Skip page header and navigation

Dwyieithrwydd ac Amlieithrwydd (Rhan amser) (MA)

Dysgu o Bell
4 Blynedd Rhan amser

Cymhwyster ôl-radd unigryw drwy ddarpariaeth dysgu-o-bell yw’r MA Dwyieithrwydd ac Amlieithrwydd, sef yr un gyntaf o’i bath yn Ewrop. Mae’n rhan o genhadaeth y Brifysgol i gyfrannu at y bwrlwm cyffrous o weithgareddau ym maes cynllunio iaith a datblygiad dwyieithrwydd / amlieithrwydd yng Nghymru ac yn rhyngwladol.

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Dysgu o bell
  • Rhan amser
Iaith:
  • Saesneg
  • Cymraeg
Hyd y cwrs:
4 Blynedd Rhan amser

Pam dewis y cwrs hwn

01
Mae’r radd yn cynnig modylau sy’n cwmpasu amrywiaeth o agweddau ar ddwyieithrwydd a chynllunio ieithyddol yng Nghymru ac yn rhyngwladol.
02
Cynigir llwybrau gwahanol i fodloni galwadau proffesiynol amrywiaeth o yrfaoedd ym maes dwyieithrwydd.
03
Gall myfyrwyr ddewis o blith casgliad o fodylau yn ôl eu hanghenion personol, proffesiynol neu alwedigaethol.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Manteisia’r radd MA Dwyieithrwydd ac Amlieithrwydd ar y profiad ieithyddol cyfoethog a gynigir gan y cyd-destun dwyieithog yng Nghymru yn ogystal ag arbenigedd cydnabyddedig Prifysgol y Drindod Dewi Sant yn y maes. Mae’r Brifysgol yn rhan o rwydwaith ymestynnol o sefydliadau ar draws Ewrop lle mae dwyieithrwydd, amlieithrwydd a chynllunio iaith yn nodwedd feunyddiol.

Oddi ar sefydlu Cynulliad Cenedlaethol Cymru ym 1999, rhoddwyd ffocws newydd i’r ymdrechion i ddiogelu ac adfer y Gymraeg, ac ystyrir creu Cymru ddwyieithog yn nod cenedlaethol cyraeddadwy. Gosod y datblygiadau cyffrous hyn yn eu cyd–destun hanesyddol, gwleidyddol, cymdeithasol a rhyngwladol yw nod y radd MA Dwyieithrwydd ac Amlieithrwydd.

Er ei pherthnasedd i’r cyd-destun Cymraeg a Chymreig, mae’r i’r radd MA ffocws rhyngwladol y gellir elwa arno er budd y sefyllfa yn genedlaethol.
Mae’r rhaglen yn anelu at:

  • ddarparu ystod o agweddau ar faes dwyieithrwydd ac amlieithrwydd yng Nghymru a chyd-destunau rhyngwladol;
  • ddatblygu gallu myfyrwyr i ddadansoddi’n feirniadol y ffactorau amrywiol sydd ymhlŷg ag astudio dwyieithrwydd/amlieithrwydd ac i berthnasu’r ffactorau hynny â chyd-destunau cenedlaethol a rhyngwladol;
  • ddarparu myfyrwyr ar gyfer galwedigaethau amrywiol sy’n ymwneud â dwyieithrwydd/ amlieithrwydd a’u galluogi i gymhwyso egwyddorion sylfaenol, ynghyd â gwybodaeth, dealltwriaeth a medrau pwnc-seiliedig, at eu hanghenion galwedigaethol beunyddiol;
  • gyflwyno i fyfyrwyr y syniadaeth a’r ymchwil mwyaf perthnasol yn y maes sydd yn sail i’r damcaniaethau a’r doethineb diweddaraf;
  • ddatblygu medrau trosglwyddadwy myfyrwyr a’u gallu i ymchwilio, dehongli a gwerthuso’n feirniadol;
  • ddatblygu medrau gwybyddol myfyrwyr gan gynnwys eu gallu i resymu, dadansoddi’n feirniadol, yn ogystal â meddwl yn greadigol gan arfarnu unrhyw bolisïau presennol ym maes dwyieithrwydd/ amlieithrwydd a chynnig gwelliannau.

Canolbwyntir ar amryw agweddau ar ddwyieithrwydd a chynllunio iaith sydd yn berthnasol i ystod o swyddi proffesiynol a galwedigaethol yn ymwneud â iaith gan ymestyn a dyfnhau gwybodaeth, dealltwriaeth a medrau mewn meysydd penodol.

