Skip page header and navigation

Llenyddiaeth Fodern (Rhan amser) (PGDip)

Dysgu o Bell
3 Flwyddyn Rhan amser

Mae’r cwrs MA Llenyddiaeth Fodern yn cyflwyno fframwaith damcaniaethol ar gyfer astudiaeth lenyddol cyn canolbwyntio ar fodiwlau sy’n seiliedig ar bynciau a genres.  Ein nod yw archwilio a deall datblygiadau diwylliannol y ddau gan mlynedd diwethaf a’u heffaith ar lenyddiaeth, yn gyntaf ym Mhrydain ac yna dangos cyfraniad cynyddol llenyddiaethau eraill yn yr iaith Saesneg.

Gall myfyrwyr astudio ar gyfer:

  • Llenyddiaeth Fodern (MA)
  • Llenyddiaeth Fodern (Dip Ôl-radd)
  • Llenyddiaeth Fodern (Tyst Ôl-radd)

Mae’r rhaglen yn gwneud defnydd o arbenigedd staff sydd â diddordebau arbenigol mewn Llenyddiaeth Iwtopaidd a Dystopaidd, Llenyddiaeth Plant, Llenyddiaeth Fodernaidd a Chelf, Rhywedd, Llenyddiaeth Gyfoes, a Damcaniaethau Naratif a Llenyddol.

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Ar-lein
  • Rhan amser
Iaith:
  • Saesneg
Hyd y cwrs:
3 Flwyddyn Rhan amser

Pam dewis y cwrs hwn

01
Dull anhraddodiadol o astudio llenyddiaeth trwy gynnwys safbwyntiau o feysydd eraill, er enghraifft, anthropoleg neu athroniaeth, cymdeithaseg ac addysg.
02
Proffiliau ymchwil a diddordebau’r staff sy’n sail i’r modiwlau.
03
Mae dulliau asesu modiwlau’n gysylltiedig â gwella sgiliau cyflogadwyedd graddedigion.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Mae’r cwrs rhan-amser dysgu o bell Llenyddiaeth Fodern (MA) yn symud i ffwrdd oddi wrth fodel o astudio llenyddiaeth cwbl hanesyddol sy’n seiliedig ar gyfnod penodol ac sydd wedi’i drefnu o amgylch swp o destunau canonaidd.

Yn seiliedig ar gyfarwyddyd ynglŷn â dulliau a sgiliau ymchwil uwch ac astudiaeth gymharol o ddulliau beirniadol sy’n seiliedig ar ddamcaniaethau, mae’r cwrs MA hwn yn galluogi myfyrwyr i ddatblygu gafael cynnil ar lenyddiaeth Saesneg ac agweddau cysylltiedig ar ddiwylliant yn y cyfnod o 1790 hyd heddiw.

Mae myfyrwyr ar y cwrs MA yn cwblhau pedwar modiwl 30 credyd yn Rhan I o’r cwrs: tri modiwl gorfodol – Damcaniaeth Feirniadol a Llyfryddiaeth; Byd sy’n Newid: Moderniaeth ac Wedi Hynny; a Plentyn y Cyfnod:  Cynrychiolaeth o’r Plentyn mewn Llenyddiaeth Fodern – ac un modiwl dewisol arall, cyn mynd ymlaen i’r traethawd hir 60 credyd yn Rhan II.

Mae modiwlau’n adlewyrchu arbenigedd staff, er enghraifft, yr ysfa iwtopaidd mewn llenyddiaeth o’r cyfnod modern neu hanes diwylliannol a deallusol, athroniaeth a diwinyddiaeth meddygaeth, y corff a’r enaid, yn enwedig anatomeg.

Gorfodol

Byd sy'n Newid: Moderniaeth ac Wedi Hynny

(30 credydau)

Traethawd Hir MA (Llenyddiaeth Fodern)

(60 credydau)

Dulliau Ymchwil Llenyddol

(15 credydau)

Dewisol

Yr Arthur Celtaidd a Chwedlau'r Mabinogi

(30 credydau)

Adeiladu Bydoedd Bach: Y Stori fer yn Saesneg

(30 credydau)

Disclaimer

  • Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio. 

    Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall. 

Staff

Staff

Cewch eich addysgu a’ch cefnogi gan amrywiaeth eang o staff a thimau proffesiynol sydd yma er mwyn eich helpu i gael y profiad prifysgol gorau posibl. Daeth ein staff addysgu’n 2il yng Nghymru am asesiadau ac adborth (NSS 2023) sy’n golygu y bydd y sylwadau a gewch chi ar eich gwaith yn eich helpu i ddysgu. O ganlyniad i’n hymrwymiad i’ch dysgu mae ein myfyrwyr wedi ein gosod yn y 10 gorau yn y DU am Ddarlithwyr ac Ansawdd Addysgu. Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

tysteb

Gwybodaeth allweddol

  • Bydd disgwyl i ymgeiswyr feddu ar radd gyntaf dda (dosbarth cyntaf neu ail ddosbarth uwch), er hynny mae pob cais yn cael ei ystyried yn ôl ei rinweddau ei hun, felly gellir cynnig lle ar sail cymhwyster proffesiynol a phrofiadau perthnasol. Gellir derbyn ymgeiswyr sydd â graddau yn y dosbarthiadau is neu sydd heb radd ar lefel Tystysgrif neu Ddiploma Ôl-raddedig, gyda chyfle i uwchraddio i lefel Meistr os bydd cynnydd boddhaol yn cael ei wneud. 

