Hafan YDDS  -  Astudio Gyda Ni  -  Cyrsiau Israddedig  -  Rheolaeth Digwyddiadau a Gwyliau Rhyngwladol (BA, DipAU, TystAU)

Rheolaeth Digwyddiadau a Gwyliau Rhyngwladol (BA, DipAU, TystAU)

Ymgeisio Drwy UCAS - Llawn Amser

Mae ein gradd Rheolaeth Digwyddiadau a Gwyliau Rhyngwladol yn darparu profiad academaidd heriol a luniwyd i ddatblygu eich sgiliau academaidd a rhoi i chi brofiad ymarferol o reoli digwyddiadau. Bydd gweithio mewn digwyddiadau a gefnogir gan y Brifysgol, gan gynnwys Ironman Cymru, yn rhoi i chi wybodaeth fanwl am y sector a dealltwriaeth o reoli er mwyn cael gyrfa gyffrous yn gweithio ym maes digwyddiadau a gwyliau rhyngwladol.

Nod y rhaglen Rheolaeth Digwyddiadau a Gwyliau Rhyngwladol yw rhoi i chi ystod o gyfleoedd cyffrous i ddatblygu eich gwybodaeth academaidd, talentau proffesiynol a sgiliau diwydiant i hybu eich cyflogadwyedd. Gan ffocysu ar Wyliau, Digwyddiadau Chwaraeon, Cyfarfodydd, Cynadleddau a Phriodasau, bydd ein cwrs yn datblygu eich dealltwriaeth reolaethol a’ch gallu i weithio’n greadigol ac arloesol er mwyn cyfrannu’n effeithiol at y sector digwyddiadau.

Mae’r rhaglen yn cwmpasu ystod eang o bynciau, gan gynnwys effeithiau Digwyddiadau a Gwyliau a’u gwaddol. Yn ogystal, byddwch yn edrych yn feirniadol ar ymgysylltiad rhanddeiliaid, gweithrediadau digwyddiadau, cynllunio gwaddol, cwmpasu, ariannu a marchnata er mwyn gallu rheoli digwyddiadau’n effeithiol. Byddwch yn datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth o natur ddeinamig y diwydiant digwyddiadau rhyngwladol, strategaethau, cyrchfannau a materion cysylltiedig â chynaliadwyedd.

100% gwaith cwrs gydag asesiadau arloesol yn seiliedig ar ddiwydiant a digwyddiadau a dim arholiadau.

40 Credyd icon

Gallwch astudio 40 credyd o’r cwrs yma drwy gyfrwng y Gymraeg.

OPSIYNAU LLWYBR A SUT I YMGEISIO

Rheolaeth Digwyddiadau a Gwyliau Rhyngwladol (BA)
Cod UCAS:  IFM1
Gwnewch Gais drwy UCAS

Rheolaeth Digwyddiadau a Gwyliau Rhyngwladol (DipAU)
Cod UCAS: IFM5
Gwnewch Gais drwy UCAS

Rheolaeth Digwyddiadau a Gwyliau Rhyngwladol (TystAU)
Cod UCAS: IFM6
Gwnewch Gais drwy UCAS

Dylai ymgeiswyr llawn amser wneud cais drwy UCAS. Dylai ymgeiswyr rhan amser wneud cais drwy’r Brifysgol.


Cadw Lle ar Ddiwrnod Agored Cais am Wybodaeth
E-bost Cyswllt: jacqui.jones@uwtsd.ac.uk
Enw'r cyswllt:: Jacqui Jones


Ffioedd Dysgu 2023/24:
Cartref: (Llawn-amser): £9,000 y flwyddyn
Tramor (Llawn-amser): £13,500 y flwyddyn

