Skip page header and navigation

Ffotograffiaeth Ddogfennol a Gweithredaeth Weledol (Llawn amser) (BA Anrh)

Abertawe
3 Blynedd Llawn amser
104-120 o Bwyntiau UCAS

Ein gradd Ffotograffiaeth Ddogfennol a Gweithredaeth Weledol yng Ngholeg Celf Abertawe, PCYDDS yw’r gyntaf o’i bath yn y Deyrnas Unedig. Bydd y rhaglen hon yn eich helpu i ddod yn ffotograffydd dogfennol a gweithredwr gweledol medrus, gan eich annog i ail-werthuso a herio hanes ac arferion ffotograffiaeth. Byddwch yn dysgu deall y strwythurau pŵer mewn ffotograffiaeth a sut i’w defnyddio i adrodd straeon gweledol pwerus. 

Mae’r cwrs yn moderneiddio sgiliau traddodiadol ac ymarferol mewn gwaith dogfennol a ffotonewyddiadurol. Rydym yn canolbwyntio ar ffotograffiaeth fel proses gymdeithasol yn hytrach nag un unigol. Byddwch yn dod yn eiriolwr dros yr achosion a’r materion cymdeithasol sy’n bwysig i chi, gan  gymryd rhan lawn yn y pynciau sydd o ddiddordeb i chi.  

Drwy gydol eich astudiaethau, cewch eich annog i gydweithio â’r gymuned leol a meddwl am eich rôl fel dinesydd gweithredol mewn cymdeithas ddemocrataidd. Rydym yn rhoi sylw arbennig i ddatblygiad sgiliau gwrando sy’n galluogi myfyrwyr i fod yn ymwybodol o’u llais sonig arbennig ac unigryw. 

Mae ein cwrs yn cynnwys ffotograffiaeth yn ei ystyr ehangaf, gan ddefnyddio’r dechnoleg ddiweddaraf i wthio ffiniau’r hyn sy’n bosibl a manteisio ar botensial cyfryngau digidol newydd. Byddwch hefyd yn cael cyfleoedd i gyflwyno eich gwaith mewn arddangosfeydd, gan eich helpu i feithrin cysylltiadau â diwydiant ac arddangos eich talent. Nod y rhaglen yw eich paratoi ar gyfer gyrfa mewn ffotograffiaeth ddogfennol a gweithredaeth weledol, gan eich galluogi i gyfrannu at newid cymdeithasol trwy eich celf. 

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Ar y campws
  • Llawn amser
Iaith:
  • Saesneg
  • Dwyieithog
Côd sefydliad:
T80
Côd UCAS:
DPV1
Hyd y cwrs:
3 Blynedd Llawn amser
Gofynion mynediad:
104-120 o Bwyntiau UCAS

Ffioedd Israddedig
Cartref (Llawn amser): £9,535 y flwyddyn
Tramor (Llawn amser): £15,525 y flwyddyn

Pam dewis y cwrs hwn

01
Dull arloesol o ymdrin â ffotonewyddiaduraeth a ffotograffiaeth ddogfennol.
02
Cysylltiadau gwych ag arbenigwyr ac ymarferwyr y diwydiant.
03
Dosbarthiadau bach a chyfeillgar, a mynediad hawdd at offer cyfredol.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Mae ein hathroniaeth yn canolbwyntio ar feithrin creadigrwydd, meddwl beirniadol ac ymgysylltu cymdeithasol. Rydym yn pwysleisio cyfrifoldebau moesegol ffotograffwyr, gan ganolbwyntio ar arferion cydweithredol a chymunedol. Ein nod yw datblygu eich sgiliau llais a thechnegol unigryw, gan eich paratoi ar gyfer gyrfa ddeinamig mewn ffotograffiaeth ddogfennol a gweithredaeth weledol. 

Yn eich blwyddyn gyntaf, mae’r ffocws ar ddatblygu eich sgiliau ymarferol a thechnegol i ddarparu sylfaen er mwyn ymchwilio i bynciau o ddiddordeb personol. Mae’r meysydd yr ymdrinnir â nhw’n cynnwys: 

  • Technegau ystafell dywyll traddodiadol 

  • Sut i ddefnyddio pecynnau meddalwedd Adobe 

  • Technegau goleuo stiwdio a lleoliadau proffesiynol 

  • Sut i ymateb i friffiau sydd wedi’u gosod 

  • Sut i gyfuno sgiliau analog a digidol i greu canlyniadau arloesol 

  • Hanes ffotograffiaeth a damcaniaeth diwylliant gweledol 

Byddwch yn ymchwilio i hanfodion ymarfer dogfennol ac astudiaethau gweledol gan archwilio ffyrdd gwahanol o feddwl a chanfod, a fydd yn eich helpu i ailfeddwl am ffotonewyddiaduraeth. Bydd prosiectau’n cynnwys creu cylchgronau artistiaid a chymryd rhan yn eich arddangosfa gyntaf, gan osod sylfaen gadarn ar gyfer eich astudiaethau yn y dyfodol. 

