Skip page header and navigation

Patrymau Arwyneb a Thecstilau (Llawn amser) (BA Anrh)

Abertawe
3 Blynedd Llawn amser
120 o Bwyntiau UCAS

Mae’r rhaglen Patrymau Arwyneb a Thecstilau yn un fywiog ac amlddisgyblaethol sy’n canolbwyntio ar archwilio tecstilau, materoliaeth, patrymau a gwneud yng nghyd-destun ffasiwn, addurno mewnol ac orielau a arweinir gan ddylunio. Mae’n heriol yn academaidd ac yn gyfoes ei hagwedd, a byddwch yn dysgu llu o sgiliau ymarferol a thechnegol, gan fwynhau potensial dylunio ein cyfleusterau digidol arloesol a thraddodiadol helaeth.

Rydym yn dwyn ein myfyrwyr ynghyd i greu hunaniaeth grŵp cryf, tra bo’r llwybrau’n caniatáu ichi ddewis arbenigedd. Mae’r diwylliant stiwdio yn greiddiol i brofiadau myfyrwyr Patrymau Arwyneb a Thecstilau, gan greu amgylchedd dysgu cydweithredol â ffocws proffesiynol sy’n anelu at adlewyrchu’r gweithle gydag ymagwedd gadarnhaol, ddifyr ac agored at weithio gydag eraill.

Mae ein myfyrwyr yn graddio yn ddylunwyr a gwneuthurwyr, yn barod i ffynnu mewn amrywiaeth o swyddi a mentrau creadigol, ar ôl i sawl prosiect byw arwyddocaol, profiad arddangos a chysylltiad â’r diwydiant gael eu gwreiddio yn eu hastudiaethau. Mae hon yn nodwedd ddiffiniol o’n rhaglen. Mae prosiectau byw wedi cael eu cynnal â Rolls Royce Bespoke Interiors, H&M Design, Eley Kishimoto London, Hallmark UK ac Orangebox. Mae’r rhaglen yn ddeinamig, wedi’i chreu i dyfu ac i adlewyrchu’r diwydiant creadigol y byddwch yn cyflwyno cynigion iddo, gyda chyflogadwyedd yn greiddiol iddi.

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Ar y campws
  • Llawn amser
Iaith:
  • Saesneg
  • Dwyieithog
Côd sefydliad:
T80
Côd UCAS:
SUP1
Hyd y cwrs:
3 Blynedd Llawn amser
Gofynion mynediad:
120 o Bwyntiau UCAS

Ffioedd Dysgu 2023/24 a 24/25
Cartref: (Llawn-amser): £9,000 y flwyddyn
Tramor (Llawn-amser): £13,500 y flwyddyn

Pam dewis y cwrs hwn

01
Cewch brofiadau myfyriwr bywiog ac ysbrydoledig a chewch fwynhau cymhareb staff-myfyrwyr ardderchog gydag amser cyswllt hael.
02
Bydd gennych eich gofod stiwdio pwrpasol eich hun a mynediad i'n gweithdai â chyfarpar rhagorol gydag ystod eang o gyfleusterau.
03
Byddwch yn ymwneud â phrosiectau byw cyffrous a'n cysylltiadau â’r diwydiant drwy gydol y rhaglen.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Mae portffolio’r cwrs Patrymau Arwyneb a Thecstilau yn rhoi profiad ymarferol helaeth, ac mae’n canolbwyntio ar greu arwynebau a strwythurau cyffrous ac arloesol ar gyfer ystod eang o gyd-destunau dylunio cyfoes. Gwneir hyn trwy sefydlu proses ddylunio broffesiynol barhaus a fesul cam dros y 3 neu 4 blynedd. Mae’n gyfuniad o syniadau, ymchwil, lluniadu a gwneud, ymarfer adfyfyriol ac amrywiaeth eang o fformatau cyflwyno.

Mae’r rhaglen wedi’i strwythuro er mwyn i’n dysgwyr brofi ystod o brosesau ac arferion a gaiff eu cymhwyso i’w harbenigedd dewisol (Gwneuthurwr, Ffasiwn neu Addurno Mewnol) wrth gynnal ymagwedd sy’n berthnasol i arfer dylunio cyfoes.