Pam dewis y cwrs hwn

  1. Mae Partneriaeth unigryw’r Brifysgol â digwyddiad Ironman Wales yn Ninbych y Pysgod yn rhoi cyfleoedd gwirfoddoli a dihafal i fyfyrwyr yn y digwyddiad ac i gyflawni prosiectau ac ymchwil ym maes digwyddiadau.
  2. Cynigia’r cwrs amrywiaeth o brofiadau o raglen fer 1 flwyddyn i’r rhai sy’n dychwelyd i astudio ac sy’n awyddus i fagu eu hyder addysgol, i gwrs 2 flynedd ar sail alwedigaethol, a gradd 3 blynedd sy’n cysylltu astudiaethau academaidd a phroffesiynol. Pan fydd y myfyrwyr wedi cwblhau pob cymhwyster, gallant symud yn uniongyrchol i’r lefel briodol ar y rhaglen nesaf, felly byddent yn gallu dechrau gyda Thystysgrif, symud ymlaen i’r Diploma ac wedyn y BA a chwblhau’r 3 rhaglen mewn 3 blynedd.
  3. Y cyfle i ennill profiad ymarferol o reoli digwyddiadau trwy weithio ar brosiectau digwyddiadau o’r cychwyn.
  4. Cynigia’r cwrs gyfleoedd heb eu hail am deithiau maes arbenigol, ymweliadau y tu ôl i’r llenni a rhyngweithio â gweithwyr proffesiynol digwyddiadau.
  5.  Tîm addysgu bach a chyfeillgar sydd â phrofiad o ddiwydiant materion cyfoes a chysylltiadau ymchwil.
  6. Y cyfle i gyflawni lleoliadau rheoli digwyddiadau arbenigol yn y DU neu’n rhyngwladol gan gynnwys profiadau gweithredol cyffrous gyda chwmni sgïo Aspen
  7. Sgiliau cyflogadwyedd yn rhan annatod o bob modwl.
  8. Amrywiaeth o asesiadau yn y diwydiant sy’n ymwneud â Gwyliau, Digwyddiadau Chwaraeon, Cyfarfodydd, Ysgogiadau, Cynadleddau a Gwleddoedd.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Trosolwg o'r Cwrs

Gan fod Digwyddiadau a Gwyliau wedi dod yn rym mwy cyffredin ar gyfer strategaethau datblygu economaidd a chymdeithasol-ddiwylliannol i ddinasoedd a chyrchfannau, yn ogystal â bod yn fodd i wella nodau busnes, mae angen parhaus am raddedigion digwyddiadau sy’n deall strwythur a swyddogaethau’r diwydiant gan gynnwys pwysigrwydd lletygarwch a gwasanaeth gwesteion. Caiff hyn ei ategu gan bwyslais cryf ar ddysgu rheoli a rôl marchnata a’r cyfryngau cymdeithasol yn y sector digwyddiadau.

Wrth i’r rhaglen ddatblygu, bydd myfyrwyr yn canolbwyntio ar ddefnyddio theorïau academaidd mewn astudiaethau achos bywyd go iawn. Bydd hyn yn cynnwys cynllunio a rheoli digwyddiadau yn ogystal â datblygu gwybodaeth am reoli’n weithredol a dealltwriaeth yn yr ystafell ddosbarth a thrwy ymweliadau â digwyddiadau y tu ôl i’r llenni, lleoliadau rheoli digwyddiadau â thâl ac amrywiaeth o gyfleoedd gwirfoddoli. 

I gloi, bydd y cwrs yn caniatáu i fyfyrwyr ddatblygu eu dealltwriaeth strategol o’r diwydiant digwyddiadau a datblygu arbenigeddau mewn Digwyddiadau Chwaraeon. Gwyliau, Cyfarfodydd, Ysgogiadau, Cynadleddau a Gwleddoedd. Yn unol â natur ddeinamig y diwydiant digwyddiadau, mae’r cwrs yn corffori creadigrwydd, sgiliau hanfodol a meddylfryd entrepreneuraidd i greu graddedigion sy’n barod ar gyfer amrywiaeth eang o gyfleoedd gyrfaol ar draws y sector digwyddiadau.

Pynciau Modylau

Lle bo’n bosibl bydd myfyrwyr yn cael y cyfle i gymryd rhan mewn prosiectau, digwyddiadau a phrofiadau addysgol yn y DU a gynlluniwyd i helpu i gefnogi eu dysgu academaidd a datblygu eu gwerthfawrogiad o’r diwydiant. Efallai y bydd ffioedd ychwanegol.

Hefyd, bydd myfyrwyr yn cael y cyfle i gwrdd yn rhithwir gydag arweinwyr y diwydiant a graddedigion i drafod materion cyfoes yn ogystal â chymryd rhan mewn ymweliadau digidol neu fyw tu ôl i’r llen yn y diwydiant.