Arfer Dogfennol Cyfoes

(20 credydau)

Astudiaethau Gweledol 1

(10 credydau)

Ffyrdd o feddwl

(10 credydau)

Ail-feddwl Ffotonewyddiaduraeth

(20 credydau)

Astudiaethau Gweledol 2

(10 credydau)

Ffyrdd o Ganfod

(10 credydau)

Arddangosfa 1.0

(20 credyd)

Cylchgrawn yr Artist

(20 credyd)

Gan adeiladu ar y sgiliau a ddatblygwyd yn ystod eich blwyddyn gyntaf, mae’r ail flwyddyn yn amser ar gyfer mwy o arbrofi a chydweithio: 

  • Gweithio mewn grwpiau bach i ddylunio a churadu eich arddangosfa gyhoeddus eich hun 

  • Cysyniadu a chreu llyfr lluniau 

  • Cael cyfleoedd i ddilyn interniaethau wedi’u hariannu 

  • Canolbwyntio’n fwy ar ddatblygu llwyfan broffesiynol ar gyfer eich gwaith (gan gynnwys: strategaethau gwefan/cyfryngau cymdeithasol/arddangosfa) 

  • Arbrofi â phrosesau ystafell dywyll amgen 

  • Cael y dewis i astudio semester dramor 

  • Defnyddio eich sgiliau ymchwil a dadansoddi beirniadol ar gyfer cynnig prosiect mawr 

Byddwch yn archwilio modiwlau fel Gweithredaeth Gweledol: Lleoliad a Churadaeth ac Arddangosfa 2.0 a fydd yn eich galluogi i archwilio gweithredaeth weledol a churadaeth. Byddwch hefyd yn ymchwilio i gyhoeddi a phrotestio, gan ddysgu sut i ddefnyddio ffotograffiaeth fel arf ar gyfer newid cymdeithasol. 

Adeiladu Bydoedd

(20 Credyd)

Ymchwil mewn Cyd-destun

(10 credydau)

Actifiaeth Gweledol: Lleoliad a Churadaeth

(20 credydau)

Ymholiad Gweledol 1

(10 credydau)

Arddangosfa 2.0

(20 credydau)

Cyhoeddi a Phrotestio

(20 credydau)

Ymchwil ar Waith

(10 credydau)

Ymholiad Gweledol 2

(10 credydau)

Mae eich trydedd flwyddyn yn ymwneud â datblygu eich portffolio proffesiynol a pharatoi eich hun ar gyfer gyrfa broffesiynol yn y diwydiannau creadigol ar ôl graddio. Byddwch yn cynnal ymholiad creadigol uwch ac yn datblygu prosiect annibynnol sy’n adlewyrchu eich diddordebau personol a’ch dyheadau proffesiynol. Y prosiect mawr fydd uchafbwynt eich astudiaethau, gan eich galluogi i arddangos eich sgiliau a’ch gweledigaeth. Mae’r flwyddyn hon wedi’i chynllunio er mwyn eich paratoi ar gyfer pontio llwyddiannus i’r byd proffesiynol, gan ddod i ben gyda chorff sylweddol o waith. 

Drwy gydol y cwrs, byddwch yn dysgu technegau a llifoedd gwaith o safon y diwydiant, yn ennill profiad mewn gwahanol leoliadau creadigol, ac yn datblygu gwybodaeth am gyfleoedd cyflogaeth yn y sectorau cyfryngau digidol a diwydiannau creadigol. Byddwch hefyd yn dysgu sut i ddefnyddio eich gwaith ar ystod eang o lwyfannau. 

Ymholiad Creadigol Uwch

(20 credydau)

Prosiect Annibynnol

(40 credydau)

Prosiect Mawr

(60 credydau)

Course Page Disclaimer

  • Mae’r modylau a amlinellir uchod yn enghreifftiau o’r hyn y gallwch ddisgwyl ei ddysgu ar y cwrs hwn yn seiliedig ar addysgu academaidd diweddar. Rydym yn adolygu ein cyrsiau yn barhaus i sicrhau bod yr ansawdd yn cael ei wella ac er mwyn rheoli ein hadnoddau. Gall yr union fodylau sydd ar gael i chi yn y dyfodol amrywio yn amodol ar argaeledd a diddordebau ymchwil staff, pynciau astudio newydd, amserlennu a galw myfyrwyr. Os yw eich cwrs yn cynnwys modylau dewisol, diben rhain yw darparu elfen o ddewis o fewn y cwrs. Gall argaeledd modylau dewisol amrywio o flwyddyn i flwyddyn a byddant yn amodol ar gyflawni isafswm niferoedd myfyrwyr. Golyga hyn na ellir gwarantu argaeledd modylau dewisol penodol.

