Hafan YDDS - Astudio Gyda Ni - Cyrsiau Israddedig - Cyfrifeg (BA)
Mae’r rhaglen hon yn amodol ar ailddilysu.
Ydych chi’n cynllunio gyrfa neu gyflogaeth yn y sector cyllid, bancio neu gyfrifeg? Mae ein gradd Cyfrifeg wedi’i llunio a’i strwythuro i fodloni eich anghenion. Athroniaeth y rhaglen yw darparu dealltwriaeth eang o sefydliadau busnes ac, ar yr un pryd, sicrhau eich bod yn bodloni gofynion trwyadl y ddisgyblaeth a chyrff proffesiynol y sector.
Nod y rhaglen Cyfrifeg yw darparu dealltwriaeth systematig a gwybodaeth fanwl am sgiliau cyfrifeg a chyllid mewn amrywiaeth o gyd-destunau cyfundrefnol. Mae hyn yn cynnwys adrodd ariannol, cyfrifeg rheolaeth, trethu a rheolaeth ariannol rhyngwladol.
Fe’i lluniwyd hefyd i gynyddu eich dealltwriaeth o sefydliadau, eu rheolaeth, yr economi a’r amgylchedd busnes, a’ch paratoi ar gyfer gyrfa rheoli posibl ym maes cyfrifeg trwy gaffael ystod o wybodaeth a sgiliau penodol, ynghyd â gwell hunan-ymwybyddiaeth a datblygiad personol.
Mae gan Gyfrifeg thema gyflogadwyedd gref a welir yn y ffordd y caiff ei chyflwyno drwy’r defnydd o brosiectau byw ac ymgynghoriaeth. Mae’r rhaglen yn cynnwys deunydd sy’n bodloni gofynion y proffesiynau cyfrifeg proffesiynol gan alluogi eithriadau o fodylau ACCA. Gwneir eithriadau ar gyfer 8 papur ACCA.
Daeth y Drindod Dewi Sant yn 1af yn y DU am foddhad myfyrwyr ag ansawdd yr addysgu mewn Astudiaethau Busnes.
Gwybodaeth am ein sgoriau a’n safleoedd.
Daw ein holl gyrsiau o dan y cod sefydliad T80
Ewch i adran gwneud cais y Brifysgol i ddysgu rhagor.
Cadw Lle ar Ddiwrnod Agored Cais am Wybodaeth
Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant
Ffioedd Dysgu 2023/24:
Cartref: (Llawn-amser): £9,000 y flwyddyn
Tramor (Llawn-amser): £13,500 y flwyddyn
Pam dewis y cwrs hwn
- Saith eithriad o arholiadau proffesiynol Cymdeithas y Cyfrifwyr Ardystiedig Siartredig
- Cyfraniad staff sydd â phrofiad o ddiwydiant, ac y mae eu gwybodaeth yn seiliedig ar ymchwil, at yr addysgu.
- Y cyfle i astudio dramor.
- Y cyfle i ymgymryd ag o leiaf dwy interniaeth yn ystod y rhaglen dair blynedd.
- Sgiliau cyflogadwyedd wedi’u mewnblannu ym mhob modwl.
- Amrywiaeth y modylau ac asesiadau dilys.
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Mae’r radd BA Cyfrifeg yn arbenigo yn y maes swyddogaethol gan ganolbwyntio ar sgiliau cyfrifyddu a chyllid mewn amrywiaeth o gyd-destunau sefydliadol. Mae’r rhaglen yn addas i’r rheiny y mae’n well ganddynt arbenigo mewn sgiliau cyfrifyddu, yn hytrach na chanolbwyntio ar ystod eang o sgiliau busnes.