O’r cychwyn cyntaf byddwch yn cymryd rhan mewn amrywiaeth o ddulliau gweithio ac amgylcheddau dysgu a gefnogir gan dîm ymroddedig: ymweliadau astudio, ymchwil, lluniadu, dylunio, gwneud, dulliau argraffu digidol ac analog, llifo a lliwio, tiwtorialau, ymarfer cyd-destunol, prosiectau byw, cystadlaethau, profiad diwydiant, arddangosfeydd, hunan-hyrwyddo a pharatoi portffolio. Pan fyddwch yn ein gadael ni, byddwch yn barod ar gyfer y gweithle!

Mae Blwyddyn 1 yn cynnwys addysgu dwys, i’ch cyflwyno i amrywiaeth o ffyrdd newydd o ddysgu, prosesau materol eang, ymarfer astudiaethau gweledol, a meddylfryd dylunio blaengar. Eir i’r afael â’r rhain trwy brosiectau llwybr a rhaglen benodol, a hefyd trwy brofiadau carfan ehangach Coleg Celf Abertawe mewn astudiaethau cyd-destunol a’n modylau priodoleddau graddedigion. Mae elfennau o’r astudiaethau cyd-destunol a’r modylau priodoleddau graddedigion mewn arddull dysgu cyfunol sy’n cyfoethogi eich sgiliau digidol ochr yn ochr â’ch modylau sy’n seiliedig ar ymarfer.

Cewch brofiad o raglen gyfoethog ac amrywiol, wedi’i chynllunio o gwmpas y tri llwybr, gan eich galluogi i ennill a datblygu sgiliau trin arwynebau a dulliau adeiladu. Mae gweithdai tecstilau print, lliwio a chwmwl creadigol Adobe yn cyflwyno’r sgiliau i’r graddau Meistr. Mae gweithdai sydd wedi’u cynllunio ar gyfer gwneud yn rhoi’r cyfle i chi archwilio defnyddiau mewn ystyr eang, gan eich galluogi i weithio mewn dau ddimensiwn a thri dimensiwn.

Mae astudiaethau cyd-destunol a’r modylau priodoleddau graddedigion wedi’u cynllunio i fod yn sail i’ch ymarfer stiwdio.

Mae Blwyddyn 2 yn adeiladu ar flwyddyn 1, gan adleisio ‘siâp’ strwythur y modwl. Mae’r gwaith prosiect dylunio ar y lefel hon yn eich annog i fentro, i ddadansoddi, i herio confensiynau ac i werthuso eich ymagwedd unigol. Cewch eich cefnogi i ddatblygu eich syniadau gyda phwyslais ar wthio tuag at arloesi ac ehangu eich llais creadigol eich hun.

Byddwch yn parhau i ddatblygu eich ymarfer trwy brosiectau byw, cystadlaethau, gweithgareddau gweithdy a dulliau uwch mewn ystod eang o brosesau digidol a materol. Mae astudiaethau cyd-destunol yn datblygu eich dealltwriaeth o ddamcaniaethau celf a dylunio hanesyddol a chyfoes ac yn eich paratoi ar gyfer modwl y Prosiect Annibynnol ar lefel 6.

Mae’r modwl Priodoleddau Graddedigion yn eich cyflwyno i’r cyd-destun cyflogaeth yr ydych yn gweithio tuag ato ac yn cynnig gweithdai ymarferol mewn gwaith tîm, datrys problemau, ac adeiladu presenoldeb proffesiynol ar-lein. Mae prosiectau cyswllt allanol wedi’u targedu rhwng lefelau 5 a 6 i roi cyfle i chi wneud cysylltiadau, datblygu rhwydweithiau i fynd ar deithiau ymchwil neu ar leoliad, gan roi blas i chi o bosibiliadau’r dyfodol.

