Skip page header and navigation

Cyflwyniad

Fel myfyriwr BA Ffilm a Theledu bydd gennych fynediad at raglenni Adobe a chyfrifiaduron Mac a’r Creative Cloud yn cynnwys Adobe Premiere ac After Effects. Rydym ni wedi’n lleoli yng Nghanolfan Dylan Thomas – adeilad prydferth sydd â sgrin maint sgrin sinema, a theatr at ddefnydd myfyrwyr.  Y lleoliad perffaith i fod yn greadigol.   

Manylion

Gyda phartneriaid lleoliadau o fewn ac o gwmpas Abertawe, byddwn yn aml yn saethu ar leoliad mewn safleoedd megis Sw Drofannol Plantasia, Theatr y Grand, Amgueddfa Abertawe, Pier y Mwmbwls, Man Geni Dylan Thomas a Neuadd Brangwyn i roi profiad ymarferol i fyfyrwyr o weithio ar leoliad i adrodd straeon.   

Crynodeb o’r cyfarpar  

  • 1 Camera Sinema RED (RED ONE)  

  • 1 Camera Safon Netflix (C70)  

  • Amrywiaeth o Gamerâu Ffilm ffactor ffurf fach sy’n cael eu defnyddio i ffilmio rhaglenni dogfen a ffilmiau Hollywood (Blackmagic a Sony)  

  • Amrywiaeth o gamerâu DSLR  

  • Toreth o lensys, o lensys y 1940au i lensys anamorffig newydd sbon o safon Hollywood  

  • 5 set o gyfarpar recordio sain o safon broffesiynol   

  • Cyfarpar Sgrin Werdd   

  • Goleuadau i’r llwyfan a’r sgrin, yn amrywio o oleuadau twngsten clasurol hyd at oleuadau LED o’r radd flaenaf  

  • Amrywiaeth o gyfarpar symud yn cynnwys dolïau, gimbals a llithryddion   

  • Cyfarpar teledu / ffrydio byw   

Ffilmio ar Leoliad: Plantasia