Cyfleusterau Ffilm a Theledu
Cyflwyniad
Mae ein cyfleusterau Ffilm a Theledu yn cynnwys camerâu proffesiynol, offer recordio sain, goleuadau ac adnoddau cynhyrchu i gefnogi eich gwaith gwneud ffilmiau. Bydd gennych fynediad at offer gan RED, Canon, Blackmagic a Sony, ochr yn ochr â chyfleusterau sgrin werdd, offer ffilmio, gosodiadau teledu a ffrydio byw, ac ystafelloedd Mac gydag Adobe Creative Cloud. Mae Canolfan Dylan Thomas hefyd yn darparu sgrin maint sinema a theatr at ddefnydd myfyrwyr.
Manylion
Gyda phartneriaid lleoliadau o fewn ac o gwmpas Abertawe, byddwn yn aml yn saethu ar leoliad mewn safleoedd megis Sw Drofannol Plantasia, Theatr y Grand, Amgueddfa Abertawe, Pier y Mwmbwls, Man Geni Dylan Thomas a Neuadd Brangwyn i roi profiad ymarferol i fyfyrwyr o weithio ar leoliad i adrodd straeon.
Cyfleusterau Ffilm a Theledu
Yng Ngholeg Celf Abertawe, mae gan fyfyrwyr Ffilm a Theledu fynediad at ystod o weithdai a mannau arbenigol, gyda chefnogaeth staff arbenigol mewn cymuned greadigol glos.
Theatr Canolfan Dylan Thomas
Mae’n fraint i ni gael mynediad i ofod Theatr Dylan Thomas, sydd â sgrin sinema fawr ynghyd â seddi sinema traddodiadol. Rydym yn defnyddio’r gofod hwn i ddangos ffilmiau a chynnal digwyddiadau wythnosol y Clwb Ffilm. Mae myfyrwyr yn gallu llogi’r gofod hwn i gynnal digwyddiadau a dangos eu cynyrchiadau eu hunain.
Storfeydd Technoleg
Mae myfyrwyr yn gallu llogi amrywiaeth o offer o’n storfa dechnegol, a reolir gan ein technegwyr arbenigol, sydd wrth law i’ch helpu i ddefnyddio’r offer neu gynghori ar y cit gorau ar gyfer eich ymdrechion creadigol. Mae rhestr lawn o’r cit ar gael ar gais gan.
Stiwdio Deledu
Mae ein hamgylchedd stiwdio deledu yn cefnogi dysgu cydweithredol ac arfer annibynnol. Byddwch yn datblygu sgiliau technegol ac arbenigedd ar sut i ddefnyddio gofod stiwdio fawr.
Ystafell Ddosbarth
Mae ein gofod ystafell ddosbarth fawr yn cynnwys bleindiau blacowt sy’n berffaith ar gyfer dangos neu greu ffilmiau gan ddefnyddio gwahanol osodiadau a thechnegau goleuadau.
Labordy Mac
Mae ein hystafelloedd Mac yn cynnwys cyfrifiaduron Apple a meddalwedd broffesiynol (Adobe Creative Cloud), gyda mannau addysgu a mynediad agored. Bydd gennych hyblygrwydd i weithio’n annibynnol, gyda chymorth staff technegol pan fo angen.
Crynodeb o’r cyfarpar
- 1 Camera Sinema RED (RED ONE)
- 1 Camera Safon Netflix (C70)
- Amrywiaeth o Gamerâu Ffilm ffactor ffurf fach sy’n cael eu defnyddio i ffilmio rhaglenni dogfen a ffilmiau Hollywood (Blackmagic a Sony)
- Amrywiaeth o gamerâu DSLR
- Toreth o lensys, o lensys y 1940au i lensys anamorffig newydd sbon o safon Hollywood
- 5 set o gyfarpar recordio sain o safon broffesiynol
- Cyfarpar Sgrin Werdd
- Goleuadau i’r llwyfan a’r sgrin, yn amrywio o oleuadau twngsten clasurol hyd at oleuadau LED o’r radd flaenaf
- Amrywiaeth o gyfarpar symud yn cynnwys dolïau, gimbals a llithryddion
- Cyfarpar teledu / ffrydio byw