Skip page header and navigation

Tegwch ac Amrywiaeth mewn Cymdeithas (MA)

Caerfyrddin
2 - 6 Blynedd Rhan Amser

Cydnabyddir bod y corpws o wybodaeth a damcaniaethau sy’n ymwneud â chydraddoldeb, tegwch ac amrywiaeth, ac sydd wedi’u cysylltu’n uniongyrchol â pholisïau cymdeithasol, cymdeithaseg a theori gymdeithasol a diwylliannol, yn hanfodol i ddatblygiad gweithwyr proffesiynol gwybodus.

Bydd y rhaglen Meistr hon yn ymestyn eich dealltwriaeth a’ch gwybodaeth broffesiynol, a’i nod yw datblygu ymarferwyr myfyriol/atgyrchol trwy gyflwyno set integredig o fodiwlau gorfodol.

Bydd y rhaglen yn meithrin dealltwriaeth gadarn o gydraddoldeb ac amrywiaeth a’i oblygiadau i gymdeithas, sefydliadau, cymunedau, teuluoedd, unigolion ac i lunwyr polisi.

Mae’r radd yn ystyried sut mae polisïau a deddfwriaeth gyfredol yn cael eu cymhwyso’n ymarferol, er enghraifft Deddf Cydraddoldeb (2010), Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 a deddfwriaeth ‘wrth iddi ddigwyd’.

Gallwch wneud y cwrs hwn wyneb yn wyneb, ar-lein neu fel cyfuniad o’r ddau. Bydd darlithoedd wyneb yn wyneb yn cael eu cynnal yn fyw ar Teams. Mae popeth yn cael ei recordio, felly gall myfyrwyr ddewis a dethol sut i gwblhau pob rhan o’r cwrs.

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Ar y campws
Iaith:
  • Saesneg
  • Cymraeg
Hyd y cwrs:
2 - 6 Blynedd Rhan Amser

Pam dewis y cwrs hwn

01
Rydym yn croesawu ceisiadau gan rai sydd wedi dod trwy lwybrau gradd traddodiadol ac o arfer proffesiynol, a chan rai sydd â phrofiad yn y maes.
02
Mae’r radd wedi’i datblygu er mwyn ymateb i'r angen am weithwyr proffesiynol sy'n gallu deall 'y cymhlethdodau sy'n gysylltiedig â ffurfio polisi cymdeithasol, ei weithredu a’i ddatblygu' (SPA, 2007: 8).
03
Cynlluniwyd y rhaglen er mwyn galluogi myfyrwyr i barhau i ddatblygu'r ystod o sgiliau a enillwyd ar lefel gradd gychwynnol ac sy'n trosglwyddo'n hawdd i fyd gwaith.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Mae’r radd Meistr mewn Tegwch ac Amrywiaeth mewn Cymdeithas wedi’i seilio ar yr ymdrech i ‘ddarparu dealltwriaeth o’r ffactorau hirdymor a sylfaenol sy’n achosi anfantais, y mae angen i bolisi cyhoeddus fynd i’r afael â nhw (Adolygiad o Gydraddoldeb, 2007: 13). 

Er mwyn gwneud hyn, mae’r egwyddor o gydraddoldeb a chynhwysiant wedi’i hymgorffori trwy gydol y rhaglen. Mae’r rhaglen yn cydnabod bod athronwyr, economegwyr, a damcaniaethwyr gwleidyddol a chymdeithasol yn trafod cysyniadau cydraddoldeb ac amrywiaeth gan ddefnyddio ystod o safbwyntiau gwahanol; ac mae hyn yn caniatáu i’r myfyriwr archwilio gwahanol ddehongliadau o’r hyn y mae ‘cydraddoldeb’ ac ‘amrywiaeth’ yn ei olygu yn ein cymdeithas.

Drwy ymgysylltu â ‘thraddodiadau a safbwyntiau deallusol y gwyddorau cymdeithasol, bydd myfyrwyr yn cael eu hannog i archwilio prosesau cymdeithasol a’r cysylltiadau sy’n bodoli rhwng theori, polisi ac ymarfer. 

Mae’n caniatáu i fyfyrwyr drafod materion cymdeithasol yn ogystal ag annog ymgysylltiad â ‘syniadau newydd’ …. sy’n ymwneud â materion fel effaith globaleiddio ar … eiriolaeth, amrywiaeth, rhywedd, cyfiawnder cymdeithasol oedran, datblygu cynaliadwy, tlodi a chynhwysiant.’

Traethawd Hir

(60 credydau)

Gwleidyddol: Dylanwadau ar Anghydraddoldeb ac Amrywiaeth

(30 credydau)

Cynhyrchu/Atgynhyrchu Anghyfartaledd yn Gymdeithasol

(30 credydau)

Chwalu'r Rhwystrau i Gydraddoldeb: Rhywedd, Ethnigrwydd a Hil, Ieuenctid ac Oedran, Iechyd ac Anabledd a Grwpiau Bregus

(30 credydau)

Cymunedau Cynaliadwy

(30 credydau)