    Fel arfer, byddwch yn cwblhau 120 credyd y flwyddyn astudio ar gwrs llawn amser. I gael rhagor o wybodaeth ewch i’n Cytundeb Myfyrwyr.

tysteb

Students walking on carmarthen campus

Dewch i ymweld â ni mewn Diwrnod Agored

Darganfyddwch fwy am eich cwrs, cwrdd â myfyrwyr presennol, y tîm addysgu, ac archwilio ein campws a’n cyfleusterau proffesiynol. 

Staff

Ein Pobl

Cewch chi eich dysgu a’ch cefnogi gan ystod eang o staff a thimau proffesiynol yma i’ch helpu i gael y profiad prifysgol rydych chi’n chwilio amdano. Roedd ein staff addysgu yn 2il yng Nghymru am Addysgu, Asesu ac Adborth a Chymorth Academaidd (ACF 2024) sy’n golygu y bydd y cymorth a’r adborth a gewch chi yn eich helpu chi i ddysgu a datblygu sgiliau academaidd cryf. Mae ein myfyrwyr wedi ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru am Gyfleoedd Dysgu a Llais Myfyrwyr (ACF 2024) sy’n golygu bod ystod eang o gyfleoedd ar gael i wella eich astudiaethau a bod myfyrwyr yn chwarae rhan weithredol wrth lunio eu profiadau dysgu. Mae ein hymrwymiad i’ch dysgu chi wedi golygu bod ein myfyrwyr yn ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru ac yn gydradd 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr (Times Higher Education, 2024, mesur ‘Positifrwydd Cyffredinol’). Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Facilities & Exhibitions

Cyfleusterau ac Arddangosfeydd 

Yn ogystal â chyfleusterau ac ystafelloedd tywyll ffotograffiaeth traddodiadol helaeth, mae ein darpariaeth ddigidol yn cynnwys ystafelloedd digidol lliw-reoledig arbenigol a chanddynt y feddalwedd Adobe diweddaraf. Mae hyn yn cynnwys sganwyr ffilm Hasselblad cydraniad uchel, portffolio fformat canolig a mawr ac argraffu ar gyfer arddangosfa.

A photography studio with movable overhead lights, screens, and a long roll of black fabric spread across the floor..

Mae ein Sioeau Haf yn arddangos gwaith eithriadol ein myfyrwyr sy’n graddio ar draws ystod eang o ddisgyblaethau creadigol.

Summer show poster wall

Oriel Ffotograffiaeth Ddogfennol

Gwybodaeth allweddol

  • 88-104 o Bwyntiau Tariff UCAS, Portffolio a Chyfweliad.

    Mae’r sgôr tariff UCAS yn berthnasol i chi os ydych chi wedi astudio cymhwyster yn ddiweddar sy’n gyfwerth â thariff UCAS . Mae UCAS yn darparu cyfrifiannell tariff er mwyn i chi weithio allan beth yw gwerth eich cymhwyster o fewn tariff UCAS.

    TGAU    

    Mae angen TGAU gradd A*-C (gradd 9-4 yn Lloegr) mewn Saesneg a Mathemateg hefyd.

    Llwybrau mynediad amgen 

    Os ydy’r cwrs hwn o ddiddordeb i chi, ond nid yw’r gofynion mynediad gennych i ymuno â’n gradd baglor, gallech ystyried:

    • ‘gyda Blwyddyn Sylfaen’. Mae’r llwybr hwn wedi’i gynllunio i roi cymorth ychwanegol i chi am ei fod yn rhoi blwyddyn ychwanegol (llawn amser) i chi o astudio wedi’i gefnogi.     

    Unwaith y byddwch chi wedi cwblhau eich astudiaethau Blwyddyn Sylfaen, byddwch yn symud ymlaen yn awtomatig i’r brif radd.    

    • Tystysgrif Addysg Uwch (TystAU). Cwrs un flwyddyn yw hwn ac mae’n gyfwerth â blwyddyn gyntaf y radd baglor tair blynedd, llawn amser.    