Fel arfer, mae myfyrwyr y rhaglen hon yn rhifog a chanddynt feddwl rhesymegol, ac mae’n debygol, ond nid yn orfodol, y byddant wedi astudio cyfrifeg, mathemateg neu fusnes o’r blaen. Gall y rheiny sydd â phrofiad gwaith, ond fawr ddim cymwysterau ffurfiol, hefyd ymuno â’r rhaglen. Perchir dyfarniadau Lefel A ac Edexcel, yn ogystal ag ystod o dystysgrifau eraill ar y lefel hon o’r DU, UE a chyrff rhyngwladol.
Mae blwyddyn 1 yn gyflwyniad i’r disgyblaethau busnes allweddol a datblygu sgiliau hanfodol. Bydd myfyrwyr yn gweithio gyda sefydliad allanol i weld damcaniaeth ar waith a chaffael sgiliau gwerthfawr.
Mae Blwyddyn 2 yn cynnwys adroddiadau ariannol, cyfrifyddu rheolaeth, trethi ac archwilio. Mae’n caniatáu dewis o opsiynau mewn meysydd cyfoes o fewn cyfrifyddu a chyllid. Mae cyfle i fynd ar interniaeth a fydd yn cael ei hasesu ar gyfer credydau.
Mae blwyddyn 3 yn datblygu themâu strategaeth, adroddiadau corfforaethol a rheolaeth ariannol, gyda’r cyfle i ddewis opsiynau.
Mae’r rhaglen hon yn cynnig profiad galwedigaethol sy’n heriol yn academaidd ac yn ymgorffori dulliau addysgu ac asesu arloesol. Bydd disgwyl i fyfyrwyr fod yn weithredol wrth reoli eu profiad dysgu, bod yn greadigol a chymryd camau i'w datblygu eu hunain.
Nod y Fframwaith yw datblygu eich sgiliau a’ch cymwyseddau proffesiynol ochr yn ochr â’ch gwybodaeth pwnc academaidd. Byddwch yn astudio hyd at 40 credit ar bob level trwy gydol eich rhaglen o’r Fframwaith Priodoleddau Graddedigion.
Mae’r modylau Priodoleddau Graddedigion wedi’u cynllunio i’ch galluogi i ddatblygu, a phrofi, ystod o sgiliau sy’n ffocysu ar eich gyrfa ac yn gysylltiedig â’ch maes pwnc. Mae’r sgiliau hyn yn cynnwys medrusrwydd digidol, ymchwil a rheolaeth prosiect, yn ogystal â medrusrwydd personol fel cyfathrebu, creadigrwydd, hunan-fyfyrio, cadernid a datrys problemau.
- Dysgwch ragor am y Fframwaith Priodoleddau Graddedigion
Dolenni Cysylltiedig
Campws Busnes Abertawe
Gwybodaeth allweddol
- Richard Dunstan
- Dr Caroline Jawad
- Julie Hayward
- Michael Davies
- Dr Gareth Hughes
- Marie Pitson
88 o Bwyntiau UCAS.
Derbynnir cymwysterau cyfwerth eraill a bydd y panel derbyn yn ystyried pob cais yn unigol. Sylwer hefyd nad yw ein cynigion wedi’u seilio ar eich cyraeddiadau academaidd yn unig; byddwn yn cymryd i ystyriaeth eich ystod lawn o sgiliau, profiad a chyflawniadau wrth ystyried eich cais.
Mae’r radd yn croesawu ymgeiswyr sydd wedi astudio busnes gynt, fel cam nesaf naturiol ymlaen. Bydd y rheiny sydd wedi astudio pynciau eraill yn trosglwyddo’n dda. Gall y rheiny sydd â phrofiad gwaith, ond fawr ddim cymwysterau ffurfiol, hefyd ymuno â’r rhaglen. Perchir dyfarniadau Lefel A ac Edexcel, yn ogystal ag ystod o dystysgrifau eraill ar y lefel hon o’r DU, UE a chyrff rhyngwladol.
