn yn cael ei chynnal gyda Gwasanaethau Cymorth ar gyfer y myfyrwyr hynny sydd ag anableddau.
Fel arfer, y gofyniad y llwybr mynediad traddodiadol yw gradd anrhydedd dosbarth cyntaf neu 2:1, neu gymhwyster galwedigaethol cyfatebol a phrofiad perthnasol. Mae’r Ysgol yn annog ceisiadau gan fyfyrwyr sydd ag amrywiaeth o gymwysterau galwedigaethol a phrofiadau perthnasol i wneud cais.
Gofynion Cyffredinol
- gradd gychwynnol gan Brifysgol Cymru;
- gradd gan gorff dyfarnu graddau cymeradwy arall;
- cymhwyster nad yw’n radd ond sydd o safon dderbyniol er mwyn ymuno â rhaglen;
- gall ymgeiswyr nad oes ganddynt radd gael eu hystyried os ydynt wedi gweithio mewn swydd gyfrifol sy’n berthnasol i’r cynllun am o leiaf ddwy flynedd.
-
NID OES ARHOLIADAU ar y cwrs Tegwch ac Amrywiaeth mewn Cymdeithas (MA). Nod asesiadau’r rhaglen yw caniatáu i fyfyriwr ddangos ei ddealltwriaeth academaidd yn ogystal â gwella eu sgiliau, a hynny trwy ddefnyddio asesiadau sy’n uniongyrchol gysylltiedig ag anghenion cyflogwyr yn y maes hwn, a gallant gynnwys:
- Aseiniadau
- Astudiaethau achos
- Proffil cymunedol
- Dylunio taflen a phapur academaidd atodol
- Traethawd Hir
- Traethodau estynedig
- Dylunio holiadur
- Dyddiaduron myfyriol
- Cyflwyniadau seminar.
-
- Mae myfyrwyr yn gyfrifol am ysgwyddo’r gost o brynu gwerslyfrau hanfodol ac o gynhyrchu’r traethodau, yr aseiniadau a’r traethodau hir sy’n ofynnol er mwyn cyflawni gofynion academaidd pob rhaglen astudio.
- Os yw myfyrwyr yn dymuno casglu data fel rhan o’u traethawd hir bydd angen iddynt gael gwiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd cyn gwneud hynny.
- Bydd costau pellach hefyd ar gyfer y canlynol, na ellir eu prynu gan y Brifysgol:
- Llyfrau
- Dillad
- Gwaith maes
- Argraffu a chopïo
- Deunydd ysgrifennu
-
Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.
-
Nod y rhaglen hon yw meithrin annibyniaeth ddeallusol ymysg myfyrwyr a’u hannog i ymgysylltu â thystiolaeth mewn ffordd feirniadol. Er nad rhaglen alwedigaethol yw hon yn bennaf, mae’n paratoi myfyrwyr ar gyfer symudiad i gyfeiriad galwedigaethol. Bydd graddedigion sy’n gadael y radd hon mewn sefyllfa dda i ddilyn amrywiaeth o yrfaoedd, gan gynnwys, er enghraifft:
- Swyddog Gofal Plant
- Swyddog Addysg
- Agenda Cydraddoldeb
- Gweithiwr Cymorth i Deuluoedd
- Gweithiwr Prosiect y Gwasanaeth Maethu
- Gweithiwr gofal iechyd proffesiynol
- Cynorthwyydd Iaith a Rhifedd
- Hyfforddwr Dysgu
- Swyddog Prawf
- Gweithiwr Cymdeithasol/Gwasanaethau Cymdeithasol
- Cynorthwyydd Cymorth i bobl anabl
- Athro
- Gweithiwr gwirfoddol mudiad ieuenctid
Gall graddedigion hefyd ddewis mynd ymlaen i gwblhau cyrsiau ôl-raddedig, ystyried ennill cymeradwyaeth broffesiynol gyda’r cwrs MA Gwaith Ieuenctid a Chymuned neu ddoethuriaeth mewn Cyfiawnder Cymdeithasol a Chynhwysiant.