Skip page header and navigation

Ysgrifennu Creadigol (Llawn amser) (PGDip)

Llambed
1 Flwyddyn Llawn amser

Mae Ysgrifennu Creadigol yn bwnc cynyddol boblogaidd ar lefel gradd a thu hwnt.

Mae’n cynorthwyo myfyrwyr i ddatblygu eu brwdfrydedd dros fynegiant creadigol yn waith llenyddol llwyddiannus (ac rydym yn annog ac yn galluogi ein graddedigion i gyhoeddi eu gwaith).

Mae’r cwrs hefyd yn cefnogi prosiectau llenyddol annibynnol sy’n gofyn am hyblygrwydd ac ymchwil hunan-gymhellol, barhaus - hyfforddiant rhagorol ar gyfer amrywiaeth o swyddi a sylfaen gadarn ar gyfer unrhyw yrfa entrepreneuraidd.

Mae’r gallu i gynhyrchu gwaith ysgrifenedig da a chlir yn sgil amhrisiadwy mewn byd sy’n llawn adroddiadau, o fyd addysg i reolaeth.

Mae cyfathrebu’n glir trwy iaith fanwl gywir yn paratoi myfyrwyr ar gyfer amrywiaeth o yrfaoedd, o newyddiaduraeth neu hysbysebu sy’n seiliedig ar destun, i broffesiynau cysylltiedig fel cyhoeddi, cyhoeddusrwydd neu weinyddu’r celfyddydau.

Mae’r cwrs Ysgrifennu Creadigol wedi’i hen sefydlu yn PCYDDS.  Ein cwrs MA mewn Ysgrifennu Creadigol oedd y cyntaf o’i math yng Nghymru yn 1997 a buan iawn y dilynodd rhaglenni israddedig anrhydedd sengl a chydanrhydedd. 

O ganlyniad i’r mentora proffesiynol a gawsant fel rhan o’r cwrs mae sawl cyn-fyfyriwr bellach yn gweithio ym myd cyhoeddi ac mewn diwydiannau cysylltiedig ac rydym yn falch o’r hanes blaenorol sydd gennym o weld gwaith ein myfyrwyr yn cael ei gyhoeddi ac yn llwyddo i ennill gwobrau — mae o leiaf un y flwyddyn yn cael ei gyhoeddi ac mae llawer yn mynd ymlaen i gyhoeddi rhagor o’u gwaith yn llwyddiannus.

Mae’r cwrs yn cael ei gynnig ar sail cwrs preswyl a thrwy ddarpariaeth gyfunol (cyfuniad o ddarpariaeth ar y campws/ar-lein).

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Cyfunol (ar y campws)
  • Llawn amser
Iaith:
  • Saesneg
Hyd y cwrs:
1 Flwyddyn Llawn amser

Pam dewis y cwrs hwn

01
Cyfle i astudio mewn cymuned gefnogol ond beirniadol o awduron
02
Canolbwyntio ar eich dealltwriaeth o’r byd cyhoeddi
03
Gwneud defnydd o’ch sgiliau ysgrifennu at ddibenion eang

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Mae gan y Brifysgol hanes rhagorol ym maes astudio Ysgrifennu Creadigol. Mae ein rhaglen Meistr mewn Ysgrifennu Creadigol wedi denu myfyrwyr o amrywiaeth o gefndiroedd a phrofiadau - o raddedigion diweddar i fyfyrwyr aeddfed sydd â chyfoeth o brofiad bywyd.

Mae’r rhaglen hon wedi’i chynllunio ar gyfer awduron ymroddedig sy’n dymuno cwblhau darnau sylweddol o waith ac ehangu eu profiad cyffredinol fel awdur.

Mae’r rhaglen yn cynnig cyfle i’r rhai sy’n ei hastudio weithio gydag amrywiaeth o awduron ar draws nifer o genres, awduron sydd ar y campws a rhai gwadd. Mae hefyd yn rhoi cyflwyniad i fyfyrwyr ar ddeall sut mae’r byd cyhoeddi’n gweithio.

Mae’r modiwlau’n canolbwyntio ar feithrin dealltwriaeth o greadigrwydd a genre, sgiliau ymchwil i awduron, a phrosiectau sy’n cael eu dewis gan y myfyrwyr. Mae elfen prosiect creadigol/traethawd hir y cwrs yn galluogi myfyrwyr i ddatblygu gwaith o safon y gellir ei gyhoeddi gyda thiwtor unigol.

