Skip page header and navigation

Ysgrifennu Creadigol (Llawn amser) (BA Anrh)

Llambed
3 Blynedd Llawn amser
96 - 112 o Bwyntiau UCAS

Mae’r rhaglen Ysgrifennu Creadigol wedi’i seilio ar ddiffiniad y Gymdeithas Ysgrifenwyr mewn Addysg Genedlaethol (NAWE) o’r pwnc. Fe’i lluniwyd i feithrin ysgrifenwyr creadigol ac i hwyluso creu gwaith newydd mewn cymuned gefnogol ond beirniadol. Byddwch yn datblygu eich arfer gyda modylau sy’n cyfoethogi ymwybyddiaeth greadigol a beirniadol o elfennau a thechnegau ysgrifennu effeithiol.

Rydym yn cyflwyno barddoniaeth, rhyddiaith a drama ym mlwyddyn un ac yn ehangu’r ffocws yn yr ail a’r drydedd flwyddyn i feithrin ysgrifennu llais, ffurf a lle.

Mae yna fodylau pwrpasol sy’n datblygu arfer ym maes barddoniaeth a ffuglen, ac, er bod agweddau beirniadol, hunan-adfyfyriol a golygyddol arfer yn cael eu pwysleisio drwyddi draw, mae un modwl hefyd yn ymdrin yn benodol â’r berthynas rhwng ymchwil ac ysgrifennu. Byddwch yn defnyddio’r sgiliau hyn i ymchwilio a chynhyrchu prosiect annibynnol estynedig (cyfwerth â thraethawd hir).

Ategir y sgiliau craidd hyn – ysgrifennu, ymchwil a golygu – gan fodylau sy’n eich cyflwyno i fydoedd cyhoeddi a pherfformio, sy’n eich galluogi i ddatblygu dealltwriaeth o ragolygon gyrfaol ysgrifenwyr yn y diwydiannau creadigol a chymhwysiad sgiliau ysgrifennu mewn cyddestunau entrepreneuraidd.

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Llawn amser
  • Cyfunol (ar y campws)
Iaith:
  • Saesneg
Côd sefydliad:
T80
Côd UCAS:
W801
Hyd y cwrs:
3 Blynedd Llawn amser
Gofynion mynediad:
96 - 112 o Bwyntiau UCAS

Ffioedd Dysgu 2023/24 a 24/25
Cartref: (Llawn-amser): £9,000 y flwyddyn
Tramor (Llawn-amser): £13,500 y flwyddyn

Pam dewis y cwrs hwn

01
Yn heriol yn academaidd ac yn greadigol, ein bwriad yw meithrin eich doniau creadigol ar draws ystod o ffurfiau gwahanol – gan gynnwys straeon byrion, sgriptiau ffilm, barddoniaeth, drama a nofelau.
02
Rhown gyfle i chi ddatblygu dealltwriaeth o fyd cyhoeddwyr gan ganolbwyntio ar eich sgiliau ymchwil a golygu ac archwilio agweddau allweddol ar gyhoeddi.
03
Byddwch yn mynychu dosbarthiadau mewn grwpiau bach â ffocws ar weithgareddau trafod a dysgu i annog yr hunan-ddatblygiad a’r adfyfyrio beirniadol y derbynnir eu bod yn allweddol ar gyfer datblygu galluoedd personol a phroffesiynol.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Ynghyd â’r opsiynau o ran ffurf a genre, byddwch yn dilyn modylau mewn ymchwil ac archifo, ac o ganlyniad i hyn byddwch yn creu darn o waith sylweddol a allai gael ei gyhoeddi. Drwy gydol eich tair blynedd bydd gennych gyswllt rheolaidd gyda, a chefnogaeth gan, ystod o wahanol ysgrifenwyr.