Bydd y medrau proffesiynol / galwedigaethol a gysylltir â’r rhaglen hon yn galluogi myfyrwyr i:

  • gwrdd â’r her sy’n wynebu unigolion ym maes dwyieithrwydd / amlieithrwydd a chynllunio iaith;
  • ymgymryd â phrosiectau sy’n ymwneud ag amryw agweddau ar y maes;
  • gynnal ymchwil unigol ac, fel rhan o dîm, i hyrwyddo cynlluniau a strategaethau ieithyddol;
  • ddadansoddi a dehongli data sy’n ymwneud ag amryw ddatblygiadau;
  • ddangos hyfedredd wrth ddefnyddio TGCh mewn cyflwyniadau ac wrth gyfathrebu.

Rhoddir cyfle i fyfyrwyr wneud astudiaethau maes yn achlysurol (e.e. yn yr Alban ac yn Iwerddon) i astudio prosiectau yn ymwneud ag adfywio ieithyddol a, phan yn ddaearyddol gyfleus, i fynychu cynadleddau cenedlaethol a rhyngwladol ar ddwyieithrwydd a chynllunio iaith.

Mantais y radd MA Dwyieithrwydd ac Amlieithrwydd i fyfyrwyr yw’r hyblygrwydd sydd yn caniatáu iddynt feithrin y wybodaeth a’r sgiliau angenrheidiol drwy ddysgu o bell ac astudio’n rhan-amser neu yn amser -llawn, a hynny gyda chymorth technoleg a’r deunydd darllen a ddarperir. Gellir astudio cyn lleied â dau fodwl y flwyddyn gan rannu’r gost dros gyfnod yr astudiaeth. Astudir y cwrs bellach gan fyfyrwyr yng Nghymru ac ar draws y byd, gan gynnwys, er enghraifft, Yr Eidal, Y Swistir, Tsiecoslofacia, Cyprus, Groeg a Mongolia.

Gorfodol

Agweddau Gwybyddol ar Ddwyieithrwydd

(30 Credyd)

Modelau ar gyfer Addysgu Dwyieithog

(30 Credyd)

Dwyieithrwydd Cymdeithasol

(30 Credyd)

Dwyieithrwydd ac Amlieithrwydd yn yr Unigolyn

(30 Credyd)

Y Gyfadran Addysg a Chymunedau: Traethawd Hir

(60 Credyd)

Optional

Optional

Modelau ar gyfer Addysgu Dwyieithog

(30 Credyd)

Dwyieithrwydd Cymdeithasol

(30 Credyd)

Dwyieithrwydd ac Amlieithrwydd yn yr Unigolyn

(30 Credyd)

Hyrwyddo'r Gymraeg

(30 Credyd)

Optional

Agweddau Gwybyddol ar Ddwyieithrwydd

(30 Credyd)

Modelau ar gyfer Addysgu Dwyieithog

(30 Credyd)

Hyrwyddo'r Gymraeg

(30 Credyd)

Complusory 

Y Gyfadran Addysg a Chymunedau: Traethawd Hir

(60 Credyd)

Compulsory

Y Gyfadran Addysg a Chymunedau: Traethawd Hir

(60 Credyd)

Disclaimer

  • Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio. 

    Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall. 

tysteb

Staff

Staff

Cewch eich addysgu a’ch cefnogi gan amrywiaeth eang o staff a thimau proffesiynol sydd yma er mwyn eich helpu i gael y profiad prifysgol gorau posibl. Daeth ein staff addysgu’n 2il yng Nghymru am asesiadau ac adborth (NSS 2023) sy’n golygu y bydd y sylwadau a gewch chi ar eich gwaith yn eich helpu i ddysgu. O ganlyniad i’n hymrwymiad i’ch dysgu mae ein myfyrwyr wedi ein gosod yn y 10 gorau yn y DU am Ddarlithwyr ac Ansawdd Addysgu. Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Gwybodaeth allweddol

  • Goruchwylir trefniadau mynediad yr Ysgol gan y Tiwtor Mynediad ynghyd â Phennaeth Ysgol y Gymraeg ac Astudiaethau Dwyieithrwydd.

    Dilyna’r Ysgol ganllawiau’r Brifysgol parthed y cymwysterau angenrheidiol megis y nodir yn y Llawlyfr Ansawdd Academaidd. Fel arfer, disgwylir bod myfyrwyr ôl-radd wedi ennill gradd gyntaf a ddyfarwyd gan brifysgol neu gorff dyfarnu cydnabyddedig.

