Ffotograffiaeth
PAM NA CHAF FI EI GYFFWRDD
Mae ffotograffiaeth wedi addo agosrwydd o hyd, i bobl, i leoedd, i enydau sydd eisoes wedi darfod. Eto i gyd, ffuglen yw’r agosrwydd hwn; mae’r ffotograff yn dangos i ni ei gyfeirbeth, ond dim ond ar ffurf rhith.
Nid y peth go iawn a welwn, ond ôl, ôl-ddelwedd wedi’i grogi rhwng presenoldeb ac absenoldeb. Mewn oes sydd wedi’i siapio gan ddiwylliant digidol, rydym yn bodoli mewn presennol parhaus, ffrwd o ddelweddau a rhyngweithiadau sy’n ymddangos yn ddi-oed, ond sydd eto tu hwnt i’n cyrraedd yn barhaol. Mae’r tensiwn hwn rhwng cyffwrdd a phellter, cysylltiad a digorffoli, yn diffinio llawer o’r cyflwr ffotograffig cyfoes. Mae artistiaid arddangosfa Pam Na Chaf Fi ei Gyffwrdd yn byw yn y lle ansicr hwn rhwng y gweladwy a’r teimladwy. Mae eu gwaith yn ailddychmygu ffotograffiaeth, nid fel drych i realiti, ond fel safle tensiwn, lle mae’r materol a’r anfaterol, y corff a’r ddelwedd, presenoldeb ac absenoldeb yn croestorri a datod.
Mae eu harferion yn archwilio’r cydadwaith cynnil hwn rhwng realiti a chynrychiolaeth. Trwy wahanol ddulliau, o arfer seiliedig ar lens i osodwaith, delwedd symudol, ac arbrofi analog a digidol, mae’r artistiaid hyn yn cwestiynu beth mae’n ei olygu i weld, i deimlo, ac i wybod mewn oes lle mae presenoldeb yn cael ei gyfryngu ac mae’r cyffyrddadwy yn toddi’n barhaus i’r rhithwir.
Dymuna staff Adran Ffotograffiaeth Coleg Celf Abertawe, PCYDDS, estyn eu diolchgarwch i ddosbarth 2026 am eu hymrwymiad, chwilfrydedd, a chydweithrediad wrth lunio’r arddangosfa hon. Rydym yn eu llongyfarch ar uchelgais eu gwaith a dyfnder eu hymholiad, ac edrychwn ymlaen at weld sut mae eu harferion
Ein Gwaith
Ailfframio’r Sylliad
Mae arfer ffotograffig Abbie Ashman yn archwilio arlliwiau benywdod o fewn diwylliant gweledol. Mae ei chorff cyfredol o waith yn cyflwyno portreadau sy’n dathlu presenoldeb benywaidd wrth gyfeirio’n dawel at hanesion gwrthrycholiad a gwahaniaethu.
Gan weithio trwy bortreadu, mae’n canolbwyntio ar bresenoldeb ac edrychiad, gan dynnu sylw at sut y caiff menywod eu fframio, eu defnyddio a’u dehongli. Mae’r gwaith yn cynrychioli cryfder a bregusrwydd, gan wahodd adfyfyrio ar welededd, pŵer, a gweithred edrych.
- Instagram: @photo_graphybyabbie
Tawelwch Dinistriol
Mae Tawelwch Dinistriol yn archwilio profiadau bywyd o ran iechyd meddwl, gyda ffocws arbennig ar anhwylderau bwyta. Mae’r gwaith yn defnyddio problemau corfforol a seicolegol hir dymor yr artist, gan ddefnyddio ffotograffiaeth yn ffordd o brosesu a chyfleu adferiad. Mae’r gyfres yn llunio naratif gweledol sy’n symud rhwng dogfennaeth ac adfyfyrdod, gan amlygu bregusrwydd a gwydnwch. Trwy gynnwys gwrthrychau bob dydd – fel bwyd a dillad – mae’r gwaith yn gosod adferiad o fewn yr arferion a’r deunyddiau sy’n ei siapio, gan ddatgelu sut mae’r elfennau hyn, sydd i bob pwrpas yn gyffredin, yn cario pwysau emosiynol a seicolegol. Ochr yn ochr â hyn, mae delweddaeth hunan-gynrychioliadol yn cyflwyno cofrestr fwy greddfol, gan ddefnyddio’r corff i gyfathrebu cyflyrau gorlethu a gwrthdaro mewnol. Gyda’i gilydd, nod yr elfennau hyn yw codi ymwybyddiaeth o anhwylderau bwyta gan bwysleisio posibilrwydd adferiad, nid fel diweddbwynt sefydlog, ond fel proses parhaus a phersonol tu hwnt.