Gorfodol

Crefft Ysgrifennu: Archwilio Llais, Ffurf ac Arfer

(30 credydau)

Gweithdy Ysgrifennu: Ymchwilio ac ysgrifennu i un ffocws

(30 credydau)

Byd yr Awdur

(30 credydau)

Dewisol

Gweithdy Ysgrifennu: Lle a chyd-destun ymchwilio ac ysgrifennu

(30 credydau)

Disclaimer

  • Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio. 

    Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall. 

Staff

Staff

Cewch eich addysgu a’ch cefnogi gan amrywiaeth eang o staff a thimau proffesiynol sydd yma er mwyn eich helpu i gael y profiad prifysgol gorau posibl. Daeth ein staff addysgu’n 2il yng Nghymru am asesiadau ac adborth (NSS 2023) sy’n golygu y bydd y sylwadau a gewch chi ar eich gwaith yn eich helpu i ddysgu. O ganlyniad i’n hymrwymiad i’ch dysgu mae ein myfyrwyr wedi ein gosod yn y 10 gorau yn y DU am Ddarlithwyr ac Ansawdd Addysgu. Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

tysteb

Accommodation

students sitting in Carmarthen student halls

Llety Llambed

Mae ein llety yn Llambed ar y Campws ei hun, sy’n golygu nad ydych chi byth yn bell o’r hyn sy’n digwydd ar y campws.  Mae amrywiaeth o opsiynau gwahanol ar gael i’n myfyrwyr a fydd yn addas i bob cyllideb.  

Gwybodaeth allweddol

  • Gall ymgeiswyr fod wedi derbyn gradd 2:1 mewn Ysgrifennu Creadigol neu ddisgyblaeth berthnasol (gellir ystyried y rhai â gradd 2:2 ar gyfer mynediad i Ddiploma Ôl-raddedig yn y lle cyntaf). Mae ymgeiswyr eraill heb radd gyntaf ond sydd â lefel o brofiad hefyd yn cael eu hannog i wneud cais. Ym mhob achos, bydd sampl o waith ysgrifenedig a chyfweliad yn rhan fawr o’r broses ymgeisio.

  • Mae strategaeth asesu’r rhaglen yn cynnwys asesiadau ffurfiannol a chrynodol. Bydd myfyrwyr yn cael eu hasesu ar amrywiaeth o ysgrifau creadigol a myfyriol, gan gynnwys tasgau creadigol, dyddiadur myfyriol, adolygiad, a thraethawd ymchwil.

    Mae asesiadau ar gyfer y rhaglen wedi’u llywio gan astudiaethau mewn Addysg Ysgrifennu Creadigol yn ogystal â datganiadau meincnodi pwnc Cymdeithas Genedlaethol Awduron mewn Addysg (NAWE, 2008) a’r Asiantaeth Sicrhau Ansawdd (QAA, 2016).

    Nod y penderfyniad i gael 4 modiwl yn rhan un o’r cwrs - dau wedi’u hasesu trwy bortffolio a dau trwy brosiect ymchwil unigol - yw mireinio sgiliau ysgrifennu penodol a datblygu mwy o ffocws. Mae’r modiwlau hyn yn paratoi’r myfyriwr i reoli’r gwaith ymchwil ac ysgrifennu sydd eu hangen ar gyfer y Prosiect Creadigol sydd hyd Traethawd Hir.

    Mae’r modiwl portffolio cyntaf yn cyflwyno amrywiaeth o wahanol ddulliau ysgrifennu a gwahanol dasgau i’r myfyriwr; mae’r ail yn cyflwyno’r awdur i gyfleoedd a ffyrdd o weithio fel awdur proffesiynol. Mae dilyniant graddol tebyg yn y ddau fodiwl ymchwil: mae’r cyntaf yn canolbwyntio ar ymchwilio ac ysgrifennu o amgylch pwnc unigol; mae’r ail yn ehangu i gynnwys cyd-destun ar ffurf lle neu amser. Mae pob un modiwl yn gofyn am rywfaint o fyfyrio ar y strategaethau ysgrifennu a ddefnyddir wrth ymarfer, a’u hailasesu.