Trwy eu hastudiaethau a dysgu allgyrsiol bydd myfyrwyr yn gallu ymgymryd â chyfleoedd ychwanegol ar gyfer hyfforddiant a sgiliau  yn y diwydiant sy’n gysylltiedig â’u hastudiaethau. Gall hyn gynnwys tystysgrifau hyfforddiant ABTA ynghyd â Gwobr Lletygarwch a Digwyddiadau yn cynnwys Hyfforddiant am Winoedd a Gwirodydd a gall fod ffi ychwanegol am hyn.

Lefel 4 (Dyfarniad - Tystysgrif Addysg Uwch)

Bydd y modylau’n cynnwys pynciau sy’n ymwneud â’r meysydd astudio allweddol a ganlyn:

Sgiliau Academaidd a Digidol, Marchnata, Sgiliau Digidol, Diwydiant Twristiaeth, Twristiaeth, Rheolaeth Digwyddiadau a Hamdden, Lletygarwch a Gwasanaeth Gwesteion, Sgiliau Academaidd, Gwirfoddoli a Datblygiad Proffesiynol.

Lefel 5 (Dyfarniad - Diploma Addysg Uwch)

Bydd y modylau a astudir yn cynnwys pynciau sy’n ymwneud â’r meysydd astudio allweddol a ganlyn:

Rheolaeth Gweithrediadau, Gweithrediadau Teithio Rhyngwladol, Cyfarfodydd, Cymhellion a Chynadleddau, Digwyddiadau, Twristiaeth Fyd-eang, Brandio Personol, Cyflogaeth Gynaliadwy, Lleoliadau, Interniaethau a Phrofiadau Gwirfoddoli a Phrosiectau Menter.

Lefel 6 (Dyfarniad - BA)

Bydd y modylau a astudir yn cynnwys pynciau sy’n ymwneud â’r meysydd astudio allweddol a ganlyn:

Rheolaeth Strategol, Rheolaeth Argyfwng, Digwyddiadau Chwaraeon, Digwyddiadau Twristiaeth, Gwyliau a gwaith Prosiect.

Asesiad

 Caiff y rhaglen ei hasesu trwy gyfuniad strwythuredig o asesiadau ymarferol, digwyddiadau, lleoliadau, astudiaethau achos, archwiliadau, ymarferion hyfforddi, adroddiadau rheoli, cyflwyniadau, traethodau, adolygiadau digwyddiadau, DVD/fideos, flogiau/blogiau, astudiaethau dichonoldeb, prosiectau, cyflwyniadau cynnig a’r cyfle i gynllunio, trefnu ac asesu teithiau digwyddiadau a phrofiadau.

Ble bynnag y bo modd, llunnir asesiadau i ddatblygu sgiliau proffesiynol yn ogystal â datblygu meddwl beirniadol, arweinyddiaeth, rheolaeth digwyddiadau, gwasanaeth gwesteion a gwaith tîm wrth baratoi ar gyfer gyrfaoedd yn y digwyddiadau. NI fydd arholiadau ar y cwrs hwn.

Fframwaith Priodoleddau Graddedigion

Nod y Fframwaith yw datblygu eich sgiliau a’ch cymwyseddau proffesiynol ochr yn ochr â’ch gwybodaeth pwnc academaidd. Byddwch yn astudio hyd at 40 credit ar bob level trwy gydol eich rhaglen o’r Fframwaith Priodoleddau Graddedigion. 

Mae’r modylau Priodoleddau Graddedigion wedi’u cynllunio i’ch galluogi i ddatblygu, a phrofi, ystod o sgiliau sy’n ffocysu ar eich gyrfa ac yn gysylltiedig â’ch maes pwnc. Mae’r sgiliau hyn yn cynnwys medrusrwydd digidol, ymchwil a rheolaeth prosiect, yn ogystal â medrusrwydd personol fel cyfathrebu, creadigrwydd, hunan-fyfyrio, cadernid a datrys problemau. 

Dolenni Perthnasol

#TwristiaetharDaith Malaysia a Singapore

Mynd i Leoedd gyda’n Gilydd gyda Qatar Airways, Maes Awyr Caerdydd a Phrifysgol Malaya Cymru.