  • Mae strategaeth asesu’r rhaglen yn cynnwys asesiadau ffurfiannol a chrynodol. Nod asesiadau ffurfiannol yw defnyddio ffurf ‘asesiad troellog’, gan annog myfyrwyr i ailedrych ar safonau a drafodwyd mewn modiwlau blaenorol a’u rhoi ar waith. Er enghraifft, mae damcaniaethau a gyflwynwyd yn y modiwl theori cyntaf yn cael eu hailystyried ym mhob modiwl llenyddiaeth tra bod syniadau sy’n cysylltu ffurf lenyddol â newid diwylliannol ac ideolegol yn ymddangos ym mhob un o’r modiwlau.

    O fewn modiwlau unigol gellir datblygu testunau ar draws yr uned gyfan gydag asesiadau cysylltiedig yn galluogi defnyddio adborth o’r tasgau cynharach i lywio rhai diweddarach. Mae defnyddio fforymau trafod ar-lein yn sicrhau bod hunanfyfyrio proffesiynol yn cael ei ymgorffori ym mhob modiwl; gellir ei hyrwyddo ymhellach trwy aseiniadau penodol yn ôl ffocws y modiwl.

    Mae asesiadau modiwlau Rhan 1 wedi’u cynllunio i baratoi myfyrwyr ar gyfer y dasg o gyflwyno traethawd ymchwil sylweddol fel rhan o’u portffolio ymchwil yn Rhan 2.

    Mae rhai modiwlau felly’n defnyddio patrwm asesu safonol sy’n cynnwys un neu ddau draethawd hirach a chyflwyniad. Mewn rhai modiwlau, bydd cynnydd myfyrwyr yn cael ei asesu drwy ddefnyddio fformat y portffolio. 

    Mae’r portffolio yn cynnig hyblygrwydd wrth asesu sgiliau sydd â ffocws proffesiynol, boed yn sgiliau cydweithio neu’n sgiliau personol; mae’r traethawd/cyflwyniad safonol yn rhoi hyfforddiant hanfodol mewn sgiliau allweddol trwy ddatblygu llygad craff wrth ddarllen ac ysgrifennu, a hybu datblygiad dadl gymhleth. Mae pob ffurf yn chwarae rhan werthfawr wrth feithrin graddedigion amryddawn sy’n medru addasu. 

  • Ni fydd unrhyw gostau ychwanegol gorfodol i astudio y tu hwnt i dalu am ffioedd dysgu. Dylai myfyrwyr fod yn barod i ysgwyddo’r costau sylfaenol sy’n gysylltiedig ag astudio, fel cludiant, ac efallai y byddan nhw am brynu coffi, byrbrydau neu eitemau amrywiol eraill ar y campws.

    Mae llawer o fyfyrwyr hefyd yn dewis buddsoddi mewn offer fel gliniaduron i’w cynorthwyo gyda’u hastudiaethau, er nad yw hyn yn ofynnol ar gyfer y rhaglen. Bydd unrhyw weithgareddau sy’n ymwneud ag astudio neu fywyd myfyriwr sy’n dwyn cost y tu hwnt i gost ffioedd dysgu yn ddewisol, a bydd y gost yn cael ei chyfleu’n glir i fyfyrwyr wrth gofrestru.

  • Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau.  I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.

  • Mae’r rhaglen yn datblygu sgiliau sy’n hanfodol ar gyfer unrhyw gyflogaeth lefel uchel i raddedigion, megis gweinyddu, codi arian, llunio polisïau a rheoli.

    Y gallu i gymryd gwybodaeth gymhleth, ei hasesu a’i dadansoddi’n feirniadol; llunio ac ysgrifennu dadleuon clir a chydlynol sy’n ymateb i bryderon penodol a chyflwyno gwybodaeth gymhleth i gynulleidfaoedd cymysg (neu amrywiol o leiaf).

    Mae ffocws y rhaglen ar drafodaeth ac ymgysylltu â sawl safbwynt yr un mor werthfawr. Mae’r sgiliau hyn yn hanfodol i unrhyw swydd sy’n delio’n uniongyrchol â phobl. Gall y rhain gynnwys swyddi ym myd gwaith cymdeithasol, gwasanaethau prawf, eiriolwyr iechyd meddwl.

    Bydd myfyrwyr sy’n astudio’r cwrs MA hwn gyda’r bwriad o wella eu cyfleoedd gyrfa yn elwa o’r asesiadau modiwl fydd yn canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau gwrando a myfyrio myfyrwyr, a’r gallu i fynegi syniadau cymhleth mewn gwaith ysgrifenedig strwythuredig a chryno.