Skip page header and navigation

Sioe Haf: Pensaernïaeth

Pensaernïaeth

architecture display

Mae Sioe Graddedigion BSc Pensaernïaeth 2025

Mae Sioe Graddedigion BSc Pensaernïaeth 2025 yn arddangos y gwaith penigamp a wnaed gan ein myfyrwyr, yn archwilio cynigion deinamig ar gyfer amrywiaeth o brosiectau cymunedol gan weithio’n gyfan gwbl yn nhref hanesyddol Caerffili. 

Cyd-destun Hanesyddol a’r Gymuned

Cynhyrchodd y myfyrwyr gyfres o strategaethau dylunio trefol ac ailddatblygu canol tref mewn cysylltiad agos â’r castell hanesyddol yng Nghaerffili i alluogi ymchwilio pellach a datblygu briff dylunio addas i gefnogi anghenion y gymuned draddodiadol, ôl-ddiwydiannol hon yn y cymoedd. 

Mae prosiectau eleni’n cwmpasu ystod eang o gynigion, gan gynnwys Ysgol Celfyddydau Coginio Caerffili, labordy ymchwil ecolegol, a lleoliad marchnad yn y castell a theatr. Datblygwyd y briffiau’n annibynnol gan y myfyrwyr. 

Mae’r gwaith sy’n cael ei arddangos hefyd yn cynnwys dealltwriaeth ddatblygedig o ddulliau adeiladu, gwerthuso technegol, a chymhwyso ymarferol i gefnogi dilyniant y myfyrwyr i’r byd gwaith a’u paratoi ar gyfer gyrfa ym maes pensaernïaeth. Mae’r holl staff yn Ysgol Pensaernïaeth Abertawe yn dymuno’r gorau iddynt gyda’u hymdrechion yn y dyfodol. 

Tîm Staff 
BSc (Anrh) Pensaernïaeth

Sioe Pensaernïaeth Diwedd y Flwyddyn 2025

Ein Gwaith

Moynul Ali

Dechreuodd fy nhaith yma ar y diwrnod agored, lle ces i gyfle i gwrdd â’r darlithwyr a’r myfyrwyr. Ar sail y profiad hwnnw, dewisais astudio’r cwrs hwn yn PCYDDS. Dros y tair blynedd ddiwethaf, rwyf wedi dysgu llawer ac wedi ennill gwybodaeth helaeth ym maes pensaernïaeth, ac i’r darlithwyr mae’r diolch am hynny i gyd. Maen nhw wedi bod yn hynod gefnogol drwy’r amser. Un o’r agweddau roeddwn i’n eu gwerthfawrogi’n fawr am y cwrs oedd yr adborth un-i-un ar fy nyluniadau gan y darlithwyr. Mae’r cyfleusterau ar Gampws Abertawe hefyd wedi bod yn ardderchog; roedd cael defnyddio’r stiwdio hyd yn oed ar ddiwrnodau i ffwrdd yn arbennig o ddefnyddiol ac yn gyfraniad mawr i’m haddysg. Diolch o galon i holl staff y brifysgol o’r ffreutur a’r timau diogelwch i, wrth gwrs, fy holl ddarlithwyr am wneud y blynyddoedd hyn yn Y Drindod Dewi Sant mor gofiadwy a gwerth chweil.

Moynul Ali standing in front of Architecture display

Jimmy Cho

Helo, Jimmy ydw i ac rwy’n fyfyriwr aeddfed. Symudais o Toronto, Canada i Abertawe oherwydd hyfforddiant seiciatrig fy ngwraig, ac rwy’n teimlo’n hynod ffodus fy mod i wedi ymuno â’r cwrs Pensaernïaeth yn PCYDDS. Er bod magu plentyn yn ystod fy astudiaethau yn golygu nad oeddwn i’n gallu treulio cymaint o amser yn y stiwdio, helpodd y staff a’r cydweithwyr cyfeillgar a hyblyg fi i gyflawni llawer dros y tair blynedd ddiwethaf. Maint bach y garfan a’r rhwydwaith proffesiynol cryf yng Nghymru yw un o gryfderau mawr y cwrs, gan gynnig hyfforddiant ymarferol i mi gan fy mharatoi’n dda ar gyfer fy ngyrfa. A minnau bellach wedi cael cymhwyster Rhan 1 gyda phlentyn sy’n tyfu’n gyflym, rwy’n dechrau fy nhaith bensaernïol gyda phractis yng Nghanol Llundain. Bydd PCYDDS bob amser yn parhau’n rhan sylweddol o’m llwybr i at ddod yn bensaer.

Jimmy Cho standing in front of Architecture Display

Cole Evans

Mae astudio Pensaernïaeth yn Y Drindod Dewi Sant dros y tair blynedd ddiwethaf wedi bod yn daith fuddiol dros ben. Mae’r staff cefnogol a hawdd mynd atyn nhw wedi chwarae rhan allweddol yn fy natblygiad, yn barod bob amser i gynnig arweiniad a fy ngwthio i gyrraedd fy mhotensial llawn. Mae’r cwrs yn cynnig profiad dysgu cyfoethog ac amrywiol, sy’n cwmpasu popeth o hanes pensaernïol a theori i ddylunio ymarferol ac agweddau busnes y proffesiwn. Mae’r dull cyfannol hwn wedi fy arfogi gyda set eang o sgiliau a dealltwriaeth ddofn o bensaernïaeth. Bellach rwy’n teimlo’n hyderus ac yn barod i gymryd y camau nesaf yn fy ngyrfa, gyda sylfaen gadarn o ran agweddau creadigol, technegol a phroffesiynol pensaernïaeth.

Cole Evans standing in front of his Architecture display

Hashim Izzidien

Mae astudio pensaernïaeth yn Y Drindod Dewi Sant Abertawe wedi bod yn gymysgedd o greadigrwydd, anhrefn a chaffein. Dros y tair blynedd ddiwethaf, rydw i wedi dysgu sut i ddylunio gofodau, goroesi beirniadaeth, a throi syniadau munud olaf yn ddarnau portffolio. Mae wedi bod yn daith ddwys ond buddiol, yn llawn nosweithiau hwyr, pobl wych, a mwy o fodelau cardbord nag yr hoffwn i eu cyfaddef. Yn barod ar gyfer y bennod nesaf, yn ddelfrydol gyda rhagor o gwsg.

Hashim Izzidien standing in front of work

Galeri Arddangosfa