Mae graddau’n bwysig; ond, nid yw ein cynigion wedi’u seilio’n llwyr ar ganlyniadau academaidd. Mae gennym ddiddordeb mewn pobl greadigol sy’n arddangos ymrwymiad cryf i’w dewis faes pwnc ac felly rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion o amrywiaeth eang o gefndiroedd. I asesu addasrwydd myfyrwyr ar gyfer eu dewis gwrs, rydym fel arfer yn trefnu cyfweliadau ar gyfer pob ymgeisydd lle caiff eich sgiliau, cyraeddiadau a phrofiad bywyd eu hystyried yn ogystal â'ch cymwysterau.
Mae gan y rhaglen gyfradd cyflogadwyedd uchel ar gyfer graddedigion, sydd mewn gwaith o fewn chwe mis i gwblhau'r radd. Mae nifer sylweddol o raddedigion hefyd yn mynd ymlaen i astudiaethau ôl-raddedig yn y brifysgol hon a rhai eraill.
Mae’r Gyfadran yn cynnig gradd MSc Rheolaeth Ariannol i’r rheini sy’n dymuno astudio ymhellach. Mae’r astudio hyblyg ar y rhaglen yn rhoi’r gallu i fyfyrwyr lywio’u hastudiaethau yn ôl eu huchelgais o ran gyrfa ac amgylchiadau personol. Mae integreiddio myfyrwyr o’r DU, yr UE a myfyrwyr rhyngwladol ynghyd â chymdeithas cyn-fyfyrwyr gryf yn caniatáu rhwydweithio a sefydlu cyfeillgarwch hirdymor.
Costau ychwanegol i’w talu gan y myfyriwr
Fel sefydliad, ymdrechwn yn barhaus i gyfoethogi profiadau myfyrwyr ac o ganlyniad, mae’n bosibl y daw costau ychwanegol i ran y myfyrwyr sy’n gysylltiedig â gweithgareddau a fydd yn ychwanegu gwerth at eu haddysg. Lle bo modd, cedwir y costau hyn mor isel â phosibl, gyda’r gweithgareddau ychwanegol yn ddewisol.
Lleoliad
Bydd ffi ychwanegol o £1800 ar gyfer myfyrwyr sy’n dewis astudio’r rhaglen gyda’r lleoliad blwyddyn mewn diwydiant dewisol. Bydd gan fyfyrwyr sy’n ymgymryd â lleoliadau tramor gostau teithio, byw ac efallai costau llety i’w talu. Bydd y swm yn amodol ar y lleoliad a chyflwr presennol y bunt. Bydd costau fisa ychwanegol yn daladwy yn achos myfyrwyr sy’n ymgymryd â lleoliadau yn UDA.
Costau teithiau maes a lleoliadau
Bydd teithiau maes ar gael i fyfyrwyr, sydd yn ddewisol. Darperir gwybodaeth am gostau ar gyfer teithiau yn y DU ac yn rhyngwladol ar ddechrau’r flwyddyn academaidd.
Yn achos teithiau maes disgwylir i fyfyrwyr dalu bedair wythnos ymlaen llaw. Yn achos lleoliadau tramor disgwylir iddynt dalu’r costau teithio a chostau fisa dri mis ymlaen llaw.
Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.
Dull Mynediad Uniongyrchol Rhyngwladol yn y Flwyddyn Olaf
Bydd myfyrwyr sy’n dewis y dull hwn yn astudio’r modwl Cyfathrebu Busnes Rhyngwladol ar fformat bloc ar ddechrau eu cyfnod astudio. Byddant yn elwa ar gwnsela a chymorth personol er mwyn sefydlu sylfaen ar gyfer eu hastudiaethau pellach. Byddant yn astudio’r pum modwl sy’n weddill (pob un ag 20 credyd, lefel 6) gan elwa bob amser ar gael eu hintegreiddio’n llawn â gweithgareddau ehangach y Gyfadran e.e. Wythnos Menter a Diwydiant, cyflwynwyr gwadd, cyfleoedd i ymgymryd â chystadlaethau rheolaeth / yn y diwydiant neu ddatblygu cynlluniau busnes i gychwyn eu mentrau eu hun.
Ewch i’r adran llety i ddysgu rhagor.