Mae’r rhaglen hon yn cynnig cyfle i’r rhai sy’n gweithio yn y sector Celf a Dylunio i wella eu sgiliau, ac mae’n gyfuniad o fodiwlau a addysgir a gwaith ymchwil annibynnol sy’n gysylltiedig â maes gwaith yr unigolyn.
Mae hefyd yn cynnig hyfforddiant i’r rhai sydd â gradd mewn disgyblaethau cysylltiedig ac sy’n paratoi ar gyfer cyflogaeth mewn addysg Celf a Dylunio.
Manylion y cwrs
- Cyfunol (ar y campws)
- Llawn amser
- Saesneg
Pam dewis y cwrs hwn
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Yn unol â’r galw gan y marchnadoedd targed am ymarferwyr addysgol cyflawn, hunanfyfyriol, sydd ag ymwybyddiaeth fyd-eang, mae’r rhan o’r rhaglen a addysgir (Rhan 1) yn rhoi’r sylw cyfartal i brif feysydd addysg Celf a Dylunio.
Nod cyffredinol y rhan a addysgir yw sicrhau bod myfyrwyr yn derbyn y wybodaeth ddiweddaraf am y trafodaethau sy’n digwydd yn yr is-feysydd academaidd perthnasol ar hyn o bryd, gan eu paratoi ar gyfer eu gwaith ymchwil annibynnol yn Rhan 2.
Mae’r portffolio ymchwil yn rhoi cyfle i fyfyrwyr arbenigo mewn un maes ac i ymchwilio pwnc sy’n gysylltiedig â’u gwaith, neu un a all gael effaith ymarferol mewn maes penodol.
Bydd y rhaglen yn helpu myfyrwyr i ddatblygu sgiliau sy’n werthfawr i ystod eang o gyflogwyr, megis y gallu i ddadansoddi gwybodaeth gymhleth yn feirniadol; y gallu i gyflwyno dadleuon eglur a chydlynol, a’r gallu i gyflwyno gwybodaeth gymhleth mewn ffordd eglur.
(30 credydau)
(30 credydau)
(30 credydau)
(30 credydau)
(60 credydau)
Ymwrthodiad
-
Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio.
Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall.
tysteb
Staff
Staff
Cewch eich addysgu a’ch cefnogi gan amrywiaeth eang o staff a thimau proffesiynol sydd yma er mwyn eich helpu i gael y profiad prifysgol gorau posibl. Daeth ein staff addysgu’n 2il yng Nghymru am asesiadau ac adborth (NSS 2023) sy’n golygu y bydd y sylwadau a gewch chi ar eich gwaith yn eich helpu i ddysgu. O ganlyniad i’n hymrwymiad i’ch dysgu mae ein myfyrwyr wedi ein gosod yn y 10 gorau yn y DU am Ddarlithwyr ac Ansawdd Addysgu. Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau.
Llety
Llety Abertawe
Mae gan Abertawe boblogaeth enfawr o fyfyrwyr, a bydd yr amrywiaeth o lety sydd ar gael yn eich gadael yn teimlo’n ddifeth o ddewis. Darperir llety yn Abertawe gan wahanol ddarparwyr llety myfyrwyr pwrpasol a gall y tîm llety eich arwain trwy eich opsiynau a bydd yn cynnig cefnogaeth barhaus trwy gydol eich amser fel myfyriwr PCYDDS.
Gwybodaeth allweddol
-
TBC
-
Mae strategaeth asesu’r rhaglen yn cynnwys asesiadau ffurfiannol a chrynodol. Yn yr un modd, disgwylir y bydd hunan-fyfyrio yn un o agweddau proffesiynol pob un o raddedigion y rhaglen hon, a bydd yn cael ei ymgorffori a’i ymarfer trwy aseiniadau penodol ym mhob modiwl.
Mae dull asesu’r modiwlau wedi’i gynllunio i baratoi myfyrwyr ar gyfer y dasg o gyflwyno traethawd ymchwil sylweddol fel rhan o’u portffolio ymchwil yn Rhan 2. Mae rhai modiwlau felly’n defnyddio patrwm asesu safonol sy’n cynnwys un neu ddau o draethodau hirach yn ogystal â chyflwyniad.
Mewn rhai modiwlau, fodd bynnag, bydd cynnydd myfyrwyr yn cael ei asesu trwy ddefnyddio fformat y portffolio. Mae’r portffolio’n cynnig mwy o hyblygrwydd o ran asesu sgiliau â ffocws proffesiynol, ar y cyd ac yn unigol, o gymharu â’r fformat traethawd/cyflwyniad arferol.
-
Bydd mynediad i’ch dyfais ddigidol eich hun/y pecyn TG priodol yn hanfodol yn ystod eich amser yn astudio gyda PCYDDS. Bydd mynediad at wifi yn eich llety hefyd yn hanfodol i’ch galluogi i ymgysylltu’n llawn â’ch rhaglen. Gweler ein tudalennau gwe pwrpasol i gael arweiniad pellach ar ddyfeisiau addas i’w prynu, ac i gael canllaw llawn ar sefydlu’ch dyfais.
Efallai y byddwch chi’n wynebu costau ychwanegol tra byddwch chi yn y brifysgol, gan gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i):
- Teithio i’r campws ac oddi yno
- Costau argraffu, llungopïo, rhwymo, deunydd ysgrifennu ac offer (e.e. ffyn USB)
- Prynu llyfrau neu werslyfrau
- Gwisgoedd ar gyfer seremonïau graddio
-
Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.
-
O ystyried natur ein cwrs trawsddisgyblaethol, ar ôl graddio, mae’r cyfleoedd yn amrywiol, gan gynnwys y canlynol:
- Addysgu / Darlithio / Hyfforddi
- Rheoli gwyliau / digwyddiadau yn y Celfyddydau
- Arfer proffesiynol ym meysydd celf, dylunio, a’r diwydiannau creadigol
- Ymchwilydd
- Rheoli