Hafan YDDS  -  Astudio Gyda Ni  -  Cyrsiau Israddedig  -  Astudiaethau Addysg: Anghenion Dysgu Ychwanegol a Chynhwysiant (BA)

Astudiaethau Addysg: Anghenion Dysgu Ychwanegol a Chynhwysiant (BA)

Ymgeisio Drwy UCAS - Llawn Amser

Bydd y rhaglen BA (Anrh) hon yn eich galluogi i astudio ystod o faterion allweddol sy'n berthnasol i ddamcaniaeth ac ymarfer addysgol o fewn cymdeithas fodern Prydain gyda phwyslais arbennig ar Anghenion Dysgu Ychwanegol ac ymarfer cynhwysol.

OPSIYNAU LLWYBR A SUT I YMGEISIO

Astudiaethau Addysg: Anghenion Dysgu Ychwanegol a Chynhwysiant (BA)
Cod UCAS: X364
Ymgeisio drwy UCAS

Astudiaethau Addysg (BA)
Cod UCAS: DUS1
Ymgeisio drwy UCAS

Dylai ymgeiswyr llawn amser wneud cais drwy UCAS. Dylai ymgeiswyr rhan amser wneud cais drwy’r Brifysgol.


Cadw Lle ar Ddiwrnod Agored Cadw Lle ar Ddiwrnod Blasu Cais am Wybodaeth
Enw'r cyswllt:: Laura Hutchings

Côd sefydliad: T80 Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant

Ffioedd Dysgu 2023/24:
Cartref: (Llawn-amser): £9,000 y flwyddyn

Pam dewis y cwrs hwn?

  1. Staff medrus a gwybodus.
  2. System gymorth ardderchog i bob myfyriwr.
  3. Ystod amrywiol o strategaethau addysgu ac asesu gyda phwyslais cryf ar ddarparu profiad cadarnhaol i fyfyrwyr.
  4. Cysylltiadau rhagorol gyda darparwyr addysg leol a sefydliadau cymunedol i roi profiadau dysgu ychwanegol y tu hwnt i'r ystafell ddosbarth.
  5. Cyfradd cyflogadwyedd uchel ar gyfer graddedigion sydd mewn gwaith o fewn chwe mis ar ôl cwblhau'r radd.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Trosolwg o'r Cwrs

Bydd y rhaglen anrhydedd unigol hon yn caniatáu i chi archwilio ac ymgysylltu ag ystod eang o faterion sy'n berthnasol i ddatblygu cynhwysedd a chefnogi dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol i alluogi a hwyluso eu datblygiad addysgol.

Yn graidd i'r rhaglen hon mae meysydd pwnc sylfaen Astudiaethau Addysg sy'n cynnwys seicoleg, cymdeithaseg, hanes ac athroniaeth. Bydd astudio'r pynciau hyn yn rhoi dealltwriaeth fanwl i chi o faterion addysgol allweddol sy'n berthnasol i ystod eang o yrfaoedd posibl ac opsiynau astudio ôl-raddedig.

Bydd y modiwlau penodol sy'n berthnasol i'r llwybr Anghenion Dysgu Ychwanegol a Chynhwysiant yn rhoi mewnwelediad manwl pellach i chi ar feysydd allweddol sy'n berthnasol i gefnogi a gweithio gyda myfyrwyr ag anghenion a gofynion ychwanegol. Bydd yn rhoi'r ddealltwriaeth ddamcaniaethol a gwybodaeth a sgiliau ymarferol i chi i'ch galluogi i gymhwyso'ch astudiaethau i ystod eang o yrfaoedd posibl megis addysgu a chefnogi dysgu.

Rydym yn credu'n gryf nad yw addysg yn digwydd yn yr ystafell ddosbarth yn unig. Drwy gydol eich amser gyda ni byddwch yn ennill amrywiaeth o sgiliau amhrisiadwy ac hanfodol i raddedigion yn y gweithle heddiw. Rydym yn rhoi pwyslais sylweddol ar werth ymgysylltu a dysgu myfyrwyr drwy brofiad a byddwn yn gweithio yn agos gyda chi i ddatblygu'r wybodaeth, y sgiliau a'r galluoedd sydd eu hangen arnoch i lwyddo.

Pynciau Modylau

Blwyddyn Un – Lefel 4  (Tyst AU, Dip AU a BA)

  • Cydraddoldeb i Bawb? (20 credyd; gorfodol)
  • Datblygiad ar draws y Rhychwant Oes (20 credyd; gorfodol)
  • Addysg: Gorffennol, Presennol, Dyfodol (20 credyd; gorfodol)
  • Modwl newydd ‘Sicrhau Sgiliau Astudio Effeithiol (20 credyd; gorfodol)
  • Damcaniaeth ac Arfer Dysgu (20 credyd; gorfodol)
  • Parchu Hawliau Plant a Phobl Ifanc yng Nghymru (20 credyd; gorfodol).

Blwyddyn Dau – Lefel 5 (Dip AU a BA)

  • Mae Pawb yn golygu Pawb (20 credyd; gorfodol)
  • Amgylcheddau Dysgu Amgen (20 credyd; gorfodol)
  • Ymddygiad a Dysgu: Dulliau o Reoli Dosbarth (20 credyd; gorfodol)
  • Y 3 R (20 credyd; gorfodol)
  • Y Meddwl Ymholgar: Dulliau Dysgu ac Addysgu Creadigol (20 credyd; gorfodol)
  • Ymchwil Addysgol (20 credyd; gorfodol).