Mae Blwyddyn 3 yn gofyn i chi roi eich ymarfer stiwdio yn ei gyd-destun mewn ymateb i’ch dewisiadau personol, eich set sgiliau, eich cryfderau a’ch uchelgeisiau, eich gallu i arloesi, a’ch profiadau prosiect allanol a byw hyd yma. Gwneir hyn drwy brosiect mawr personol sylweddol a phrosiect byw arall. Mae modwl y Prosiect Annibynnol yn rhoi eich ymarfer stiwdio mewn cyd-destun trwy ddarn ysgrifenedig estynedig ac yn cynnig cyfle i chi gloddio’n ddyfnach i’r syniadau a’r cysyniadau rydych chi’n ymchwilio iddynt. Daw’r flwyddyn i ben gyda chorff o waith neu gasgliad dylunio sy’n mynegi eich taith greadigol fel dylunydd neu wneuthurwr yn llawn, a chaiff ei arddangos mewn gofod cyhoeddus neu rithwir; y Sioe Raddio.

Cynhelir gweithdai hyrwyddo proffesiynol i gryfhau strategaeth ymadael yr unigolyn.

Gorfodol 

Ffyrdd o feddwl

(10 credydau)

Ffyrdd o Ganfod

(10 credydau)

Diwylliant Gweledol a Materol

(10 credydau)

Gwneud Delweddau 1 - Darlunio ar gyfer Dylunio

(10 credydau)

Astudiaethau Mawr A1 - Syniadau ar Waith

(20 credydau)

Astudiaethau Mawr A2 - Dylunio ar gyfer Cyd-destun

(20 credydau)

Dyfodol Digidol a Materol B1

(20 credydau)

Dyfodol Digidol a Materol B2

(20 credydau)

Gorfodol 

Ymchwil mewn Cyd-destun

(10 credydau)

Ymchwil ar Waith

(10 credydau)

Gwneud Delweddau 2 - Lluniadu ar gyfer Briff Byw

(10 credydau)

Iaith Weledol a Materol

(10 credydau)

Astudiaethau Mawr A3 - Dylunio ar gyfer Briff Byw

(20 credydau)

Astudiaethau Mawr A4 - Briff Hunangyfeiriedig

(20 credydau)

Gorfodol 

Prosiect Annibynnol

(40 credydau)

Prosiect Mawr

(60 credydau)

Ymholiad Creadigol Uwch

(20 credydau)

Course Disclaimer

  • Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio. 

    Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall. 

tysteb

Staff

Staff

Cewch eich addysgu a’ch cefnogi gan amrywiaeth eang o staff a thimau proffesiynol sydd yma er mwyn eich helpu i gael y profiad prifysgol gorau posibl. Daeth ein staff addysgu’n 2il yng Nghymru am asesiadau ac adborth (NSS 2023) sy’n golygu y bydd y sylwadau a gewch chi ar eich gwaith yn eich helpu i ddysgu. O ganlyniad i’n hymrwymiad i’ch dysgu mae ein myfyrwyr wedi ein gosod yn y 10 gorau yn y DU am Ddarlithwyr ac Ansawdd Addysgu. Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Llety

Myfyrwyr ar y cwrs Patrymau Arwyneb yn gweithio mewn stiwdio

Cyfleusterau Patrwm Arwyneb a Thecstilau

Mae’r rhaglen yn cael ei chynnal mewn stiwdio fywiog, olau sy’n cael digon o awyr sydd â digon o le i holl flynyddoedd y cwrs gan ei wneud yn ganolbwynt ein cymuned Patrwm Arwyneb a Thecstilau. Bydd gennych le desg personol trwy gydol eich astudiaethau. Y naill ochr a’r llall i’r stiwdio mae ein gweithdai llawn offer lle gallwch archwilio ystod eang o ddeunyddiau a phrosesau, sy’n eich galluogi i gymryd rhan mewn dulliau perthnasol o arfer dylunio.

example of student bedroom

Llety Abertawe

Mae gan Abertawe boblogaeth enfawr o fyfyrwyr, a bydd yr amrywiaeth o lety sydd ar gael yn eich gadael yn teimlo’n ddifeth o ddewis. Darperir llety yn Abertawe gan wahanol ddarparwyr llety myfyrwyr pwrpasol a gall y tîm llety eich arwain trwy eich opsiynau a bydd yn cynnig cefnogaeth barhaus trwy gydol eich amser fel myfyriwr PCYDDS.