Yn adran Twristiaeth Y Drindod Dewi Sant yn Abertawe, bydd y Byd yn Ddarlithfa. I ddysgu rhagor edrychwch ar y fideo blasu fer hon o Daith Addysgol Twristiaeth Ryngwladol sy’n dod â’r hyn y mae’r myfyriwr yn ei ddysgu yn fyw a byddant yn gweld y byd â llygaid hollol newydd.


Campws Busnes Abertawe


Pam dewis i astudio drwy Gyfrwng y Gymraeg?

Gwybodaeth allweddol

Staff
Meini Prawf Mynediad

88 o Bwyntiau UCAS (BA) | 44 o Bwyntiau UCAS (TystDip) | 36 o Bwyntiau UCAS (TystAU)

Derbynnir cymwysterau cyfwerth eraill a bydd y panel derbyn yn ystyried pob cais yn unigol.  Sylwer hefyd nad yw ein cynigion wedi’u seilio ar eich cyraeddiadau academaidd yn unig; byddwn yn cymryd i ystyriaeth ystod lawn eich sgiliau, profiad a chyflawniadau wrth ystyried eich cais.

Mae croeso i ymgeiswyr sydd wedi astudio busnes gynt wneud cais, fel cam nesaf naturiol ymlaen. Bydd y rheini sydd wedi astudio pynciau eraill yn trosglwyddo’n dda. Gall y rheini sydd â phrofiad gwaith, ond heb fawr ddim cymwysterau ffurfiol, hefyd ymuno â’r rhaglen. Perchir dyfarniadau Lefel A ac Edexcel, yn ogystal ag ystod o dystysgrifau eraill ar y lefel hon o’r DU, UE a chyrff rhyngwladol.

Mae graddau’n bwysig; fodd bynnag, nid yw ein cynigion wedi’u seilio’n llwyr ar ganlyniadau academaidd. Mae gennym ddiddordeb mewn pobl greadigol sy’n arddangos ymrwymiad cryf i’w dewis faes pwnc ac felly rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion o amrywiaeth eang o gefndiroedd. I asesu addasrwydd myfyrwyr ar gyfer eu dewis cwrs, rydym fel arfer yn trefnu cyfweliadau ar gyfer pob ymgeisydd lle caiff eich sgiliau, cyraeddiadau a phrofiad bywyd eu hystyried yn ogystal â'ch cymwysterau.

Cyfleoedd Gyrfa
  • Rheolwr Digwyddiadau
  • Cyfarwyddwr Digwyddiadau
  • Rheolwr Gwyliau
  • Diogelwch Digwyddiadau
  • Rheolwr Marchnata
  • Rheolwr Cysylltiadau Cyhoeddus
  • Rheolwr Digwyddiadau a Lleoliadau Chwaraeon
  • Rheolwr Prosiectau
  • Cydlynydd Priodasau
Costau Ychwanegol

Costau ychwanegol opsiynol ar gyfer Teithiau Maes:

Bydd y rhain ar gael i fyfyrwyr, ac maent naill ai wedi eu sybsideiddio, yn opsiynol neu’n rhan o fodwl astudio opsiynol. Telir am yr holl deithiau maes gorfodol.
Mae costau teithiau yn y DU sy’n opsiynol yn amrywio o £5 i hyd at £100 am daith breswyl. 

Mae’r Daith Maes Astudio Ewropeaidd (Lefel 4) opsiynol sydd wedi ei sybsideiddio ac sy’n rhan o fodwl opsiynol yn costio £500 ac mae hynny’n cynnwys teithio mewn trên ar draws Ewrop, llety yn y cyrchfannau sydd, fel arfer, ym Mharis a’r Swistir, mynediad i’r atyniadau a rhai prydau. Gellir talu fesul rhandaliad sy’n cyfateb yn fras i £10 yr wythnos, £50 y mis neu daliadau bloc dros gyfnod o flwyddyn.

