Skip page header and navigation

Sioe Haf: Dylunio Graffig

Dylunio Graffig

Decretive image

Cyflwyniad

Mae Dylunio Graffig bob amser yn ymwneud â phobl ac rydym wedi bod yng nghwmni unigolion rhyfeddol yn ystod y tair blynedd diwethaf. Mae rhai gwerthoedd pellach rydyn ni wedi’u nodi’n cynnwys: angerdd - dros yr arfordir a’r blaned, dros gerddoriaeth a thros iaith; llawenydd - mewn crefft, gwneud a phroses; dewrder - wrth wynebu’r anghyfforddus, archwilio tiriogaeth greadigol anhysbys ac (yn llythrennol)croesi moroedd i ddringo mynyddoedd.  

Mae Colegau Celf yn gallu bod yn lleoedd (rhy) diogel lle mae brwdfrydedd a systemau muriau creadigol. Mae’r myfyrwyr hyn wedi ymateb i’w ‘bydoedd tu allan’ gyda gras, optimistiaeth ac atebion hardd diedifar i bynciau heriol ac amseroedd cythryblus. Mae llwyddiant nifer o’r prosiectau yma o ganlyniad i waith caled a phenderfynoldeb hen ffasiwn. Rydym yn adfyfyrio ar waith sy’n wrthgyferbyniad i’r artiffisial. Gwaith sy’n llawn enaid a gwreiddioldeb na allai unrhyw algorithm fyth ei efelychu. 

Tîm y Staff – BA (Anrh) Dylunio Graffig 

Ein Gwaith

Aimee Bowen

Aimee is passionate about storytelling through design and strives to create meaningful  visuals that make a positive difference in the world. She has a particular interest in brand identity, creative campaign design, and book cover design. Her work is bold and playful, often incorporating hands-on techniques as creative tools.   

summer show graphic design student work

Sephrenia Canty

Mae Sephrenia yn mwynhau’r prosesau creadigol corfforol a digidol ac wrth ei bodd yn defnyddio amrywiaeth o liwiau yn ei gwaith. Mae’n edrych ymlaen at y cyfle i ehangu ei gwybodaeth ddylunio a defnyddio prosesau mwy ffisegol yn ei dyluniadau.  

summer show graphic design student work

Lewys Davies

Mae Lewys yn Ddylunydd Graffig arbrofol sy’n hoffi defnyddio dulliau traddodiadol yn ei ddyluniadau. Mae ei gariad at y môr i’w weld trwy gydol ei waith, gan ddefnyddio deunyddiau anghonfensiynol ynghyd â’i angerdd am yr iaith Gymraeg i greu canlyniadau gweledol drawiadol. 

summer show graphic design student work

Bronwyn Eccleson

Mae Bronwyn yn mwynhau dylunio gan ddefnyddio cyfuniad o brosesau digidol a thraddodiadol, yn cynnwys argraffu risograff a lino. Mae hi’n arbennig o hoff o ddulliau traddodiadol sydd yn gyffyrddadwy eu natur ac o waith llaw, a’i dylanwadau mwyaf yn ei gwaith yw arddulliau o’r gorffennol. Mae’n credu bod dylunio yn ddull pwysig o adrodd straeon gweledol.  

summer show graphic design student work

Kirstyn Harris

Mae Kirstyn yn Ddylunydd Graffig hwyliog a dychmygus sy’n dod â sbarc a gwreiddioldeb i bob prosiect. Mae’n gweld dylunio fel ffordd o gyfathrebu ystyr heb ddweud popeth yn uniongyrchol, gan greu gwaith sy’n gwahodd cynulleidfaoedd i ddarllen rhwng y llinellau. Yn hyderus ac agos-atoch, mae’n cyflwyno dyluniadau sy’n gadael argraff barhaol. 

summer show graphic design student work

Gwill King

Mae Gwill o’r farn nad oes gan Dylunio Graffig unrhyw gyfyngiadau! Mae’n hoffi archwilio, dysgu a darganfod prosesau newydd i greu dyluniadau mewn fformatau sy’n unigryw ac yn cynnig safbwyntiau newydd ar arddangos ei waith. Mae ei waith fel dylunydd yn troi rhywbeth cyffredin yn rhywbeth arbennig iawn!

summer show graphic design student work

Rachel Langdon  

Dylunydd Graffig proffesiynol sy’n creu dyluniadau beiddgar, pwrpasol. Yn brofiadol o fewn cwmnïau ac ar ei liwt ei hun, mae’n gallu addasu, yn gweithio’n hyderus o fewn lleoliadau tîm, ac yn dilyn dull ystyriol o ddatrys problemau. Wedi’i hysbrydoli gan liw, siâp a swyddogaeth, mae’n cyflwyno gwaith dylunio meddylgar a chrefftus.   