    Beth bynnag, caniatâ’r canllawiau hyn hefyd geisiadau oddi wrth fyfyrwyr nad ydynt efallai yn cydymffurfio â gofynion academaidd y dull mynediad arferol.Gall yr Ysgol, felly, ystyried ceisiadau oddi wrth fyfyrwyr aeddfetach y bydd ganddynt brofiad perthnasol a /neu gymwysterau amgen i’r rheiny a amlinellir uchod.

    Fel arfer, gofynnir i fyfyrwyr rhyngwladol nad yw’r iaith Saesneg yn famiaith iddynt ac sydd yn ceisio am gyrsiau ôl-radd ddangos tystiolaeth am feistrolaeth ddigonol ar yr iaith Saesneg ar gyfer dilyn cwrs, ymgymryd ag ymchwil a chynhyrchu gwaith ysgrifenedig heb drafferthion ieithyddol sylweddol. Fel arfer, disgwylir tystiolaeth Tystysgrif Uwch neu Hyfedredd Caergrawnt, sgôr lleiafswm 6.5 gan IELTS, 575 gan TOEFL neu 700 gan TOEIC.

    Ar ôl derbyn ceisiadau a’u harchwilio gan Bennaeth yr Ysgol a Chyfarwyddwr y Rhaglen, gwahoddir pob ymgeisydd cymwys am gyfweliad. Cyfwelir myfyrwyr astudio-o-bell sydd dramor ar Skype neu ar y ffôn ac o dan yr un amodau trwyadl â’r rheiny a gyfwelir yn y brifysgol.

  • Mabwysiedir amryw ddulliau asesu er mwyn galluogi myfyrwyr i arddangos eu gwybodaeth a’u medrau mewn perthynas â’r deilliannau dysgu, gan gynnwys:

    • aseiniadau ysgrifenedig
    • cyflwyniadau
    • traethodau hir.

    Dewisir dulliau asesu ar sail eu haddasrwydd gogyfer â sicrhau y gall myfyrwyr arddangos eu bod wedi cyflawni’r deilliannau dysgu hynny a nodir yn glir ar gyfer pob modwl ac y seilir meini-prawf yr asesu arnynt.

    Ar ddechrau pob modwl fe ddarperir i bob myfyriwr:

    • yr aseiniad(au) ar gyfer asesu’r modwl ynghyd â phwysoliad pob aseiniad
    • rhestr o’r meini prawf a ddefnyddir i farcio aseiniad neu gyflwyniad
    • cyfarwyddyd ychwanegol parthed gofynion y dasg/tasgau a osodwyd  a  dyddiadau ar gyfer cyflwyno.

    O ganlyniad i gwblhau  aseiniad, caiff pob myfyriwr:

    • adroddiad ffurfiol a fydd yn cynnwys asesiad o’r meini-prawf unigol y seiliwyd y marc terfynol arnynt, ynghyd ag adborth a fydd hefyd yn cynnwys sylwadau ar sut i wella fel rhan o broses ffurfiannol
    • cyfle i drafod yr aseiniad ymhellach â thiwtor os oes angen

    Ail-asesir pob aseiniad yn fewnol gan ail-farciwr yn ogystal ag arholydd allanol. 

  • Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau.  I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.

  • Mae gan y Brifysgol adnoddau arbennig yn y maes sydd yn ein galluogi i gynnig ystod o fodylau i gwrdd â gofynion datblygiad proffesiynol a diddordebau personol. Y mae ffocws y radd yn eang ac, felly, mae’n addas ar gyfer ystod o feysydd proffesiynol gyda’r nod i arfogi myfyrwyr â’r wybodaeth gefndirol a’r sgiliau angenrheidiol i fedru gweithio’n hyderus ym maes dwyieithrwydd / amlieithrwydd a chynllunio iaith. Mae’r cwrs yn cynnig ystod eang o brofiadau ac, felly, bydd yn apelio at unrhyw un sydd yn gysylltiedig â datblygu defnydd o’r iaith Gymraeg ac / neu ieithoedd eraill yn y gymdeithas gyfoes, gan gynnwys, er enghraifft:

    • Athrawon a Hyfforddwyr
    • Cyfieithwyr
    • Gweithwyr Ieuenctid / Cymunedol
    • Swyddogion Iaith
    • Cynllunwyr Iaith
    • Swyddogion y Llywodraeth / Llunwyr Polisi

    Cynigia’r radd MA gyfle i fynd ymlaen i wneud gwaith ymchwil yn ddiweddarach ar gyfer gradd Ph.D os dymunir.