    Mae’r Strategaeth Asesu wedi’i chynllunio mewn perthynas â Chanlyniadau Dysgu’r Rhaglen MA a chydran unigol y rhaglen honno, sef y modiwl. Gwneir cysylltiadau drwyddi draw â gwerth pob asesiad o ran gwella sgiliau cyflogadwyedd graddedigion, fel awduron proffesiynol ac fel awduron sy’n defnyddio eu sgiliau mewn maes priodol. I Awduron Creadigol, mae ymwybyddiaeth uwch o batrwm ac ystyr ieithyddol, sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig a llafar lefel uchel a sgiliau amhrisiadwy gwrando a thrafod yn hanfodol i unrhyw swydd reoli. 

    Yr ail ddiben yw datblygu graddedigion hynod fedrus a hyblyg gyda hyfforddiant yn y sgiliau allweddol sydd eu hangen ar gyfer unrhyw swydd lefel uchel: y gallu i wahaniaethu, llyncu, rheoli a phrosesu gwybodaeth gymhleth, i ffurfio a llunio dadleuon cymhleth y gellir eu cyflwyno’n briodol i wahanol gynulleidfaoedd. Wrth astudio ac ymarfer cyfathrebu ysgrifenedig, bydd Graddedigion yn cael hyfforddiant mewn sgiliau cyflwyno a chyfathrebu da, yn enwedig sgiliau gwrando a chydweithio heb golli ffocws.

  • Ni fydd unrhyw gostau ychwanegol gorfodol i astudio y tu hwnt i dalu am ffioedd dysgu. Dylai myfyrwyr fod yn barod i ysgwyddo’r costau sylfaenol sy’n gysylltiedig ag astudio, fel cludiant, ac efallai y byddan nhw am brynu coffi, byrbrydau neu eitemau amrywiol eraill ar y campws.

    Mae llawer o fyfyrwyr hefyd yn dewis buddsoddi mewn offer fel gliniaduron i’w cynorthwyo gyda’u hastudiaethau, er nad yw hyn yn ofynnol ar gyfer y rhaglen. Bydd unrhyw weithgareddau sy’n ymwneud ag astudio neu fywyd myfyriwr sy’n dwyn cost y tu hwnt i gost ffioedd dysgu yn ddewisol, a bydd y gost yn cael ei chyfleu’n glir i fyfyrwyr wrth gofrestru.

  • Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau.  I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.

  • Trwy ei gysylltiadau â llu o bynciau gan gynnwys Drama, y Cyfryngau, Newyddiaduraeth, Astudiaethau Ffilm ac Astudiaethau Theatr, mae Ysgrifennu Creadigol yn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd ysgrifennu posibl. Mae ein lleoliad yng ngorllewin Cymru yn ein galluogi i fanteisio ar gyfleoedd ym maes cynhyrchu ffilm a theledu sy’n datblygu yma.

    Mae’r myfyrwyr yn cael eu rhoi ar ben ffordd er mwyn deall bywyd awdur hunangyflogedig trwy gael eu cyflwyno i’r diwydiant cyhoeddi (o fynd at gyhoeddwyr, camau’r broses gyhoeddi, yr angen am ddogfennau fel taflenni gwybodaeth ymlaen llaw), cyflwyno eich hun mewn darlleniadau, prosiectau cydweithredol a thraws-ddisgyblaethol, preswyliadau ac ati.

    Un o’r meysydd twf mwyaf yw naratif hysbysebu feirol ac mae cyfleoedd i gydweithio hefyd ym myd dylunio a naratif gemau. Gall cysylltiadau â Llenyddiaeth neu Hanes arwain at bosibiliadau eraill, er enghraifft at yrfaoedd yn ymwneud â naratif sy’n gysylltiedig ag archifau ac amgueddfeydd.

    Yn ehangach mae’r ffocws ar strwythur a manylion iaith yn datblygu sgiliau sy’n hanfodol i unrhyw gyflogaeth lefel uchel i raddedigion: llunio ac ysgrifennu naratif clir a chydlynol sy’n cyflwyno gwybodaeth gymhleth i gynulleidfaoedd cymysg (neu amrywiol o leiaf). Yn ogystal â hynny, mae ffocws y rhaglen ar barch a sgiliau gwrando yn y gweithdy yr un mor werthfawr. Mae’r sgiliau hyn yn hanfodol i unrhyw swydd sy’n delio’n uniongyrchol â phobl. Gall y rhain gynnwys swyddi ym myd gwaith cymdeithasol, gwasanaethau prawf, eiriolwyr iechyd meddwl ac ati.