Cadwraeth a Rheolaeth Amgylcheddol (Rhan amser) (MSc)
Mae ein cymdeithas yn dod yn fwyfwy sensitif i effaith dyn ar yr amgylchedd naturiol, ac mae teimlad ymysg y cyhoedd nad ydym bob amser yn pwyso a mesur manteision gweithgareddau yn erbyn eu cost amgylcheddol. Mae themâu o’r fath yn arwyddocaol o fewn cadwraeth a rheolaeth amgylcheddol.
Mae’r disgyblaethau hyn yn mynd i’r afael â llawer o heriau sy’n wynebu ein planed, ein gwlad a’n hardal, heriau sy’n ganolog i ddyfodol cymdeithas.
Manylion y cwrs
- Rhan amser
- Ar y campws
- Saesneg
Pam dewis y cwrs hwn
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Ers blynyddoedd lawer, mae’r MSc Cadwraeth a Rheolaeth Amgylcheddol wedi cynllunio a chynnig rhaglenni sy’n datblygu a pharatoi myfyrwyr ar gyfer gyrfa yn y sector amgylcheddol.
Roedd y Brifysgol ar flaen y gad pan ddechreuodd gynnig gradd Cadwraeth Amgylcheddol yn 1998, y brifysgol gyntaf i wneud hynny. Mae’r galw gwleidyddol a chymdeithasol am reolaeth gynaliadwy o’n hamgylchedd a’n hadnoddau naturiol yn parhau.
Ar y rhaglen MSc hon, cewch ddatblygu eich gallu i fynd i’r afael â’r gwrthdaro rhwng anghenion cymdeithas, yr economi a’r amgylchedd, a hynny mewn ffordd ymarferol a chyfannol a chyda chefnogaeth sylfaen o wybodaeth ddaearyddol ac academaidd.
Mae’r rhaglen wedi’i rhannu’n ddwy ran; byddwch yn cwblhau cyfres o fodiwlau a addysgir ac yna’n ysgrifennu traethawd hir annibynnol yn seiliedig ar waith ymchwil mewn maes pwnc o’ch dewis. Yn y modiwlau a addysgir, cewch ennill y sgiliau cyfreithiol, technegol a rheoli sy’n canolbwyntio ar y cyflogwr, y byddwch chi eu hangen yn y sector.
Gorfodol
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(60 credydau)
tysteb
Staff
Staff
Cewch eich addysgu a’ch cefnogi gan amrywiaeth eang o staff a thimau proffesiynol sydd yma er mwyn eich helpu i gael y profiad prifysgol gorau posibl. Daeth ein staff addysgu’n 2il yng Nghymru am asesiadau ac adborth (NSS 2023) sy’n golygu y bydd y sylwadau a gewch chi ar eich gwaith yn eich helpu i ddysgu. O ganlyniad i’n hymrwymiad i’ch dysgu mae ein myfyrwyr wedi ein gosod yn y 10 gorau yn y DU am Ddarlithwyr ac Ansawdd Addysgu. Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau.
Llety
Llety Abertawe
Mae gan Abertawe boblogaeth enfawr o fyfyrwyr, a bydd yr amrywiaeth o lety sydd ar gael yn eich gadael yn teimlo’n ddifeth o ddewis. Darperir llety yn Abertawe gan wahanol ddarparwyr llety myfyrwyr pwrpasol a gall y tîm llety eich arwain trwy eich opsiynau a bydd yn cynnig cefnogaeth barhaus trwy gydol eich amser fel myfyriwr PCYDDS.
Gwybodaeth allweddol
-
O leiaf gradd 2.2 mewn unrhyw bwnc.
Bydd ymgeiswyr sydd â chymwysterau eraill a phrofiad perthnasol yn cael eu hystyried yn unigol gan Gyfarwyddwr y Rhaglen drwy broses Achredu dysgu blaenorol (APS).
Mae angen sgôr IELTS o 6.5 neu gyfwerth os nad Saesneg yw’r iaith gyntaf.
-
Rydym yn credu y dylai’r cwrs gynnwys ystyriaeth academaidd a galwedigaethol er mwyn i fyfyrwyr ddatblygu set o sgiliau a gwybodaeth sy’n addas ar gyfer y gweithle.
Felly, cafodd y rhaglen MSc hon ei dylunio ar y cyd â rheolwyr amgylcheddol, ac mae’n defnyddio asesiadau/digwyddiadau ‘byw’ cyfredol er mwyn sicrhau bod y cynnwys yn ymateb i anghenion newidiol cyflogwyr, eu gweithwyr, a’r agenda amgylcheddol sy’n newid yn gyson.
Mae’r arddull yma o addysgu’n cynnwys adroddiadau, prosiectau, cyflwyniadau, ac mae’n helpu myfyrwyr i ddatblygu eu diddordebau unigol o fewn fframwaith y modiwl.
Mae’r traethawd hir yn cael ei ddatblygu gan fyfyrwyr mewn cydweithrediad â’r tîm goruchwylio, a dylai fod yn uniongyrchol berthnasol i ddiddordebau’r myfyriwr yn ogystal â chydymffurfio â thrylwyredd academaidd gwaith ymchwil MSc. Yn olaf, mae’r tîm addysgu’n canolbwyntio’n llwyr ar y myfyrwyr ac yn galluogi myfyrwyr i wireddu eu huchelgeisiau o ran rheoli amgylcheddol.
-
Bydd mynediad i’ch dyfais ddigidol eich hun/y pecyn TG priodol yn hanfodol yn ystod eich amser yn astudio gyda PCYDDS. Bydd mynediad at wifi yn eich llety hefyd yn hanfodol i’ch galluogi i ymgysylltu’n llawn â’ch rhaglen. Gweler ein tudalennau gwe pwrpasol i gael arweiniad pellach ar ddyfeisiau addas i’w prynu, ac i gael canllaw llawn ar sefydlu’ch dyfais.
Efallai y byddwch chi’n wynebu costau ychwanegol tra byddwch chi yn y brifysgol, gan gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i):
- Teithio i’r campws ac oddi yno
- Costau argraffu, llungopïo, rhwymo, deunydd ysgrifennu ac offer (e.e. ffyn USB)
- Prynu llyfrau neu werslyfrau
- Gwisgoedd ar gyfer seremonïau graddio
Bydd disgwyl i chi brynu tiwnig i’w gwisgo yn y lleoliad clinigol - rhoddir fanylion pellach pan fyddwch chi’n dechrau’r rhaglen.
-
Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.
-
Mae ôl-raddedigion ein rhaglen MSc Cadwraeth a Rheolaeth Amgylcheddol wedi cael gyrfaoedd gydag amrywiaeth eang o gyflogwyr y sector rheoli amgylcheddol yn y DU ac ar draws y byd, gan gynnwys gyda Cyfoeth Naturiol Cymru, Awdurdodau Lleol, cwmnïau dŵr a chyrff anllywodraethol amgylcheddol, ac ym meysydd ymgynghori amgylcheddol, rheoli gwastraff ac addysgu. Mae graddedigion hefyd wedi parhau i astudio’n llwyddiannus ar gyfer doethuriaethau mewn gwahanol brifysgolion ledled y byd.