Gwybodaeth allweddol

  • Mae gennym ddiddordeb mewn pobl greadigol sy’n dangos ymrwymiad cryf i gelf a/neu ddylunio, ac felly rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion o ystod eang o gefndiroedd. Er mwyn asesu addasrwydd myfyrwyr ar gyfer eu dewis gwrs, rydym yn trefnu cyfweliadau ar gyfer pob ymgeisydd lle caiff eich sgiliau, eich cyraeddiadau a’ch profiad bywyd eu hystyried, yn ogystal â’ch portffolio o waith.

    Ein cynnig safonol ar gyfer cwrs gradd yw 120 pwynt tariff UCAS. Disgwyliwn i ymgeiswyr gael gradd C neu uwch mewn Saesneg Iaith (neu Gymraeg) ar lefel TGAU, ac iddynt fod wedi llwyddo mewn pedwar pwnc arall. Yn ogystal, rydym yn derbyn ystod o gymwysterau Lefel 3 gan gynnwys:

    • Diploma Sylfaen mewn Celf a Dylunio, ynghyd ag un TAG Safon Uwch mewn pwnc academaidd perthnasol
    • Tair TAG Safon Uwch neu gyfwerth
    • Diploma Estynedig BTEC mewn pwnc perthnasol, gyda graddau Teilyngdod o leiaf
    • Sgôr Bagloriaeth Ryngwladol o 32
    • Gellir ystyried cymwysterau perthnasol eraill fesul achos unigol

    Mae cymwysterau’n bwysig; ond, nid yw ein cynigion yn seiliedig ar ganlyniadau academaidd yn unig. Os nad oes gennych y pwyntiau UCAS gofynnol, cysylltwch â thiwtor derbyn y cwrs neu anfonwch e-bost at artanddesign@pcydds.ac.uk oherwydd gallwn ystyried cynigion i ymgeiswyr ar sail teilyngdod unigol, gwaith eithriadol, a/neu brofiad ymarferol.

  • Mae’r rhaglen hon yn cynnig profiad galwedigaethol sy’n heriol yn academaidd ac yn ymgorffori dulliau addysgu ac asesu arloesol. Bydd disgwyl i fyfyrwyr fod yn weithredol wrth reoli eu profiad dysgu, bod yn greadigol a chymryd camau i’w datblygu eu hunain.

  • Mae gan ein myfyrwyr fynediad at ystod amrywiol o offer ac adnoddau, sydd yn y rhan fwyaf o achosion yn ddigonol i gwblhau eu rhaglen astudio. Rydym yn darparu’r deunyddiau sylfaenol sydd eu hangen ar fyfyrwyr i ddatblygu eu gwaith ymarferol o fewn ein cyfleusterau gweithdy a stiwdio helaeth.

    Fodd bynnag, mae’n debygol y bydd myfyrwyr celf a dylunio yn gorfod talu rhai costau ychwanegol i ymestyn eu harchwiliad o’u hymarfer personol. Er enghraifft, prynu eu deunyddiau a’u hoffer arbenigol eu hunain, ymuno â theithiau astudio dewisol, ac argraffu.

    Mae disgwyl i fyfyrwyr ddod â’u hoffer celf a dylunio personol eu hunain gyda nhw pan fyddant yn dechrau’r cwrs. Gallwn roi cyngor ar yr offer cywir sydd ei angen ar gyfer eich rhaglen astudio a chyfeirio at gyflenwyr priodol os byddwch yn dymuno prynu eitemau hanfodol cyn, neu yn ystod, eich astudiaethau.

    Bydd ‘pecyn celf a dylunio’ sylfaenol yn costio tua £100 ond mae’n bosibl y bydd gennych lawer o’r offer sydd ei angen yn barod, felly cysylltwch â ni yn gyntaf i wirio. Er bod gennym stiwdios dylunio digidol pwrpasol helaeth (PC a MAC) i chi wneud eich gwaith cwrs, efallai y byddwch hefyd yn dymuno dod â’ch dyfeisiau digidol eich hunain gyda chi. Eto, cysylltwch â ni yn gyntaf cyn prynu unrhyw beth.