Costau Taith Addysgol y Gyfadran sy’n opsiynol ac sy'n rhan o fodwl opsiynol yw hyd at £1,000 am daith 10 niwrnod i Malaysia, fel arfer trwy Doha a chan hedfan adre o Singapore a chan aros mewn gwestai 5 seren yn Kuala Lumpur a Penang a chan gynnwys tocynnau awyren, gwely a brecwast, prif wibdeithiau a theithio. Gellir talu am y daith hon dros gyfnod 1 i 2 flynedd gyda thaliadau misol neu floc sy’n cyfateb i ryw £10 yr wythnos. 

Gwerth ychwanegol tripiau maes:

Mae Teithiau Maes gyda theithiau y tu ôl i’r llenni, siaradwyr gwadd a chyfleoedd ymchwil yn dod â’r hyn y mae’r myfyrwyr yn ei ddysgu’n fyw ac yn caniatáu iddynt rwydweithio â’r diwydiant a datblygu cyfleoedd gyrfa yn ogystal â rhoi cyfle iddynt gael profiad o’r lleoliadau a’r diwydiant twristiaeth.  

Cyllid ‘Taith’

Mae’n bosibl y bydd Cyllid y rhaglen Taith ar gael i gefnogi teithiau astudio maes sy’n gysylltiedig ag astudiaethau academaidd a dysgu diwylliannol a gallant gynnwys Aspen, Colorado neu Fflorida yn ogystal â chyrchfannau posibl eraill yn cynnwys Slofenia a Malta.

Costau ychwanegol opsiynol ar gyfer y Lleoliad:

Bydd gofyn i fyfyrwyr sy’n dewis mynd ar rai lleoliadau i UDA neu gyrchfannau eraill dalu am eu teithiau awyr a’u fisas. Lleoliadau wedi eu talu  yw’r rhain ond y myfyrwyr fydd yn talu costau’r fisa ymlaen llaw. Ffioedd presennol wedi eu hysbysebu ar gyfer Gwaith Haf a Fisas y Rhaglen Deithio yn UDA yw £630 sy’n cynnwys yswiriant. Ar hyn o bryd hysbysebir mai costau fisa J1 am 12 mis yn UDA yw £1425 ac mae hynny’n cynnwys yswiriant. Nid yw’r prisiau hyn wedi eu rheoli gan y Brifysgol a gallai Noddwyr y Fisa a Llywodraeth UDA eu newid. Bydd gofyn hefyd i fyfyrwyr sy’n gweithio i rai sefydliadau mewn cyrchfannau yn UDA a lleoliadau eraill dalu eu treuliau teithio eu hunain ar gyfer rhai lleoliadau fodd bynnag, unwaith eto costau dewisol yw’r rhain gan fod lleoliadau eraill ar gael lle telir costau teithio. 

Sylwer bod mynd i UDA ar leoliad yn opsiynol, ac felly costau dewisol yw’r rhain.

Gwerth Ychwanegol:

Mae'r lleoliadau rhyngwladol yn UDA yn cynnig cyfle i’r myfyrwyr weithio i rai o brif sefydliadau’r byd. Mae hyn yn rhoi cyfleoedd ardderchog iddynt ddysgu a datblygu eu sgiliau gwasanaeth gwesteion proffesiynol i’w paratoi ar gyfer gyrfaoedd rheoli yn y dyfodol. Yn ystod eu lleoliadau byddant yn ennill arian i dalu am gostau’r fisa a chostau teithio. Fodd bynnag, rhaid nodi bod y lleoliadau hyn yn rhai opsiynol ac y gall y myfyrwyr ddewis lleoliadau y telir amdanynt mewn cyrchfannau eraill lle nad oes unrhyw gostau cychwynnol.

Cyrsiau Cysylltiedig
Ysgoloriaethau ac Bwrsariaethau

Mae bwrsarïau datblygu gyrfa hyd at £1,000 ar gael i fyfyrwyr i gefnogi lleoliadau, interniaethau a gwirfoddoli mewn digwyddiadau. Efallai y bydd myfyrwyr yn gymwys i wneud cais am y Prosiect Darganfod er cefnogi Symudedd Rhyngwladol i gefnogi Profiadau Lleoliadau Rhyngwladol byr.

Ewch i’n hadran Scholarships and Bursaries i ddysgu rhagor.

Llety

Gweler ein tudalennau tudalennau llety i gael rhagor o wybodaeth