- Instagram: @c.i.m.b_galleries
- Gwefan: Carys Banfield
Nid yw Bristowe-Davies yn poeni cymaint am ddarluniadau llythrennol, ei bwriad yw creu teimlad, gyda’r gwyliwr yn profi anesmwythyd ac amheuaeth. Mae’n gweithio o fewn y mannau rhwng dau fan, gan geisio cyfleu enydau breuddwydiol, swreal ac annaearol sy’n olrhain y ffordd mae’r cof a’r ddaear wedi’u plethu.Mae pydredd yn ymgorffori hyn. Mae coed camffurfiedig yn sefyll er eu bod yn cael eu mygu gan blanhigion parasitig, ac mae llwydni a phydredd yn llethu un ffurf, gan ei droi’n un arall. Mae carcas, neu ei ysbryd, yn dod wyneb yn wyneb ag ofn dirfodol. Dydw i ddim wedi marw, ond fe fyddaf wedi.
- Instagram: @carysbd
- Gwefan: Carys Bristowe-Davies
Castell Cook
Mae gwaith Teleri Cook yn dod â thameidiau o fywyd ei thad at ei gilydd trwy lygaid y rhai a oedd yn ei garu. Wedi’u cyflwyno ar ffurf cardiau post mewn stand sy’n debyg i’r rhai a geir mewn encilion a mannau twristaidd, mae’r delweddau’n troi atgofion yn rhywbeth mynwesol ond eto torfol. Ar ben pob colofn, mae delwedd archifol o’i thad yn angori’r atgofion sydd oddi dani.
Gyda’i gilydd, maent yn creu archif o alar, lle daw profedigaeth bersonol yn goffadwriaeth gymunedol a chaiff hunaniaeth ei hail-siapio trwy gysylltiad.
- Website: Teleri Cook Photography
ACTIAU: II
Mae Cole yn creu delweddaeth feiddgar, fywiog sy’n archwilio ffenomen seicolegol fel pareidolia. Gan ddefnyddio olew, dŵr, a golau plŷg, mae’n trawsnewid rhyngweithiadau microsgopig yn dirluniau anferth, arallfydol. Trwy arsylwi agos ac arbrofi, daw enydau cyflym yn ddigwyddiadau gweledol trochol. Trwy adeiladu microcosm gyda deunyddiau bob dydd, mae ei waith yn archwilio’r berthynas rhwng canfyddiad a graddfa, gan wahodd gwylwyr i ailystyried sut gall yr aruchel ymddangos o elfennau lleiaf a mwyaf di-nod y byd ffisegol.
-
Instagram: @AdamjamescoleUK
Y llonyddwch a adewaist
O safbwynt personol yr artist, mae’r gwaith hwn yn archwilio sut mae pobl yn casglu gwrthrychau hanfodol, materol a phersonol mewn ymateb i anghenion neu awyddau brys. Mewn bywyd bob dydd, byddai’r gwrthrychau hyn wedi gweithredu fel offer ymarferol. O fewn gwaith yr artist, fe’u hystyrir yn dyst tawel i brofiadau bywyd, gydag olion cynnil eu defnyddwyr i’w gweld arnynt. Wedi i’w perchnogion ymadael, mae eu swyddogaeth yn pylu, ac maent yn llonyddu, gan ddal atgofion a phresenoldeb o fewn absenoldeb.
- Instagram: @amber.d_photography
Digon Gweladwy?