  • Efallai y byddwch yn gymwys i gael cyllid i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I gael gwybod am ysgoloriaethau, bwrsariaethau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau.

  • Gall myfyrwyr hefyd fanteisio ar y cyfle i astudio am semester yn Ewrop, UDA neu Ganada.

  • Addurno Mewnol
    • Dylunwyr tecstilau
    • Dylunwyr papur wal
    • Argraffwyr sgrin
    • Dylunwyr wneuthurwyr
    • Dylunwyr patrymau
    • Addurnwyr mewnol
    • Dylunydd cynnyrch ffordd o fyw
    • Rolau mewnol ar gyfer brandiau addurno mewnol
    • Gwaith llawrydd ar gyfer brandiau a chleientiaid addurno mewnol, rhagfynegi tueddiadau a rhagolygon addurno mewnol
    • Golygyddol – cylchgronau, blogio, gwefannau, darlunio
    Ffasiwn
    • Dylunwyr tecstilau
    • Dylunwyr patrymau
    • Argraffwyr sgrin
    • Dylunwyr tecstilau digidol
    • Dylunwyr wneuthurwyr
    • Cynorthwywyr dylunio
    • Dylunydd ffordd o fyw ac ategolion
    • Swyddi hyfforddai graddedig
    • Steilwyr ffasiwn
    • Rolau mewnol ar gyfer brandiau
    • Gwaith llawrydd ar gyfer brandiau
    • Rolau mewn stiwdio ddylunio
    • Rhagfynegi tueddiadau a rhagolygon ffasiwn
    • Golygyddol - cylchgronau, blogio, gwefannau, darlunio
    Deunydd Ysgrifennu
    • Darlunwyr
    • Dylunio nwyddau anrhegion – papur lapio ac ategolion a chasgliadau cysylltiedig
    • Dylunio deunydd ysgrifennu – cardiau, llyfrau, casgliadau ffordd o fyw
    Cyrff Celfyddydol
    • Rheoli Oriel
    • Rheoli Prosiect
    • Gwneuthurwyr arddangosfeydd
    • Stocio a gwerthu trwy siopau oriel wedi’u curadu
    • Prosiectau cymunedol
    • Gwirfoddoli
    • Gweithdai
    • Artistiaid Preswyl
    Manwerthu
    • Marchnata Gweledol – dylunio a gosod
    • Caffael
    • Steilio
    • Steilydd personol
    • Gwerthu trwy siopau manwerthu
    Addysgu
    • TAR – Uwchradd, Cynradd, AB
    • Darlithwyr Gwadd
    • Darlithwyr Prifysgol
    • Gweithdy, Llawrydd
    • Gweithdai Cymunedol a Grwpiau celfyddydol
    Dulliau gweithio
    • Cyflogaeth
    • Hunangyflogaeth
    • Gweithio llawrydd
    • Mentergarwch
    • Gwirfoddol
    Rhestr Enghreifftiol o’r Cwmnïau y Mae Myfyrwyr yn Gweithio iddynt ar hyn o bryd
    • Monsoon
    • Hallmark Creative UK
    • Tigerprint
    • Misfit Fashion
    • Nobody’s Child
    • Humbug Design Ltd
    • Lush
    • In the Style
    • H&M, Sweden
    • Cubus, Norwy
    • Talking Tables
    • IG International Greetings
    • The Silk Bureau
    • Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol
    • Emma Bridgewater
    • Tenn Ltd
    • John Lewis
    Rhestr Enghreifftiol o Fyfyrwyr sydd wedi mynd ymlaen i redeg Busnesau Creadigol llwyddiannus
    • Jo Ashburner – Red Dragon Flags, The Roof Project
    • Stephanie Cole
    • Nia Rist Prints
    • Hannah Davies
    • Harriet Popham

Mwy o gyrsiau Celf, Dylunio a Ffotograffiaeth

Chwiliwch am gyrsiau