Blwyddyn Tri – Lefel 6 (BA)

  • Astudiaethau Cwricwlwm ac Asesu (20 credyd; gorfodol)
  • Prosiect Annibynnol (40 credyd; gorfodol)
  • Gwneud Gwahaniaeth gyda’n Gilydd (20 credyd; gorfodol)
  • Ymddygiad a Dysgu: Dulliau o Reoli Dosbarth (20 credyd; gorfodol)
  • Llesiant mewn Addysg (20 credyd; gorfodol).
Asesiad

Asesir y cwrs drwy amrywiaeth eang o ddulliau gan gynnwys astudiaethau achos, gwaith cwrs a chyflwyniadau ynghyd â'r cyfle i gwblhau prosiect annibynnol ar faes sydd o ddiddordeb i chi fel dysgwr.

Byddwch hefyd yn cael eich annog i fyfyrio ar brofiadau blaenorol o addysg drwy'r asesiadau a ddefnyddir o fewn y cwrs yn ogystal ag ymgorffori profiadau ymarferol lle bo hynny'n berthnasol.

Dolenni Perthnasol

Gwybodaeth allweddol

Meini Prawf Mynediad

Y cynnig nodweddiadol ar gyfer y rhaglen hon yw 88 pwynt UCAS.

Mae'r rhaglen Astudiaethau Addysg a'r rhaglenni llwybr cysylltiedig wedi'u bwriadu ar gyfer ymadawyr ysgol Safon Uwch yn ogystal â'r rhai sydd wedi gadael addysg ac sydd bellach eisiau dychwelyd.

Rydym hefyd yn rhoi pwyslais mawr ar gefnogi ac annog myfyrwyr mynediad ansafonol ac rydym yn croesawu ceisiadau gan y rhai sydd â sgiliau a phrofiad bywyd perthnasol yn ogystal â'r potensial academaidd i lwyddo gyda ni.

Yn ystod blwyddyn gyntaf y cwrs, rydym yn teilwra ein modiwlau a'n hasesiadau i'ch cefnogi'n weithredol wrth i chi integreiddio i astudiaeth addysg uwch ac yn gweithio'n agos gyda'r Gwasanaethau Myfyrwyr i roi'r holl help sydd ei angen arnoch i wneud y gorau o'ch astudiaethau.

Cyfleoedd Gyrfa

Bydd y radd hon yn ddeniadol i'r rhai sydd â diddordeb ym mhob math o addysg, hyfforddiant, cyfathrebu a datblygiad dynol a gall arwain at amrywiaeth o opsiynau gyrfa gan gynnwys addysgu, gweinyddu addysgol, ieuenctid a phroffesiynau lles addysgol a chymunedol.

Prif atyniad y cwrs hwn yw'r hyblygrwydd y mae'n ei gynnig oni bai bod gennych lwybr gyrfa sefydlog mewn golwg. Yn benodol, bydd o ddiddordeb i'r rhai sy'n dymuno gweithio o fewn unedau dysgu arbenigol sy'n cefnogi unigolion ag anghenion ychwanegol penodol. Mae nifer fawr o fyfyrwyr blaenorol wedi cael lle ar Raglen Gynradd TAR ac wedyn wedi cael gwaith fel athrawon ysgolion cynradd. Mae myfyrwyr eraill wedi gadael i weithio o fewn llywodraeth leol, gwasanaethau cefnogaeth addysgol a gwahanol sefydliadau elusennol.

Mae rhai graddedigion wedi manteisio ar y cyfle i addysgu dramor ac mae gwaith ymgysylltu cymunedol hefyd yn opsiwn poblogaidd i lawer o'n graddedigion gyda rhai wedi llwyddo i sicrhau cyflogaeth o ganlyniad uniongyrchol i'r cyfleoedd a gynigir fel rhan o'u hastudiaethau.

Costau Ychwanegol

Mae myfyrwyr yn gyfrifol am dalu cost gwerslyfrau hanfodol, ac am gynhyrchu unrhyw draethodau, aseiniadau a thraethodau hir sy'n ofynnol i gyflawni'r gofynion academaidd ar gyfer pob rhaglen astudio.

Bydd costau pellach hefyd ar gyfer y canlynol, na ellir eu prynu gan y Brifysgol:

  • Deunydd ysgrifennu
  • Llyfrau
  • Gwaith maes
  • Dillad
  • Argraffu a chopïo
  • Gwiriad DBS
Ysgoloriaethau ac Bwrsariaethau

Efallai y byddwch yn gymwys i gael cyllid i helpu i gefnogi'ch astudiaeth. I ddarganfod mwy am ysgoloriaethau, bwrsariaethau a chyfleoedd cyllido eraill sydd ar gael ewch i'n hadran Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau

Cyfleoedd i Astudio Dramor

Ewch i dudalen Teithio’r Byd gyda’r Drindod Dewi Sant i ddysgu rhagor am gyfleoedd i astudio dramor.