Bydd sesiynau gweithdy’n cael eu cynnal ac yma cewch eich annog i drafod eich gwaith gyda’ch cymuned o gyd-ysgrifenwyr. Bydd eich tiwtor yn eich cefnogi wrth i chi baratoi eich gwaith i’w gyhoeddi ac yn rhoi cyngor ichi ar leoedd i gysylltu â nhw. Ochr yn ochr â’r hyfforddiant un i un hwn, byddwch hefyd yn dilyn modylau ar wahanol agweddau at y diwydiant ysgrifennu, gan gynnwys sesiynau ar adolygu, golygu ac ysgrifennu yn unol â briff.

Mae yna ymdeimlad cryf o gymuned ymhlith myfyrwyr a staff, ac mae’r gymhareb staff/myfyriwr yn golygu y gall myfyrwyr gysylltu â’u darlithwyr pan fydd angen. Mae’r dosbarthiadau bach yn gyfeillgar bob tro a byth yn frawychus, sy’n caniatáu i staff ddod i adnabod ei myfyrwyr yn ôl eu henwau cyntaf.

Blwyddyn A a B 

Gorfodol

Mythau a Mytholeg: Sut mae Straeon yn Siapio'r Byd
Archwilio'r Dyniaethau
Haneseiddio Testunau

(20 credydau)

Cyflwyniad i'r Grefft o Ysgrifennu

(20 credydau)

Astudio Llenyddiaeth: Testun a Theori

(20 credydau)

Blwyddyn A a B 

Dewisol

Ffuglen Boblogaidd

(20 credydau)

Blwyddyn A

Gorfodol

"Green to the very door": Eco-feirniadaeth a Rhamantiaeth

(20 credydau)

Ffuglen Ddyfaliadol: Ffuglen wyddonol, ffantasi, realaeth hudol a bydau dychmygol eraill

(20 credydau)

The Art of the Pitch': Creu Gyrfa o Ysgrifennu

(20 credydau)

Ysgrifennu ar gyfer Teledu, Ffilm a Radio

(20 credydau)

Blwyddyn A a B 

Dewisol

Camgymeriad a Thrais Melys: Shakespeare a Chomedi a Thrasiedi’r Dadeni

(20 credydau)

Make it New': Agweddau ar Ysgrifennu'r 20fed a'r 21ain Ganrif

(20 credydau)

Ymchwil Casgliadau Arbennig: Llyfrgell ac Archifau Roderic Bowen

(20 credydau)

Y Llyfr, y Corff a'r Byd: Dyneiddiaeth, Meddygaeth, ac Archwilio'r Dadeni

(20 credydau)

Ysgrifennu ar gyfer y Theatr

(20 credydau)

Blwyddyn A 

Gorfodol

Prosiect Annibynnol

(40 credydau)

The Art of the Pitch': Creu Gyrfa o Ysgrifennu

(20 credydau)

Ysgrifennu ar gyfer Teledu, Ffilm a Radio

(20 credydau)

Blwyddyn A a B 

Dewisol

Camgymeriad a Thrais Melys: Shakespeare a Chomedi a Thrasiedi’r Dadeni

(20 credydau)

"Green to the very door": Eco-feirniadaeth a Rhamantiaeth

(20 credydau)

Make it New': Agweddau ar Ysgrifennu'r 20fed a'r 21ain Ganrif

(20 credydau)

Ymchwil Casgliadau Arbennig: Llyfrgell ac Archifau Roderic Bowen

(20 credydau)

Ffuglen Ddyfaliadol: Ffuglen wyddonol, ffantasi, realaeth hudol a bydau dychmygol eraill

(20 credydau)

Y Llyfr, y Corff a'r Byd: Dyneiddiaeth, Meddygaeth, ac Archwilio'r Dadeni

(20 credydau)

Ysgrifennu ar gyfer y Theatr

(20 credydau)

Blwyddyn B

Gorfodol

Prosiect Annibynnol

(40 credydau)

Course Disclaimer

  • Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio. 

    Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall. 

tysteb

Staff

Staff

Cewch eich addysgu a’ch cefnogi gan amrywiaeth eang o staff a thimau proffesiynol sydd yma er mwyn eich helpu i gael y profiad prifysgol gorau posibl. Daeth ein staff addysgu’n 2il yng Nghymru am asesiadau ac adborth (NSS 2023) sy’n golygu y bydd y sylwadau a gewch chi ar eich gwaith yn eich helpu i ddysgu. O ganlyniad i’n hymrwymiad i’ch dysgu mae ein myfyrwyr wedi ein gosod yn y 10 gorau yn y DU am Ddarlithwyr ac Ansawdd Addysgu. Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Llety

students sitting in Carmarthen student halls

Llety Llambed

Mae ein llety yn Llambed ar y Campws ei hun, sy’n golygu nad ydych chi byth yn bell o’r hyn sy’n digwydd ar y campws.  Mae amrywiaeth o opsiynau gwahanol ar gael i’n myfyrwyr a fydd yn addas i bob cyllideb.  

Gwybodaeth allweddol

  • Mae graddau’n bwysig; ond, nid yw ein cynigion wedi’u seilio’n llwyr ar ganlyniadau academaidd. Mae gennym ddiddordeb mewn pobl greadigol sy’n arddangos ymrwymiad cryf i’w dewis faes pwnc ac felly rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion o amrywiaeth eang o gefndiroedd.

    I asesu addasrwydd myfyrwyr ar gyfer eu dewis gwrs, rydym fel arfer yn trefnu cyfweliadau ar gyfer pob ymgeisydd lle caiff eich sgiliau, cyraeddiadau a phrofiad bywyd eu hystyried yn ogystal â’ch cymwysterau.

  • Asesir y rhaglen mewn amrywiaeth o ffyrdd a fydd yn cynnwys nifer o’r mathau a ganlyn o asesiad: traethodau rhwng 1,000 a 4,000 o eiriau, dadansoddi dogfen, adolygiadau llyfrau/cyfnodolion, adroddiadau byr a dyddlyfrau adfyfyriol, profion amser, arholiadau a welir ac nas gwelir ymlaen llaw, dyddlyfrau maes, posteri, cyflwyniadau grŵp ac unigol, traethodau hir 10,000 o eiriau, wicis, sylwebaethau a gwerthusiadau ffilm.

  • Mae’r Gyfadran wedi gwneud amcangyfrif gan dybio y bydd myfyrwyr yn prynu copïau newydd o’r llyfrau. Gallai myfyrwyr hefyd ddewis gwario arian ar argraffu fersiynau drafft o’u gwaith.

    Gallai myfyrwyr wario hyd at £300 y flwyddyn ar lyfrau a deunyddiau ychwanegol cysylltiedig.

    Disgwylir i fyfyrwyr gyflwyno 2 gopi caled o’u prosiect terfynol, ac amcangyfrifir y bydd cost rhwymo’r rhain yn £20.

    Taith Maes ddewisol:

    Mae’r Gyfadran yn gweithio i sicrhau bod ystod o ddewisiadau ar gael o ran gwaith maes a theithiau maes yn lleol ac yn rhyngwladol. Felly gall myfyrwyr ddewis cymryd lleoliadau mwy neu lai drud. Mae’r Gyfadran yn noddi’r rhain ond mae’r gost bob blwyddyn yn ddibynnol ar gostau hedfan, lleoliad, a chyfraddau cyfnewid arian. Isod nodir pegwn uchaf y costau disgwyliedig ar sail ble mae myfyrwyr cyfredol wedi ymgymryd â lleoliadau.

    Gwaith maes (yn ddibynnol ar ble mae’r myfyriwr yn penderfynu gwneud gwaith maes): oddeutu £500 i £1,500
    Teithiau unigol: oddeutu £5 i £50

  • Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau.  I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Ysgoloriaethau a Bwrsarïau.

  • Mae’r Cyfleoedd gyrfaol a gwaith yn eang iawn, ac yn cynnwys:

    • Swyddi gweinyddol a rheoli
    • Gwaith Cymuned
    • Gwaith llawrydd fel ysgrifennu copi, golygu
    • Ysgrifennu creadigol annibynnol ac a gomisiynir
    • Marchnata a chodi arian
    • Cyhoeddi
    • Addysgu
    • Ysgrifennu ar gyfer ffilm, teledu a chyfryngau