Mae Hannah Davies yn archwilio’r berthynas fregus rhwng y corff a chanfyddiad. Caiff ei gwaith ei denu at yr enydau cynnil hynny sy’n siapio ymwybyddiaeth; sut gall ystum, presenoldeb, neu deimlad newid y ffordd mae rhywun yn bodoli o fewn ennyd. Trwy ddelweddaeth sy’n codi o arsylwi gofalus, mae’n datgelu’r tensiwn rhwng gwelededd a bregusrwydd. Daw’r hyn sy’n ymddangos yn gyffredin yn dawel wefredig, gan ganiatáu i emosiynau gwib ac ymwybyddiaeth mud godi i’r arwyneb. Daw’r newidiadau tawel hyn yn ganolog i’w gwaith, gan wahodd gwylwyr i ystyried sut caiff y corff ei weld, ei deimlo a’i ddeall o fewn profiad bywyd bob dydd.
- Instagram: @Hannahhhsstudio
Dementia
Bydd y gwaith yn edrych ar ddementia yn ei gyflwr crai, sy’n peri i’r ymennydd fod yn ddryslyd, yn ffwndrus ac ar goll. Gan alw ar hanes teuluol am ddementia cyrff Lewy a dementia Alzheimer, bydd y gwaith yn haniaethol o ran ei natur, gan ddefnyddio papurau negatif 5” x 4” o gamera fformat mawr. Bydd y gwaith yn cael ei gadw mewn cyflwr fformat negyddol, er mwyn ehangu canfyddiad y gwyliwr o’r hyn mae’r ddelwedd yn ei gyfleu, gan wneud iddynt flendio teyrnasoedd realiti a dychymyg ar ei ffurf puraf.
Darfodedig
Mae Darfodedig yn adfyfyrio ar sut rydym yn ceisio cadw plentyndod trwy ffotograffau er bod yr atgof ei hun yn sigledig. Gan ddefnyddio papur toddadwy a lleithder, rwy’n caniatáu i ddelweddau personol bylu, rhwygo a syrthio’n ddarnau yn raddol. Mae’r gwaith yn newid dros amser, yn cael ei siapio gan y lleithder a siawns yn hytrach na rheolaeth. Wrth i’r ffotograffau ddiflannu, yr hyn sy’n aros yw olion gwan a staeniau yn hytrach na chofnodion llawn. Mae hyn yn efelychu’r ffordd mae atgofion yn pylu, yn newid ac yn mynd yn fwy ansicr wrth i ni fynd yn hŷn.
- Instagram: @katie.hill_photography
Gwaddod
Mae Evie-Rose Holden yn ystyried cymhelliad yr archif i gasglu, awydd i ddosbarthu a chadw hyd yn oed wrth i ystyr diddymu. Mae ei delweddau’n trigo ar lwch, gwaddodion, a diwedd oes ansefydlog arteffactau sydd wedi’u dadleoli. Wedi’u ffotograffio o fewn systemau gofal, daw labeli, strapiau, a chlymau’n rhan o’u hiaith weledol. Mae’r offer hyn yn datgelu sut y caiff gwrthrychau eu hamddiffyn pan na fyddant yn eu cyd-destunau gwreiddiol.
Trwy gyferbynnedd uchel, cysgodion dwys, a graen gweladwy, mae’r gwaith yn ennyn absenoldeb ac entropi araf, gan osod yr archif fel safle ble caiff y cof ei sefydlogi a’i ddieithrio.
- Instagram: @ffotoevi
Unrhyw le i gyd ar unwaith
Mae gwaith Nikolett Juhasz yn canolbwyntio ar gysyniad hunaniaeth, sut y caiff ei ail-siapio trwy adleoli, trawsnewid diwylliannol a phrofiadau bywyd. Yn wreiddiol o Hwngari ac wedi byw yng Nghymru ers deuddeng mlynedd, mae ei thaith bersonol o fudo a thrawsnewid diwylliannol yn sail i’w harfer artistig. Mae ei gwaith yn adlewyrchu ymdeimlad o hunaniaeth dameidiog sydd wedi torri, gan archwilio’r dadleoliad mae unigolion yn teimlo ynddyn nhw eu hunain ac mewn perthynas â’u hamgylchoedd.