    Unwaith y byddwch wedi cwblhau eich astudiaethau TystAU, byddwch yn gymwys i symud ymlaen i’r ddwy flynedd sy’n weddill o’r radd baglor.

    Mae’r rhain yn llwybrau delfrydol os ydych yn dychwelyd i astudio ar ôl seibiant, neu os nad ydych wedi astudio’r pwnc hwn o’r blaen, neu os na wnaethoch chi gyflawni’r graddau sydd eu hangen i gael lle ar y radd hon.

    Cyngor a Chymorth Derbyn 

    Efallai y gwnawn ni roi cynnig is i chi yn seiliedig ar ystod o ffactorau, fel eich cefndir, profiadau ac amgylchiadau unigol. Gelwir hyn yn‘’Derbyniadau Cyd-destunol’.I gael cyngor a chymorth penodol, gallwch gysylltu â’n tîm ymholiadaui gael rhagor o wybodaeth am ofynion mynediad.
      
    Gofynion Iaith Saesneg 

    Os nad Saesneg yw eich iaith gyntaf, neu os nad ydych wedi astudio drwy gyfrwng y Saesneg o’r blaen, mae ein gofyniad arferol yn gyfwerth â sgôr o 6.0 y System Brofi Iaith Saesneg Rhyngwladol (Prawf Academaidd IELTS), heb gael llai na 5.5 ym mhob un o’r is-brofion. Rydym hefyd yn derbyn profion iaith Saesneg eraill.

    Ewch i ymweld ag adran Ceisiadau Rhyngwladol ein gwefan i ddysgu rhagor am ein Gofynion Iaith Saesneg a Chyrsiau Iaith Saesneg ymlaen llaw.

    Gofynion fisa ac ariannu

    Os nad ydych o’r DU ac nid oes gennych breswyliad yma yn barod, efallai bydd angen i chi wneud cais am fisa. 

    Ar gyfer cyrsiau sy’n fwy na chwe mis, bydd angen fisa myfyrwyr arnoch chi.

    Dylai myfyrwyr rhyngwladol sydd angen fisa Myfyriwr wneud cais am ein cyrsiau llawn amser gan eu bod yn gymwys ar gyfer nawdd fisa Myfyriwr.

    I gael yr holl wybodaeth, darllenwch y dudalen gwneud cais am fisa a chanllawiau.

  • Cyfweliad 

    Mae’n ofynnol i holl ymgeiswyr Coleg Celf Abertawe gael cyfweliad.  

    Rydym yn mwynhau’r broses gyfweld yn fawr, gan ddod i’ch adnabod chi a’ch gwaith, ac rydym yn teimlo mai dyma’r ffordd orau i ddod o hyd i’r myfyrwyr iawn i’n rhaglenni. Mae hyn hefyd yn sicrhau bod gan ein hymgeiswyr yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnyn nhw i wneud y dewis iawn iddyn nhw hefyd.  

    Os oes gennych unrhyw ymholiadau cyn eich cyfweliad, cysylltwch â ni yn artanddesign@uwtsd.ac.uk

    Portffolio 

    Gofynnwn i chi ddod â phortffolio o beth gwaith o’r gorffennol ac yn gyfredol. Eich portffolio yw casgliad o’ch gwaith mwyaf cyffrous a chynrychiadol, gan arddangos eich galluoedd creadigol, sgiliau technegol, a gweledigaeth artistig. Mae’n adrodd stori eich taith greadigol, gan roi sylw i’ch arddull, diddordebau, a syniadau unigryw wrth iddyn nhw ddatblygu. Rydym yn dehongli’r term ‘portffolio’ yn eang ac yn hapus i chi wneud yr un peth. Gall hyn gynnwys darnau gorffenedig, gwaith ar ei hanner, llyfrau braslunio, lluniadau, a phrosiectau sy’n parhau i ddatblygu, am fod y rhain yn rhoi cipolwg i ni ar eich proses feddwl a chreadigol. P’un a ydyn nhw mewn fformat ffisegol neu ddigidol, mae’ch portffolio’n gyfle i arddangos eich taith greadigol mewn ffordd sy’n teimlo’n ddilys i chi, gyda phob darn yn rhoi sylw i’ch potensial creadigol a’ch brwdfrydedd dros y rhaglen rydych yn gwneud cais amdani.

    Rydym yn deall bod llawer o ymgeiswyr yn parhau i fod ar ganol eu cymwysterau (e.e. Safon Uwch, BTEC, L3, Sylfaen) ac yn datblygu corff o waith, felly nid oes pwysau i bopeth fod wedi’i gwblhau nac yn gaboledig.