Athroniaeth ac Arfer Ymchwil Cymdeithasol

(30 credydau)

tysteb

Staff

Staff

Cewch eich addysgu a’ch cefnogi gan amrywiaeth eang o staff a thimau proffesiynol sydd yma er mwyn eich helpu i gael y profiad prifysgol gorau posibl. Daeth ein staff addysgu’n 2il yng Nghymru am asesiadau ac adborth (NSS 2023) sy’n golygu y bydd y sylwadau a gewch chi ar eich gwaith yn eich helpu i ddysgu. O ganlyniad i’n hymrwymiad i’ch dysgu mae ein myfyrwyr wedi ein gosod yn y 10 gorau yn y DU am Ddarlithwyr ac Ansawdd Addysgu. Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Llety

example of student bedroom

Llety Abertawe

Mae gan Abertawe boblogaeth enfawr o fyfyrwyr, a bydd yr amrywiaeth o lety sydd ar gael yn eich gadael yn teimlo’n ddifeth o ddewis. Darperir llety yn Abertawe gan wahanol ddarparwyr llety myfyrwyr pwrpasol a gall y tîm llety eich arwain trwy eich opsiynau a bydd yn cynnig cefnogaeth barhaus trwy gydol eich amser fel myfyriwr PCYDDS.

Gwybodaeth allweddol

  • Mae gan yr Ysgol ei Pholisi Derbyn ei hun sy’n cydymffurfio â gofynion Polisi Derbyn y Brifysgol a Pholisi’r Brifysgol ar Gydraddoldeb ac Amrywiaeth. Mae system gynllunio gadarn yn cael ei chynnal gyda Gwasanaethau Cymorth ar gyfer y myfyrwyr hynny sydd ag anableddau.

    Fel arfer, y gofyniad y llwybr mynediad traddodiadol yw gradd anrhydedd dosbarth cyntaf neu 2:1, neu gymhwyster galwedigaethol cyfatebol a phrofiad perthnasol. Mae’r Ysgol yn annog ceisiadau gan fyfyrwyr sydd ag amrywiaeth o gymwysterau galwedigaethol a phrofiadau perthnasol i wneud cais.

    Gofynion Cyffredinol

    • gradd gychwynnol gan Brifysgol Cymru;
    • gradd gan gorff dyfarnu graddau cymeradwy arall;
    • cymhwyster nad yw’n radd ond sydd o safon dderbyniol er mwyn ymuno â rhaglen;
    • gall ymgeiswyr nad oes ganddynt radd gael eu hystyried os ydynt wedi gweithio mewn swydd gyfrifol sy’n berthnasol i’r cynllun am o leiaf ddwy flynedd.
  • NID OES ARHOLIADAU ar y cwrs Tegwch ac Amrywiaeth mewn Cymdeithas (MA). Nod asesiadau’r rhaglen yw caniatáu i fyfyriwr ddangos ei ddealltwriaeth academaidd yn ogystal â gwella eu sgiliau, a hynny trwy ddefnyddio asesiadau sy’n uniongyrchol gysylltiedig ag anghenion cyflogwyr yn y maes hwn, a gallant gynnwys:

    • Aseiniadau
    • Astudiaethau achos
    • Proffil cymunedol
    • Dylunio taflen a phapur academaidd atodol
    • Traethawd Hir
    • Traethodau estynedig
    • Dylunio holiadur
    • Dyddiaduron myfyriol
    • Cyflwyniadau seminar.
    • Mae myfyrwyr yn gyfrifol am ysgwyddo’r gost o brynu gwerslyfrau hanfodol ac o gynhyrchu’r traethodau, yr aseiniadau a’r traethodau hir sy’n ofynnol er mwyn cyflawni gofynion academaidd pob rhaglen astudio.
    • Os yw myfyrwyr yn dymuno casglu data fel rhan o’u traethawd hir bydd angen iddynt gael gwiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd cyn gwneud hynny.
    • Bydd costau pellach hefyd ar gyfer y canlynol, na ellir eu prynu gan y Brifysgol:
      • Llyfrau
      • Dillad
      • Gwaith maes
      • Argraffu a chopïo
      • Deunydd ysgrifennu
  • Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau.  I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.

  • Nod y rhaglen hon yw meithrin annibyniaeth ddeallusol ymysg myfyrwyr a’u hannog i ymgysylltu â thystiolaeth mewn ffordd feirniadol. Er nad rhaglen alwedigaethol yw hon yn bennaf, mae’n paratoi myfyrwyr ar gyfer symudiad i gyfeiriad galwedigaethol. Bydd graddedigion sy’n gadael y radd hon mewn sefyllfa dda i ddilyn amrywiaeth o yrfaoedd, gan gynnwys, er enghraifft:

    • Swyddog Gofal Plant
    • Swyddog Addysg
    • Agenda Cydraddoldeb
    • Gweithiwr Cymorth i Deuluoedd
    • Gweithiwr Prosiect y Gwasanaeth Maethu
    • Gweithiwr gofal iechyd proffesiynol
    • Cynorthwyydd Iaith a Rhifedd
    • Hyfforddwr Dysgu
    • Swyddog Prawf
    • Gweithiwr Cymdeithasol/Gwasanaethau Cymdeithasol
    • Cynorthwyydd Cymorth i bobl anabl
    • Athro
    • Gweithiwr gwirfoddol mudiad ieuenctid

     Gall graddedigion hefyd ddewis mynd ymlaen i gwblhau cyrsiau ôl-raddedig, ystyried ennill cymeradwyaeth broffesiynol gyda’r cwrs MA Gwaith Ieuenctid a Chymuned neu ddoethuriaeth mewn Cyfiawnder Cymdeithasol a Chynhwysiant.