- Instagram: @nikolett.j.photography
Trwydded
Nod gwaith Jade Kirby yw osgiladu rhwng y dengar a’r anghyffyrddus trwy gyflwr seicolegol crai byrhoedledd rhywedd. Trwy ddatgelu ei hun trwy hunan-bortreadaeth mewn mannau trothwyol, mae’n dymchwel rheolaeth dros y gwyliwr gwrywaidd trwy ymgorffori ei hun fel gwrthrych trwy dyndra atmosfferig a drylliad corfforol.
- Instagram: @jadekirby_
Edrychiad Di-wyneb
Gan weithredu fel “Gwyliwr” hunanhonedig, mae Corey Penn-Thomas yn defnyddio cyfryngau a gymerwyd o ffynonellau ar-lein i greu golygfeydd chwareus o gythryblus, gan ddefnyddio ffilm a delweddau a ddarganfuwyd i archwilio’r deinamig grym rhwng yr hyn a arsylwir arno, a’r sylwedyddion. Caiff eu gwaith ei yrru gan theori syniad Hollweladwyedd, sef bwriad y cyflwr o arsylwi parhaus sydd o fewn seilwaith fodern i beri hunanddisgyblaeth a chydymffurfiaeth. Nod Edrychiad Di-wyneb yw arddangos rhai o’r ffyrdd niferus y gellid defnyddio, trin a thrafod, neu chwarae â’ch gwedd.
Gweddillion
Mae Natasha Roberts yn defnyddio archifau i archwilio sut mae ffotograffau yn newid unwaith y byddant wedi’u cymryd allan o’u cyd-destun gwreiddiol. Trwy arddangos sleidiau’n syth ar waliau’r oriel, mae’n trawsnewid delweddau preifat yn wrthrychau cyhoeddus. Wedi’u trefnu’n rhydd, maent yn teimlo’n ansicr ac yn agored i gael eu hailddehongli. Heb eu cyd-destun gwreiddiol, mae’r ffotograffau’n colli sicrwydd ac yn cael eu siapio gan le a gwylwyr anghyfarwydd. Mae’r gwaith yn adfyfyrio ar y cof, ar berchnogaeth, ac ar amser gan gyflwyno’r archif fel rhywbeth hylif, yn cwestiynu’r hyn sy’n weddill pan na fydd atgof yn cael ei gadw gan y sawl a’i brofodd.
Ffotograffydd dogfen o Fanceinion yw Harvey Shaw, ac mae’n defnyddio cyferbynnedd uchel pur i ddatgelu enydau onest ac awyrgylch. Gan droi tuag at chwaraeon moduro, mae’r archwilio cyflymdra, tensiwn, a ffocws dynol o fewn theatr fecanyddol rasio. Prosiect ffotograffig yw ‘I Mewn i’r Apig’ yn archwilio’r diwydiant chwaraeon moduro trwy ymagwedd ddogfen drochol. Yn hytrach na ffocysu’n unig ar rasio, mae’r gwaith yn amlygu’r cymunedau, llafur ac amgylcheddau sy’n siapio’r chwaraeon, gan ddatgelu bod chwaraeon moduro fel isddiwylliant a ddiffinnir gan ddefod, cydweithredu, ac angerdd a rennir.
‘Amherffeithrwydd’ yn harddwch
Mae gwaith diweddar Weston yn ymwneud â sut maent yn gweld ‘amherffeithrwydd’ fel harddwch. Fel menyw maen nhw wedi tyfu i fyny mewn cymdeithas sy’n credu bod amherffeithrwydd yn wall ni waeth beth yw e. Dywedir wrthym am orchuddio creithiau, olion ymestyn ar y croen, cellulite ac acne, unrhyw beth nad yw’r berffaith; mae eu gwaith yn herio hynny. Pan oeddynt yn ifanc, maent yn credu eu bod wedi gorfod bod fel pawb arall o’u cwmpas ond nawr eu bod yn hŷn, maent yn gweld bod pethau amherffaith yn eu gwneud yn wahanol, ydyn, ond nid yn ddiffygiol.
- Instagram: @renphotography2022