  • Mae’r asesu’n amrywio yn ôl y modwl a gall gynnwys portffolios, arddangosfeydd, aseiniadau ysgrifenedig, blogiau neu gyflwyniadau.

  • Mae gan ein myfyrwyr fynediad at ystod amrywiol o offer ac adnoddau, sydd yn y rhan fwyaf o achosion yn ddigonol i gwblhau eu rhaglen astudio. Rydym yn darparu’r deunyddiau sylfaenol sydd eu hangen ar fyfyrwyr i ddatblygu eu gwaith ymarferol o fewn ein cyfleusterau gweithdy a stiwdio helaeth.

    Fodd bynnag, mae’n debygol y bydd myfyrwyr celf a dylunio yn gorfod talu rhai costau ychwanegol i ymestyn eu harchwiliad o’u harfer personol. Er enghraifft, prynu eu deunyddiau a’u hoffer arbenigol eu hunain, ymuno â theithiau astudio dewisol, ac argraffu.

    Mae disgwyl i fyfyrwyr ddod â’u hoffer celf a dylunio personol eu hunain gyda nhw pan fyddant yn dechrau’r cwrs.  Gallwn roi cyngor ar yr offer cywir sydd ei angen ar gyfer eich rhaglen astudio a chyfeirio at gyflenwyr priodol os byddwch yn dymuno prynu eitemau hanfodol cyn, neu yn ystod, eich astudiaethau.

    Bydd pecyn celf a dylunio sylfaenol yn costio tua chan punt, ond mae’n bosibl y bydd gennych lawer o’r offer sydd ei angen yn barod: cysylltwch â ni yn gyntaf i wirio.  Er bod gennym stiwdios dylunio digidol pwrpasol helaeth (PC a MAC) i chi wneud eich gwaith cwrs, efallai y byddwch hefyd yn dymuno dod â’ch dyfeisiau digidol eich hunain gyda chi. Eto, cysylltwch â ni yn gyntaf cyn prynu unrhyw beth.

    Yn dibynnu ar y pellter a’r hyd, gall ymweliadau astudio dewisol amrywio o ran cost o oddeutu deg punt i ymweld ag orielau ac arddangosfeydd lleol i fwy na dau gant o bunnoedd am ymweliadau tramor – mae’r costau hyn am bethau fel cludiant, mynediad i leoliadau a llety, ac maen nhw fel arfer ar gyfraddau gostyngol i’n myfyrwyr.

  • Astudio drwy gyfrwng y Gymraeg neu Ddwyieithog

    Mae’r Drindod Dewi Sant yn ymfalchïo yn y ffaith ei bod yn Brifysgol ddwyieithog ac mae modiwlau ar y cwrs hwn ar gael i’w hastudio drwy gyfrwng y Gymraeg naill ai’n llawn neu’n rhannol. Ym mhob achos bydd myfyrwyr yn gallu cyflwyno asesiadau ysgrifenedig drwy gyfrwng y Gymraeg.

    Os byddwch yn dewis astudio’ch cwrs naill ai’n llawn neu’n rhannol drwy gyfrwng y Gymraeg, efallai y byddwch yn gymwys i wneud cais am ysgoloriaethau a bwrsariaethau i’ch cefnogi gyda’ch astudiaethau.

    Mae argaeledd modiwlau cyfrwng Cymraeg yn cael ei adolygu’n rheolaidd a gall amrywio bob blwyddyn yn dibynnu ar staffio, diddordebau ymchwil, amserlenni, galw myfyrwyr, ac isafswm niferoedd cofrestru, felly ni ellir gwarantu modiwlau penodol bob amser, cysylltwch â ni i drafod mwy.

    Cyfleoedd Cymraeg a Chymreig

    A ninnau’n brifysgol flaenllaw yng Nghymru, rydym yn falch o gynnig gwasanaethau cymorth a neuaddau preswyl arbennig i fyfyrwyr Cymraeg eu hiaith, gan annog ymdeimlad o gymuned a chartref oddi cartref, gan gynnwys ymuno â chlybiau a chymdeithasau i siaradwyr Cymraeg a dod yn aelod o’n cangen fywiog y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

    Cyfleoedd i Ddysgu Cymraeg

    Rydym hefyd yn darparu amrywiaeth o gyfleoedd i ddysgu a datblygu eich sgiliau Cymraeg.

  • Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau.  I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.

  • Astudio Dramor

    Gall myfyrwyr fanteisio ar y cyfle i astudio am un semester yn UDA a Chanada.

Mwy o gyrsiau Celf, Dylunio a Ffotograffiaeth

Chwiliwch am gyrsiau