summer show graphic design student work

Ffion Lewis

Mae Ffion yn Ddylunydd Graffig sy’n hoff o liw beiddgar, delweddau chwareus a brandio sy’n adlewyrchu personoliaeth. Mae’n hoffi creu dyluniadau trawiadol a gofodau trochol sy’n teimlo’n llawn hwyl a chymeriad.  

summer show graphic design student work

Anastasiia Muzyka

Mae Anastasiia yn gweld dylunio fel offeryn ar gyfer newid ac fel modd o ymateb i heriau cyfredol. Trwy gyfuno celf ddigidol a thechnegau argraffu traddodiadol, mae’n creu atebioneffeithiol. Mae ei dull yn seiliedig ar ymchwil, adnabod problemau a dealltwriaeth o’r gynulleidfa. Y canlyniad yw prosiectau sy’n cyfuno estheteg, ymarferoldeb a phwrpas.

summer show graphic design student work

Deiman Salvys

Mae Deiman yn Ddylunydd Graffig gydag angerdd am droi syniadau’n ddelweddau beiddgar, effeithiol. Mae wrth ei fodd yn dylunio gwefannau atyniadol, posteri trawiadol, a datblygu dyluniadau cynnyrch meddylgar sy’n cyfuno creadigrwydd â phwrpas. Mae’n canolbwyntio ar estheteg lân, cysyniadau cryf, a dyluniadau sydd wir yn cysylltu â phobl. 

summer show graphic design student work

Lauren Thomas

Mae Lauren yn Ddylunydd Graffig sy’n ystyried bod ei harddull yn gaboledig, yn fwriadol ac yn effeithiol. Mae ei hangerdd am gyfryngau cymdeithasol, pecynnu a dylunio marchnata yn caniatáu iddi fynd ati i ddatblygu brand o amrywiaeth o bosibiliadau, gan sicrhau bod pob elfen weledol yn effeithiol.  

summer show graphic design student work

Svitlana Ulianych

Mae Svitlana yn Ddylunydd Graffig a Digidol sy’n gweithio ar y croestoriad rhwng brandio a phrofiad defnyddwyr (UX), gan ganolbwyntio ar gynhyrchion digidol ac arfer a arweinir gan ymchwil. Mae’n mynd i’r afael â phob prosiect yn strategol, gan gydbwyso eglurder gweledol â seicoleg defnyddwyr. Mae ei hestheteg goeth, minimalaidd wedi’i seilio ar systemau cryf a manylder pwrpasol, gan gefnogi dyfnder cysyniadol a pherfformiad swyddogaethol.      

summer show graphic design student work

Jessika Wang

Mae Jessika yn Ddylunydd Graffig angerddol gyda diddordeb arbennig mewn celf a’r bisâr. Mae’n mwynhau arbrofi gyda llawer o ddulliau gwahanol fel risograff a ‘photo bashing’. Mae diddordebau mewn diwylliant pop, gemau fideo, celf a ffilmiau, yn dylanwadu ar ei chreadigrwydd a’i dylunio.

summer show graphic design student work

Evan Williams

Mae Evan yn Ddylunydd Graffig amryddawn, brwdfrydig sy’n canolbwyntio ar gael atebion, gyda’i syniadau wedi’u gwreiddio mewn delweddau beiddgar a dyluniadau trwm teipograffig. Ynghyd ag angerdd cryf am ddylunio chwaraeon a brandio busnes, mae Gwaith Evan yn sicr o gynnig ateb deinamig ac unigol i unrhyw broblem ddylunio a roddir iddo. 

summer show graphic design student work

Ieuan Williams

Mae Ieuan yn Ddylunydd Graffig sy’n canolbwyntio ar gydbwyso swyddogaeth a ffurf, gan greu gwaith sy’n bwrpasol ac yn weledol drawiadol. Wedi’i ddenu at hunaniaeth brand a dylunio sy’n canolbwyntio ar chwaraeon, mae’n archwilio egni, eglurder ac adrodd straeon trwy ddelweddau meddylgar, gan greu dyluniadau sy’n teimlo’n gyfoes ac wedi’u llunio I gysylltu.  

summer show graphic design student work

Luke Wingrave

Mae Luke yn Ddylunydd Graffig sy’n canolbwyntio ar frandio. Mae’n adeiladu hunaniaethau sy’n mynd y tu hwnt i logos gan greu systemau cydlynol a ddyluniwyd yn feddylgar. Mae ei waith yn cydbwyso manwl gywirdeb ag arbrofi rheoledig, gan arwain at ddyluniadau bwriadol, coeth a chysyniadol wedi’u llunio gan chwilfrydedd.  

summer show graphic design student work

Galeri Arddangosfa